Tagged: digwyddiadau Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr Bysellfwrdd

  • Carl Morris 12:16 PM on 19 January 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiadau   

    Hacio’r Iaith 2013 – amserlen 

    amserlen-haciaith2013

     
  • Carl Morris 12:01 AM on 18 January 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiadau, hacathon   

    Hacio’r Iaith 2013 – beth sy’n digwydd? (Diweddariad byw) 

    Newyddion diweddaraf: 8am dydd Sadwrn

    Cyngor gyrru gwefan traffig Cymru http://t.co/xDkpiPl2 byddwn yn trio cynnal sesiynau arlein felly peidiwch teimlo bod rhaid dod #haciaith
    @Nwdls
    Rhodri ap Dyfrig
    Mae @ yn dweud ei bod yn "beryglus o rhewllyd" felly bobol #haciaith plis cymrwch ofal. http://t.co/4pG5yblX
    @Nwdls
    Rhodri ap Dyfrig

    Byddwn ni dal yn mynd yn ein blaenau heddiw ond mae na dipyn o rew felly peidiwch teimlo bod rhaid dod. Well bod chi’n cadw’n saff.

    Newyddion diweddaraf: 12pm dydd Gwener

    Ar ôl trafod fan hyn ac edrych ar y tywydd a’r traffig, y cyngor i bawb sydd wedi cofrestru ydi i beidio teithio i Aberystwyth heddiw. Mae’r ffyrdd yn glir yn y rhan fwyaf o lefydd ond yr A470 yn y de, ond dydi Hacio’r Iaith ddim yn cyfri fel taith angenrheidiol!

    Mi fyddwn fodd bynnag, yn parhau gyda Hacio’r Iaith yfory yn y Llyfrgell Gen ond ar raddfa chydig llai, gan bod sawl un wedi canslo eisoes. Mae nifer wedi gwneud y daith yma’n barod a sawl un o ardal Aberystwyth sydd am ddod felly bydd yna ddigon i wneud diwrnod difyr.

    Mae eraill wedi dweud eu bod am aros i weld sut mae’r tywydd ar y ffyrdd yn y bore cyn gwneud penderfyniad sydd yn swnio’n gyngor call i ni. Y peth olaf ydyn ni eisiau ydi bod pobol yn cymryd taith beryglus. Byddwn yn trydar ac yn blogio’r cyngor teithio diweddaraf yn y bore, ac os ydych chi yn dod bore fory, peidiwch poeni os ydach chi’n cyraedd hwyrach na’r amser cychwyn.

    Os nad ydych yn gallu dod, gadwch i ni wybod, a pheidiwch poeni achos dwi’n siwr wnawn ni ffeindio ffyrdd technolegol i gynnwys a chreu sesiynau arlein lle gall pawb barhau i gyfrannu.

    I ni sydd yma, mi fydd lot o frechdanau i fyta, felly byddwn ni’n storio braster ar gyfer para trwy’r oerfel ma!

    Hwyl am y tro

    Rhodri, Carl a chriw Hacio’r Iaith

    • * * * * * * * * * * *

    Helo bobl

    Er gwybodaeth, mae Hacio’r Iaith dal ymlaen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn.

    Mae ambell i berson wedi gofyn am y tywydd, felly dyma pam rydyn ni’n postio.

    Os ydych chi wedi cofrestru, gadwch wybod os ydych chi ddim am ddod am unrhyw reswm.

    (Gyda llaw mae’r digwyddiad Hacathon dal yn mynd ymlaen yn Aberystwyth dydd Gwener hefyd.)

    Byddwn yn diweddaru’r cofnod blog hwn os oes unrhyw newid i drefniadau Hacathon neu Hacio’r Iaith.

    Cyngor pwysig: plîs gyrrwch yn ofalus.

    x

     
    • Sioned Mills 8:26 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Hia hacwyr – bydd teulu Mills methu dod fyny oherwydd @minillef, methu meddwl am fynd yn sownd efo babi! Byddai modd setio fyny Google hangout enfawr tybed? Methu coelio byddwn ni’n colli allan, Mr @Bryns yn yr un sefyllfa yn anffodus. Diolch eto am yr holl waith trefnu

      @llef

    • Aelwyn 9:07 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Hi Carl a pawb arall,

      Dwi’m yn gweld ni gallu dod yn anffodus, oherwydd y tywydd, ond sicr o ddilyn pethau drwy’r sianelau arferol yn ystod y dydd.

      hwyl

      Aelwyn

    • Gethin While 9:15 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Yn aros i wedl beth sy’n digwydd gyda’r eira – os ddoddiff hi heno byddai yno fory. Os mae’n parhau i gwympo’n drwm acyn thewi dwi’n amau byddai’n gallu cyrraedd mewn pryd/o gwbl o Gaerdydd. Byddai arlein adre beth bynnag – gwhile@gmail.com

    • Delyth Prys 9:20 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Helo,
      Newydd orfod canslo’r bws mini oedd i fod i ddod a ni lawr i Hacio’r Iaith fory oherwydd yr eira :( . Fodd bynnag, os bydd y tywydd yn caniatau yn y bore, bydd llond car ohonom ni yn dal i ddod – 4 neu 5 yn lle’r 8 oeddem ni’n gobeithio amdano. Flwyddyn nesa, allwn ni gael Hacio’r Iaith yn Hawaii yn lle Aber plis :) .

    • Rhodri ap Dyfrig 10:25 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Diolch bawb am y negeseuon. Mae’r tywydd yn argymell i bobol beidio teithio heddiw os nad yw’n angenrheidiol, felly peidiwch gwneud os ydach chi’n poeni. Dilynwch gyngor y bobol proffesiynol a chadwch lygad ar be ma’r tywydd yn ei ddweud. Dydi hacio’r iaith ddim werth rhewi’n gorn / crasho car ar rhyw lôn gefn drosto!

      Byddwn ni’n rhoi diweddariad am hanner dydd am ein cynlluniau a chyngor i bobol sydd dal heb ganslo. Mae sawl un wedi dweuyd yn barod na fyddan nhw’n gallu dod, ond gan na fydd Aberystwyth yn cael ei daro’n wael mae’n bosib y byddwn yn cynnal rhywbeth beth bynnag. Nawn ni roi cyngor call am hanner dydd ar ôl trafod ac edrych eto at y rhagolygon.

      Yn y cyfamser, os ydach chi’n penderfynu peidio teithio gadwch i ni wybod cyn gynted ag y gallwch chi.

      Yr eiddoch yn sgarffiog,

      Rhodri

    • Huw Marshall 10:29 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Hia,

      Dwi methu gael allan. (Byw lawr trac ffarm serth).

      Felly fydda’i methu dod yn anffodus.

      Siom enfawr

      H

    • Aled Griffiths 11:04 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Dwi methu dod yn anffodus!

    • ifanceinion 11:17 AM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Dwi’n mynd i drio ‘ngorau i ddod er gwaetha’r tywydd (ond bydda i’n cymryd pob gofal posib wrth gwrs). Peth yw, ar ôl y mis dwi newydd gael, dwi angen hyn yn seicolegol am fwy o resymau na jest trafodaeth tech! :) Os gaiff yr holl beth ei ganslo (croesi bysedd) gadewch i ni wybod, ond fel arall dwi’n bwriadu setio ffwrdd tua 3pm.

    • Leusa 12:48 PM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Helo griw Hacio’r Iaith, dim ond neges i ymddiheuro na fydda i’n gallu dod i fyny fory.
      Diolch
      Leusa

    • Owain Hughes 1:42 PM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      O hyd yn bwrw eira’n eitha trwm yma yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin. Hefyd mae rhannau o’r A487 o amgylch Synod Inn ar gau, ac mae’r A482 o amgylch Llanbed yn edrych braidd yn wael. Arhosa i i weld sut mae cyflwr yr heolydd bore yfory…

    • Paddy Daley 4:05 PM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Ffaelu dod yn anffodus.

    • Robin Hughes 7:28 PM on 18 Ionawr 2013 Permalink

      Yn anffodus fydda i ddim yn gallu dod fory

    • Lowri Williams 10:12 AM on 19 Ionawr 2013 Permalink

      Fydda i ddim yn mentro draw heddiw yn anffodus. Gobeithio y bydd yn ddiwrnod llwyddiannus.

  • Carl Morris 4:17 PM on 14 January 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiadau,   

    Hacio'r Iaith 2013 – manylion pwysig i bobl sy'n dod 

    Dw i newydd anfon y manylion canlynol i bawb sy’n dod i Hacio’r Iaith 2013 dydd Sadwrn. Dw i wedi copïo’r testun yma rhag ofn bod rhywun wedi methu’r e-bost.

    O ran cofrestru, mae ychydig o lefydd ar gael ar hyn o bryd ond dim llawer.

    Helo

    Diolch am gofrestru ar gyfer Hacio’r Iaith 2013. Ers i ni sefydlu’r digwyddiad a’r blog yn 2010 mae’r gymuned wedi tyfu gyda phobl o feysydd gwahanol ac wedi arwain at brosiectau diddorol iawn. Ac rydyn ni’n methu aros i ddod at ein gilydd er mwyn joio defnydd o’r Gymraeg a thechnoleg yn y bedwaredd Hacio’r Iaith.

    Manylion y digwyddiad
    Hacio’r Iaith 2013
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU
    Dydd Sadwrn 19eg mis Ionawr 2013
    9:30 – 18:00
    Gallet ti parcio ym maes parcio’r Llyfrgell (am ddim ar ddydd Sadwrn).

    Syniadau am sesiynau
    Cer i weld syniadau gan gyfrannwyr eraill ar y dudalen wici Hacio’r Iaith 2013:

    http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2013#Sesiynau_.27Pendant.27

    Plis ychwanegu unrhyw syniadau rwyt ti eisiau eu trafod. Gall sesiwn fod yn gyflwyniad, sgwrs, trafodaeth, gweithdy, demo, beth bynnag rydych chi eisiau, bach neu fawr. Nid cynhadledd i ddod i wrando’n unig yw Hacio’r Iaith ond i gymryd rhan. Mae pawb yn yr un sefyllfa fel cyd-drefnwyr ac rydyn ni i gyd yn gyfeillgar!

    Anghenion bwyd
    Os oes gen ti unrhyw anghenion bwyd arbennig yna plis gad i ni wybod. Bydd bwyd llysieuol ar gael ond gallwn addasu i alergeddau / deiet figan ayyb.

    Cofrestru a dad-gofrestru(!)
    Os oes gen ti ffrindiau sydd eisiau cofrestru mae lefydd yn mynd ar sail ‘cyntaf i’r felin’. Unwaith does dim llefydd mae rhestr aros rhag ofn bydd pobl yn tynnu allan. Os wyt ti wedi cofrestru ac yn methu dod bellach, plis dweud wrthon ni achos mae nifer cyfyngedig o lefydd ac bydd rhywun arall eisiau cofrestru yn dy le di. Diolch.

    Hacathon dydd Gwener
    Ar ddydd Gwener 18fed cyn Hacio’r Iaith bydd y Llyfrgell Gen yn cynnal Hacathon (sydd yn wahanol i Hacio’r Iaith!) ar eu casgliadau o bapurau newydd sydd wedi eu digido. Bydd hwn yn gyfle i gael mynediad at ddeunydd cyn iddo gael ei lansio fis Mawrth ac i bobol greadigol gydweithio gyda rhaglennwyr i wneud defnydd o’r adnodd anhygoel newydd yma. Manylion a chofrestru yma: http://hacathon.eventbrite.co.uk/

    Swper ar nos Wener
    Mae swper cyri ym mwyty Shilam wastad yn boblogaidd iawn. Plis gad i ni wybod os wyt ti am ddod er mwyn i ni archebu lle i ti. Os wyt ti eisiau cofrestru am y swper, sgwenna dy enw ar y wici:

    http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2013#Swper_Nos_Wener

    Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris a chriw Hacio’r Iaith

     
  • Carl Morris 12:56 PM on 5 August 2012 Permalink | Ateb
    Tags: digwyddiadau, , ,   

    Steddfodwyr… Dere i’r Cefnlen am yr Ŵyl Dechnoleg… #steddfod2012 

    Helo Steddfodwyr…

    Dere i’r Cefnlen am yr Ŵyl Dechnoleg Gymraeg gyda Hacio’r Iaith!

    • Gweithdai
    • Rhannu gwybodaeth
    • Fideo ar-lein
    • Blogwyr Bro – straeon amgen o’r Steddfod
    • Wicipedia Cymraeg – y wefan mwyaf poblogaidd yn Gymraeg
    • Hwyl
    • Di-wifr
    • Trydan

    Ble? Cer i mewn i’r maes, mynd heibio’r Pabell Len, syth ymlaen at y Cefnlen (1201-1203 ar y map). Edrycha am y logo Hacio’r Iaith.

    Darllena’r amserlen

     
  • Carl Morris 8:41 PM on 11 June 2012 Permalink | Ateb
    Tags: digwyddiadau,   

    Llywodraeth Cymru: Seminar i drafod y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol 

    Mae rhywun o Lywodraeth Cymru wedi gofyn i fi rhannu’r digwyddiad isod.

    Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu Seminar i drafod y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol – 21 Mehefin 2012.
    Ble: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
    Pryd: Dydd Iau 21 Mehefin 2012
    Amser: 10:00 – 13:30 yn gorffen gyda cinio

    Rhagor o fanylion gan gynnwys agenda

    Ffurflen archebu ar Eventbrite

     
    • Leia 4:08 PM on 18 Mehefin 2012 Permalink

      Bydda i yna. Oedd e’n anodd iawn i ddewis thema pan archebu!

  • Carl Morris 1:57 PM on 23 April 2012 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiadau,   

    Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 – cynllunio cynnar 

    Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012

    Rydyn ni wedi bod yn trafod y posibilrwydd cyffrous o rywbeth Hacio’r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Nawr mae’r Eisteddfod wedi cynnig lle ac amser i Hacio’r Iaith, sef y pabell Cefnlen ar y maes bob dydd. Rydyn ni’n rhannu gyda’r beirdd o Dalwrn y Beirdd! Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Gwenllian o’r Eisteddfod yn bennaf am drefnu’r lle hyd yn hyn.

    Bydd y lle yn agored i bawb ar y maes gyda thrydan a di-wi. Bydd sawl cyfle i redeg sesiynau Hacio’r Iaith o bob math fel trafodaethau, gweithdai, prosiectau, blogio, cyflwyniadau…

    Cwestiynau i sbarduno syniadau

    • Beth wyt ti eisiau ei wneud? Beth yw dy ddiddordebau?
    • Pwy fyddi di ei wahodd i gymryd rhan?
    • Sut ydyn ni’n gallu gwahodd pobol sydd ddim wedi bob yn rhan o Hacio’r Iaith hyd yn hyn i joio defnydd o’r Gymraeg ar dechnoleg?
    • Sut ydyn ni’n gallu sicrhau cyfranogiad gan bobol o bob math?
    • Beth am gydweithrediad rhwng grwpiau gwahanol?

    Skype nos Fawrth

    Bydd cyfarfod ar Skype i drafod Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012
    Nos Fawrth 24ain mis Ebrill
    8:30PM
    Os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y cyfarfod, plis gadawa sylw isod. Fy enw i ar Skype yw morriscarl

    Mae’r cyfarfod yn agored i bawb. Os fydd lot o bobol efallai bydd angen defnyddio platfform arall ond cer i Skype ar y dechrau.

    Mae’n flin gyda fi os wyt ti’n methu dod i’r cyfarfod. Ond mae sawl modd i gymryd rhan. Y prif beth ydy syniadau ar hyn o bryd ac mae croeso i ti ychwanegu sylw isod gydag unrhyw feddyliau.

    Hanes

    Gyda llaw dyma’r tro cyntaf rydyn ni’n cael lleoliad cyson ar y maes Eisteddfod. (Mae Hacio’r Iaith wedi cael presenoldeb yn yr Eisteddfod i ryw raddau ers tro gan gynnwys y digwyddiad llynedd yn y stondin Prifysgol Aber, Gorsedd y Gîcs yn Y Bala, sawl sesh sgwrsio yn y pyb… Gyda llaw does dim rheswm i beidio cwrdd yn y pyb eleni hefyd.)

     
    • Robin 3:10 PM on 23 Ebrill 2012 Permalink

      Syniad gwych. Ymlaen!

    • Marc Webber 4:54 PM on 23 Ebrill 2012 Permalink

      Fili cymryd rhan nos fawrth, ond: -

      Peth pwysig i fi yw ddangos technoleg a gwasanaethau ar gael yn Gymraeg i’r cyhoedd. Dangos fod ti’n gallu defnyddio tydar yn Gymraeg, prynu pethau yn gymraeg, adeiladu gwefan ac yn y blaen.
      Mae rhaid i chi gael bethau i warae efo – iPads efo apps – lle i drio, nid yn unig sgwrsio
      Siawns i gwrdd a cwmniau eraill efo arian neu cyfleusterau tebyg
      Gwahodd gwleidyddion a ‘great and the good’ eraill i’r le i dangos wrthyn nhw beth sy’n digwydd yn y byd tech cymraeg.

    • Carl Morris 9:52 AM on 24 Ebrill 2012 Permalink

      Robin a Marc – diolch.

      Marc, syniadau da iawn. Efallai dyw’r gair ‘gweithdai’ uchod ddim yn addas i bob sefyllfa ymarferol. Mae profiad ugain munud ac mae profiad tri munud ac mae’r ddau ohonyn nhw yn iawn. Weithiau mae angen sesiwn ymarferol gyda strwythur ac weithiau mae ymwelwyr yn gallu jyst CHWARAE!

    • Rhys Wynne 11:11 AM on 24 Ebrill 2012 Permalink

      Dw i’n credu bydd Robin yn ymuno yn y cyfarfod Skype heno, rhag ofn i neb gael braw!

    • Llef 11:16 AM on 24 Ebrill 2012 Permalink

      Ymddiheuriadau griw trafod – methu dod mewn i’r sgwrs heno, ond edrych mlaen am y syniadau ddaw allan!

    • Rhodri 10:58 AM on 25 Ebrill 2012 Permalink

      Sgwrs dda ac adeiladol neithiwr. Nawn ni roi rhyw fath o restr syniadau ar y blog ddydd Gwener. Os oes unrhyw syniadau pellach am be ddylen ni wneud yn y cyfamser yna rhowch nhw yn y sylwadau.

      (Mae slotiau rhydd i ni y rhan fwyaf o foreuau a rhwng 3.30 a 6.00 bob dydd).

    • Carl Morris 12:01 PM on 25 Ebrill 2012 Permalink

      Dw i’n meddwl roedd Rhos Prys yn trio cysylltu gyda ni neithiwr. Gwnes i golli ei galwad felly mae’n flin gyda fi!

    • Marc Webber 1:03 PM on 1 Mai 2012 Permalink

      Dim angen i wneud sesiwnau ‘cinio a dysgu’ opb dydd. Ond ar diwrnod brysur y ‘steddfod mae’n bwysig i gael rhywfath o sesiwnau ty hwnt i jest siawns i warae efo pethau.

  • Carl Morris 10:04 PM on 20 March 2012 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiad hacio, digwyddiadau   

    Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith 

    Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti adael sylw neu fod yn rhan o rywbeth.

    Mae rhai o hackathons yn ffug. Mae pobol yn sgwennu’r cod rhywle dawel cyn iddyn nhw fynd! Hefyd mae cwmnïau yn defnyddio nhw i ffeindio talent a syniadau.

    Byddwn i o blaid rhywbeth Hacio’r Iaith gyda ffocws penodol ac ymarferol.

    Mae cymhareb o spectators i gyfranogwyr yn bwysig gyda rhywbeth ymarferol. Efallai bydd angen gweithdy bach ar y dechrau ac wedyn mae pobol yn gallu ymarfer y sgiliau newydd?

    Efallai mae angen ‘cyfyngiadau’ hefyd sef

    • casgliad o ddata
    • neu API
    • neu pwnc penodol

    er mwyn sbarduno syniadau a chanolbwyntio ar rhywbeth.

    e.e.
    archif S4C
    archif Radio Cymru
    data Radio Cymru, e.e. playlist
    archif Llyfrgell Gen
    “barddoniaeth”
    mynyddoedd
    Y Rhestr o flogiau ar hedyn.net
    Wicipedia Cymraeg
    stwff yn Gymraeg dan Creative Commons
    data Umap
    ayyb

    Mae’r cofnod yma yn anghyflawn yn bwrpasol… :-)

     
    • Rhodri ap Dyfrig 10:25 PM on 20 Mawrth 2012 Permalink

      casglidau fideo yn ddiddorol – byddai defnydd o feddalwedd Mozilla Popcorn i ailgyflwyno a rhoi cyd-destun i ddeunydd yn arbrawf diddorol. Mae archif HTV ar y ffordd i’r llyfrgell gen…

  • Carl Morris 11:18 PM on 2 August 2011 Permalink | Ateb
    Tags: digwyddiadau, , ,   

    Hacio’r Iaith Bach yn y pyb, Wrecsam (nos Wener!) 

    Dere draw i Hacio’r Iaith Bach yn y pub:

    The Horse and Jockey, Stryt yr Hob, Wrecsam

    Nos Wener 5ed mis Awst 2011
    5:30PM – 8:30PM (neu hwyrach os ti eisiau)

    Croeso i bawb, eisteddfotwyr a phobol o Wrecsam a’r cylch, unrhyw un!

    Mwy o fanylion yma:

    http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_yn_Eisteddfod_Genedlaethol_2011#Hacio.27r_Iath_Bach_mewn_tafarn

     
    • Maldwyn Pate 11:46 PM on 2 Awst 2011 Permalink

      Bydda i yno. Edrych ymlaen.

    • Heledd 12:10 AM on 3 Awst 2011 Permalink

      Isho dod i hwn!

    • Carl Morris 7:20 PM on 7 Awst 2011 Permalink

      Cawson ni sgwrs da!

      Mal, edrych ymlaen i gofnod blog am dy adnoddau addysgu Cymraeg! :-)

  • Carl Morris 1:22 PM on 18 July 2011 Permalink | Ateb
    Tags: digwyddiadau   

    City Arms heno? (Caerdydd) 

    Mae rhai ohonyn ni yn mynd i City Arms heno, Stryd Quay.

    Rydyn ni’n ei alw Hacio’r Iaith Bach. Croeso i ti ddod i drafod technoleg, y we a stwff. Dim agenda, dim ‘siaradwyr’, dim ond hwyl.

    Bydda i yna o 7PM ymlaen.

    Ffonia 07891 927252 os ti ar goll.

     
    • Gareth 2:13 PM on 18 Gorffennaf 2011 Permalink

      Diolch am y gwahoddiad Carl. Methu bod yno heno ond pob hwyl gyda’r haciaith.

    • Maldwyn Pate 3:31 PM on 18 Gorffennaf 2011 Permalink

      Sori, ddim yn gallu dod heno. Pob hwyl i chi.

    • David Evans 4:23 PM on 18 Gorffennaf 2011 Permalink

      Grêt, welwch chi yno.

    • Carl Morris 12:20 PM on 20 Gorffennaf 2011 Permalink

      Diolch i bawb am ddod nos Lun. Cawson ni bedwar o bobol, sy’n berffaith am sesh yn y pyb.

      Gwnaethon ni trafod (dim trefn):
      lleol.net
      blogiau lleol a phapurau bro
      Meddalwedd rydd
      gwefannau hyll
      y term ‘bas-data’
      Drupal Cymraeg
      Golwg360 a newyddion
      gwerthu hysbysebion ar-lein a rhwydweithiau hysbysebu
      Cyngor Caerdydd a data
      data.gov, data.gov.uk a data agored
      Polisiau data agored – Lloegr vs Cymru
      Apple (a’u diffyg cefnogaeth i Gymraeg)

    • Maldwyn Pate 5:20 PM on 20 Gorffennaf 2011 Permalink

      Flin iawn nad o’n i’n gallu dod. Er ‘mod i’n defnyddio Macs dwi’n credu fod e’n warthus nad yw Apple yn rhoi cefnogaeth lawn i’r Gymraeg. Er bod ychydig o Gymraeg ar iOS (dyddiadau) mae’n debyg y bydd modd creu ‘geiriadur personol’ ar iOS 5. Bydd hynny’n galluogi tecstio darogan a gwirio sillafu Cymraeg. Dyfal donc

    • Dafydd Tomos 8:44 PM on 21 Gorffennaf 2011 Permalink

      cronfa ddata yn well a fwy safonol.

    • Carl Morris 1:09 AM on 22 Gorffennaf 2011 Permalink

      Ond mae ‘bas-data’ yn swnio fel ‘bastard’, dyna’r peth.

  • Carl Morris 4:22 PM on 29 June 2011 Permalink | Ateb
    Tags: , digwyddiadau   

    Hacio’r Iaith Bach – Gŵyl Arall, Caernarfon??? 

    Unrhyw galw am sesh yn ystod Gŵyl Arall?

    (Sgwrs am dechnoleg, y we, ffonau ac ati. Croeso i bawb, mynediad am ddim.)

    http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith#Hacio.27r_Iaith_Bach_-_G.C5.B5yl_Arall.2C_Caernarfon.3F.3F.3F

    Dim ond syniad ar hyn o bryd – felly gadawa sylw isod neu ar y wici os ti eisiau dod i rywbeth.

    DIWEDDARIAD: mae Nici Beech yn awgrymu 3 prynhawn Sadwrn 16 mis Gorffenaf 2011.

     
    • Nici Beech 4:41 PM on 29 Mehefin 2011 Permalink

      Da ni wedi rhoi lle i haciaith yn yr amserlen am 3 pnawn Sadwrn ond os oes amser sy’n siwtio pawb yn well – gadwch wybod. Byddai’n braf cael gwestai arbennig i siarad am bwnc penodol – be da chi’n feddwl?

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel