chwilio am lluniau Sleeveface, helpwch!

Dw i’n rhedeg gwefan o’r enw Sleeveface.
Dw i’n chwilio am luniau Sleeveface gan bobol o Gymru yn enwedig ar hyn o bryd
e.e gyda:
- artistiaid Cymraeg
- artistiaid o Gymru
- unrhyw artist rhyngwladol gyda thirwedd Cymru yn y cefndir
- unrhyw artist rhyngwladol gyda dillad Cymru
- Nadolig
- Hydref
- unrhyw beth!
Unrhyw un?
Cyfeiriad ebost am luniau: submit malwen sleeveface.com
Diolch am ddarllen.
(Os wyt ti angen help gyda phroject arlein ac eisiau postio cais ar haciaith.com, mae’n hollol iawn wrth gwrs. Ti’n gallu defnyddio’r tag helpwch.)

