Tagiwyd fel: ffilmiau RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 4:59 PM ar 2 March 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , dotsub, ffilmiau, isdeitlo   

    Isdeitlo fel Basg 

    Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.

    Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod trwy wefan Azpitituluak sydd yn cyhoeddi isdeitlau Basgeg ar ffilmiau sydd ddim yn cael eu dosbarthu gyda isdeitlau yn yr iaith. A hyn oll wedi ei darddu gan y dorf. Dwi ddim yn deall yn iawn sut mae’n nhw’n rhoi nhw ar y ffilmiau ac yn rhannu’r ffilmiau wedyn ond mae’n grêt bod nhw’n mynd ati i lenwi bwlch yn y farchnad.

    Dwi’n cofio clywed mewn cynhadledd yn Barcelona am fab un o’m cyd-gynadledwyr oedd yn treulio ei holl amser yn rhwygo cyfresi Americanaidd newydd fel Lost trwy Bittorrent, eu isdeitlo i’r Gatalaneg, a’u cyhoeddi ar Bittorrent eto a hynny o fewn oriau i’r rhaglenni gael eu darlledu yn yr UDA.

    Prin y byddai’r ysfa i hyn ddigwydd yma gan bod pawb yn deall Saesneg cystal, gan weld yr ymdrech o isdeitlo Cymraeg i ffilmiau tramor fwy o strach nac o werth. Ond mae ffilmiau ar gael gyda isdeitlau Sbaeneg, felly pam na ddylen ni gael gweld ffilm Quechua gyda isdeitlau Cymraeg yn lle rhai Saesneg. Byddai na hefyd fanteision i wneud detholiad o ffilmiau o’r fath ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn arbennig. Ac yn sicr mae na fanteision i ni ei wneud y ffordd arall rownd – h.y. rhoi cynulleidfa wahanol i sdwff cyfrwng Cymraeg.

    Mae gwefannau sy’n galluogi hyn eisoes fel DotSub (er dwi’n siwr nad oes posib rhoi ffilmiau Hollywodd arno…) a gallwch chi fynd ati i gyfieithu rwan drwy helpu Rhys i drosi testun un o fideos Hacio’r Iaith ar gyfer cynulleidfaoedd Saesneg…

    dotsub

     
  • Rhodri ap Dyfrig 10:47 PM ar 15 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: dosbarthu digidol, dvd, ffilmiau, Gwales   

    Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru e… 

    Annwyl Gwales,

    Pan da chi’n diweddaru eich gwefan nesaf, wnewch chi wneud yn siwr bod pobol yn gallu lawrlwytho ffilmiau Cymraeg oddi yno?

    Does dim posib cael gafael ar Hedd Wyn rhagor hyd yn oed. Mae bron pob dysgwr dwi’n siarad â nhw eisiau gwylio ffilmiau. Ydi hi ddim yn hen bryd sortio hyn?

    Cofion cynnes,

    Rhodri

     
    • Carl Morris 1:52 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Mae cynllun busnes yma os rhywun eisiau wneud hwn eu hun?
      http://docs.google.com/View?id=ddg65vwh_28hdm75rks

      Dw i’n iawn gyda Hedd Wyn, er oedd rhaid i mi brynu’r fersiwn addysg am £25. Ble mae’r pris neis? GWALLGOF

    • Rhodri ap Dyfrig 10:10 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      waw, gwych Carl. Ma angen i rywun wneud hwn. Gallai na fod arian i wneud ynddo hyd yn oed. (shock horror!)

    • Carl Morris 10:14 PM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Dw i dal yn chwilio am enwau rhaglenni. Hoffwn i wneud e rhywbryd. Ond faswn i ddim yn poeni os gallai rhywun arall wneud e cynt.

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu