“A oes data?” “…data?!”
Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.
Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.
Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.
Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.
Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?


Rhys 9:37 PM ar 14 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Mae’r mwyafrif o’r (21) dolen dolen at Golwg360 o Wicipedia yn gweithio yn ffodus, ond ddim i gyd.
Chwarae teg, mae rhywun wedi cael job gont yn glanhau i fyny ar ôl llanast rhywun arall, ac yn edrych fel bod nhw’n gwneud job go dda arni. Y drwg ydy, mae pob adnodd prin sy’n cael ei wario ar ‘welliant’ y wefan ond yn mynd at ddod ar wefan i’r safon isaf posib ddylai fod ar y cychwyn, ac felly sdim lot o gyfle i wneud gwellianau mwy arwyddocaol (ee RSS unigryw i’r gwahanol adrannau).
Carl Morris 9:28 PM ar 15 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Rwyt ti angen rheswm eithriadol i beidio defnyddio meddalwedd cod agored dyddiau yma. Fel arfer mae cod agored yn dod gyda safonau agored a rhydd hefyd.
Pa ffrydiau RSS wyt ti eisiau achos rydyn ni’n gallu trio eu creu fel project?
Rhys Wynne 9:30 AM ar 16 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Pa ffrydiau RSS wyt ti eisiau achos rydyn ni’n gallu trio eu creu fel project?
Meddwl mwy ar gyfer ‘Pwy all fod eisiau ffrydiau RSS’ ydw i.
dyma rai enghreifftiau o wefannau a allai fod a diddordeb danogs ffrwd RSS adran neu is-adran penodol:
Cwlwm Busnes Caerdydd > http://www.golwg360.com/newyddion/arian-a-busnes
Gwefan Pethe/Cyngor Celfyddydau Cymru…. > http://www.golwg360.com/celfyddydau
Gwefan Y Selar > http://www.golwg360.com/celfyddydau/roc-a-phop
Yr Eisteddfod Genedlaethol/ Cymdeithas Eisteddfodau lleol… > http://www.golwg360.com/celfyddydau/eisteddfodau
Tu Chwith > http://www.golwg360.com/celfyddydau/llen
Cochion Caerdydd (cefnogwyr Wrecsam) > http://www.golwg360.com/chwaraeon/pel-droed (neu gwell fyth http://www.golwg360.com/chwaraeon/pel-droed/wrecsam)
UCAC, CBAC > http://www.golwg360.com/newyddion/addysg
Cyngor Cefn Gwlad. FUW, NFU Cymru, Ffermwyr Ifanc Cymru > http://www.golwg360.com/newyddion/cefn-gwlad
Haciaith.com > http://www.golwg360.com/newyddion/gwyddoniaeth-a-thechnoleg
BlogMenai / Hen Rech Flin, IWA (Jôc!), StrataMatrix… > http://www.golwg360.com/newyddion/gwleidyddiaeth
Petai http://www.golwg360.com/newyddion/cymru hefyd gyda is-adran pellach ar gyfer sir (neu hyd yn oed tref, byddai Awdurdodau lleol, Mentrau Iaith, Gwefannau hyper-lleol, Guardian Cardiff (?). Papurau Bro efallai eisiau ychwanegu ffrwd i’w gwefan nhw
Mond syniadau ydy’r rhain a gymerodd dau fynud i fi feddwl amdanynt. Dof yma i ychwnaegu mwy mae’n siwr. mwy.
Dafydd Tomos 8:04 PM ar 17 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Mae fy archif i yn cynnwys pob stori fyny at yr ail-ddyluniad (wel falle ddim popeth, ond yn sicr dy enghreifftiau di). Y gwahaniaeth wrth gwrs yw mod i ddim yn dileu pethau. Roedd tueddiad yn yr hen wefan i ddileu hen stori er mwyn creu fersiwn newydd gyda ID newydd.
Er enghraifft, wrth chwilio yn fy archif i mae 26 stori am ‘Jo Yates’ ond 20 yn Golwg360.
Ond mae un stori wedi ei gofnodi tri gwaith yn fy archif, wrth i’r stori ddatblygu:
“Mae dyn 32 oed wedi ei arestio heddiw ar ddrwgdybiaeth o lofruddiaeth Joanna Yeates”
“Mae dyn 32 oed sy’n cael ei amau o lofruddio Joanna Yeates yn cael ei holi gan yr heddlu”
“Mae dyn 32 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Joanna Yeates.”
Dwi’n gobeithio fydd y broblem yna ddim yn digwydd yn y wefan newydd.