Tagiwyd fel: cod agored RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
-
Carl Morris
-
Carl Morris
cy.wordpress.org
Rydyn ni’n gweithio gyda’r cymuned WordPress ac Automattic ar wefan swyddogol WordPress Cymraeg.
Cynllun: rhywle canolog am WordPress Cymraeg. Bydd e’n bosib mynd i cy.wordpress.org a lawrlwytho pecyn Cymraeg heb ffwdan.
1. Mae’r wefan cy.wordpress.org yn rhedeg WordPress gyda thema arbennig Rosetta. Dw i dal yn cyfieithu’r thema.
2. Mae WordPress 3.0 ar y ffordd. Mae fersiwn beta ar gael yn barod. Mae gyda ni tua 2 wythnos i wneud cyfieithiadau rhwng “ymgeisydd rhyddhad” a rhyddhad swyddogol. Rydyn ni’n gallu adeiladu ar gwaith Iwan Standley a Rhos Prys. Felly bydd e’n bosib lawrlwytho’r fersiwn Cymraeg newydd ar yr un tro Saesneg, Sbaeneg a llawer o fersiynau eraill o gwmpas y byd!
Wyt ti’n gallu helpu? Dweda yn y sylwadau os gwela di’n dda! Does dim angen profiad o flaen llaw. Dylen ni defnyddio Poedit neu meddalwedd debyg.
Bydd y côd ar gael i bawb wrth gwrs dan trwydded GPL. Mae wordpress.com yn gallu defnyddio’r côd hefyd neu unrhyw gwasanaeth arall.
Byddi di’n cyfrannu i’r genhedlaeth nesaf Cymraeg arlein, creu cyfleoedd gwaith newydd i dylunwyr/côdwyr ayyb, ysbrydoli pobol eraill a gobeithio dysgu rhywbeth.
-
Gruff Prys
-
Gruff Prys
Chris??? Pwy ydi Chris??? Carl dwi’n feddwl wrth gwrs! Sori!
-
Carl Morris
Iawn, diolch! Nai siarad gyda fe.
Carl Morris
Cod agored BBC Vocab
Dw i newydd wedi ychwanegu’r dolen côd agored BBC Vocab i Hedyn
Mae’r côd dan drwydded côd agored arbennig BBC. Mae’n hollol bosib creu ategion Firefox, WordPress, ayyb gyda fe.
Carl Morris
Paid prynu iPad
fy marn i
http://quixoticquisling.com/2010/04/paid-prynu-ipad-os-oes-unrhyw-ddiddordeb-gyda-ti-yn-yr-iaith/
Dw i eisiau prynu uned amgen a datblygu shwmaePad.
-
Rhodri ap Dyfrig
Neu Bangor-aye-Pad. Dwi’n gynyddol siomedig nad oes yn 2010 unrhyw ffordd o gael Cymraeg ar yr Apple Mac. Cachu.
-
Alan Chamberlain
Dw i’n chwilio am rywbeth fel gliniadur touchscreen ar hyn o bryd. Wyt ti wedi gweld un rhywbeth fod ti’n lico? Wyt ti wedi gweld y HP TouchSmart tm2t?
-
Carl Morris
Rhodri, ti’n gallu defnyddio Ubuntu a rhyngwyneb GNOME gyda’r lleoleiddiad? Ti’n gallu cael cychwyn-deuol gyda OS X (“the world’s most advanced OS”)?
Bydd Dafydd, Iestyn, Rhys, Telsa a Thomas yn hapus i ffeindio rhywun arall i helpu hefyd.

http://l10n.gnome.org/teams/cyAlan, dw i wedi gweld e ond does dim profiad gyda fi. Rhywun arall?
-
Rhodri ap Dyfrig
Ond dwi ddim eisiau Ubuntu – dwi eisiau Mac! Doeddwn i ddim wir yn hoffi Ubuntu ar yr Eeepc. Sori Linux fans ond mae’n well o lawer gen i Vista neu OS X. Dydi’r ffaith bod o ar gael yn Gymraeg ddim yn deal-breaker o ran dewis pa OS i’w ddefnyddio. Mae’n rhywbeth rhy hanfodol i’r profiad o ddefnyddio’r cyfrifiadur.
-
Carl Morris
Iawn, mae gen ti ddewis Rhodri!
Mae Apple yn creu pethau da, dw i’n deall.
Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.
Fydd Apple ddim yn arwain. Pwy fydd yn arwain a dylanwadu cwmniau mawr? Côd agored, Linux, Android, mwy na thebyg.
Ond dydy Apple ddim yn barod eto. Er enghraifft, bydda i’n eitha siomedig os dw i’n gweld iPad yn yr ysgolion Cymraeg. Dydy’r Gymraeg ddim ar gael heblaw nifer bach o apps. Y neges i’r plant yw: dydy Cymraeg ddim yn pwysig yn y byd technoleg.
“Dylanwad” yw fy hoff gair ar hyn o bryd. Dyma pham dw i’n hoffi Richard Stallman. Oedd e’n afresymol. Creuodd e Free Software Foundation. Dechreuodd e mudiad. Dychmygu byd heb GPL. Dim Linux, dim Firefox, dim WordPress, dim Apache, dim Perl, dim PHP, dim Ruby on Rails…
Mae newid yn hollol bosib.
Heddiw? Mae Apple yn hybu eu meddalwedd nhw. Ond mae amgen côd agored Cymraeg yn bodoli. Ydy pobol normal yn gwybod bod amgen yn bodoli? Pwy sy’n hybu’r amgen?
Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?
-
Rhodri ap Dyfrig
>> Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.
Mae byw dy fywyd mewn dull eilradd yn diflasu rhywun weithia. Gorfod gofyn am daflenni yn dy iaith, gorfod cwyno am bopeth…mae defnyddio OS Linux, sydd dal ddim digon hawdd i’w ddefnyddio a’i lwytho yn rhoi profiad cyfrifiadura eilradd.
Mae’n gachu nad oes gan Apple unrhyw fwriad i gynnwys ieithoedd eraill heb sôn am ieithoedd lleiafrifol, ond dwi ddim yn teimlo bod gen i ddewis. Y dewis yw Windows / Mac, ar hyn o bryd. Efallai y daw Ubuntu i fod yn system sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ar desktops, fel sydd wedi digwydd gyda Android ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae’n or-gymleth, hyd yn oed i gîc (honedig) fel fi.
Roedd Xandros ar yr Eeepcs i ddechrau – newidiais i o i Eeebuntu, oedd yn Gymraeg. Gret. Gofynnodd y system os o’n i isio diwedaru’r feddalwedd i roi bug fixes. Dwedais ‘ydw’, ond fe lwythodd o fersiwn gyfan o Ubuntu arno yn lle’r fersiwn ysgafn Eeebuntu oedd gen i yn wreiddiol. Dwi rwan wedi gorfod ail-osod Eebuntu (ar drydydd partition achos sgen i ddim clem sut ma gneud y sdwff disg galed na) ac mae’r peiriant yn rhedeg yn araf. Dwi’n galw hynna’n brofiad cwsmer gwael, ac oherwydd mod i wedi trio ei gael yn Gymraeg.
Oes bai arna i am fynd am yr ‘opsiwn hawdd’, sydd yn anffodus yn brofiad Saesneg? Mae rhywun yn trio byw ei fywyd yn y Gymraeg gymaint ag sydd bosib, ac yn trio bod yn ‘afresymol’. Mae bywyd siaradwr Cymraeg yn ‘afresymol’ yn ôl confensiynau y gymdeithas da ni’n byw ynddi!
>> Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?
faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu. Dwi o’r farn ar hyn o bryd taw nid y caledwedd na’r feddlawedd sydd bwysig ond meddylfryd y bobol sy’n defnyddio nhw. Ella wedyn fydd pobol ddim yn ofn defnyddio meddalwedd Gymraeg.
-
Carl Morris
Trafodaeth dda, dyma pam mae Hacio’r Iaith yn bodoli!
Dwedais i ‘breuddwyd’ am reswm. Pam lai eh?
>> faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n
>> siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu.Syniad cyffrous. Mae’n hollol bosib wneud y dau (meddalwedd a phobol). Rydyn ni wedi dechrau yn barod – gobeithio.
Pwy yw’r blogwr newydd nesaf? Dechrau gyda hedyn bach a thyfu. Dylanwad!
Dylwn i fynd ond dw i’n meddwl amdano fe yn bendant.
-
Huw Waters
Gan mai ‘hacio’ yw hwn, oes rhywun wedi ystyried gwneud hyn i unrhyw ddarn o galedwedd yn ei perchnogaeth? Dwi di bod yn edrych sut i hacio fy nheledu newydd Panasonic Viera a cheisio cael yr EPG yn y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod modd gwneud hyn gan fod rhan o’r feddalwedd yn un cod agored, ac mae pyrth ‘Common Interface’ a cherdyd SD.
-
Carl Morris
Huw, sa’ i’n gwybod ond mae’n werth trio am ychydig o hwyl!
Carl Morris
Sesiwn hacio / stwnsho
Wnes i ebostio pobol am sesiwn hacio / stwnsho. Ond dw i eisiau agor y neges i bawb:
Dros y prynhawn, dyn ni eisiau wneud sesiwn ymarferol gyda hacio/stwnsho. Basai’n neis os dyn ni’n gallu gwneud rhywbeth newydd – e.e. gyda porthiannau, mapiau, cod agored…
Dyn ni wedi casglu syniadau amrywiol yma. Mae sesiwn yn agor iawn ar hyn o bryd. Ti’n gallu ychwanegu syniadau yma
http://hedyn.net/sesiwn_stwnsho_a_hacioWyt ti eisiau ymuno’r sesiwn hacio/stwnsho am 2 o’r gloch yn y prynhawn? Am 2 neu 3 awr?
Dw i’n gofyn nawr achos rhaid i mi gyfrifo pobol sy eisiau cymryd rhan.
Dyn ni’n gallu wneud rhywbeth gyda’n gilydd – fel tîm (neu dau peth fel dau tîm). Does dim rhaid i chi wneud codio go iawn.
Diolch!
Os ti’n dod i Hacio’r Iaith, ti dal yn gallu ymuno’r sesiwn – sgwenna sylw isod.
-
Carl Morris
Mae 3 person gyda ni am y sesiwn, croeso i bawb.
Syniadau, data, RSS, mapiau, mmm…
http://hedyn.net/sesiwn_stwnsho_a_hacio


Helo Chris, dwi’n meddwl bod fy nhad wedi gorffen cyfieithu WordPress 3, ond mae o wedi bod yn yr Aifft yn ddiweddar. Beth am ei wahodd i redeg cy.wordpress.org efo ti? Fe wnaeth gais i WP i roi pecyn 2.9 i fyny ar wordpress.com, ond gafodd o fyth ateb gan Automattic.