Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad
Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. [...]
Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw
Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol Hacio’r Iaith. Beth mae pobol yn meddwl?
Ym mhersonol es i yn syth i weld pa fath o strategaeth cynnwys Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma fy hoff ddarn sy’n sôn am mynediad agored i rai o’r cynnwys:
Ni fydd llawer o’r adnoddau yn y casgliad wedi’u cyfyngu at ddefnydd gan athrawon a dysgwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr dysgu yng Nghymru; oni fydd, er enghraifft, trwyddedau yn gwahardd hynny, byddan nhw ar gael i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, naill ai mewn lleoliad ffurfiol, fel coleg, neu mewn ffordd llai ffurfiol. Felly bydd y casgliad yn gweithredu fel llyfrgell adnoddau ac offer gyhoeddus fawr bydd unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, ni waeth beth fo’i oedran, cefndir na chymhelliant, yn gallu ei defnyddio.
Ond dyw e ddim yn glir pam fydd angen trwydded newydd ar gyfer rhai o’r cynnwys:
Paratoi cyfres o drwyddedau safonol ar ffurf debyg i Creative Commons i’w cymhwyso i’r adnoddau hyn, a thrwy hynny annog pobl i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at ddibenion addysgol.
Gweler Joi Ito ar y broblem o drwyddedau anghydnaws. A pham ‘dibenion addysgol’ yn unig?
O ran y casgliad enfawr bydd angen system rheoli cynnwys cryf a chyfeillgar. Mae sôn am ddefnydd o ‘ffynhonnell agored’ (sef cod agored) yn yr adroddiad ac mae sefydliadau o gwmpas y byd wedi dosbarthu systemau tebyg dan GPL neu hyd yn oed OGL. Gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cwmniau Cymreig i gynnal y system ac yn ail-dosbarthu unrhyw addasiadau dan drwydded cod agored (fel y mae alphagov wedi bod yn ei wneud).
Wel, beth mae pobol yn meddwl?
Efallai dylwn i lanlwytho’r peth i Skdadl, mae’r ffeil adroddiad wedi cael ei cyfansoddi ar gyfer print – does dim modd sgwennu dolen dwfn i adrannau penodol mewn PDF.


Huw 11:59 PM ar 17 Awst 2011 Dolen Barhaol
Dim syniad beth ydy’r trwydded efo rhein http://courses.csail.mit.edu/ ond mae hwn yn arbennig o dda http://courses.csail.mit.edu/6.006/spring11/resources.shtml
Carl Morris 6:54 PM ar 18 Awst 2011 Dolen Barhaol
Mae rhai ar MIT yn CC-BY-NC-SA yn ôl http://courses.csail.mit.edu/6.042/fall11/ sy’n dda ond ddim mor dda â CC-BY!
Rhys Wynne 12:39 PM ar 19 Awst 2011 Dolen Barhaol
Rhywbeth arall, sy’n berthnsol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw y gallai fod o helo yn darbwyllo darpar fyfyrwyr i’r CCC bod deunydd dysgu Cymraeg yn safonol ac yn bwysicach fyth yn ddealladwy.
Pan roeddwn i’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor (1996-1999), ro’n i’n ffodus iawn i allu dilyn fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr adran (hen adran o’r Coleg Normal gynt) yn cynnig pop un o’u pedwar neu bump cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Beth synnodd fi oedd, bod y myfyrwyr o Arfon a Phenllyn (Cymry Cymraeg wrth reswm) yn dewis mynychu’r darlithoedd Saesneg a cyflwyno eu aseiniadau’n Saenseg. Dw i’n meddwl mai diffyg hyder yn eu Cymraeg ysgrifenidig eu hunain oedd y rheswm, yn hytrach na amheuaeth am safon y nodiadau a’r handouts – er, a heb fod yn gas, prin oedden nhw’n medru sarad Saesneg (!)
Byddai dangos y nodiadau a fidoes o ddarlihoedd efallai’n cynorthwyo i ddangos y byddant yn deall y Gymraeg sy’n cael ei ddefnyddio. Mae’n siwr mai hwn yw un o sialensau fwyaf y CCC.
Carl Morris 11:33 PM ar 21 Awst 2011 Dolen Barhaol
Pwynt da iawn Rhys, rheswm arall pam ddylen nhw fod mor agored â phosib gyda’r stwff – yn fy marn i
Dafydd Trystan 8:59 AM ar 23 Awst 2011 Dolen Barhaol
Gyfeillion
Diolch am eich sylwadau. Rwy’ wrthi’n llunio paper ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei nodi isod – er dwi ddim yn siwr faint o ddiddordeb fydd yn y Coleg Cymraeg yn Teeside! Be’ sy’n ddiddorol yw fod diddordeb mawr yn natblygiadau’r Coleg ac adnoddau sy’n cael eu rhannu – fel enghraifft o’r hyn y gellir ei wneud ar yr ochr Saesneg. Y drafferth ry’n ni’n ei gwynebu ar adegau yw materion hawlfraint, sy’n arwain at fwy o gyfyngiadau na buaswn i’n hoffi yn ddelfrydol. Os oes gennych unrhyw sylwadau / awgrymiadau cadwch mewn cysylltiad.
http://csapopencascade.wordpress.com/2011/07/19/strictly-come-cascading%E2%80%A6at-teesside-university-16-september-2011/
Carl Morris 7:27 PM ar 23 Awst 2011 Dolen Barhaol
Dafydd – pa fath o drafferth gyda ‘materion hawlfraint’?
Diolch am y sylw.
Carys Underdown 11:46 PM ar 23 Awst 2011 Dolen Barhaol
Un problem hawlfraint posibl yw gyda gwaith ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi mewn cylchgrawn academaidd sydd yn y tu ôl i ‘firewall’ ac yn gwrthod caniatad i’r awdur hyd yn oed ei gyhoeddi ar ei wefan ei hun. Dyna broblem sydd yn wynebu ffrind imi sy’n credu mewn pethau fel Creative Commons ac Open Source, ond mae’r cylchgronau pwysicaf yn ei faes yn cyfyngu ar fynediad yn y ffordd hon.
Rhys Wynne 8:58 AM ar 24 Awst 2011 Dolen Barhaol
@Carys Galla i ddeall yr anhawster mewn achos felly. (Er petawn i’n academydd, baswn i eisiau i g7ymaint o bobl a phosib weld ffrwyth fy ngwaith, yn yn dweud wrth y cylchgrawn academaidd ble i fynd a chyhoedid’r peth arlein fy hun!)
Beth am nodiadau darlith a fideos ‘ta? Ydy’r Coelg neu’r darlithydd yn hawlio hawlfriant dros y rhain? Os ydynt, allan nhw ddim newid eu telerau, fel mae Stanford ac MIT yn amlwg wedi ei wneud?
Os mai darlithwyr eu hunain sy’n hawlio’r hawlfraint dros y gwaith maen nhw wedi ei baratoi, mae’r un pwyntiau ynglyn a ‘hyrwyddo’ yn berthnasol iddyn nhw – bydd yn ategu eu henw da ac o gymorth iddynt os ydynt am ddatblygu eu gyrfa.
Annette Strauch 11:33 AM ar 24 Awst 2011 Dolen Barhaol
Wedi defnyddio rhai o gyrsiau gan y Prifysgol Stanford, Carl.
Carl Morris 2:27 PM ar 24 Awst 2011 Dolen Barhaol
Annette – wyt ti wedi ei addasu i Gymraeg?! Rhannwch!
Annette Strauch 2:44 PM ar 31 Awst 2011 Dolen Barhaol
Dim yn barod eto, Carl….Byddaf!
Dafydd Trystan 8:49 AM ar 1 Medi 2011 Dolen Barhaol
Gyfeillion
Diolch i chi am eich sylwadau. O ran hawlfraint mae’n rhaid i’r defnydd gan y Coleg fod yn gyfystyr a ‘fair use’ am ddeunyddiau mae’r Coleg yn ei osod ar y Porth. Mae hyn yn caniatau defnyddio eitermau wedi eu cydnabod ar gyfer pwrpasau addysgol – ond rhannau yn unig o gyhoeddiadau a ganiateir. Felly er y gallai darlithydd daearyddiaeth dyweder defnyddio siart o lyfr, neu ddiagram; ni fyddai darlithydd drama yn gallu digideiddio drama cyfan sydd allan o brint (heb ganiatad y deilydd hawlfraint). Mae modd gwneud cais am ganiatad o’r fath, ond yn aml rydym yn cael yr hawl i gyhoeddi am gyfnod penodedig ac yn gaeedig ar gyfer myfyrwyr ar fodiwl neu gwrs penodol.
Parthed nodiadau darlith a fideos, os yw’r Coleg yn ariannu datblygiad y cwrs rydym yn gosod amod fod y cwrs ar gael ar y Porth a’r rhagdybiaeth fod hynny ar gael mor agored a phosib (gan nodi rhai o’r heriau uchod). Yn ymarferol mae rhai o’r darlithwyr mwyaf blaengar yn defnyddio cyflwyniadau aml-gyfryngol bellach i gyflwyno testunau.
Rhys Wynne 12:26 PM ar 5 Medi 2011 Dolen Barhaol
Diolch am ddod yn ol ag ateb mor fanwl, Dafydd. Mae’n dda gwybod bod CCC yn rhoi cymaint o ystyriaeth a phwyslais ar rannu deunydd drwy Y Porth.
Yn y cyfamser, dw i hefyd wedi dod ar draws cyfres o nodiadau CAD and Digital Tutorials gan Ysgol Bensaerniaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd (ar Issuu). Neis.