Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.
Pynciau wnaethon ni trafod:
- Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
- addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
- syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
- ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
- Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
- Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
- Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
- Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
- Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
- Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
- Gemau / mods
- Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored
Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.
Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)
Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.
Rhodri ap Dyfrig 11:31 AM ar 14 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
#rhanidan ffordd y Wyn!