Tagiwyd fel: haciaith RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Sioned Mills
Haclediad #17 – Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012
Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012.
Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses!

I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn
A dyma hi fideo’r Haclediad (os da chi am weld ein wepiau ni).
Recordiwyd ar 28ain o Ionawr.
-
Rhodri ap Dyfrig
Hacio’r Iaith Bach – ydach chi am drefnu un?
Jest i ddilyn fyny ar ein galwad ar ddiwedd Hacio’r Iaith, roedden ni’n awyddus iawn i drafodaethau barhau drwy’r flwyddyn mewn cyfarfodydd / meetups llai o gwmpas y wlad. Felly, os da chi isio sgwrs efo pobol eraill am syniadau / eich busnes / neu am eich blog yna: pigwch ddyddiad, pigwch leoliad, a hysbysebwch o fama neu ar http://hedyn.net
Sdim rhaid iddo fod yn fawr, gall cyfarfod o ddau fod yn ddefnyddiol iawn i wyntyllu problemau neu syniadau.
-
Rhys
Ie, mae’n bwysig parhau’r sgwrs drwy’r flwyddyn a manteisio ar fomentwm (gobeithio) a grewyd gan Hacio’r Iaith 2012. Dyma flas o sut bethau mae Hacio’r Iaith Bychain y gorffenol wedi bod fel.
Fel mae Rhodri’n dweud, sdim eisiau unrhyw drefnu. Yn y gorffenol, dw i ac un person arall wedi trefnu cwrdd mewn tafarn, wedyn taflu gwahoddiad i eraill ymuno a ni drwy Twitter. Hawdd.
Os am gael bach mwy o griw, mae Doodle yn ddefnyddiol er mwyn sicrahu dyddiad sy’n addas i gymaint o bobl a phosib.
-
Rhodri
Mae na slot i wneud Hacio’r Iaith yng Ngwyl Lenyddiaeth Dinefwr (29 Mehefid-1 Gorff) yn ôl y trefnwyr. Pwy sy’n mynd?
Ella bo fi’n mynd i neud sesiwn Pictiwrs yna.
-
-
Rhodri ap Dyfrig
Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012?
Dim ond cofnod sydyn sydyn i nodi bod hi’n bur bosibl y bydd na safle penodol gyda Di-Wi, sockets trydan, a gofod trafod / cyflwyno ar gael i bobol sydd isio blogio o’r steddfod, cynnal gweithdau neu sesiynau trafod. Does dim byd wedi ei gadarnhau eto, ond dwi’n gobeithio clywed yn fuan am fanylion. O be dwi’n ddeall mae mewn safle gwych ac o bosib un o;’r datblygiadau mwyaf cyffrous o ran rhoi lle teilwng i gyfryngau digidol annibynnol Cymraeg yn yr Eisteddfod.
Tra’n bod ni’n aros am gadarhnad be am daflu ambell syniad am sut gellid defnyddio’r gofod i’w botensial, a pwhy fyddai a diddordeb ei ddefnyddio.
Dyma ambell syniad i ddechrau:
– sesiynau drop-in ar gyfer dysgu am gyhoeddi arlein a defnydd cyfryngau gwe ar gyfer cymdeithasau / Merched y Wawr / papurau bro ayyb (syniad Sioned Mills oedd hwn dwi’n meddwl)
– sgyrsiau rownd bwrdd amser cinio (nid darlithoedd) nid am ‘beth yw blogio’ ond am agweddau spesiffig iawn o ddylanwad / potensial y rhyngrwyd / technoleg symudol ar ein cymdeithas(au)
– demos o wefannau
– bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifigBe chi’n feddwl?
-
Mei
Mae hyn yn newyddion gwych.
Does gen i ddim cynlluniau penodol i’r Steddfod y flwyddyn hon, ond mae hyn yn swnio yn rhy dda i fethu. Dwi’n disgwyl ymlaen i glywed rhagor.
-
Llinos
Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?
-
Colin Nos
Byddai hwn yn wych. Dylai Steddfod yr Urdd wneud rhywbeth tebyg.
-
Rhys Wynne
Cyffrous, a hen bryd! Licio’r syniad Sioned o roi sesiynau – baswn i’n licio meddwl byddai yna alw, yn enwedig gan bydd lot o aelodau Mercher y Wawr, er enghraifft, ar y Maes, a lot o aelodau mudiadau a chymdeithasau eraill hefyd.
Syniadau am sesiynau sgwrsio:
Tips i ddefnyddio web2.0 i’r wasg Gymraeg (e.e Potensial Storify, sesiwn arbennig i Golwg360 ar osod dolennni o fewn erthyglau – Miaw!, darganfod leads o ddefnyddio gwefannau fel WhatDoTheyKnow, chwiliadau ar GoogleBlogSearch a Twitter/Umap)Dysgwrdd ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Barcamp i ddysgwyr (syniad Leia)
bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig
Licio fe!
Gol: (wedi trwsio dolen at drydariad Leia)
Llinos: Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?
Gwell fyth. Mae’r Eisteddfod ei hun fel sefydliad fel petai’n gorfodi rhyw media blackout ar ei hun ynystod yr Wyl, ac er bod y BBC yn gwneud job dda gyda ei ddarpariaeth ar lein, byddai cystadleuaeth annibynol yn iach, ac yngyfle i bobl blogio neu vlogio am y tro cyntaf a gweld pa mor hawdd ydy o.
Syniadau bril hyd yma.
-
Leia
Dw i’n edrych ymlaen yn barod! Hoffwn wneud rhywbeth gyda’r ddysgwyr a Web 2.0 (Twitter a Soundcloud falle) a sut i defnyddio’r we i adeiladu cysylltiadau gyda’r ‘ byd Cymraeg’… Mae llawer o ddysgwyr yn mynd i’r ‘steddfod heb gwybod ble i ddechrau a mae’n bwysig bwysig iawn i ddod o hyd cyfle i ddefnyddio’r Cymraeg i wneud pethau diddorol… a technoleg yw ‘ffordd mewn’ da.
Sa i’n siwr eto beth sy’n digwydd ym Maes D, ond bydd SaySomethinInWelsh yna gyda syniadau, falle basai cyfle i gydweithio ‘na.
-
Maldwyn Pate
Mae hyn yn newyddion ardderchog. Gwna i annog fy nghyfeillion I feddwl am syniadau. Cyfle rhy dda i’w wastraffu.
-
Rhodri ap Dyfrig
Diolch am yr holl syniadau ac ymateb. Na’i holi i weld lle ma hwn yn sefyll bellach.
-
Phil Stead
Bendegedig.
-
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Carl Morris
Gwychder. Diolch.
Ydy’r sianel ar gyfer Hacio’r Iaith yn gyffredinol neu 2012 yn unig?
-
Rhodri ap Dyfrig
2012 yn unig oedd y bwriad. Meddwl ei bod hi’n well cadw nhw gyd gyda’u gilydd yn hytrach na chymysgu popeth haciaith. Digon hawdd creu sianel arall sydd yn casglu popeth.
-



Ivan 5:26 PM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Waw, mae hwn yn ossym – slic iawn. Ffordd wych o ledu’r gair! *cymeradwyaeth*