Tagiwyd fel: haclediad RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 1:32 PM ar 6 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , haclediad   

    Bonus Haclediad! Fideo o’r Haclediad a recordiwyd yn Hacio’r Iaith 2011 

     
    • Carl Morris 1:44 PM ar 6 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Waw, fel ddoe. Diolch!

  • Sioned Mills 12:20 PM ar 6 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , haclediad, ,   

    Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin) 

    Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref.

    Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi Cymru yn syrthio ymhellach tu ôl iddi, gyda phroblemau Y Lolfa yn cyhoeddi e-lyfrau, a’r prinder o aps i Blant Cymru? Gewch chi glywed y cyfan efo ni yma ar Haclediad #12!

    Mwynhewch!
    Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx)
     
    • Carl Morris 2:56 PM ar 6 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Post-PC efallai ond gobeithio fyddan ni ddim yn symud i’r oes post-rhyddid.

      Does dim diddordeb gyda fi yn unrhyw ‘ecosystem’ dan gwmni – Apple, Facebook, neb.

      Dw i wir yn meddwl bod mwy o arloesedd gyda safonai agored yn hytrach na unrhyw eco$y$tem.

      Sgwrs dda, diolch!

    • Rhodri ap Dyfrig 11:10 PM ar 6 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Haclediad controfyrsial!

      Ma na un ffordd hawdd o gael Cymdeithas yr Iaith i ddechrau ymgyrch i gael y Gymraeg ar Kindles, apps ac ym mhob parth digidol…ymaelodi, cymryd rhan a dylanwadu. Cymdeithas o bobol ydi hi nid ymgorfforiad o Ffred Ffransis (JÔC, Ffred!). Wir wan, dwi’n siwr fasa nhw’n falch iawn o gael arbenigedd y tri ohonoch chi, neu gefnogi unrhyw ymgyrch da chi isio cychwyn drwy Haciaith. Un ffordd sydd na o newid petha, trio newid o dy hun.

      A “teledu ddim yn bwysig rhagor”? Na’i roi PFFFT masif i hynna! Isio bach o reality check ar y tech-iwtopiaeth yna dwi’n meddwl. Ers pryd mae un cyfrwng erioed wedi disodli’r llall? Arian hysbysbu teledu neu’r drwydded deledu sydd yn gyrru nifer fawr o fentrau gwe ym Mhrydain a’n cynhyrchu llawer o’r arloesedd gorau. Ma teledu, radio, a mastiau darlledu, am fod efo ni am amser hir i ddod.

      O ran e-lyfrau Cymraeg: mi faswn i’n rhoi’r bai yn sgwâr ar ysgwyddau’r Cyngor Llyfrau Cymraeg. Nhw sydd yn ariannu cyhoeddi yng Nghymru, nhw sydd yn gallu gosod yr agenda, nhw sydd yn gallu gwneud yn siwr bod e-lyfrau allan na pan fo’r farchnad yn datblygu a lle nad oes modd gwneud elw ar werthiant e-lyfr. Lle maen *nhw*? Mae cyhoeddwyr yn gorfod ceisio ffeindio ffordd eu hunain o ddatblygu a chwarae teg i’r Lolfa am drio faswn i’n deud. Oes disgwyl i un cyhoeddwr fentro, a gwneud colled ar e-lyfrau, heb gefenogaeth y corff sydd i fod i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi.

      Joio’r un yma LOT bois. Ella ddylia ni drio gwylltio Bryn ym amlach ;-)

    • Carl Morris 4:31 PM ar 7 Medi 2011 Dolen Barhaol

  • Sioned Mills 3:27 PM ar 28 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , haclediad, ,   

    Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl 

    Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr Roger McNamee ar sut bydd yr haenen gymdeithasol ac HTML5 yn newid sut ‘da ni’n defnyddio’r we am byth.
    I chi sy’n mynd i’r Eisteddfod, bydd Hacio’r Iaith Bach yno ar y maes, ewch draw i babell Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun i gwrdd â Rhodri @Nwdls Ap Dyfrig a’r criw.
    Mwynhewch!
    Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx)
     
  • Sioned Mills 3:52 PM ar 30 June 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #10 – Yr un niwlog 

    Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple.
    Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus).
    Byddwn yn trafod yr iCloud (neu’r tamed ohono, yr iNiwl os hoffech chi, sydd allan yno), a chynlluniau sensro’r we, a ddylen ni fod yn ofnus?
    Diolch eto am wrando ar Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx)  a Sioned (@llef) am 10 hacleciad, welwn ni chi yn yr Eisteddfod!
     
  • Sioned Mills 12:40 PM ar 27 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #9 – Yr un [redacted] 

    Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone.
    Os nad yw Twitter wedi rhoi’n manylion cyswllt i’r cwrt, a’n  byddwn hefyd yn trafod effaith goruwch waharddebau (superinjunctions, diolch heddlu iaith!) ar rwydweithiau cymdeithasol.
    Diolch eto am eich cyfraniadau i gyd, i Gafyn Lloyd am gymysgu’r Haclediad ac i bawb sy wedi bod yn gwrando hyd yn hyn!
    Criw’r Haclediad – Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Sioned (@llef)
     
  • Sioned Mills 10:00 AM ar 21 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8! 

    Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd y gîcs byddwn yn trafod Star Wars yn cael ei gyhoeddi ar BluRay, a’r dyfodol i ffrydio fideo.

    Diolch am wrando, cofiwch anfon sylw os feddyliwch chi am unrhyw beth i’w ychwanegu i’r profiad!
    Hwyl,
    Tîm yr Haclediad

     
    • Carl Morris 2:23 PM ar 22 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Gwych! Diolch!

    • Rhodri ap Dyfrig 11:20 AM ar 25 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Newydd wrando arno. Bendigedig!

      Awydd gwneud un byw yn yr Eisteddfod Gen? Mae’n debyg iawn bydd digwyddiad haciaith ar y maes bnawn Llun…siwr gallwn ni ffeindio noddwr ar gyfer y rhaglen i dalu am docynnau/cyfraniad at bres teithio ayyb.

    • Bryn Salisbury 3:33 PM ar 28 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Pam ddim? Jest lawr y lon i fi. Cwestiwn yw os bod ni’n gwneud y sioe ar y maes, neu rhywle yn y tref.

  • Sioned Mills 12:04 PM ar 5 April 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico 

    Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, BrynIestynSioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C.
    ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad gwasanaeth cwmwl Amazon hefyd i ni gael busnesa ar tech rhyngwladol yn ystod y rhifyn yma yn ogystal â popeth ychydig agosach i gartre’.
    Diolch am wrando, a chofiwch adael sylw i ni gael gwybod be da chi’n ei feddwl: da neu ddrwg!
    Criw’r Haclediad
     
    • Carl Morris 11:43 PM ar 29 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Ail-wrando!

      Gwefan dating Cymraeg amser maith yn ôl roedd… Pishyn.

  • Sioned Mills 3:17 PM ar 2 March 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! 

    Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!
    Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’u cyhoeddwyr, dyfodiad yr iPad 2 a phosibiliadau rheolydd y Microsoft Kinect nawr bod teclyn datblygu wedi ei rhyddhau iddo.

    Fel pob rhifyn arall, bydd digon o fwydro technoleg a’r we o’n cornel ni o’r rhyngrwyd – mwynhewch!
     
    • Carl Morris 5:25 PM ar 10 Mawrth 2011 Dolen Barhaol

      gwaith da fel fel arfer

  • Sioned Mills 9:36 AM ar 2 February 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011 

    O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni lwyth o gwestiynau gan y gynulleidfa wych, a gewch chi wrando i glywed y rhai gwirion a gwirioneddol ddiddorol!
    Yn yr haclediad mae Iestyn (@iestynx), Bryn (@bryns) a Sioned (@llef) yn rhoi’r we yn ei le, ac mae aelod mwyaf newydd y tîm Meilyr (@meigwilym) yn ymuno â ni hefyd am yr eildro.
    Diolch am wrando, a chofiwch roi sylw, dda neu ddrwg!
     
    • Carl Morris 4:50 PM ar 2 Chwefror 2011 Dolen Barhaol

      Sioe da iawn, diolch i bawb!

    • Rhodri ap Dyfrig 10:36 PM ar 2 Chwefror 2011 Dolen Barhaol

      Ma’r intro yn swpyrb! Gwych cael y gynulleidfa’n cymryd rhan. Dria i gael y best bits ar fideo…

      Gewn ni un bob wythnos? Rhywun noddi/ariannu fo pliiiiis!

    • Gareth 1:32 PM ar 4 Chwefror 2011 Dolen Barhaol

      Gweld yr intro braidd yn hir. Munud cyfan cyn i’r podlediad ddechrau. Gweddill y cynnwys yn wych a braf oedd gallu gwrando drwy’r App Haciaith unwaith eto http://stwnsh.com/happiaith

  • Sioned Mills 4:41 PM ar 19 January 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: haclediad, ,   

    Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig! 

    Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a thrafod gêm iPhone Gymraeg gyntaf ‘Cerrig Peryg’ ynghyd â llawer mwy.
    Mae siawns i glywed am App Inventor Android hefyd, sy’n declyn da ni’n gobeithio ei ddefnyddio yma ar ye Haclediad yn fuan, croesi bysedd.
    Ond y pwnc sydd wedi tanio’r mwyaf ar yr Haclediad yma yw, wrth gwrs, digwyddiad Hacio’r Iaith ar y 29ain o Ionawr yn Aberystwyth. Dewch draw, neu os na allwch chi, gwrandewch allan am yr Haclediad byw o’r digwyddiad, allwch chi ddim colli allan ar honno!
    Cofiwch adel sylw yma os oes unrhyw beth gennych i’w rannu, da ni wastad yn falch iawn o glywed eich syniadau, sylwadau a synfyfyrion.
     
    • Gareth 6:08 PM ar 19 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Rhaglen wych! Wrthi’n gwrando arndi drwy’r App Haciaith (http://stwnsh.com/happiaith)

    • Carl Morris 1:11 AM ar 20 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Penigamp!

      Diolch o ysgyfant am y bloedd-mas

    • Rhodri ap Dyfrig 11:10 AM ar 20 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Siomedig iawn………….nad ydi Mei yn trio am gadeiryddiaeth S4C.

      Podlediad sblendigedig eto. Edrych mlaen yn arw at y darllediad byw.

      >> “Y we fach” – dwi’n lecio hwnna. :)
      >> Croeso i’r mini-Meis ddod hefyd! Roedd Lleucu yno llynedd: http://www.youtube.com/watch?v=llyUvgntHCc

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu