Tagged: data Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr

  • Carl Morris 1:12 PM ar 7 May 2013 Paraddolen | Ymateb
    Tags: data, data agored   

    Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru 

    Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored.

    [...] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which is open, transparent and contestable or in a way which prioritises privacy, obscured authority or even secrecy, we should never be in any doubt:

    Choose open.

    Or, as the point is often put in debates about information and the Internet, we should set the default switch to open and then mitigate the risks of being open, rather than first and foremost worrying about loss of control. And we should use these open channels to design solutions around the expressed and researched preferences of users of services – of citizens. [...]

    Mae fe’n defnyddio’r gair ‘open’ 36 gwaith (gan gynnwys ‘openly’, ‘openness’ ayyb).

    Efallai mae fe’n euog o ddiffiniad rhy slac o’r gair – e.e. dw i ddim yn gweld y cysylltiad rhwng yr enghraifft pel-droed a manteision data agored.

    Hoffwn i drafod mwy am y ddarn nesaf sydd yn mynd tu hwnt i ddata agored:

    [...] With open also comes plurality – healthy competition between individuals and institutions. The opposite course tends towards the concentration of information and power in the hands of a few: a real danger here in Wales.

    So, we should be open to

    • Competition from wherever competition stems.
    • New ideas and innovation, even where change is painful.
    • The movement of people, ideas and culture in the confident belief that strong cultures learn quickly and become stronger as a result. [...]

    O safbwynt iaith dw i ddim yn siŵr os yw’r Gymraeg yn ddigon cryf eto i wynebu’r ‘agored’ (yn ôl y diffiniad yma) yn gyfan gwbl. Ond mae’n bosib fy mod i wedi camddeall.

     
  • Carl Morris 3:28 PM ar 7 November 2012 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , data,   

    Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg 

    Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill.

    Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.)

    Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys yr ystadegau ym meysydd eraill. Efallai byddai pobl yn ffeindio cysylltiadau newydd rhwng y Gymraeg a data eraill.

    Trafodaeth: ym mhersonol dw i ddim yn disgwyl llawer o syndod o ran yr ystadegau ar y Gymraeg: mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg. Fydd ddim lot o iechyd i’r iaith Gymraeg heb gymunedau Cymraeg.

    Ond mae sawl lle i drafod y broblem ehangach. Rydym ni’n trafod pynciau gyda rhyw fath o gysylltiad i dechnoleg yma. Felly’r cwestiwn anodd sydd yn bwysig i mi felly yw: sut allai technoleg a chyfryngau digidol helpu’r ymdrech i gynnal cymunedau Cymraeg cynaliadwy? Dw i wedi bod yn meddwl am y cwestiwn yma eithaf lot yn ddiweddar. Dw i’n gallu meddwl am sawl pwnc o fewn ein maes ni: ymgyrchu/lobio, newyddion lleol, gwaith, arloesi/cwmnïau cychwynnol, addysg, datblygu polisi.

    Un elfen bwysig o’r sgwrs yw natur cymunedau. Dw i’n disgwyl pobl i ddweud bod cymunedau yn ‘wahanol’ dyddiau yma. Wel, ie ac na… Ambell waith dw i’n defnyddio’r term ‘cymunedau ar-lein’ ond mewn gwirionedd does dim wal galed rhwng ar-lein a’r byd corfforol. Mae ar-lein yn gallu cryfhau cysylltiadau ‘off-lein’ – dw i wedi gweld enghreifftiau. Wrth gwrs mae lot o bobl heb gysylltiad i’r rhyngrwyd neu yn ei defnyddio dim ond bob hyn a hyn. Wedi dweud y cwbl, mae’n anodd i mi ddychmygu cymuned leol go iawn heb ‘sefydliadau’ fel ysgol, swyddfa bost a siop (yn enwedig mewn pentref bach) ac yn anffodus mae grym tu allan i’r cymuned sydd yn penderfynu ac yn dylanwadu ar bethau mor hanfodol fel ‘na.

    Mae’r cofnod yma wedi bod yn llif o feddyliau heb lot o strwythur. Byddwn i’n croesawu unrhyw sylwadau perthnasol isod.

     
    • ioan 2:17 PM ar 8 Tachwedd 2012 Paraddolen

      “…mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg.”
      Dwi’m yn siwr os bydd na lot llai o gymunedau Cymraeg yn y Gogledd. Dibynu ar y diffiniad mae’n siwr. Os ti’n edrych ar Wardiau > 70%, dwi’m yn disgwyl i’r nifer ddisgyn llawer yng Ngwynedd / Mon. A dweud y gwir, dwi’n disgwyl i’r nifer sy’n siarad Cymraeg cynyddu yng Ngwynedd (fel y gwnaeth yn 2001 ymhlith pobl iau na 50).

  • Rhys Wynne 9:41 PM ar 2 October 2012 Paraddolen | Ymateb
    Tags: awdurdodau lleol, , data,   

    Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75? 

    Yn ôl yn 2009 daeth sawl gwefan defnyddiol i ben wrth i’r Post Brenhinol fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn am ddefnyddio data codau post oni bai eu bod yn talu £4,000 y flwyddyn am y data.

    Un o’r gwefannau oedd PlanningAlerts.com a oedd yn tynnu gwybodaeth am geisiadau cynllunio o wefannau awdurdodau lleol a’i cyflwyno’r data mewn modd hygyrch ac addas i’w ailddefnyddio ar wefannau eraill. Roedd hefyd yn caniatáu i chi osod hysbysydd e-bost neu RSS fel eich bod yn cael gwybod am unrhyw geisiadau cynllunio o fewn pellter penodol o’ch cymuned.

    Do’n i ddim yn ymwybodol bod y wefan wedi llwyddo i ailddechrau ers hynny, ond roedd y pwysau gwaith a’r gost o gynnal y gweinydd yn ormod i’r gwirfoddolwyr. Y newyddion da ydy bod y wefan OpenlyLocal wedi derbyn y sialens o atgyfodi’r gwasanaeth eto ac wedi derbyn ychydig o nawdd gan NESTA.

    Mae’n dasg lafurus fel mae hi, heb sôn am y ffaith bod gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio dulliau gwahanol o gyflwyno’r wybodaeth.

    Mae’nt yn gofyn am gymorth y gymuned i wneud hyn, a hyd yn oed yn cynnig arian (£75) i unigolion sy’n creu crafwr ar gyfer gwefannau awdurdod lleol penodol. Mae’n nhw wedi dewis rhestr o rai sy’n cyhoeddi eu data mewn ffurf anhygyrch dros ben, ac os d wi’n iawn, mae dau o Gymru ar y rhestr, sef Sir Gaerfyrddin a Sir y Fflint. Mae’n nhw wedi gosod rhai canllawiau ar sut pa fath o grafwyr maen’t eisiau. Mae gofyn bod chi’n gyfarwydd a defnyddio Ruby, Python a PHP a wefan Scraperwiki.

    (Draw ar Scraperwiki, mae crafwr ar gyfer ceisiadau cynllunio Merthyr Tudful, ond d wi ddim yn gwybod os ydy o’n weithredol)

     
  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM ar 21 May 2012 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , data, ,   

    “A oes data?” “…data?!” 

    Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

    Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

    Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

    Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

    Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

     
    • Nudd 10:59 AM ar 21 Mai 2012 Paraddolen

      Rhodri,

      Rwy’n credu dy fod ti wedi rhoi dy fys ar real sanctaidd marchnata digidol! Y data hyn yw’r celloedd coch yng ngwaed Amazon, Yahoo, Google ac ati – h.y. ystadegau am dueddiadau ac arferion defnyddwyr sy’n caniatáu iddyn nhw ychwanegu gwerth at eu data ffeithiol drwy bersonoleiddio profiad y defnyddiwr ar un llaw, a thargedu hysbysebion atynt ar y llaw arall.

      Gymaint ag y byddwn i’n hoffi gweld dy syniad di’n casglu momentwm, rwy’n ofni fod hyd yn oed cwmnïau Cymru yn rhy fasnachol i fuddsoddi mewn systemau i gasglu’r data hyn ac yna ei rannu’n gyhoeddus.

    • Owain Schiavone 9:48 AM ar 22 Mai 2012 Paraddolen

      Data ynglyn a defnyddwyr ti’n meddwl yn hytrach na gwybodaeth gyffredinol ynglyn a pha dudalennau mae pobl yn eu darllen ia (h.y. yng nghyd destun G360)?

      Fel mae’n digwydd rydan ni wedi bod yn sbio ar Open ID yn ddiweddar ac yn gobeithio ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach (newyddion lleol a ballu).

    • Rhodri ap Dyfrig 12:38 AM ar 23 Mai 2012 Paraddolen

      @Nudd faswn i ddim o reidrwydd isio i’r cwmniau ei rannu’n gyhoeddus – dim ond efo’i gilydd! Ella bod hynny r’un mor annodd ;-)

      @Owain Ia, data ynglyn â defnyddwyr o’n i ar ei ol. Arferion darllen, gwylio, prynu yn gymysg efo data dyfnach demograffyddol. Falch bod chi’n ystyried rhyw fath o gyfrifon defnyddwyr. Mae S4C hefyd dwi’n meddwl. Fasa hi ddim yn braf gallu cael cyfrifon sydd yn gweithio ar draws G360, S4C a chyrff eraill Cymraeg sy’n derbyn nawdd cyhoeddus? Fasa’n broffidiol i chi gyd dwi’n meddwl.

    • Owain Schiavone 12:21 PM ar 23 Mai 2012 Paraddolen

      Dwi’n meddwl mai Open ID neu debyg ydy’r cyfle gorau i gasglu’r math yma o wybodaeth – mae pobl yn fwy parod y rannu gwybodaeth bersonol ar gyfryngau fel Facebook a Twitter. Rydan ni hefyd yn edrych ar apps Open Graph Facebook i weld os ydy’n werth i ni ystyried mynd ar ol hyn.

    • Marc Thomas 8:24 PM ar 23 Mai 2012 Paraddolen

      Mae gwefan Lleol.net wedi yn caniatau mewngofnodi drwy ddefnyddio Open ID. Efallai dylswn ni ychwanegu neges yn esbonio’r gwasanaeth yma. Fyddai’n braf cydweithio gyda gwefannau eraill er mwyn gwneud rhyw fath o hysbysebu’r rhwydwaith yma ar y cyd.

  • Rhodri ap Dyfrig 10:23 PM ar 20 March 2012 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , , data, , , , sector gyhoeddus   

    Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp? 

    Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw.

    Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag:

    Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn rhoi cyfran o amser eu timoedd gwe ar gyfer cydweithio ar brosiectau ar y cyd.

    Gallai’r prosiectau fod yn gweithio i ddatrys cyfres o broblemau bach lle galla arbenigedd wahanol i’w maes fod yn ddefnyddiol, neu’n ateb rhyw broblem sydd gan un o’r sefydliadau ond sydd yn rhy fawr ar gyfer y tîm sydd ganddyn nhw. Gallai fod yn rhywbeth cydweithredol cwbl greadigol a thu hwnt i friff arferol datblygwyr a dylunwyr gwe sector cyhoeddus.

    O bosib trwy ddefnyddio cyfran fechan o amser blwyddyn grwp o bobol dalentog y gellid cael canlyniadau diddorol iawn, heb sôn am roi cyfle i weithwyr yn y sector gyhoeddus gael profiadau diddorol, ac i sefydliadau rannu syniadau a chlosio rywfaint.

    Mae hyn yn cymryd yn ganiataol wrth gwrs bod na ddigon o dimoedd gwe mewnol yn y sefydliadau hyn i wneud rhywbeth gwerth chweil, a bod y rhan fwyaf o’r gwaith ddim wedi ei yrru allan i gwmniau preifat. Mae’n cymryd yn ganiataol hefyd bod na brosiectau allai gael eu gwneud ar y cyd yn y dull yma, ond dwi’n siwr y byddai grŵp o bobol alluog yn gallu dychmygu hyn yn well na fi.

    Dwi jest yn gweld llawer o’r sefydliadau hyn fel eu bod mewn cystadleuaeth a’u gilydd, pan ddylai na fod llawer mwy o orgyffwrdd na’r hyn dwi’n ei weld. Mae cystadlu am ffynhonellau bychai arian sy’n edwino yn gwneud aros mewn silo yn fwy deniadol, ond efallai bod angen ffyrdd o wneud y gwrthwyneb.

    Wrth chwilio am yr enghreifftiau sector breifat o hyn fel sydd yn Intel a Google, mi ddes ar draws y term “intrapreneurship“. Bach yn buzzwordy, ond ma’r enghreifftiau o’n i’n chwilio amdanyn nhw yng ngwaelod y gofnod wiki. Faswn i’n falch o wybod os oes na engreifftiau o hyn yn y sector gyhoeddus rywle – debyg nad oes gan ei bod siwr o fod yn annodd cyfiawnhau 20% o arian y pwrs cyhoeddus ar feddwl awyr las!

    Dwi’n sylwi rwan bod Carl newydd bostio ar bwnc tebyg, ond hoffwn i glywed os yw’r syniad yn un fyddai’n bosib neu’n ddefnyddiol.

     
  • Carl Morris 1:04 PM ar 27 February 2012 Paraddolen | Ymateb
    Tags: data, ,   

    Sialens Geovation: diwrnod creu syniadau gydag Inventorium 

    Mae gwerth £115, 000 o wobrau ar gael am syniadau da ynghylch ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ a hyd yn oed fwy o wobrau am syniadau i gefnogi ymwelwyr a chymunedau ar hyd y llwybr newydd, ‘Llwybr Arfordir Cymru’. Mae’r gwobrau hyn yn rhan o Sialensiau GeoVation yr Arolwg Ordnans.

    Ar ddydd Gŵyl Dewi, mae Inventorium yn gwahodd arloeswyr i weithdy anffurfiol gyda’r nod o ffurfio timau â syniadau fydd yn gallu datrys Sialensiau GeoVation.

    Bydd Sialensiau GeoVation yn cael eu datrys gan dimau sydd â gwybodaeth amrywiol am dechnoleg, busnes ac anghenion cymdeithas. Bydd yr Arolwg Ordnans yn ariannu’r syniadau sy’n gwneud defnydd gora o’r ddata, gan gynnwys OS OpenData ac OS OpenSpace.

    Mae Sialens ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ yn rhedeg tan 28 Mawrth a bydd y syniadau gorau yn cael gwahoddiad i benwythnos Gwersyll GeoVation yn Southampton rhwng 18 a 20 Mai 2012. Bydd y rhai fydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn y gwersyll hwnnw yn cael eu gwahodd i Sioe Arddangos GeoVation ar 20 Mehefin 2012 i roi cynnig am gyfran o’r arian.

    Bydd manylion Sialens ‘Llwybr Arfordir Cymru’ yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

    Yng ngweithdy Inventorium bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cwrdd â darpar bartneriaid, gweithio ar syniadau a’u troi’n gyflwyniadau ar gyfer y Sialens.

    Pryd: 1af Mawrth, 09.30 – 15.30

    Lleoliad: Tŷ Menai, Bangor. LL57 4HJ

    Fe fydd gweithgarwch strwythuredig rhwng 09.30 ac 13.00 yna cefnogaeth ac ymgysylltu hyblyg ar gyfer y rhai sydd eisiau galw draw wedi hynny.

    rhagor o wybodaeth:

    http://www.inventorium.org/events/geovation-challenge-inventorium-idea-team-generation-day/

    http://www.geovation.org.uk/geovationchallenge/

     
  • Carl Morris 2:20 PM ar 29 November 2011 Paraddolen | Ymateb
    Tags: data, ,   

    Llywodraeth DU yn agor data er mwyn trio hybu twf yn yr economi 

    http://gigaom.com/2011/11/29/british-government-bets-big-on-open-data-for-growth/

    Unrhyw cyfleoedd i ni yma? (Tywydd, tai…)

    Beth ddylai/allai Llywodraeth Cymru wneud hefyd?

     
  • Carl Morris 10:41 AM ar 24 November 2011 Paraddolen | Ymateb
    Tags: data, Sir Fynwy,   

    Sir Fynwy – cyngor cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu trwydded data agored 

    Mae Sir Fynwy yn rhyddhau data dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Nhw ydy’r cyngor cyntaf i ddewis unrhyw drwydded agored ar gyfer ei chynnwys – a’r sefydliad cyhoeddus Cymreig cyntaf hefyd dw i’n meddwl?

    Developers and citizens who want to create useful ‘apps’ to improve people’s lives can now freely access and use data on Monmouthshire Council’s website.

    From today, the Monmouthshire website has changed its licensing terms to that of the Open Government Licensing. Monmouthshire is the first Welsh council to do this. [...]

    http://www.monmouthshire.gov.uk/site/scripts/news_article.php?newsID=547

    (Does dim fersiwn Cymraeg o’r tudalen yn anffodus. Gobeithio bydd mwy o gynghorau yn dilyn yr enghraifft o ran data agored ac yn gynnig gwasanaeth Cymraeg go iawn hefyd.)

    Mwy o gefndir gan Claire Miller a’r tîm cyfathrebu Sir Fynwy.

    Maen nhw yn defnyddio Subversion i gynnal dogfen map o’r data sydd ar gael.

     
  • Carl Morris 2:54 PM ar 19 September 2011 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , data   

    Cymru Agored 

    Claire Miller:

    [...] Wales is lagging behind on open data.

    This page from Openly Local pretty much sums up the problem with Wales, with a grand total of no open data councils, not even any semi open ones – every other region of Great Britain at least manages a few.

    Open data appears to have passed Wales by. (All of which is hugely frustrating when you’re a data journalist working here).

    So it’s time to change this. [...]

    Darllena’r cofnod llawn: http://clairemiller.net/blog/2011/09/open-wales/

     
  • Carl Morris 12:49 PM ar 19 July 2011 Paraddolen | Ymateb
    Tags: data, Post Brenhinol   

    DATA: Post Brenhinol yng Nghymru 

    Recently, we’ve been working with our policy team in Consumer Focus Wales to see how we can improve the transparency and visibility of the information we receive from the Royal Mail. Today we are pleased to launch the Wales Mail Report – a tool to make this data available to the public in an easily digestible form.

    The Wales Mail Report takes the quality of service and complaints data from numerous large PDF documents and presents it in HTML tables with interactive charts. We’ve broken the data down by postcode area so you can see how well the Royal Mail is performing in your area. We’ll also be updating the data every time new figures are published.

    Best of all – we’ve made everything available in open formats. You can download all the information in CSV and JSON formats under the Open Government Licence.

    http://www.cflabs.org.uk/blog/opening-up-royal-mail-performance-data-in-wales

     
c
creu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod flaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
nôl i'r brig
l
go to login
h
show/hide help
esc
diddymu