Tagiwyd fel: Eisteddfod RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 1:57 PM ar 23 April 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , Eisteddfod   

    Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 – cynllunio cynnar 

    Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012

    Rydyn ni wedi bod yn trafod y posibilrwydd cyffrous o rywbeth Hacio’r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Nawr mae’r Eisteddfod wedi cynnig lle ac amser i Hacio’r Iaith, sef y pabell Cefnlen ar y maes bob dydd. Rydyn ni’n rhannu gyda’r beirdd o Dalwrn y Beirdd! Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Gwenllian o’r Eisteddfod yn bennaf am drefnu’r lle hyd yn hyn.

    Bydd y lle yn agored i bawb ar y maes gyda thrydan a di-wi. Bydd sawl cyfle i redeg sesiynau Hacio’r Iaith o bob math fel trafodaethau, gweithdai, prosiectau, blogio, cyflwyniadau…

    Cwestiynau i sbarduno syniadau

    • Beth wyt ti eisiau ei wneud? Beth yw dy ddiddordebau?
    • Pwy fyddi di ei wahodd i gymryd rhan?
    • Sut ydyn ni’n gallu gwahodd pobol sydd ddim wedi bob yn rhan o Hacio’r Iaith hyd yn hyn i joio defnydd o’r Gymraeg ar dechnoleg?
    • Sut ydyn ni’n gallu sicrhau cyfranogiad gan bobol o bob math?
    • Beth am gydweithrediad rhwng grwpiau gwahanol?

    Skype nos Fawrth

    Bydd cyfarfod ar Skype i drafod Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012
    Nos Fawrth 24ain mis Ebrill
    8:30PM
    Os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y cyfarfod, plis gadawa sylw isod. Fy enw i ar Skype yw morriscarl

    Mae’r cyfarfod yn agored i bawb. Os fydd lot o bobol efallai bydd angen defnyddio platfform arall ond cer i Skype ar y dechrau.

    Mae’n flin gyda fi os wyt ti’n methu dod i’r cyfarfod. Ond mae sawl modd i gymryd rhan. Y prif beth ydy syniadau ar hyn o bryd ac mae croeso i ti ychwanegu sylw isod gydag unrhyw feddyliau.

    Hanes

    Gyda llaw dyma’r tro cyntaf rydyn ni’n cael lleoliad cyson ar y maes Eisteddfod. (Mae Hacio’r Iaith wedi cael presenoldeb yn yr Eisteddfod i ryw raddau ers tro gan gynnwys y digwyddiad llynedd yn y stondin Prifysgol Aber, Gorsedd y Gîcs yn Y Bala, sawl sesh sgwrsio yn y pyb… Gyda llaw does dim rheswm i beidio cwrdd yn y pyb eleni hefyd.)

     
    • Robin 3:10 PM ar 23 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Syniad gwych. Ymlaen!

    • Marc Webber 4:54 PM ar 23 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Fili cymryd rhan nos fawrth, ond: -

      Peth pwysig i fi yw ddangos technoleg a gwasanaethau ar gael yn Gymraeg i’r cyhoedd. Dangos fod ti’n gallu defnyddio tydar yn Gymraeg, prynu pethau yn gymraeg, adeiladu gwefan ac yn y blaen.
      Mae rhaid i chi gael bethau i warae efo – iPads efo apps – lle i drio, nid yn unig sgwrsio
      Siawns i gwrdd a cwmniau eraill efo arian neu cyfleusterau tebyg
      Gwahodd gwleidyddion a ‘great and the good’ eraill i’r le i dangos wrthyn nhw beth sy’n digwydd yn y byd tech cymraeg.

    • Carl Morris 9:52 AM ar 24 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Robin a Marc – diolch.

      Marc, syniadau da iawn. Efallai dyw’r gair ‘gweithdai’ uchod ddim yn addas i bob sefyllfa ymarferol. Mae profiad ugain munud ac mae profiad tri munud ac mae’r ddau ohonyn nhw yn iawn. Weithiau mae angen sesiwn ymarferol gyda strwythur ac weithiau mae ymwelwyr yn gallu jyst CHWARAE!

    • Rhys Wynne 11:11 AM ar 24 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n credu bydd Robin yn ymuno yn y cyfarfod Skype heno, rhag ofn i neb gael braw!

