Tagiwyd fel: cynnwys RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:11 PM ar 24 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys, ,   

    Argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg? Hawlfraint a chaniatâd 

    http://quixoticquisling.com/2010/08/yr-argyfwng-cynnwys-arlein-yn-gymraeg-hawlfraint-a-chaniatad/

    Beth dych chi’n meddwl?

     
  • Carl Morris 5:30 PM ar 15 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys,   

    Pethau Bychain – diwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein… #pethaubychain 

    http://pethaubychain.com/beth-yw-pethau-bychain/

     
    • Carl Morris 6:09 PM ar 15 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Os wyt ti eisiau creu fideo neu erthyglau “Sut-i” yn Gymraeg fel
      http://haciaith.com/2010/01/30/sesiwn-ochr-ar-greu-fideos-how-to/

      Basai nawr yn BERFFAITH – fideos neu erthyglau am bethau creadigol yn enwedig.

      Efallai creu fersiwn Cymraeg o fideo/erthygl sy’n bodoli yn barod.

      Gwnaf i sgwennu dolen i dy waith o’r wefan Pethau Bychain. Diolch!

  • Carl Morris 10:12 PM ar 14 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys,   

    Beth yw Pethau Bychain? | Yr Addewid 

    Beth yw Pethau Bychain?

    Beth?

    Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

    Pryd?

    Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010

    Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain?

    Rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae’r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni.

    Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

    Drwy wneud un o’r pethau bychain rydych yn chwarae rhan allweddol mewn llusgo’r Gymraeg mewn i’r byd digidol.

    Pwy a wyr efallai taw eich pethau chi fydd yn lledu ar draws y we

    Pam bod lleisiau Cymraeg ar-lein yn bwysig?

    Mae’r we yn gyfrwng newydd. Mae’n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio. Mae’r un peth yn wir am y we.

    Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain?

    Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a benywod.

    Does dim angen profiad o flaen llaw.

    Dylen ni drio cael awduron / beirdd / pobol ffilm sydd *yn* brofiadol hefyd ddo. Does gan lawer iawn o bobol creadigol Cymraeg ddim presenodleb ar-lein. Gallan nhw jest gyhoeddi gwaith maen nhw wedi ei wneud eisoes ar y we.

    Beth yw’r tag?

    pethaubychain yw’r tag – am wasanaethau gyda tagiau. Bydd e’n hawsa i ffeindio unrhywbeth gyda’r tag.

    Flickr: pethaubychain
    YouTube: pethaubychain
    Twitter: #pethaubychain
    blogiau: pethaubychain
    ayyb

    Beth nesaf?

    Mae gyda ni Addewid.

    A phaid anghofio Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010!

    Yr Addewid

    “Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010. Gall y peth bach fod yn greu:

    • cofnod blog
    • fideo
    • darn o gerddoriaeth
    • podlediad
    • tudalen ar Wicipedia
    • ffansin cerddoriaeth
    • nonsens Photoshop
    • comic gwe
    • remix
    • stwnsh fideo
    • erthgyl academaidd
    • blog newyddion lleol
    • rhoi eich papur bro arlein
    • adolygiad ffilm
    • trosleisio/isdeitlo ffilm
    • sgetsh gomedi
    • drama Twitter
    • e-farddoniaeth
    • defnydd creadigol o fapiau Google
    • creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
    • neu rhywbeth arall…

    Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”

    “Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”

     
    • Rhys Wynne 9:12 PM ar 16 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

      Roedd erthygl dda gan Rhys Mwyn yn y Daily Post yr wythnos hon (11.8.10) o dan y teitl ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrfiadur fydd o’. Mae’r erthygl yn sôn am sut mae’r teledu’n gyfrwng llai a llai pwysig a sut mae yna fideos unigol ar YouTube sydd wedi cael mwy o wylwyr na mae S4C yn dderbyn mewn blwyddyn. Byddai wedi bod yn erthygl dda i roi dolen ati o flog Pethau Bychain, ond yn eironig, dyw hi ddim ar gael ar-lein! (Mae’r Daily Post wedi stopio gosod cynnwys ei cholofnau Cymraeg ar-lein ers dros flwddyn am ryw reswm).

    • Carl Morris 3:43 PM ar 17 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Diddorol.

      Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrifiadur fydd o (gan Rhys Mwyn)
      http://www.thefreelibrary.com/Fydd+y+chwyldro+ddim+ar+y+teledu+gyfaill,+ar+eich+cyfrifiadur+fydd+o.-a0234113052

  • Carl Morris 5:03 PM ar 9 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys, ,   

    Blogiau gwleidyddol a chofnodion dwyieithog – clickonwales.org 

    Ychydig o chwarae teg i clickonwales am post dwyieithog mis diwetha. (Efallai ti’n cofio’r drafodaeth wythnos diwetha am WalesHome.)

    http://www.clickonwales.org/2010/07/from-penyberth-to-parc-aberporth-welcome-to-warmongering-wales/#cymraeg

    Dw i ddim yn cyffrous iawn amdano fe – eto.

    Dw i’n galw fe fformat Eurovision achos mae iaith yn dilyn iaith arall.

    Peth da gyda’r fformat Eurovision – mae’n cadw’r sylwadau (pa sylwadau?) yn yr un lle.

    Ond mae’n eitha lletchwith gydag erthyglau hir.

    Dw i’n ffafrio dau gofnod gwahanol am erthyglau hir. Baswn i bostio Saesneg cyntaf a Chymraeg wedyn – Cymraeg ar y top. Mae’n gweithio ar Facebook, Twitter, ayyb hefyd. Ar fy mlog efallai gyda dolenni rhwng y ddau – fersiwn Cymraeg yma / English version here.

    Ond y peth pwysicach i mi ar y we yw cynnwys unigryw yn Gymraeg… Dw i wedi profi disgrifiadau Saesneg ar ôl enghraifft Stephanie Booth. Dw i wedi rhoi disgrifiad ar y gwaelod o flaen.

    (Pam? Mae’n personol. Dw i newydd wedi ymuno’r byd Cymraeg a weithiau dw i’n siarad am rhywbeth Saesneg fel yr enghraifft yna.)

    Ond fel arfer dw i’n osgoi unrhyw disgrifiad dyddiau ‘ma. Mae’n dibynnu ar y cyd-destun.

     
  • Carl Morris 10:03 AM ar 5 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys, , WalesHome   

    Mae @waleshome newydd wedi cyhoeddi 2 erthygl yn Gymraeg – a oes dyfodol? 

    Mae WalesHome wedi bod yn llwyddiannus fel rhywle i ddarllen erthyglau o safon – am gwleidyddiaeth fel arfer.

    Dw i wedi meddwl am y diffyg cynnwys gwleidyddol yn Gymraeg felly mae’n neis i weld 2 erthygl Cymraeg yna.

    Amser i ddefro i Gymru (sut i ennill refferendwm – 0 sylw)
    Time to wake up for Wales
    (yr un erthygl fersiwn Saesneg – 7 sylw)

    Darlledu: Cam nesaf datganoli
    (unigryw i Gymraeg – ond 9 sylw Saesneg, 1 sylw Cymraeg bore ‘ma)

    Dw i’n croesawi Darlledu: Cam nesaf datganoli yn enwedig – dyn ni angen cynnwys unigryw yn Gymraeg. Mae Google Translate yn bodoli am bobol di-Gymraeg!

    Un o fy hoff rhannau o WalesHome yw’r sylwadau. Dw i’n meddwl bod y sylwadau yn well na ei cydymgeiswyr yn yr un categori o flogiau gwleidyddol yn Saesneg (Betsan Powys BBC, Wales Online / Western Mail). Fel arfer mae pobol yn cwrtais gyda enwau go iawn. Gyda llaw, faint o gymedroli dych chi’n wneud tîm WalesHome?

    Dyma cyfle i gefnogi gyda dy sylwadau.

    Dyw sylwadau ddim yn bopeth i llwyddiant blogio wrth gwrs. Ond bydd e’n ddiddorol i weld blog dwyieithog go iawn.

    Beth yw etiquette aml-ieithog? Dw i’n dilyn iaith y cofnod fel arfer.

    Fydd y sylwadau wastad yn mynd i Saesneg (fel Darlledu: Cam nesaf datganoli)?

    Allai’r ‘brand’ newid i flog dwyieithog? Neu ydy e’n rhy hwyr i ddechrau cofnodion Cymraeg?

    Pa fath o ddwyieithog?

     
    • Rhys Llwyd 11:07 AM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mae’n dda iawn fod yna beth stwff Cymraeg nawr yn ymddangos ar WalesHome, ond y gwir amdani yw fod angen gwasanaeth cynhwysfawr tebyg i WalesHome yn Gymraeg. Gyda stwff dwyieithog mae’r Saesneg wastad mynd i gael y flaenoriaeth ac mi fydd y sgwrs (hynny yw y sylwadau yn achos blog) yn sicr wastad yn troi at y Saesneg. Os byddai’r di-Gymraeg yn dysgu Cymraeg fel wyt ti wedi Carl yna byddai hi’n stori wahanol, ond yn anffodus ‘dy ni’n gwneud hi rhy hawdd i bobl fedru byw a dilyn gyrfa yng Nghymru heb ddysgu’r Gymraeg.

      Rwy’n cytuno gyda Gareth Miles na chaw ni wir Gymry ddwyieithog tan fod pawb yn siarad Cymraeg, hynny yw fod pawb yn siarad Saesneg a’r Gymraeg.

      Dwi’n ffafrio stwff uniaith Gymraeg, fel S4C, Coleg Ffederal Cymraeg, Eisteddfod ayyb… hynny yw sefyllfaoedd lle mae’r Gymraeg yn cael yr hawl i fod yn iaith ‘normal’ heb orfod troi i’r Saesneg. Dim ond mewn sefydliadau a chyhoeddiadau uniaith Gymraeg mae’r iaith yn cael yr hawl i fod yn iaith ‘normal’, mewn unrhyw gyd-destun arall, er gwaetha’r ewyllys da, fydd y Gymraeg byth yn fwy na tocenistiaeth.

    • Rhys 12:02 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mae’n ddatblygioad diddorol. Er cystal yw safon yr erthyglau ar WalesHome, mae’r sylwadau yn aml yn gallu mynd yn ddiflas ac y i lawr yr un cul-de-sac.

      Roedd yn diddorol na chwynodd neb am erthygl yn Gymraeg, ac fel soniodd y cyntaf i adael sylw (John Tyler, nid un o garedigion pennaf yr iaith Gymraeg), roedd darllen yr erthygl drwy GoogleTranslate yn ddigon iddo deall cynnwys yr erthygl.

      Unwaith mae sylwadau’n dechrau cael eu rhoi yn Saesneg, byddai’n anodd wedyn newid i’r Gymraeg (er bod GoogleTranslate yna i’r un sydd ei angen.

      Amser i ddefro i Gymru (sut i ennill refferendwm – 0 sylw)
      Time to wake up for Wales (yr un erthygl fersiwn Saesneg – 7 sylw)
      Darlledu: Cam nesaf datganoli (unigryw i Gymraeg – ond 9 sylw Saesneg, 1 sylw Cymraeg )

      Pan mae’r un erthygl ar gael yn y ddwy iaith, dw i’n meddwl mai’r un patrwm fydd bob tro – pawb yn gadael sylw’n Saesneg.

      Er na fydd yn gwarantu bydd y sylwadau’n Gymraeg, credaf bod cael ychydig o erthyglau gwreiddiol ac yn y Gymraeg yn unig yn bwysicach na llawer o erthyglau wedi eu trosi o’r Saesneg.

      (Dw i ddim 100% ond ydy hi”n bosib byd y sylw Cymraeg a ferswin Cymraeg Darran wedi ei creu drwy ddefnyddio GoogleTranslate? – mae un neu ddau brawddeg yn swnio’n chwithig,ond gall hyn fod gan nad yw’r ddau awdur wedi sgwennu’n Gymraeg yn ddwieddar).

    • Carl Morris 2:22 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n cytuno bois.

      Rhys Llwyd, hollol. (Bydda i ychwanegu Theatr Genedlaethol i’r gofrestr hefyd!)

      Roedd S4C angen ymgyrch, deddf newydd, ayyb. Ar y we dyn ni angen amser, syniadau a chod agored YN UNIG.

      Mae “cymunedau arlein” dwyieithog yn maes astudiaeth diddorol iawn (e.e. gwaith Daniel Cunliffe). Dw i ddim yn hapus gyda aml-ieithyddiaeth ar unrhyw gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter. Baswn i croesawi rhywbeth amlieithog go iawn.

      Ond yn sicr dyn ni angen “cymunedau arlein” a “sianelau chyfryngau” unieithog. ANGEN. NAWR.

      Dw i’n cytuno gyda ti a Gareth Miles. Dw i’n cytuno gyda Guardian ayyb hefyd. Os ti’n postio sylw yn unrhyw iaith ar y Guardian dyn nhw ddim yn ei derbyn. Pam ddylen nhw? Mae fe’n papur Saesneg. Rhaid i ni tyfu ein cymunedau ein hun.

      Dw i eisiau gweld Cymraeg fel iaith i drafod unrhyw beth a phopeth arlein. Dyma pam wnes i dechrau Y Twll – fel “atodiad celfyddydol dychymyg mewn Y Byd”. Dw i dal yn croesawi cyfraniadau. :-)
      Dylet ti sgwennu rhywbeth (neu gwneud fideo – o leia). Mae’r plant yn aros, maen nhw yn ymweld gwefan 50 Cent yn lle.

      OND yn anffodus dyw Cymraeg ddim yn opsiwn diofn bob tro. Er enghraifft, mae hwn yn eitha sili – erthygl am S4C gan siaradwr Cymraeg ond yn Saesneg.

      Os dyn ni ddim yn gallu llenwi’r we gyda erthyglau Cymraeg am GYMRU, beth yw’r gobaith o we Gymraeg am bethau rhyngwladol?

      Rhys Llwyd, dylet ti dechrau’r blog gwleidyddol! Pwy arall fasai?

      Gyda llaw, mae gyda fi project debyg ar y ffordd…

    • Rhys Llwyd 2:58 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dwi’n cytuno Rhys fod safon yr erthyglau Cymraeg ar WalesHome ddim cystal â’r rhai Saesneg. Ond maen nhw’n rhy dda i fod wedi eu creu ar Google Translate, dwi’n amau mae Darran sydd allan o’r arfer o sgwennu ffurfiol ar destun proffesiynol yn Gymraeg. Mae’n debyg fod gwers fan hyn hefyd i’r ‘Gymru ddwyieithog’ – dydy crap ar y Gymraeg ddim yn eich gwneud chi’n gyflawn ddwyieithog. Rhaid medru trin y ddwy iaith cystal a’i gilydd mewn swyddi proffesiynnol.

      Dwi’n meddwl fod angen blog Gwleidyddol Cymraeg, rhywbeth tebyg i beth ddaeth Metastwnsh i’r byd technoleg. Ond mae yna rai ffactorau sy’n milwrio yn erbyn hyn, ac yn bersonol mi fasw ni felly ddim am fod yn rhan o brosiect tebyg. Un o gryfderau WalesHome yw bod gen ti ystod dra eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli gan y cyfranwyr. Byddai hi’n anodd cael amrediad eang o safbwyntiau ar wefan Gymraeg ac yn bersonol buaswn i ddim am gael rôl olygyddol ar wefan sy’n cyhoeddi stwff gan unoliaethwyr, pobol sy’n amheus o ehangu hawliau siaradwyr Cymraeg, safbwyntiau gwrth-Gristnogol ac a ti. Nid mod i ddim am fynd i drafodaeth gyda’r bobl yma (oherwydd mi ydw i mewn llefydd eraill), ond dydw i ddim chwaith am gyhoeddi syniadau’r bobl yma.

      Yn anorfod, a ddim bod hwn yn beth drwg o’r rheidrwydd, mi fyddai gan y WalesHome Cymraeg ogwydd tuag at Blaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith.

      Rhan o lwyddiant WalesHome hefyd yw bod pobl fel Darran, a rhai o’r cyfranwyr eraill, yn gweithio yn y byd gwleidyddol beth bynnag. Ac felly maen nhw’n gallu gwneud y gwaith fel rhan atodol o’u gwaith bob dydd. Fel Metastwnsh, fyddai hynny ddim yn bosib gyda rhywbeth tebyg i WalesHome yn Gymraeg gan y byddai’n anorfod yn dibynnu ar amaturiaid fel ni.

      Ond wrth gwrs mae gyda ni flogwyr sydd yn trafod gwleidyddiaeth yn Gymraeg, er mod i yn genedlaetholwr fi ydy’r unig flogiwr gwleidyddol sydd ddim yn Flogiwr Plaid. Mae Guto Dafydd, Blog Menai etc….. i gyd yn flogwyr pro-Plaid.

      Fy ateb felly…? Dwi ddim yn gwybod! Ond dwi’n meddwl fod tystiolaeth yn dangos mae’r blogiau mwyaf poblogaidd ydy rhai arbennigol. Mae fy mlog Cymraeg i’n trafod popeth tra fod fy mlog Saesneg i’n trafod ffydd yn unig. Mae darlleniad y blog Saesneg yn sylweddol uwch ond nid oherwydd ei fod yn Saesneg dwi ddim yn meddwl, ond yn hytrach mod i wedi ffeindio ffans gan mod i’n blogio ar un pwnc yn unig.

    • Carl Morris 2:09 PM ar 6 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Gyda llaw:

      S4C dwyieithog
      Theatr Gen dwyieithog
      toriadau Eisteddfod

      Pam nawr? Caledi’r economi yn unig? Neu ydyn nhw yn hen drafodaethau?

    • Dafydd Tomos 8:18 PM ar 6 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Hen hen ddadleuon sy’n uffernol o boring i Gymry Cymraeg. Pan mae arian yn brin dwi’n meddwl fod pobl yn eiddigeddus o’r arian (weddol gyfyngedig mewn gwirionedd ond yn reit sicr) sy’n cael ei roi i sefydliadau Cymraeg.

      I fynd ychydig oddi ar y pwnc neu falle pwnc cysylltiedig, dwi’n meddwl fod tueddiad i ddiwylliant Cymraeg fod yn or-ddibynnol ar sefydliadau mawr. Mae hyn yn naturiol i raddau.. mae angen cyfuno cynulleidfaoedd er mwyn cael critical mass. Felly er enghraifft mae’r Eisteddfod yn cronni diwylliant Cymraeg ond eisiau tyfu ac ehangu o hyd – mae hyn er mwyn dangos ‘poblogrwydd’. Mae’r un peth yn wir am S4C – mae’n rhaid iddo apelio at pawb a phopeth i bob oedran ac am bob testun dan haul. Mae hyn yn ‘cyfiawnhau’ y gwariant. Sdim byth sôn am greu ffynonellau amgen o greu cynnwys Cymraeg ar sianeli eraill neu’r we neu yn wir unrhyw gyfrwng arall – mi fyddai hyn yn “gwanhau’r” sianel.

      Dyw’r pwyntiau uchod ddim yn rai newydd iawn chwaith, ond mae’r ddadl yn anoddach mewn amseroedd caled.. y demtasiwn o hyd wedyn (gan wleidyddion yn enwedig) yw cyfuno popeth mewn i llai o sefydliadau ond rhai mwy, eto yn enw ‘arbed arian’.

    • Rhys Llwyd 9:03 AM ar 7 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Cytuno gyda Dafydd, eiddugedd o dŷ’r Cymry di-Gymraeg yw’r unig beth sy’n gyrru pobl i alw ar S4C a’r Theatr Genedlaethol i droi yn seyfliadau dwyieithog. Eiddugedd a diffyg dealltwriaeth o hanfon diwylliant lleiafrifol. Does ond rhaid edrych ar y cannoedd o sianeli Seasneg neu ymlwybro mewn i HMC, Odeon neu Cineworld i sylwi nad oes angen leg up ar y diwylliant Saesneg.

      Wrth gwrs mae yna gwestiynnau sy’n rhaid eu wynebu o ran y diwylliant anglo-Gymreig, ond a bod yn onest fe ddyliai diwylliant 75% o bobl Cymru (y rhai di-Gymraeg) medru gofalu ar ol ei hun yn annibynol ac yn fasnachol. Ac er mod i’n gweld fod yna ddiffyg diwylliant anglo-Gymreig gynghenid yng Nghymru, a bod yn onest does fawr o ots gen i!

    • Rhys Wynne 3:50 PM ar 17 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Cwestiwn mwy dyrrus, beth wnewch chi os ydach chi’n wefan gyfan gwbl Gymraeg, ac mae rhwyun yn gadael sylwadau yn Saesneg?

    • Carl Morris 4:01 PM ar 17 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mae’n dibynnu arnoch chi ac eich polisi blog – termau, amodau, “rheolau’r tŷ”. Dylen nhw fod yn gyson a chyhoeddus rhywle ar eich gwefan.

      Er enghraifft mae BBC yn dileu sylwadau di-Saesneg ar rhai o’u blogiau.

      Ond mae BBC yn glir iawn.
      http://www.bbc.co.uk/terms/#5

    • Rhys Wynne 8:38 AM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Ti’n iawn, mater berchenog y blog ydy o. Dw i’n siwr mai allan o ‘gwrteisi’* yr ymatebodd Ifan yn Saesneg wedyn, ond roedd y sawl a adawodd sylw unai ‘n deall Cymraeg ysgrifeniedig, neu wedi defnyddio GoogleTranslate i allu darllen y cofnod gwreiddiol y ny lle cyntaf, felly doedd dim angen ymateb yn Saesneg ‘sbo.

      *gwendid mwya’r y Cymry Cymraeg

    • Carl Morris 11:08 AM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dyn ni angen mwy o ‘gwmnïau cyfryngau unieithog’ Cymraeg (dw i’n gallu gweld gwahaniaeth rhwng y categori a blogiau personol).

      Dyma beth dw i’n trio wneud gyda Y Twll (heb cyllideb).

      Er enghraifft, dw i’n osgoi retweets o Saesneg, dw i’n cyfieithu yn lle.
      e.e. http://twitter.com/ytwll/status/19777629822

      Mwy am drafodaeth isod. Wrth gwrs rwyt ti wedi gweld nhw yn barod.

      sylw Cymraeg
      http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:6f3e0e17-a824-48fd-9eca-75d66f3c874e

      ateb gan Guardian
      http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:9b28fe30-76e9-4733-b652-f313539dfe53

      atebion gan mississumner / benbore, y dirgel
      http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:baeac775-77ef-46e0-9de8-41c4aab1ea5e

  • Carl Morris 11:22 PM ar 1 June 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , cynnwys,   

    Directgov – API newydd ar gael, am eu cynnwys 

    http://puffbox.com/2010/06/01/directgov-unveils-syndication-api/

    Fy hoff darn

    Reckon you can do a better job of presenting Directgov’s content, in terms of search or navigation? Or maybe you’d prefer a design that wasn’t quite so orange? – go ahead. Want to turn it into a big commentable document, letting the citizens improve the content themselves? – well, now you can.

    Mae cyfle mawr i greu systemau i ail-ddefnyddio cynnwys a thrafod e.

     
  • Carl Morris 11:13 AM ar 30 May 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , cynnwys,   

    Casgliad y Bobl 

    Ble mae’r beta?

    http://www.peoplescollection.org

    Cefndir (Saesneg yn unig)

    http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/drnewhomepage/leisuredrs2/Leisuredrs2008/proplescollection2008-011/?skip=1&lang=cy

     
  • Carl Morris 11:21 AM ar 27 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Blackboard, , cynnwys, , , , , Moodle, , ,   

    Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog) 

    Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.

    Pynciau wnaethon ni trafod:

    • Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
    • addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
    • syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
    • ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
    • Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
    • Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
    • Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
    • Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
    • Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
    • Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
    • Gemau / mods
    • Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored

    Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.

    Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)

    Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.

     
  • Carl Morris 3:24 PM ar 18 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynnwys, film   

    Filmdash 

    Syniad da – creuwch ffilm byr mewn 48 awr.

    http://filmdash.com

    Enillwr eleni.

    http://filmdash.com/2010/03/17/winner-film-dash-2010/

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu