i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?
Mae gŵyl i-docs ar fin dechrau ym Mryste. Yno byddan nhw’n trafod y diweddaraf yn y byd ffilmiau dogfen rhyngweithiol.
Dwi’n ffeindio’r maes yma’n gyffrous iawn ar hyn o bryd, er bod na elfennau ohono sydd yn gwneud i fi deimlo ei fod yn ddefnydd ryngweithio am y rhesymau anghywir, a bod yna fformiwla o ryngweithio am ffeindio’i ffordd mewn cyn bo hir gyda dyfodiad platfformau WISIWYG ar gyfer creu i-docs. Ydi hyn ddim byd ond atgyfodiad dulliau CD-ROM ar gyfer y we? Neu ydan ni’n gweld ffyrdd newydd o gyflwyno, personoli a bod yn rhan o ffilmiau dogfen?
Ydi’r termau newydd fel ‘i-docs’ jest yn ffordd o ffeindio niche newydd (ac arian newydd?), pan efallai nad oes dim byd newydd go iawn ond ffyrdd ychydig yn wahanol o gyflwyno stori?
Be chi’n feddwl? Sgwn i pryd welwn ni yr i-doc cynta Cymraeg neu Gymreig?

Mae hyn yn edrych fel be oedd VRML yn gyflawni yn y 90au. Y mwya mae pethau yn newid, y mwya mae nhw’n aros yr un fath.