Tagiwyd fel: Glyn Ebwy RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
Rhodri ap Dyfrig
-
Carl Morris
Angen 3G a di-wifr yn Wrecsam 2011!
Carl Morris
RNIB a llais synthetig Cymraeg ar gyfer pobol dall
Es i i lansiad llais synthetig am bobol dall ar y maes Dydd Mercher.
Siaradodd rhywun o RNIB, yr awdur Catrin Dafydd a Leighton Andrews AC.
Ac wrth gwrs, y llais synthetig!
Mae fe’n defnyddiol iawn am wefannau, llyfrau ayyb.
Ond dw i ddim yn gallu ffeindio unrhyw beth amdano fe arlein yn anffodus! Does dim manylion gyda fi nawr.
Anfonodd Golwg newyddiadurwr felly maen nhw yn cyhoeddi rhywbeth llawn gobeithio.
-
Hywel
Hoffwn clywed sais synthetig sydd un tebyg i Gerallt Lloyd Owen!
-
Dafydd Tomos
Wnes i ddarllen y newyddion ar wefan yr RNIB ychydig ddyddiau nôl ond doedd dim sôn am le i gael y meddalwedd.
Nawr mae gwefan y cwmni Ivo yn cynnwys eitem newyddion am y ‘Welch’ voice (dyna ddechrau da iddyn nhw yn y farchnad Gymreig) ond does dal dim gwybodaeth am sut i gael y llais!
-
Dafydd Tomos
Mae’r stori yma yn parhau i fod yn ryw nofelti sy’n cael ei ail-gyflwyno bob hyn a hyn. Mae’r fideo yn dweud y bydd y llais ar gael yn 2011 nawr (am ddim neu mewn cynnyrch masnachol? Sneb yn dweud).
-
Carl Morris
Mae’r cerddorion electronica yn aros hefyd.
Carl Morris
Carl Morris
Fi a Fo yn cyflwyno iSteddfod, app iPhone am Eisteddfod 2010 gyda Delyth Prys o Brifysgol Bangor
Mae fideo o iSteddfod ar y ffordd gan nwdls.
Mwy o wybodaeth ar y wefan Fi a Fo.
Carl Morris
Hacio’r Iaith – Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy

Hacio’r Iaith – Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy
Nos Fawrth 3 Awst 2010
5:00PM – 8:00PM
The Picture House
Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP
Di-wifr ar gael
Dewch i siarad gyda ni am:
blogio / technoleg / y we / Cymraeg / fideo / cyfryngau newydd / pynciau amrywiol
#haciaith
haciaith.com
Mynediad am ddim. Croeso i bawb!
Wedyn… dyn ni’n gallu mynd i’r noson comedi yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy.
(Mawrth 3 Awst, “Y Babell Wên”: £4
Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones
Noel James / Gez Couch
Iestyn Jones / DJ Hefin Jones
a gwesteion arbennig o’r byd llenyddol
ar y cyd â Tu Chwith)
Digwyddiadau Hacio’r Iaith eraill
Gyda llaw mae pobol yn cwrdd yng Nghwyl Arall, 24ain mis Gorffenaf 2010 hefyd
-
Carl Morris
Dw i’n hapus i wneud gweithdy WordPress os mae bobol eisiau dysgu cam-wrth-gam.
“FyWordPressCyntaf.com – does dim angen profiad o flaen llaw”
-
Rhys
Dw i am ddod, ond bydd hi wedi 6:00 arna i’n cyrraedd. bydda i’n gwerthfgawrogi unrhyw genhadwri ar greu blog ar WordPress – dw i eisoes wedi sortio hy hosting ayyb.
-
Gethin
Os wyt ti eisiau hacio’r iaith, beth am sillafu Glynebwy yn gywir Carl yn lle’r cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg.
-
Carl Morris
Peidiwch â gwastraffu ynni gyfaill


Carl Morris 3:17 PM ar 19 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Gyda llaw mae hwn yn bodoli, sori am yr oediad!
Y Bydysawd
http://ybydysawd.com
Esboniad
http://quixoticquisling.com/2011/01/y-bydysawd-trafod-materion-cyfoes-chwaraeon-a-theledu/
Bydd y cyfrif Twitter yn dechrau pan fydd gyda ni sylwadau momentum.
http://twitter.com/ybydysawd