Cefais y cyfle i siarad yn Hacio’r Iaith 2012 am sut i greu eLyfrau, roedd pawb yn dweud wrthyf ei fod wedi mynd yn grêt ond yn fy mhen i oedd y cyflwyniad dros y siop (efallai mai dyna sut mae cyflwyniadau munud olaf i fod ar ddiwrnodau fel hyn!). I neud i fyny am hyn o’n i’n meddwl byswn yn ysgrifennu erthygl i drio esbonio yn well y ffurf sydd ar gael ar y funud i greu eLyfrau.
Beth yw eLyfr?
Yn blwmp ac yn blaen llyfr electroneg yw eLyfr, ond yn debyg iawn i unrhyw beth electroneg mae ‘na llawer o fformatia wahanol ar gael. Y rhai mwyaf poblogaidd – oherwydd poblogrwydd yr Amazon Kindle – yw .azw .mobi a’r un newydd ers y Kindle Fire, KF8. Y brif un arall, mae bron pob darllenydd eLyfrau – heblaw am y Kindle – yn ei gefnogi yw .ePub, a dyma mae pawb yn cytuno yw safon agored eLyfrau. (Mae .pdf hefyd yn cael ei gysidro fel ffurf o eLyfr.)
Felly sut mae creu eLyfr (ePub)?
Y ffordd Hawdd
Pages ‘09 – £13.99 – Apple

Prosesydd geiriau gan Apple yw Pages, yn y rhy’n fodd mai Word yw un Microsoft. Os ydych yn gwybod sut i ddefnyddio Word mi fyddwch yn eithaf cartrefol yn Pages.
Yn syml, dyma rhai o bethau i gofio ar gyfer creu eLyfr yn Pages:
- Teipiwch eich llyfr trwy ddefnyddio Blank Template
- Ar ôl neu yn ystod teipio fformatiwch y ddogfen trwy ddefnyddio paragraph styles sydd yn cuddio o dan View / Show Styles Drawer
- Unrhyw eiriau fyddwch yn fformatio i fod yn Heading 1 fydd penodau’r eLyfr
- Fe allwch lusgo lluniau i mewn i’r ddogfen o unrhyw ffolder, ond i gael y llun i ymddangos yn yr eLyfr mi fydd rhaid ei wneud yn Inline (efo’r llun wedi ei ddewis mae’r botwm yn ymddangos ar y top ar y dde).
- Os ychwanegwch lun i’r tudalen cyntaf mae modd ei ddefnyddio fel clawr y llyfr.
- Fe allwch ychwanegu fideo a thraciau sain i mewn i’r ddogfen yn y rhy’n fodd a’r lluniau.
- Pan fyddwch wedi gorffen ewch i File / Export a dewis ePub. Yn fan hyn fydd y dewis i newid y tudalen cyntaf i fod yn glawr.
- A dyna ni…
Y ffordd sydd ddim mor hawdd
InDesign CS5.5 – £714 – Adobe

Mae InDesign wedi cael ei greu gan Adobe, y rhy’n pobl y tu ôl i Photoshop. Os rydych wedi edrych ar Photoshop ac wedi meddwl pa mor gymhleth mae’n ei edrych, wel mae InDesign eithaf tebyg. Yn fy ngwaith dwi’n defnyddio InDesign bron pob dydd i greu dogfennau ar gyfer print, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau troi i mewn i raglen sy’n trio creu cylchgronau a llyfrau yn ddigidol hefyd.
Ni rwyf am fynd i mewn i lawer am y broses yn fan o greu eLyfr o InDesign gan eich bod yn gorfod dysgu’r rhaglen ei hun yn gyntaf ac yma fyswn i! Fe allwch ei ddefnyddio yn y rhy’n fodd a Pages a gosod allan eich dogfen yn blaen ac wedyn mynd i File / Export a dewis ePub. Mi gewch lawer mwy o ddewisiadau na Pages sydd yn beth da a drwg.
Mi fydd Adobe yn dod a fersiwn newydd o InDesign allan yn y misoedd nesaf. Mae ‘na lawer o obeithion gan bobl fydd y fersiwn yma, CS6, yn neud y broses llawer haws i greu llyfrau a chylchgronau digidol (hint hint apGolwg).
Y ffordd anodd – ond y gorau
Côd – £AM DDIM ag i fyny

Os ydych o ddifri am ddechrau creu eLyfrau yn llawn amser, mae rhaid i chi ddysgu am beth sy’n gwneud ePub. Yn syml, cyfuniad o côd XHTML, XML a CSS yw ePub efo ychydig o ffeiliau eraill sy’n cyfuno nhw i gyd at ei gilydd. Y ffordd hawdd o feddwl am ePub yw fel gwefan bach. Yn y rhu’n fodd ac mae rhaglenni sydd yn gadael i chi creu gwefannau heb gyffwrdd côd yn creu côd hyll iawn, mae rhaglenni sy’n creu .ePub yn creu côd hyll iawn. Y broblem efo hyn yw ei fod yn gallu niweidio eich llyfr ac yn creu gwallau ar rhai darllenydd. Hefyd dyma’r unig ffordd, ar y funud, i allu creu eLyfr hollol unigryw â’i gael i edrych yn union fel da chi eisiau.
I ddysgu am ‘y côd’ hyn rwyf yn argymell yn fawr iawn y llyfr darllenais i pedair blynedd yn ôl, Build Your Own Website the Right Way gan Ian Lloyd (ddim perthynas!). Mi wneith hwn ddysgu chi bron popeth y gwelwch chi y tu fewn i .ePub.
Y rhaglen da ni’n ei ddefnyddio i greu gwefannau a rŵan ei’n eLyfrau yw Coda ond mae’n bosib gwneud y gwaith i gyd trwy ddefnyddio unrhyw raglen ‘text editor’ allan yna, hyd yn oed y rhai sy’n dod am ddim ar ei’ch cyfrifiadur.
Gwyro’r Gwallau
Unwaith fyddwch wedi creu eich ePub mae angen ei drio i weld os mae’n gweithio. Mi oeddwn i yn defnyddio Adobe Digital Editions i wneud hyn, ond ers i Apple ddod a’r rhaglen Book Proofer (mae rhaid bod yn aelod o iTunes Connect i gael hwn) allan rydym yn defnyddio’r iPad yn syth i weld sut mae’n edrych. (Diweddariad: Mae cwmni o’r enw TidBITS newydd ddod a darllenwr eLyfrau newydd allan i’r Mac o’r enw Bookle sydd i weld werth ei edrych arno.)
Os oes unrhyw broblemau, neu hyd yn oed os does ‘na ddim, mae gwerth rhedeg eich .ePub trwy’r ‘ePub Validator’ i weld beth yn union sydd yn bod ar eich ffeil.
I Gloi
Mae hyn wedi bod y mwyaf i mi erioed teipio fel erthygl, felly rwyf am orffen yn fan hyn. Mi fyswn yn gallu mynd i mewn i sut i newid .ePub i mewn i fformat i’r Kindle, mi fyswn yn gallu dysgu chi fwy am strwythur dogfen .ePub, mi fyswn yn gallu mynd i mewn i siarad am eLyfrau ‘fixed width’. Mae gymaint i drafod yn y pwnc hwn fe allai gymered gwefan cyfan i fyny. Os ydych eisiau i mi fynd i mewn i fwy o fanylder gadewch gofnod isod.
Mi nai orffen gyda rhestr o raglenni eraill sydd ar gael (dwi un ai heb eu defnyddio, neu yn meddwl eu bod nhw’n warthus e.e. Calibre – hyll uffernol):
O.N. Mi rwyf yn Mac ‘biased’ gan mai dyna rwyf yn ei ddefnyddio. Sori, gennai ddim syniad am feddalwedd i Windows a Linux, unrhyw un arall yn gwybod?
Rhys 9:36 PM on 1 Mai 2012 Permalink
Mae yna stwff rili da ar y wefan, a dw i ddim yn gweld beth sy’n bod ar y diwyg. Dw i’n hoffi fel mae modd clicio ar broffeil awdur y erthygl a gweld pob erthygl arall mae o neu hi wedi eu cyfranu. Unif wendid wela i ydy nod oess RSS i hysbysu am erthyglau newydd. Byddai’r gallu i adael sylw yn braf, ond deallaf na fasai’n flaenoriaeth na falle’n addas.
O hyn allan, yn lle ymddangos ar ffurf html, bydd erthyglau’n ymddangos mewn PDF troi-tudalen
Rhaid bod nhw’n tynnu dy goes di – ar Ebrill y 1af dderbyniaist i’r e-bost? Fydd yna URL’s unigryw wedyn ar erthyglau penodol sgwn i? Os ddim, fydd dim modd i bobl (megis blogwyr neu newyddiadurwyr Golwg360) roi dolenni o gofnodion blog/erthygl newyddion at erthygl penodol ar Gwerddon na fydd?
Rhys 4:45 PM on 5 Mawrth 2013 Permalink
Mae’r FlipBook yn horrible, bydd rhaid lawrlwytho’r PDF rwan os oes eisiau darllen y gwaith
Fydd yna URL’s unigryw wedyn ar erthyglau penodol sgwn i?
I ateb cwestiwn fy hun, na.
Hefyd, biti na drafferthwyd creu ailgyfeiriadau at yr hen rifynnau, er mai mond naw ohonynt oedd
http://www.gwerddon.org/9_llais_y_dysgwr-176.aspx (
syddoedd wedi cael dolen ato o sawl gwefan)Rhodri ap Dyfrig 11:32 PM on 5 Mawrth 2013 Permalink
Newydd gael cip a rhaid i fi gytuno fy mod yn ffeindio meddalwedd cylchgrawn fel Flipbook yn ofnadwy ar gyfer darllen arlein. Pa mor hygyrch ydi hyn mewn gwirionedd? Mae’n debyg fod y dull ‘fflipio’ yn gweithio’n weddol drwy lywio gyda sgrin gyffwrdd, ond mae llywio tudalen fel hyn gyda llygoden neu trackpad yn boen.
Hefyd, mae’n gwestiwn a ydi’r fformat yn gwneud dyfynnu’n fwy anghyfleus na HTML? Oni fyddai’n dda i geisio cael dolenni i gyfeirio at erthyglau, neu well fyth, allu cyfeirio at rannau o erthyglau er mwyn rhoi’r annogaeth mwya ar gyfer eu trafodaeth ehangach. Mae diffyg URL unigryw yn gwneud dyfynnu ar-lein a mewn erthyglau sydd efo dolenni byw yn llai uniongyrchol yn sicr.
Beth yw goblygiadau’r newid hwn ar gyfer peiriannau chwilio? Ydi’r deunydd yn cael ei indecsio (mynegeio?!) gan Google yn y ffordd orau? Dwi’n gwybod bod tags h1, h2 a strwythr taclsu HTML yn helpu Google i wneud synnwyr o dudalennau er mwyn eu rancio’n well dydi. Arbenigwr SEO nid wyf cofiwch…
Mae llawer iawn o gyfnodolion arlein yn cynnig dau opsiwn: HTML a pdf. Wrth bori mi a’i am y fersiwn HTML, ar gyfer erthygl dwi am fynd nol ato dro ar ol tro, mi a’i am y pdf.
Dwi’n falch iawn bod cyfnodolyn Cymraeg ar gael arlein, a dwi ddim isio swnio fel gor-gwynwr achos fel na ma ymateb fel hyn am swnio ma’n debyg, ond trio cynnig sylwebaeth adeiladol er mwyn gwella’r defnydd ohono ydw i yn y bôn.
Ond dwi dal yn casau flipbooks/issuu!
Carl Morris 11:40 PM on 5 Mawrth 2013 Permalink
Yn fy mhrofiad i mae sefydliadau yn bostio ffeiliau PDF fel sgil gynnyrch o broses print yn hytrach nag ymdrech difrifol i greu pethau sydd yn addas ar y we.