Pan ddarllenais y canlynol ar wefan newyddion Eitb;
Lurdes Auzmendi, Deputy Secretary for Linguistic Policy in the Basque Government, stressed the importance of Microsoft’s support for the Basque language via some of its most recent tools, and highlighted “some of the key projects that will get underway this year” such as “the creation of 10,000 topics in the Basque language to be published in Wikipedia; the activation of an automatic translation system and the creation of a Public Bank of Traslation Recall.”
..ro’n i’n meddwl mai rhyw gamgymeriad oedd wedi bod wrth adrodd bod y 100,000fed erthygl wedi ymddangos ar y Wikipedia Basgeg. Ond o holi ymhellach, ces eglurhad bod Llywodraeth Euskadi (Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg) newydd osod tendr ar gyfer y gwaith o greu 10,000 erthygl.
Mae’r manylion yma mewn Basgeg a thrwy GoogleTranslate fan hyn.
Mae manylion am hyd y cytunedb (5 mis) a’i werth (169,400 Ewro), ond allai ddim agor y ddogfen pdf.do i wybod mwy. Hoffwn wybod pa erthyglau caiff eu dewis ac o ba iaith byddant yn cyfieithu, neu a fyddant yn cael eu creu o’r newydd. Y rheswm hoffwn wybod yw gan bod erthyglau Wikipedia o mhrofiad o ddarllen rhai Saesneg (a rhai Cymraeg) yn gallu bod yn bell o ddi-duedd. Os darllenwch chi dudalen sgwrs erthyglau am bynciau llosg, megis iaith, gwleidyddiaeth a diffiniadau cenedlaethol yng Ngwlad y Basg a Catalonia, mae ffraeo ffyrnig rhwng cenedlaetholwyr Sbaenaidd/Ffrening a rhai Basgaidd. A thra bod gweinyddwyr yn ceisio dod i gyfaddawd, tydy’r canlyniadau ddim yn foddhaol bob tro. Dychmygaf bod y sefyllfa yr un fath neu’n waeth ar Wicipedai’s Sbaeneg a Ffrangeg a fyddair safbwyntiau hynny ddim yn dderbyniol gan Lywodraeth Euskadi.
Diweddariad: Er bod y llywodraeth yn bwriadu talu 170K Ewro am y gwaith, ymddengys nad ydyn wedi dod i gysylltiad gyda gweinyddwyr y Wikipedia Basgeg i drafod pa erthyglau sydd eu heisiau. Yr un hen stori!
Huw 10:19 AM ar 3 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Presenoli?
Rhodri ap Dyfrig 10:49 AM ar 3 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Presenoli / Presenoliad?
chydig mwy o opsiynau…
Lleoli / Lleoliad
Marcio lle / Marc lle
Nodi lle / Nod lle
Nodi Lleoliad / Nodyn Lleoliad
Mapnodi / Mapnod
Dafydd Tomos 11:06 AM ar 3 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Dwi’n hoffi “nodi lle”. Mi fyddai’n bosib trio bathu rhywbeth tebycach i’r arddull saesneg fel lleol-nodi neu cof-leoli ond mae “nodi lle” yn eitha amlwg i rywun sydd heb glywed y term.
Neil Shadrach 4:50 PM ar 3 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Dyma beth sydd ar wefan maes awyr Caerdydd:
‘cofrestru’ – ‘to check in’
‘wedi eu cofrestru’ – ‘checked in’
Os felly a fyddai ‘man cofrestru’ yn iawn ar gyfer ‘check-in (point)’?
ifanceinion 1:54 AM ar 4 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Mae’r gair “mapnodi” yn grêt am “sticio pin mewn map Google”. Ond ddim yn swnio fel ‘checkio mewn’ i mi.
Nodi lle / nodiad lle ydi’r gora mae’n debyg.
(I osgoi’r dryswch cofnodyn/cofnodau, fyddai rhywbeth fel “cofnodiad” yn gweithio yn lle? Neu ydi hynna’n swnio’n rong?)
Rhodri ap Dyfrig 3:30 PM ar 9 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Nesh i ddefnyddio nod lle / nodi lle yn y diwedd am ei fod yn gryno ac yn esbonio’i hun i raddau. Diolch i bawb nath helpu!