    • Llef 11:16 AM ar 24 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Ymddiheuriadau griw trafod – methu dod mewn i’r sgwrs heno, ond edrych mlaen am y syniadau ddaw allan!

    • Rhodri 10:58 AM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Sgwrs dda ac adeiladol neithiwr. Nawn ni roi rhyw fath o restr syniadau ar y blog ddydd Gwener. Os oes unrhyw syniadau pellach am be ddylen ni wneud yn y cyfamser yna rhowch nhw yn y sylwadau.

      (Mae slotiau rhydd i ni y rhan fwyaf o foreuau a rhwng 3.30 a 6.00 bob dydd).

    • Carl Morris 12:01 PM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n meddwl roedd Rhos Prys yn trio cysylltu gyda ni neithiwr. Gwnes i golli ei galwad felly mae’n flin gyda fi!

    • Marc Webber 1:03 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Dim angen i wneud sesiwnau ‘cinio a dysgu’ opb dydd. Ond ar diwrnod brysur y ‘steddfod mae’n bwysig i gael rhywfath o sesiwnau ty hwnt i jest siawns i warae efo pethau.

  • Rhodri ap Dyfrig 10:06 AM ar 7 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Eisteddfod,   

    Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012? 

    Dim ond cofnod sydyn sydyn i nodi bod hi’n bur bosibl y bydd na safle penodol gyda Di-Wi, sockets trydan, a gofod trafod / cyflwyno ar gael i bobol sydd isio blogio o’r steddfod, cynnal gweithdau neu sesiynau trafod. Does dim byd wedi ei gadarnhau eto, ond dwi’n gobeithio clywed yn fuan am fanylion. O be dwi’n ddeall mae mewn safle gwych ac o bosib un o;’r datblygiadau mwyaf cyffrous o ran rhoi lle teilwng i gyfryngau digidol annibynnol Cymraeg yn yr Eisteddfod.

    Tra’n bod ni’n aros am gadarhnad be am daflu ambell syniad am sut gellid defnyddio’r gofod i’w botensial, a pwhy fyddai a diddordeb ei ddefnyddio.

    Dyma ambell syniad i ddechrau:

    – sesiynau drop-in ar gyfer dysgu am gyhoeddi arlein a defnydd cyfryngau gwe ar gyfer cymdeithasau / Merched y Wawr / papurau bro ayyb (syniad Sioned Mills oedd hwn dwi’n meddwl)
    – sgyrsiau rownd bwrdd amser cinio (nid darlithoedd) nid am ‘beth yw blogio’ ond am agweddau spesiffig iawn o ddylanwad / potensial y rhyngrwyd / technoleg symudol ar ein cymdeithas(au)
    – demos o wefannau
    – bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig

    Be chi’n feddwl?

     
    • Mei 10:36 AM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Mae hyn yn newyddion gwych.

      Does gen i ddim cynlluniau penodol i’r Steddfod y flwyddyn hon, ond mae hyn yn swnio yn rhy dda i fethu. Dwi’n disgwyl ymlaen i glywed rhagor.

    • Llinos 10:49 AM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?

    • Colin Nos 11:02 AM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Byddai hwn yn wych. Dylai Steddfod yr Urdd wneud rhywbeth tebyg.

    • Rhys Wynne 11:06 AM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Cyffrous, a hen bryd! Licio’r syniad Sioned o roi sesiynau – baswn i’n licio meddwl byddai yna alw, yn enwedig gan bydd lot o aelodau Mercher y Wawr, er enghraifft, ar y Maes, a lot o aelodau mudiadau a chymdeithasau eraill hefyd.

      Syniadau am sesiynau sgwrsio:
      Tips i ddefnyddio web2.0 i’r wasg Gymraeg (e.e Potensial Storify, sesiwn arbennig i Golwg360 ar osod dolennni o fewn erthyglau – Miaw!, darganfod leads o ddefnyddio gwefannau fel WhatDoTheyKnow, chwiliadau ar GoogleBlogSearch a Twitter/Umap)

      Dysgwrdd ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion

      Barcamp i ddysgwyr (syniad Leia)

      bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig

      Licio fe!

      Gol: (wedi trwsio dolen at drydariad Leia)

      Llinos: Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?

      Gwell fyth. Mae’r Eisteddfod ei hun fel sefydliad fel petai’n gorfodi rhyw media blackout ar ei hun ynystod yr Wyl, ac er bod y BBC yn gwneud job dda gyda ei ddarpariaeth ar lein, byddai cystadleuaeth annibynol yn iach, ac yngyfle i bobl blogio neu vlogio am y tro cyntaf a gweld pa mor hawdd ydy o.

      Syniadau bril hyd yma.

    • Leia 12:57 PM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n edrych ymlaen yn barod! Hoffwn wneud rhywbeth gyda’r ddysgwyr a Web 2.0 (Twitter a Soundcloud falle) a sut i defnyddio’r we i adeiladu cysylltiadau gyda’r ‘ byd Cymraeg’… Mae llawer o ddysgwyr yn mynd i’r ‘steddfod heb gwybod ble i ddechrau a mae’n bwysig bwysig iawn i ddod o hyd cyfle i ddefnyddio’r Cymraeg i wneud pethau diddorol… a technoleg yw ‘ffordd mewn’ da.

      Sa i’n siwr eto beth sy’n digwydd ym Maes D, ond bydd SaySomethinInWelsh yna gyda syniadau, falle basai cyfle i gydweithio ‘na.

    • Maldwyn Pate 8:30 PM ar 7 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Mae hyn yn newyddion ardderchog. Gwna i annog fy nghyfeillion I feddwl am syniadau. Cyfle rhy dda i’w wastraffu.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:14 AM ar 8 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Diolch am yr holl syniadau ac ymateb. Na’i holi i weld lle ma hwn yn sefyll bellach.

    • Phil Stead 3:53 PM ar 10 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Bendegedig.

  • Rhodri ap Dyfrig 5:05 PM ar 11 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , cystadleuaeth, Eisteddfod,   

    Eisteddfod 2011: Y Gystadleuaeth Blogio 

    Llongyfarchiadau i Carwyn Tywyn am ennill cystadleuaeth blogio’r Eisteddfod. Dwi’n siwr bod ei waith yn deilwng a hoffwn i ei ddarllen.
    Dwi’n falch bod yr Eisteddfod yn ceisio gwneud lle i ddulliau gwahanol o sgwennu, ond dwi’n meddwl bod yn rhaid codi cwestiynau eithaf sylfaenol am y gystadleuaeth hon.

    Dyma oedd yn y rhestr testunau am 2011:

    166. Blog dros gyfnod o fis hyd at 3,000 o eiriau. Dylid cyflwyno’r gwaith ar ddisg yn unig.
    Ystyrir cyhoeddi’r buddugol ar safle we’r Eisteddfod
    Gwobr:
    £200
    Beirniad: Lyn Lewis Dafis

    Mae na sawl peth yma sydd yn peri dryswch ac yn fy marn i yn atal y gystadleuaeth rhag cyrraedd ei photensial.

    Pam bod angen cyflwyno ar ddisg yn unig? Os taw pryder am olygu testun y blog yn ystod neu ar ôl beirniadu sydd wrth wraidd hyn yna gofynnwch am sgrinlun, argraffu’r dudalen neu gopi Word o’r blog fel copi wrth-gefn, ond yr URL ddylai fod y flaenoriaeth (dyna sy’n digwydd gyda’r asesiadau blogio ym Mhrifysgol Aberystwyth). Os nad oes angen creu blog, neu fod â blog eisoes wedi ei greu i gystadlu, yna mae’n annodd gen i weld sut gellir ei alw’n flog.

    Drwy gynnal cystadleuaeth blogio dylai’r Eisteddfod weld bod y cyfrwng, a’r hyn a ysgrifennir ar y cyfrwng, yn annatod ac taw annog defnydd priodol o’r cyfrwng sydd eisiau. Mae cyfrwng canu yn cael llwyfan priodol, mae cyfrwng barddoniaeth yn cael cyhoeddiad priodol, mae cyfrwng dawns yn cael trac sain bridol – dylai’r Eisteddfod dderbyn llwyfan priodol blog.

    Mae’r Eisteddfod hefyd yn dweud y basen nhw’n ‘ystyried cyhoeddi’r buddugol ar eu gwefan’, ond dylai’r ennillydd (os nad pob cystadleuydd) gael dolen o wefan yr Eisteddfod. Mae dolen yn werth llawer mwy na chopio testun ar wefan yr Eisteddfod, achos mae’r ddolen honno’n debygol o gael ei dychwelyd gan y blog. Does dim cost i ddolen, nid oes prinder lle ar y we, ac mae’n hybu defnydd o flogiau lle maen nhw’n fod i fodoli: ar y we ac nid ar bapur. Ni ddylid cyhoeddi cofnod blog yn y cyfansoddiadau am y rheswm hwnnw chwaith (os yw hynny’n fwriad hynny yw). Os taw eisiau cael cynnwys wedi ei gynhyrchu yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth mae’r Eisteddfod ei eisiau, mae hynny hefyd yn mynd yn groes i natur agored a chymdeithasol blogiau hefyd.

    Dylai unrhyw flog fod ar y we: dyna natur blog. Er bod dadlau am beth sy’n diffinio blog ar wahan i gyhoeddi ar ffurfiau eraill electronig, mae dolenni (mewnol ac allanol), RSS, sylwadau, a’i fod arlein yn rhai o’r elfennau craidd.

    Rydw i’n gweld (diolch @cetyn!) bod y gystadleuaeth yn rhedeg eto ar gyfer 2012, a chan nad oes unrhyw fanylion am ddull cyflwyno y tro hwn, bydda i’n annog pawb sydd wedi blogio o gwbl ym mis Mawrth 2012 i URLs eu cofnodion gorau at yr Eisteddfod a gweld beth ddaw. Ond er eglurder i bawb ac er mwyn hybu’r cyfrwng orau posib byddwn yn annog y Steddfod i roi rhai canllawiau pellach a sicrhau bod blog yn cael ei drin fel blog. Pwy a ŵyr efallai bydd mwy yn cystadlu: wedi’r cyfan mae 56 blog newydd yn 2011 yn barod, oni ddylen nhw i gyd fod yn cystadlu a chael link, ac yn eu tro yn dolennu nôl at yr Eisteddfod gan greu loop sydd yn fanteisiol i bawb?

    Diweddariad 23.9.11 (gan Rhys Wynne)

    Tydy’r cofnod blog  buddugol ddim wedi ei gyhoeddi yng Nghfansoddiadau 2011 a toes dim golwg o ddolen at er eu gwefan. Yn ogystal a’r gystagleuaeth mae @cetyn wedi tynnu llun ohono, mae dwy gystadleuaetharall sy’n cynnwys y gair ‘blog’ yn 2012 hefyd:

    121. Blog neu ddyddiadur [ar gyfer dysgwyr]

    Tua 150 o eiriau

    Lefel Sylfaen

    Gwobr £50

    a

    170. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes

    ‘Achlysur i’w gofio’ (heb fod yn llai na 1,500 o eiriau) ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog

    Gwobr £200

    Diweddariad 30.9.11

    Yn yn ôl cyfrif Twitter yr Eisteddfod:

    Byddwn yn cyhoeddi dolen i’r blog a mwy o wybodaeth o’r Cyfansoddiadau ar ein gwefan yn fuan iawn.

     
    • Carl Morris 7:53 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Cytuno yn llwyr.

      Does dim sôn am amlgyfrwng chwaith, un o fanteision pwysicaf y we. Efallai dylai llun neu fideo cyfrif fel 1000 gair! Neu dylen nhw feddwl am lansio cystadleuaeth ar wahân, i fideo ar-lein.

      Hefyd nid blog ond cofnod blog yw’r her yma. Mae’r gwahaniaeth yn bwysig. Yn sicr mae lle am gystadleuaeth cofnod blog, sef cyfansoddi un eitem dda. Ond mae’n anodd creu cystadleuaeth i wobrwyo blogiau llwyddiannus: cymuned dda, sgyrsiau da (weithiau trwy’r sylwadau, weithiau ar y blogosffêr), perthnasedd y cynnwys ac yn cael eu cynnal am dymor hir.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:35 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Ie, o’n i’n meddwl sut fase nhw’n ymateb i Myndiawlmundial neu S4Cnewydd? A fyddai blog tumblr gyda dyfyniadau, lluniau a chlipiau fideo’n dderbyniol, neu ai llenyddiaeth destunnol ar ffurf electronig maen nhw eisiau?

      Dwi’n credu eu bod yn gofyn am gyfres o gofnodion blog (er taw ‘blogiau’ yw’r term yn y gystadleuaeth am 2012, sydd braidd yn ddryslyd efallai) yn hytrach nac un cofnod.

      Un ffordd sydd i ffeindio allan mae’n debyg: anfon URLs a gweld be ddaw…

    • Rhys Wynne 8:42 AM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae’n costio £5 am pob ymgais cofiwch (er, mae’n werth o, os yw’r wobr yn £200)

    • Rhys Wynne 11:30 AM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Un broblem ymarferol gyda jyst danfon URL’s mewn yw bod nifer o flogwyr yn blogio o dan eu henwau iawn, tra mae eisiau i gystadleuwyr cysatdlaethau’r Eisteddfod wneud hynny o dan enw ffug.

      Ond dyma’r math o bynciau y dylid eu hystyried au trafod yn fan hyn, a diolch am godi’r pwnc, Rhodri.

      Roedd cystadleuaeth fel yn yn 2009 os d wi’n cofio’n iawn, ac os edrychwch ar gyfansoddiadau’r flwyddyn honno, dw i ddim yn meddwl i neb gystadlu. Pan ofynwyd i mi feirniadu cystadleuaeth tebyg, ond ar gyfer dysgwyr yn 2010, holais os oedd unrhyw ganllawiau arbennig, oherwydd tybiais byddai diffyg manylion a dealltwriaeth am beth yn union yw blog yn golygu mai prin fyddai’r rhai a fyddai’n cystadlu (roeddwn yn iawn, mond dau wnaeth drio, ac ar bapur!). Dyma oedd ymated yr Eisteddfod:

      Mae’r math yma o gystadleuaeth yn un newydd gan fod blogs yn rywbeth diweddar. Nid ydym yn paratoi canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth hon- prin iawn yw’r achosion y byddem yn paratoi unrhyw fath o ganllawiau.

      …….

      Mae cystadlaethau fel hon ac eraill yn y maes technoleg newydd yn mynd i gymryd tipyn o amser i ddenu pobl i gystadlu mae gen i ofn-roedd un debyg i fewn yn yr adran llên ond gwan yw’r ymateb o gymharu a chystadleuaeth fel englyn dywederond efallai mai dyfal donc sydd raid.

      Mae eisiau canmol yr Eisteddfod am geisio cyflwyno mathau newydd o gystadlaethau, ac hefyd am ddyfalbarhau gyda nhw hyd yn oed os nad oes llawer o ymateb ar y dechrau, ond mae’n biti nad ydyn nhw hefyd yn fodlon bod yn fwy hyblyg a gweld yr angen i roi bach o gyfarwyddiadau pellach, yn arbennig gan eu bod yn cydnabod ei fod yn gystadleuaeth gwahanol iawn i’r rhai traddodiadol.

      Plis pobl yr Eisteddfod, byddwch yn barod i addasu pethau, ac hefyd peidiwch a bod ofn dod i ofyn yma am unrhyw awgrymiadau/cyngor.

    • Rhys 5:04 PM ar 15 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Peidiwch gofyn pam, ond dw i wedi blogio am bobl yn blogio am yr Eisteddfod.

    • Rhys Wynne 8:28 PM ar 23 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Mae dwy gystadleuaeth arall gyda’r gair ‘blog’ yn y manylio. Gweler y diweddaraid i’r cofnod blog.

  • Carl Morris 6:11 PM ar 9 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , digidol, Eisteddfod, Euryn Ogwen Williams, , , ,   

    Euryn Ogwen Williams ‘Y Newid Mawr’ (testun llawn o ddarlith Eisteddfod 2011 am gyfryngau a darlledu) 

    Euryn Ogwen Williams yn ei Darlith Goffa Owen Edwards wythnos diwethaf:

    .
    .
    Dyma’r trydydd tro i mi gael yr anrhydedd o draddodi darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y byd digidol. Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”. Bryd hynny, rhywbeth i’r geeks oedd y byd digidol ac roedd nifer sylweddol yn y gynulleidfa yn credu mod i wedi “colli fy marblis”, a doedden nhw ddim yn swil o ddweud hynny! Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ffordd o feddwl oedd digidol – wedi ei gyfyngu i bobl ifanc a phobl fusnes. “Dim byd i’w wneud gyda ni”, oedd agwedd y sefydliad Cymreig bryd hynny. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mi gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn Eisteddfod Caerdydd a’r testun oedd “Beth wnest ti yn y Chwyldro” Erbyn hynny roedd digidol wedi dod yn ffordd o fyw a’r byd yn newid wrth i’r mwyafrif fabwysiadu’r dechnoleg. Roedd y chwyldro bellach yn nwylo’r bobl. Yn y tair blynedd ers hynny, mae’r chwyldro wedi cyflymu ac mae’r defnydd o’r dechnoleg wedi ymdreiddio i bobman a dechrau creu ei chwyldro ei hun…

    Y Newid Mawr gan Euryn Ogwen Williams, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 (PDF)

    Dw i wedi rhoi’r testun llawn ar y we gyda chaniatâd yr awdur.

    Bydd trafodaeth fanwl o’r ddarlith yma yn ddefnyddiol… Mae sylwadau isod ar agor. Mae’r we ar agor.

     
    • Rhys 3:36 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Gwych! Diolch i ti am roi’r testun ar-lein.

    • Annette Strauch 6:25 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Esboniad (testun) da, Carl. Mae Euryn Ogwen yn edrch ymlaen. ‘Rwy’n hoffi hynny. Mae’r sgwrs hefyd yn ymwneud ag S4C. Nid wyf yn gwybod beth yw’r dyfodol, os nad oes arian. 3D, HD?? – ‘Rwy’n defnyddio S4C/Clic. Dim amser i ysgrifennu mwy. Cwestiwn pwysig: beth fydd y dyfodol yn rhoi â’r Rhyngrwyd ac yn ein bywyd cymdeithasol ni nesa’. Credaf fod Cymru’n gwneud yn dda. Dim ond biti bod yna dim digon o fideos da gan S4C ar YouTube neu unrhyw ffilmiau Cymraeg allan o Gymru. Mae’r cyfryngau newydd yn rhoi mwy o help i’r iaith er enghraifft. Roedd cael sianel deledu S4C yn dda bryd hynny, erbyn hyn mae cyfryngau newydd yn bwysicach.

    • Carl Morris 3:05 PM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”…

      Gyda llaw dyma’r testun i’r darlith hon yn Comic Sans http://web.archive.org/web/20070707055608/http://www.ogwen.com/index2.html

      Diolch i @dafyddt am y dolen ac i archive.org am gadw’r tudalen.

  • Carl Morris 11:18 PM ar 2 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Eisteddfod, ,   

    Hacio’r Iaith Bach yn y pyb, Wrecsam (nos Wener!) 

    Dere draw i Hacio’r Iaith Bach yn y pub:

    The Horse and Jockey, Stryt yr Hob, Wrecsam

    Nos Wener 5ed mis Awst 2011
    5:30PM – 8:30PM (neu hwyrach os ti eisiau)

    Croeso i bawb, eisteddfotwyr a phobol o Wrecsam a’r cylch, unrhyw un!

    Mwy o fanylion yma:

    http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_yn_Eisteddfod_Genedlaethol_2011#Hacio.27r_Iath_Bach_mewn_tafarn

     
    • Maldwyn Pate 11:46 PM ar 2 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Bydda i yno. Edrych ymlaen.

    • Heledd 12:10 AM ar 3 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Isho dod i hwn!

    • Carl Morris 7:20 PM ar 7 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Cawson ni sgwrs da!

      Mal, edrych ymlaen i gofnod blog am dy adnoddau addysgu Cymraeg! :-)

  • Rhys Wynne 1:35 PM ar 27 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Eisteddfod, gweithdai, ,   

    Hacio’r Iaith Eisteddfod Genedlaethol 2001, Augmented Reality a Thrydargwrdd 

    Gall dim un digwyddiad Cymraeg o bwys gymryd lle bellach heb ddigwyddiad Hacio’r Iaith (mawr neu FACH)  atodol.

    Diolch i @nwdls, bydd un ar y Maes eleni ar y dydd Llun, ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

    Dyma’r manylion ar wiki Hedyn:

    Hacio Iaith ar y maes

    Noddwyr: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad Mercator ar gyfer Ieithoedd, Cyfryngau a Diwylliant

    Pryd

    Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011

    Amser: 1.30PM – 5PM

    Ble

    Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth, Eisteddfod Genedlaethol 2011, Wrecsam

    Rhaglen ddrafft

    1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati…

    2.00-2.30 Haclediad

    • panel yn trafod [pwnc i'w bennu] a’i recordio fel podlediad arbennig yn y gyfres Haclediad

    2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs – 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: “Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?”

    • Gallwch chi feddwl am gyflwyniad o flaen llaw (os felly cysylltwch â fi @nwdls), neu drin o fel open mic a jest mynd amdani ar y dydd. Y bwriad ydi cael cyfle i sôn am rywbeth sydd wedi eich tanio chid ac sydd raid ei rannu gyda phawb.

    3.30-5.00 Gweithdai

    4 x grwp. Themâu:

    1. Blogio ymarferol;
      1. sut i ddechrau blog? pam dechrau blog? gweithdy blogio i bawb!
    2. Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo;
      1. beth sydd ar y gweill? Sut mae modd gwella pethau?
    3. Ymgyrchu / democratiaeth arlein;
      1. sut allwn ni ddefnyddio’r we a chyfryngau arlein i wella ein ymgyrchoedd a democratiaeth?
    4. cynnwys creadigol arlein
      1. beth yw manteision creu cynnwys arlein? oes digon o gynnwys Cymraeg? sut mae annog mwy? Pa opsiynau ‘torfoli’ sy’n gweithio orau?

    Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?

    Bydd WiFi ar gael i fynychwyr. Ie, sudd intertiwbs ar y maes.

    Caiff y dualen wiki ei diweddaru’n nes i’r amser mae’n siwr. Mae croso i chi olygu’r dudalen ar y wiki, neu gadael sylw o dan y cofnod yma os oes cwestiwn neu syniad gyda chi, neu gwell fyth, nodi eich presenoldeb!

    CasgliadLabs yn dod ag Eisteddfodau’r gorffennol yn fyw gyda augmented reality.

    Hefyd, am bach o hwyl, mae CasgliadLabs yn gofyn i fynychwyr yr Eisteddfod ddanfon llun ohonyn nhw eu hunain gyda un o gymeriadau Eisteddfodau y gorffennol atynt, drwy wyrth augmented reality.

    Dyma enghraifft.(triais fewnosod delwedd Twitpic yma, ond methais)

    Diweddariad: Mae Tom Pert o CasgliadLabs yn esbonio ymhellach yn y sylwadau

    hefyd…

    Trydargwrdd

    Mae @siantir du wedi trydar am y digwyddiad yma:

    @ Nifer o drydaresau'n cwrdd dydd Mawrth 5pm, lle bwyd, Mynedfa 2, am sgwrs. @ @ @ etc. Croeso i ragor
    @siantirdu
    Siân Eleri Roberts
     
    • Tom Pert 1:33 PM ar 29 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Bydd 150fed pen-blwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei ddathlu eleni yn Eisteddfod Wrecsam. Bydd realiti estynedig yn galluogi ymwelwyr â’r maes eleni i gyfarfod cymeriadau o Eisteddfodau’r gorffennol, yn cynnwys rhai o eisteddfodau Wrecsam ym 1977, 1933 a 1912.

      Mae lluniau hanesyddol; nifer ohonynt yn eiconig; wedi’u lleoli o amgylch maes yr Eisteddfod a gellir eu gweld drwy gyfrwng yr ap rhad ac am ddim Realiti Estnedig Layar ar gyfer ffonau poced iPhone, Android, ac Ovi Nokia. Bydd pwyso ar y sgrin yn cysylltu’r defnyddiwr ag adnoddau diddorol Casgliad y Werin Cymru, gwasanaeth dwyieithog ar-lein a ddatblygwyd ar y cyd gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

      Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i anfon lluniau o’u hunain yn cyfarfod y cymeriadau ac yn rhyngweithio â nhw i flog ‘Labordai’ Casgliad y Werin Cymru (www.labs.peoplescollection.co.uk). Bydd y lluniau yma yn cael eu harddangos ar sgrin yn stondin Casgliad y Werin Cymru a bydd gwobr ar gyfer y ddelwedd orau – neu’r llun mwyaf od efallai!

      Ewch i http://www.layar.com/layers/wrecsam1 i lawrlwytho’r app
      Ebostiwch eich lluniau at CasgliadLabs.5778@twitpic.com

      Am ragor o wybodaeth ebostiwch: tom.pert@rcahmw.gov.uk, 07818593114
      Dilynwch ni ar Twitter: @CasgliadLabs

    • Rhys Wynne 9:47 PM ar 7 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Diolch i bawb wnaeth ddod ac yn arbennig am eich amynedd tra roeddwn yn dangos sut i greu erthygl Wicipedia!

      Roedd yn neis cwrdd a pobl newydd (dylen ni fod wedi gosod flip-chart i bawb nodi eu henwau Twitter/URls eu blog).

      Mae Leia wedi crynhoi’r digwyddiad yn wych ar ei blog Unrhyw un arall wedi cael cyfle eto?.

  • Carl Morris 6:39 PM ar 31 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Eisteddfod,   

    Help! Prosiect @heddgwynfor i gasglu digwyddiadau amgen/answyddogol #eisteddfod2011 

    Mae Hedd yn dweud:

    Dwi’n gweithio ar brosiect bach newydd i gasglu gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau amgen/answyddogol sy’n digwydd yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol mewn un man boed yn gigs, cyngherddau, dramau, lansiadau, cyfarfodydd, protestiadau ayb.

    Bydd rhain oll yn cael eu rhestru mewn calendr, ond dwi hefyd am gynnwys cymaint o wybodaeth a phosib ar y wefan am y steddfod, a phethe mae pobl yn trefnu arlein ar gyfer yr wythnos hefyd.

    Os oes gen ti syniadau am bethau i’w cynnwys, rho wybod.

    Hefyd:

    Y prif beth sydd angen arnaf yw rhestr o fudiadau/cyrff/unigolion sy’n trefnu stwff fel arfer yn ystod wythnos y steddfod, fel bod modd i mi gysylltu gyda nhw cgaph i holi am wybodaeth ynglyn a digwyddiadau eleni. Noder dim ond stwff answyddogol bydd yma, ond bydd dolenni amlwg at wefan y Steddfod i gael manylion am yr holl stwff swyddogol – maesB, MaesC, Pafiliwn ayb…

    Gadawa sylwadau isod neu anfon ebost i hedd malwen cymdeithas dot org

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:06 PM ar 23 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Eisteddfod,   

    “Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…” 

    Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho.

    Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd cynulleidfa fel yna. Byddai’n ddiddorol gwybod faint ddefnyddiodd o ar y maes ei hun.

    Sgwn i a fydd yna fersiwn Android y flwyddyn nesa?

    Yn sicr, roedd yn app gwerth yr arian, os am y map yn unig. Roedd rhai elfennau yn ddibynnol ar gyswllt data, oedd yn amharu braidd oherwydd y diffyg oedd yna yng Nglyn Ebwy. Mae’n siwr o fod yn dipyn cryfach yn ardal Wrecsam, os nad cyswllt 3G, fydd yn gwella’r profiad.

    Oes na bethau hoffech chi weld arno?

     
    • Rhys Wynne 2:45 PM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau marchnata’r rhaglen yn well cyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

      “Dw i’n meddwl y bydd yr Eisteddfod yn gwneud mwy fyth o waith marchnata’r flwyddyn nesaf,” meddai cyn dweud eu bod yn cyfarfod gyda threfnwyr yr ŵyl ym mis Medi er mwyn trafod y dyfodol.

      Newyddion da, er beth fyddai’n fuddiol yw petai’r cyfarfod yma’n un agored (ac yn cael ei hysbysebu) gan y gall fod o ddiddordeb i ‘ddarpar-ddarparwyr’ newydd ddod i wybod pa fath o wybodaeth o flae llaw sydd gan yr Eisteddfod a allant ei ddefnyddio, ac i nodi pa wasnaaethau gallant ddarparu.

      Mae ffaith bod 1,000 wedi ei lawrlwytho yn ffigwr reit uchel o’i gymharu a faint sy’n ymweld â’r ‘Steddofd ei hun.

    • hywel 3:21 PM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Llongyfarchiadau iddyn nhw am do figwr fast o lawrlwyddo

  • Carl Morris 2:45 PM ar 24 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , Eisteddfod, , ,   

    Sgwrs am rhywle i drafod newyddion dyddiol – y sylwadau ar goll 

     
  • Rhodri ap Dyfrig 12:31 PM ar 24 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , Eisteddfod, ,   

    Adolygiad byr o’r app iSteddfod tra ar y maes 

     
    • Carl Morris 2:14 PM ar 24 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Angen 3G a di-wifr yn Wrecsam 2011!

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu