Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am y ferswin Cymraeg o’r gêm Civilization IV, mwy ar ei wefan: http://www.civilizationcymraeg.com/wordpress/
Tagiwyd fel: Civilization IV RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
-
Rhys Wynne
-
Rhodri ap Dyfrig
Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cyfieithu gweithiau mawr o lenyddiaeth yna dylen ni’n sicr ariannu cyfieithu gemau cyfrifiaduron.”
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Elin HG Jones
Y broblem ydy dydan ni ddimyn ariannu gweithiau mawr o lenyddiaeth chwaith!
-
Carl Morris
Efallai dylai Gruffydd gofynna cwmnïau gemau. Faint o gopïau ychwanegol gyda cyfieithiad Cymraeg fasen nhw yn werthu?
Beth yw gwahaniaethau economaidd (gyda gemau newydd)?
Llenyddiaeth – rhaid rhyddhau copïau newydd am cyfieithiad Cymraeg
cost cyfieithiad
cost sefydlog (platiau argraff ac hybu/marchnata arbennig)
costiau ymylol am pob copi (PWYSIG!)Gemau – ti’n gallu ychwanegu cyfieithiad i’r dewisiadau eraill fel Ffrainc, Sbaeneg ayyb
cost cyfieithiad eto a graffigwaith
cost sefydlog? dim rili
dim costiau ymylol o gwbl – gyda pob gwerthiant ti’n ar y ffordd i elwBeth yw cost cyfieithiad eto – tua? Mae’n bosib i wneud arian gyda gemau…
-
Hedd
Diolch am hwn. Dwi newydd brynu’r gêm a’i lawrlwytho (1.3GB!) Nawr angen i mi drio deall sut mae ei chwarae!!
Byddai’n bendant yn lawrlwytho’r pecyn iaith pan yn barod. Gyda llaw, oes gemau da cod agored rhad ac am ddim ar gael ar gyfer y PC? Falle gallwn gyfieithu rhai o’r rhain a wedyn rhoi dolen iddynt ar Meddal?
Llongyfarchiadau i bawb am eu gwaith ddoe!
-
Hedd
Be am Freeciv er enghraifft – http://freeciv.wikia.com/wiki/Main_Page
-
Rhys Wynne
Heb weld FreeCiv o’r blaen – dw i’n licio’r ods yn y llun yma: http://freeciv.wikia.com/wiki/File:Two_eras.png
Mae Ifan Morgan Jones yn licio potsian gyda gemau hefyd: http://ifanmj.blogspot.com/2009/10/lleidr-yn-y-nos.html
-
Rhys Wynne
Mwy o gemau cod agored yma: http://en.wikipedia.org/wiki/List_of_open_source_games
-
Gruff Prys
Diolch am gychwyn yr edefyn Rhodri
Tra mod i’n aros i rywbeth osod yn y gwaith…
Elin HG Jones: Maddeua i mi – be o’n i’n trio dweud oedd bod gwerth cyfieithu llenyddiaeth fawr i’r Gymraeg eisoes yn cael ei gydnabod yn gyffredinol yn y Gymru Gymraeg (gw. erthygl Graham Davies yn Planet dro yn ôl, er enghraifft). Mae cynsail hefyd yn bodoli, fel y gyfres o ddramâu a oedd yn cynnwys cyfieithiad Bruce Griffiths o Le Malade Imaginaire gan Molière, a’r gyfres o gyfieithiadau o straeon gwerin o wahanol ddiwylliannau lleiafrifol, i enwi dim ond dwy enghraifft.
Dwi ddim yn meddwl bod yno werthfawrogiad tebyg o’r gwerth sydd mewn cyfieithu gemau cyfrifiadur i’r Gymraeg. Dweud y gwir, mae’n hawdd chwerthin ar osodiad o’r fath – dydyn ni yng Nghymru ddim yn cymryd y cyfrwng newydd yma ddigon o ddifrif (er ei bwysigrwydd economaidd a’i gynulleidfa enfawr), ac mae’n gyfrwng sydd bron yn llwyr ar goll o’n hiaith ni, yn wahanol i lenyddiaeth lle mae gynnon ni ddiwylliant llenyddol brodorol cymharol iach.
Dwi’m am eiliad yn dweud y dylwn ni fod yn cymryd arian oddi ar lenyddiaeth i ariannu gemau cyfrifiadur – dim ond ei bod hi’n bryd i’n hagwedd ni fel Cymry at y cyfrwng aeddfedu, yn union fel y mae’r cyfrwng wedi gwneud yn y blynyddoedd diwetha’.
-
Gruff Prys
Ymateb i Carl: Dwi ddim yn siwr a oes ‘na ddadl economaidd ar hyn o bryd i gwmnïau gyfieithu gemau i’r Gymraeg. Ond, petai gêm fel Civ IV ar y cwricwlwm addysg yng Nghymru (a dwi’n meddwl y dylai fod), byddai rheswm masnachol dros ei gyfieithu, a byddai’n dechrau normaleiddio’r disgwyliad o ggael gemau cyfrifiadur yn y Gymraeg. Gallai hynny yn y pen draw greu marchnad fwy cyffredinol ar gyfer gemau Cymraeg, yn enwedig os ydi technolegau cyfieithu yn gallu gostwng pris cyfieithu yn y cyfamser.
-
Gruff Prys
Hedd: Fe wna i roi gwybod i ti pan fydd y pecyn iaith ar gael ar y safle (mewn diwrnod neu ddau).
Dwi wedi cyfieithu OpenTTD hefyd, fersiwn cod agored (gwell!) o Transport Tycoon, sef un o fy hoff gemau erioed. Efallai bod angen i mi ddiweddaru’r cyfieithiad.
Wedi gweld Freeciv hefyd, ac yn chwarae efo’r syniad o ddefnyddio cyfieithiad Civ IV fel cof cyfieithu ar ei gyfer.
-
Elin HG Jones
Deall ergyd dy bwynt yn iawn Gruff. Wrth gwrs mae arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfieithu cynnyrch diwylliannol yn enwedig animeiddio teledu a llyfrau plant. Mae hi’n amserol iawn i godi’r mater gemau cyfrifiadurol ar hyn o bryd yn enwedig gan y bydd gwasanaeth plant hy^n gan S4C yn cychwyn yn y Gwanwyn, a chwmni Boomerang fydd yn ei ddatblygu.
-
-
Rhodri ap Dyfrig
Gruffydd Prys rwan yn siarad am gyfieithu gem gyfrifiadur Civilisation IV i’r Gymraeg.


Gruff Prys 9:43 AM ar 3 Chwefror 2010 Dolen Barhaol
Hedd: Fe wna i roi gwybod i ti pan fydd y pecyn iaith ar gael ar y safle (mewn diwrnod neu ddau).
Dwi wedi cyfieithu OpenTTD hefyd, fersiwn cod agored (gwell!) o Transport Tycoon, sef un o fy hoff gemau erioed. Efallai bod angen i mi ddiweddaru’r cyfieithiad.
Wedi gweld Freeciv hefyd, ac yn chwarae efo’r syniad o ddefnyddio cyfieithiad Civ IV fel cof cyfieithu ar ei gyfer.
Rhys Wynne 10:43 AM ar 3 Chwefror 2010 Dolen Barhaol
Wedi cofrestu â OpenOTTD ddoe, disgwyl hawlia golygu rwan. Dw i’n gweld bod y cyfieithiad bron yn barod.