Tagged: dotcym Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr Bysellfwrdd

  • Carl Morris 7:16 PM on 13 December 2012 Permalink | Ateb
    Tags: dotcym, , , , ,   

    Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet 

    Dw i newydd darllen bod dotCYM yn dod i ben fel menter cymdeithasol:

    [...] “Wedi pedair mlynedd o Blaid Cymru mewn grym yn gwneud dim byd positif i’n helpu, daeth Edwina Hart yn Wenidog”, meddai Maredudd ap Gwyndaf, cyn-gyfarwyddwr dotCYM, “Cafodd Nominet y nód i symud i fewn a doedd dim gobaith gyda ni yn erbyn cwmni mawr o’r fath, oedd yn cael cymorth gymaint o Gymry i gymryd adnodd mor bwysig oddi wrth y wlad. Does dim ots punai Llafur neu Plaid Cymru sydd a’r grym, does dim diddordeb mewn mentrau cymdeithasol, yn enwedig os oes sôn am gefnogi iaith neu ddiwylliant fel rhan o’r fenter”.

    Gyda dim ond dau wirfoddolwr yn gweithio yn eu hamser rhydd gyda dotCYM, roedd yn bosib i redeg y fenter ond yn amhosib ymladd yn erbyn Nominet, y gweison sifil yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Darran Hill a’i gwmni PR, a Ieuan Evans ac aelodau eraill Grŵp Yngynghorol Nominet Cymru. [...]

    Ŵff.

    Mae’r datganiad llawn yn cynnwys rhagor o sylwadau.

    Mae cyfieithiad Saesneg hefyd.

     
    • Dawn Knight 2:13 PM on 22 Rhagfyr 2012 Permalink

      Rwy’n aelod o dîm sy’n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel ‘mod i’n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
      Cofion,
      Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
      CorpwsCymraeg@gmail.com

    • Carl Morris 7:53 PM on 27 Rhagfyr 2012 Permalink

      Diolch, wedi ebostio.

  • Carl Morris 9:10 PM on 27 September 2012 Permalink | Ateb
    Tags: dotcym, , , gTLD,   

    Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales 

    baner Nominet

    baner Nominet

    Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.

    Roedd y baneri a’r taflenni yn cyfeirio at wefan: http://domainforwales.org.uk/cy

    Heno ymwelais i a darllenais i’r testun isod yn yr adran Cofrestru parth:

    Nid yw eto’n bosibl i gofrestru. Cymru neu. Enw parth cymru gan fod y ceisiadau yn cael eu hystyried gan ICANN.

    Iawn hyd yn hyn, heblaw y ffaith dyw’r testun ddim yn wneud synnwyr.

    Beth oedd ffynhonnell y testun yma? Dw i bron yn sicr daeth y ‘cyfieithiad’ o Google Translate. Dw i’n derbyn yn union yr un canlyniad pan dw i’n bwydo’r system gyda’r Saesneg.

    It is not yet possible to register a .cymru or .wales domain name as the applications are under consideration by ICANN.

    Dw i newydd tynnu sgrinlun o’r adran heno:
    sgrinlun domainforwales.org.uk

    Mae’r adran Astudiaeth Economaidd yn edrych yn amheus hefyd. Dyma sgrinlun o’r adran heno:

    Fel mae’n digwydd, yn ystod fy sesiwn yn y gynhadledd gwnes i rybuddio pobl am Google Translate a chyfieithu peirianyddol yn gyffredinol – sydd yn ddefnyddiol os wyt ti eisiau awgrym o ystyr pan wyt ti’n darllen ond gwael iawn ar gyfer gwaith cyfieithu proffesiynol (tasai’r cynrychiolydd wedi dod i’r sesiwn…).

    Ces i’r argraff bod y cwmni o Rydychen yn cymryd cyfrifoldeb dros y ceisiadau .cymru a .wales ar ran Cymru oherwydd bod ganddyn nhw ddwylo saff. Ond efallai bydd cwestiynau yn codi mewn meddyliau pobl sydd o blaid .cymru a .wales.

     
    • Dafydd Tomos 9:58 PM on 27 Medi 2012 Permalink

      Gwael iawn. Mae rhai eitem newyddion wedi eu sgyfieithu hefyd “Croeswch gefnogaeth ar gyfer parti .cymru & .wales (Cross party support for .cymru & .wales)

      Pan wnes i drafod gyda Nominet am .cymru ym mis Mai, doedd dim sôn am y wefan yma!

    • Leia 4:54 PM on 28 Medi 2012 Permalink

      Warthus! Sut mae’n posib i enill bid heb un siadawyr Cymraeg yn eu plith? Ofnadwy.

    • Carl Morris 5:40 PM on 28 Medi 2012 Permalink

      Hefyd mae’n amlwg dydyn nhw ddim yn darllen Hacio’r Iaith chwaith. :-)

    • Rhodri ap Dyfrig 10:10 PM on 28 Medi 2012 Permalink

      Sgwn i be mae Ieuan Evans, Aled Eurig, Lisa Francis – sef siaradwyr Cymraeg Grŵp Ymgynghorol Cymru Nominet yn feddwl o hyn? http://www.nominet.org.uk/news/releases/2012/?contentId=9075

      Angen chydig mwy o ymgynghori efo’r grŵp!

    • Aled 8:41 AM on 29 Medi 2012 Permalink

      Mae cwestiynau eisoes wedi codi ac yn parhau mewn myddyliau rhai pobl. Cymysg yw fy nheimladau wrth ddarllen cyfathrebaeth rhwng Nominet a Llywodraeth Cymru (1) ac mae’r ffaith bod peth cyfathrebaeth yn cadw yn gyfrinachol yn arwyddocaol yn ei hun: “it was identified that release of [emails between a named Welsh Government official and Nominet] was likely to give rise to negative publicity.” (2)

      Beth bynnag, rydym yn y sefyllfa yma rwan, felly rhaid edrych ymlaen. Mae hyn, o leiaf, yn addawol: “Mae Nominet hefyd yn bwriadu sefydlu presenoldeb barhaol yng Nghymru i ddarparu cefnogaeth ddwyieithog ar gyfer y gofresrfa .cymru a .wales.” (3) Wrth ddweud ‘cefnogaeth’, tybed a ydyn nhw’n gaddo gwasanaeth, h.y. gwefan a phopeth, yn y Gymraeg?

      Faint o bryder sydd y bydd ICANN dim ond yn caniatau un o’r ddau parth ac efallai yn penderfynu ei hunain pa un?

      1. http://wales.gov.uk/docs//decisions/2011/Business/111221dlbus190doc1.pdf
      2. http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclogs/dr2012/janmar/business/5871952/?lang=cy
      3. http://domainforwales.org.uk/cy/content/pwy-yw-nominet

  • Carl Morris 12:41 PM on 21 December 2011 Permalink | Ateb
    Tags: dotcym, , , , ,   

    Dim cais .cymru o Gymru. Be ddigwyddodd? 

    Cefndir

    Ar y 12fed o fis Ionawr 2012 bydd ICANN (sef, y cwmni nid-ar-elw sy’n cyfrifol am enwau parth ar y rhwngrwyd) yn dechrau’r broses o dderbyn ceisiadau o gwmpas y byd am barthau lefel-uchaf newydd sbon.

    Er enghraifft mae’n debyg bydd cwmni Canon yn ceisio am .canon ac ati. Ac bydd dinas Berlin yn ceisio am .berlin
    Wedyn, os fydd Berlin yn llwyddiannus bydd cofrestru museum.berlin, tresor.berlin neu marlenedietrich.berlin fel enwau parth yn bosib. Bydd cwmni yn Berlin (mwy na thebyg cwmni nid-ar-elw) sy’n gallu rheoli pa gwmnïau sy’n cynnig enwau parth i bobol.

    Er bod lot o bobol yn defnyddio Facebook ac ati fel presenoldeb ar y we, enw parth ydy’r unig gyfeiriad sydd ddim yn dibynnu ar dynged cwmni preifat. Fel gwlad mae’r PLU (parth lefel-uchaf) yn elfen bwysig iawn o ‘frand’, hunaniaeth a diwylliant y wlad/perchenog. (Mae rhaid cyfaddef bod fy agwedd personol tuag at PLU i Gymru wedi newid – mae arwyddion a symbolau yn bwysig i Gymry.)

    Fel rhan o unrhyw cais sy’n cysylltiedig â thiriogaeth mae ICANN eisiau gweld datganiad gan Llywodraeth y tiriogaeth. Mae Llywodraeth Cymru newydd dweud (mis yma) bod nhw yn fodlon cefnogi un cais yn unig am enw(au) parth i Gymru. Mae’r cyfle i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar y 6ed o fis Ionawr 2012. Does na ddim sôn am ffafrio geisiadau brodorol yn y hysbysiad GwerthiwchiGymru - mewn theori roedd y cyfle yn agored i unrhyw cwmni yn y byd (problem rhif 1?).

    Mae’r gwendid yn y hysbysiad yn codi cwestiynau difrifol am fodlonrwydd y Llywodraeth i helpu cais brodorol ac i:

    Grwp dotCYM oedd yr unig ymdrech brodorol i ymchwilio’r cyfle, datblygu cynllun, hyrwyddo’r syniad o .cymru. (Gyda llaw mae’r enw dotCYM yn dod o’r dyddiau pan roedden nhw eisiau sicrhau .cym i Gymru. Ond aeth y parth lefel-uchaf .cym i’r Cayman Islands.) Roedd y Llywodraeth clymblaid yn fodlon cefnogi ac ariannu dotCYM: mae’r cytundeb Cymru’n Un yn sôn am yr ymgyrch.

    Yr wythnos hon

    Ond mae’r agwedd y Llywodraeth wedi newid ers hynny. Aeth dotCYM i gynllun B trwy ofyn cwmnïau, sefydliadau, prifysgolion ac unigolion yng Nghymru i ariannu a chefnogi’r cais (gwnes i helpu gyda chynllun B). Gwnaethon nhw ddim llwyddo ac mae’r prosiect ar ben.

    Nawr rydyn ni yn y sefyllfa lle mae’r cyfle i redeg .cymru a/neu .wales yng Nghymru bron wedi gorffen. Mae’n debyg bydd Nominet, cwmni yn Rhyduchen sy’n rhedeg .uk, yn anfon eu cais i’r Llywodraeth cyn y 6ed (gyda help Aled Eirug ac eraill) ac yn ennill y datganiad. Cofia bydd un datganiad o gefnogaeth yn unig.

    Cwestiynau

    Mae’r mater yn codi cwestiynau i fi:

    Dyfodol .cymru

    Efallai rydyn ni wedi colli cyfle i redeg ein enwau parth. Ond nawr mae angen ymgyrchu i fynnu bod ni eisiau cais .cymru (yn hytrach na, neu yn ogystal â .wales) os wyt ti’n meddwl bod .cymru yn bwysig.

    Neu… os oes gyda ti £300,000 sbar i’w fuddsoddi cais i ICANN rwyt ti’n gallu helpu. Os mae’r cais yn llwyddiannus rwyt ti’n gallu cael dy arian yn ôl mewn blwyddyn neu dau. Plîs gadewch sylw ar unwaith neu ebostia maredudd@dotcym.org.

     
  • Sioned Mills 3:06 PM on 8 November 2010 Permalink | Ateb
    Tags: dotcym, , , ,   

    Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad 

    Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?!

    Wele Haclediad #2.

    Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig.

    Buom ni’n trafod:

    • 2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru?
    • Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad?
    • Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn?
    • Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr?
    • Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn?
    • Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com.

    Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com, neu drwy drydar.

    Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi!

    Criw’r Haclediad

     
    • Carl Morris 5:48 PM on 8 Tachwedd 2010 Permalink

      Gyda llaw, pam ebost? Dylen ni annog adborth cyhoeddus – os bosib wrth gwrs!

      Fy adborth yw: da iawn, gwych!

    • Rhodri ap Dyfrig 9:09 PM on 21 Tachwedd 2010 Permalink

      Blydi briliant o bodlediad. Y darn am fandllydan a ffonau Windows yn arbennig o dda. Dwi di dysgu lot am fibre optics!

    • Huw 12:33 AM on 22 Tachwedd 2010 Permalink

      “Dark fibre” ma nhw’n galw rhoi gwifrau ffibr opteg trwy systemau carthffosiaeth. Cychwynodd gyda Dŵr Cymru yn rhedeg gwifrau ffibr opteg i siediau yng nghanol caeau ar gyfer ei system monitro a negesu. Yr oedd y mwyafrif o’r ffibrau ma’n gwneud dim ac yn rhedeg trwy’r systemau carthffosiaeth.

      Cychwynodd y cwmni H2O Networks gwneud hyn o Lanelwy. Yn biti mae bellach wedi ei brynu gan gwmni Grŵp i3. http://www.h2o-networks.com/

  • Rhodri ap Dyfrig 8:15 AM on 27 August 2010 Permalink | Ateb
    Tags: dotcym,   

    Amser Dot Cym wedi dod? 

    http://www.clickonwales.org/2010/08/time-may-yet-cym-for-wales-on-the-net/

     
    • Dafydd Tomos 4:37 PM on 27 Awst 2010 Permalink

      Mae nhw’n dweud hyn bob blwyddyn ers 1998. Yn y cyfamser, mae’r we Gymraeg yn datblygu heb gymorth tri llythyren bach dibwys.

    • Carl Morris 1:55 PM on 1 Medi 2010 Permalink

      Dyw’r enwau .cym eu hun ddim yn gyffrous o gwbl. Dw i ddim yn edrych ymlaen at ail-prynu fy enwau parth.

      Paid aros am .cym os oes gyda ti syniad arlein.

      Mae bron pob enw .com i gael beth bynnag! Er enghraifft mae Rhys Wynne newydd wedi gosod WordPress ar http://gwenu.com

      Ond… mae’r canlyniadau potensial yn gyffrous – efallai. Mae buddugoliaethau symbolaidd yn bwysig yng Nghymru. Paid â diystyru (yng ngwlad gyda wal graffiti yn fel cofadail cenedlaethol).

    • Dafydd Tomos 3:03 PM on 10 Tachwedd 2010 Permalink

      Mae .cym wedi marw oherwydd fod neb wedi llwyddo argyhoeddi ICANN i newid ei polisi (sef cadw yn ôl pob cyfuniad 3-llythyren sydd yn ymddangos yn ISO-3166-1). Mae’n anffodus iawn fod ISO wedi rhoi cod ‘CYM’ i ‘wlad’ (neu ynysoedd y Cayman) tra fod CYM hefyd yn god ISO ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ond dwi ddim yn synnu achos nid yw pwyllgor ISO Prydain (drwy gorff y BSI) wedi gwthio meddylfryd Prydeinig bob amser yn eu trafodaethau am safoni rhyngwladol.

      Mae llawer o gam-ddealltwriaeth wedi bod yn y wasg am y datblygiad yma, sydd nawr wedi cyrraedd ffynhonnell ‘dibynnadwy’ (haha) Wikipedia. Dyma fy rant arno.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel