Tagiwyd fel: cynhadledd RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 1:32 PM ar 6 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynhadledd, ,   

    Bonus Haclediad! Fideo o’r Haclediad a recordiwyd yn Hacio’r Iaith 2011 

     
    • Carl Morris 1:44 PM ar 6 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Waw, fel ddoe. Diolch!

  • Hywel Jones 10:14 PM ar 12 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , cynhadledd, , , OpenTech   

    Cynhadledd Opentech 2010 

    Dyma ychydig o nodiadau am beth ddysgais neu welais yng nghynhadledd OpenTech 2010. Mae manylion pwy oedd yno, a rhagor, ar Lanyrd.

    Cafodd y gynhadledd ei noddi eleni gan data.gov.uk a’r sesiynau am ddata oedd yr rhai oedd o ddiddordeb pennaf i mi. Efallai i mai’r sesiwn cyntaf oedd y mwyaf diddorol o’m safbwynt i. Cawsom wybod am gefndir data.gov.uk ond yn benodol cawsom ddemo o Gridworks. (Google bia fe nawr a dywedwyd eu bod yn mynd i newid ei enw cyn bo hir). Mae Gridworks yn edrych fel teclyn a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol i lanhau data ac mae hefyd yn gallu allforio data i fformat rdf. Mae’r cofnod blog yma yn egluro sut mae ei ddefnyddio.

    Soniaf am un sesiwn arall, un gynhwysodd gyflwyniad gan Phil Gyford am greu gwefan gan ddefnyddio API Platfform Agored y Guardian sy’n cyflwyno rhywbeth tebyg i gopi papur y Guardian: http://www.guardian.gyford.com/. Mae’n werth rhoi golwg arno.

     
    • Carl Morris 10:36 PM ar 12 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Diolch Hywel. Es i i OpenTech yn 2009. Baswn i wedi blogio fe yma ond mae Hacio’r Iaith wedi bodoli am 8-9 mis yn unig! Gwnaethon nhw trafod Guardian API a Data Store hefyd llynedd. Digwyddiad gwych.

  • Rhodri ap Dyfrig 10:02 PM ar 13 May 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: #merc10, , cynhadledd,   

    Hacio’r Iaith Bach: Aberystwyth 19.5.10 – 6.30pm 

    Mae cyfle i bawb sydd a diddordeb mewn trafod y we Gymraeg a’r we mewn ieithoedd lleiafrifol i ddod at eu gilydd yn Aberystwyth ar ddydd Mercher y 19eg o Fai am 6.30pm.

    Mae’r sesiwn Hacio’r Iaith Bach yn digwydd ar ddiwedd cynhadledd ryngwladol Rhwydwaith Mercator ond yn agored i unrhywun, ac am ddim. Bydd cwrw a bwyd ar gael i bawb sy’n dod.

    Ie, cwrw am ddim. Be well!

    Bydd o’n digwydd yn foyer Adeilad Parry-Williams, ar Gampws Penglais, lle cynhaliwyd Hacio’r Iaith fis Ionawr. Mae map yma.

    Mae’r gynhadledd yn canolbwyntio ar gydgyfeiriant cyfryngol ac amrywiaeth ieithyddol felly mae’n eithaf perthnasol i be da ni wedi bod yn ei drafod. Bydd pobol yno o ledled Ewrop yn sôn am eu profiadau o ymwneud â ieithoedd lleiafrifol ar y cyfryngau aml-blatfform.

    Y bwriad o roi Hacio’r Iaith Bach ar ddiwedd y gynhadledd ydi rhoi cyfle i bobol sydd yn yr ardal i ddod i gyfarfod â rhai o’r cynhadleddwyr a sôn am eu projectau neu ddatblygu projectau eraill. Felly os da chi isio cyfarfod pobol o dramor neu jest isio sgwrs efo’ch gilydd am broject penodol bydd croeso i bawb.

    Bydd yn reit anffurfiol ond bydd cyfle i chi ffurfio grŵpiau bach trafod os bydd digon o bobol.

    Gallwch chi ddilyn trafodaethau am y gynhadledd ar Twitter trwy ddilyn y tag #merc10

    Dewch yn llu, neu jest dewch yn dri, neu jest chi, bydd croeso mawr. :)

     
    • Carl Morris 2:14 PM ar 14 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Hoffwn i ddod, gobeithio

    • Gareth Morlais 6:55 AM ar 17 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Dwi’n dol i gynhadledd Mercator ond yn anffodus dwi’n gorfod gadael cyn HIB. Joiwch.

  • Rhodri ap Dyfrig 1:53 PM ar 28 January 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cynhadledd, helo, sticeri   

    Sticeri Adnabod 

    Da ni wedi creu set o dempladau ar gyfer creu sticeri “Helo” ar gyfer Hacio’r Iaith. Cliciwch ar y ddelwedd i weld y set gyfan.

    Oes ganddoch chi awgrym am un mewn tafodiaith arall?

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu