Sesiwn Gloi Hacio’r Iaith 2012
Wel, dwi ddim yn siwr os dwi cweit wedi dod at fy hun eto, ond dwi’n hapus iawn efo sut aeth pethau dros y penwythnos. Mi dria i sgwennu cofnod blog yn son am y digwyddiad o’n safbwynt i yn rhywle, arall ond am y tro hoffwn i roi snapshot cyflym o’r holl bynciau gafodd eu trafod ddydd Sadwrn.
Dwi newydd fod yn pori dros y grid a’n trio cofnodi teitlau’r holl sesiynau ddigwyddodd ddydd Sadwrn er mwyn eu cynnwys yn y fideos. Dwi’n meddwl bod ambell un ar goll gen i, a’n sicr ambell enw, ond dyma’r rhestr fel mae’n sefyll. Os oes angen cywiro unrhywbeth / cynnig teitl gwahanol plis allwch chi adael i fi wybod yn reit fuan fel ein bod ni’n gallu rhoi’r teitl cywir ar y fideos.
Am resymau adnoddau wnaethon ni ddim llwyddo i ffilmio unrhyw sesiynau o’r Ystafell Ymarfer felly sori am hynny! Fel mae’n digwydd roedd na sawl sesiwn da iawn yno. C’est la vie, c’est la mer, c’est le pomme de terre!
Y Stiwdio
Ystafell G38
Ystafell Ymarfer 1 (dim recordiad)
Siarodd Pete rhywun am Ffeilau Iaith Arlein (ble i ddod o hyd nhw), mae e’n adeiladu app i ddysgwyr.
Diolch Leia. Wedi ei ychwanegu.
Y Dorf v HSBC oedd syniad Owain Elidir ond doedd dim digon o amser i’w gynnal yn anffodus.
Pwer yr # (hashtag) oedd un o syniadau Bethan Davies yn ogystal â syniad am sesiwn marchnata digidol. Dw i ddim yn siwr beth ddigwyddodd gyda’i syniadau yn y pen draw.
(Gobeithio fod e’n iawn i’u henwi yn y sylw yma.)
Collais i gymaint o sesiynau da!
Do, fe wnaeth Jim Killock gynnal sesiwn ar sensoriaeth yn y Stafell Ymarfer. Mond pump aeth i wrando, ond cafwyd trafodaethau da.
Diolch am yr ychwanegiadau. Ma’n gyflawn rwan dwi’n meddwl. Na’i addasu eto ar ol bod trwy’r fideos.
Mae Stings Haciaith ar gael ar gyfer y fideos cofiwch
PUM PETH DWI’N EDRYCH MLAEN ATYN NHW INNIT
Dere â’r banjos.
Bydd 25 ar werth ar y diwrnod. Crysau-t safon uchel defnydd Fairwear (http://www.fairwear.org/), wedi eu sgrin-argraffu gyda gofal a thynerwch gan Visible Art, Caerdydd (http://www.visibleart.co.uk/).
Meintiau ar gael:
5 x Bach
10 x Canolig
5 x Mawr
5 x Mawr Iawn
Credit dylunio: Iestyn Lloyd – Sbellcheck – http://www.sbx.me/
Diolch Iest!
Gwychder
Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych mlaen yn arw am Hacio’r Iaith 2012 ar y 27ain a’r 28ain o Ionawr, welwn ni chi yno!
Ella bod y criw yn sâl ond ma’r drafodaeth yn wych, fel arfer. Ma na drafodaeth bwysig yma am be di’n disgwyliadau ni ar gyfer safon deunydd Cymraeg ac ydan ni’n ddigon gonest am bethau Cymraeg sydd ddim yn ddigon da.
O ran ap Golwg, dwi heb ei lawrlwytho achos da ni’n talu am y cylchgrawn print bob wythnos a fasa’n rhaid talu’r un pris eto am yr un peth ar yr ap. Dwi hefyd methu diodda darllen cylchgronnau arlein lle ma raid zoomio mewn ac allan i pdf, a throi tudalen. Urgh. Dwisio hyperlinks!
Yr unig adeg efallai y gallwn i ragweld ei ddefnyddio ydi i ddarllen un rhifyn mewn argyfwng os di pob siop bapur newydd yn cau yn Aberystwyth! Ma’n biti nad ydyn nhw wedi trio fformatio’r cylchgrawn ar ffurf Flipboard-aidd. Rhaid cyfaddef, mod i jest isio Golwg360 mewn fformat symudol gwell neu ar ffurf app.
[Cynlluniau ar y gweill am ailgynllunio Ap Cyw! Woo! Iei!]
Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test, gwrandewch i glywed y ddyfarniad.
Nadolig Llawen iawn hefyd i chi gyd sy’n gwrando, a diolch mahwsif i chi am wneud. Ymlaen i Hacio’r Iaith 2012!
Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!). Gobeithio gwnewch chi fwynhau, ac os na, dangoswch eich rhesymu yma!

Manylion ar y Wici: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_Ionawr_2012#Cofrestru
Os ydych chi’n dod, ac yn meddwl cyflwyno am rhywbeth, yna fase’n help mawr petasech chi’n gallu sgwennu pwt ar y Wici yn dweud yn fras eich syniad. Am nad oes na raglen ffurfiol o flaen llaw, da ni’n dibynnu ar be ma bobol yn gweld ar y Wiki (a’r digwyddiadau cynt) fel enghreiftiau o be i’w ddisgwyl.
Hefyd, os da chi’n dda am PR/y wasg a rhyw bethau fel’na yna fasa’n gret cael eich help i rannu gwybodaeth am y digwyddiad. Dwi’n credu ei bod yn bwysig y tro yma bod pobol y tu hwnt i gymuned y we Gymraeg yn ffeindio allan am yr holl sdwff sy’n digwydd.
Carl Morris 3:11 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Gwychder. Diolch.
Ydy’r sianel ar gyfer Hacio’r Iaith yn gyffredinol neu 2012 yn unig?
Rhodri ap Dyfrig 3:28 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
2012 yn unig oedd y bwriad. Meddwl ei bod hi’n well cadw nhw gyd gyda’u gilydd yn hytrach na chymysgu popeth haciaith. Digon hawdd creu sianel arall sydd yn casglu popeth.