Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad
Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. [...]
Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw
Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol Hacio’r Iaith. Beth mae pobol yn meddwl?
Ym mhersonol es i yn syth i weld pa fath o strategaeth cynnwys Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma fy hoff ddarn sy’n sôn am mynediad agored i rai o’r cynnwys:
Ni fydd llawer o’r adnoddau yn y casgliad wedi’u cyfyngu at ddefnydd gan athrawon a dysgwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr dysgu yng Nghymru; oni fydd, er enghraifft, trwyddedau yn gwahardd hynny, byddan nhw ar gael i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, naill ai mewn lleoliad ffurfiol, fel coleg, neu mewn ffordd llai ffurfiol. Felly bydd y casgliad yn gweithredu fel llyfrgell adnoddau ac offer gyhoeddus fawr bydd unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, ni waeth beth fo’i oedran, cefndir na chymhelliant, yn gallu ei defnyddio.
Ond dyw e ddim yn glir pam fydd angen trwydded newydd ar gyfer rhai o’r cynnwys:
Paratoi cyfres o drwyddedau safonol ar ffurf debyg i Creative Commons i’w cymhwyso i’r adnoddau hyn, a thrwy hynny annog pobl i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at ddibenion addysgol.
Gweler Joi Ito ar y broblem o drwyddedau anghydnaws. A pham ‘dibenion addysgol’ yn unig?
O ran y casgliad enfawr bydd angen system rheoli cynnwys cryf a chyfeillgar. Mae sôn am ddefnydd o ‘ffynhonnell agored’ (sef cod agored) yn yr adroddiad ac mae sefydliadau o gwmpas y byd wedi dosbarthu systemau tebyg dan GPL neu hyd yn oed OGL. Gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cwmniau Cymreig i gynnal y system ac yn ail-dosbarthu unrhyw addasiadau dan drwydded cod agored (fel y mae alphagov wedi bod yn ei wneud).
Wel, beth mae pobol yn meddwl?
Efallai dylwn i lanlwytho’r peth i Skdadl, mae’r ffeil adroddiad wedi cael ei cyfansoddi ar gyfer print – does dim modd sgwennu dolen dwfn i adrannau penodol mewn PDF.


Huw 5:23 PM ar 19 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Yn amlwg, byse dramâu Saunders Lewis yn gallu cael eu cyfnewid i’r ffurf yma.
Carl Morris 7:23 PM ar 19 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Newydd ffeindio’r cod dw i’n meddwl http://openshakespeare.org/2008/10/29/shakespeare-v06-released
http://pypi.python.org/pypi/shakespeare/0.6
Ble fyddi di ddechrau gyda’r gwaith Saunders?
Gyda llaw dw i’n hoffi’r siartiau yma. http://openshakespeare.org/2010/02/26/xml-and-the-natural-language-toolkita
Nic Dafis 7:39 AM ar 22 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
Dydy dramau Saunders ddim yn y parth cyhoeddus, yn anffodus, ond mae hyn yn edrych fel prosiect ddiddorol.
Carl Morris 11:03 AM ar 22 Mawrth 2011 Dolen Barhaol
O’n i’n meddwl am y statws hawlfraint, mae dau opsiwn:
- gofyn am ganiatad!
- mynd ymlaen gyda’r feirniadaeth heb gopi llawn o’r testun gwreiddiol, mae rhai o’r gwaith yn bosib dan ddelio teg