Bws Caerdydd a gwasanaeth dwyieithog arlein
Neu diffyg.
http://www.facebook.com/cardiffbus?v=wall&story_fbid=456408851638
Neu diffyg.
http://www.facebook.com/cardiffbus?v=wall&story_fbid=456408851638
http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/jul/15/cardiff-council-mentions-fix-my-street
Efallai bydd rhaid i ddatblygwr lleoleiddio fe yn Gymraeg? Cyfle gwaith?
http://yourcardiff.walesonline.co.uk/2010/06/09/cardiff-council-social-media-twitter-strategy/
Ond mae’n 50% iawn.
manylion eraill
http://www.cardiffwebscene.com/forum/topics/phpcardiff-launched
Grwp PHP
Nos Iau 3 Mehefin
The Wharf, Caerdydd
http://www.cardiffwebscene.com/forum/topics/phpcardiff-meetup?commentId=2165983%3AComment%3A13000
Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.
Pynciau wnaethon ni trafod:
Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.
Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)
Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.
Ha. Dwi wrthi’n ysgrifennu rhywbeth am microreolwyr Arduino. Dyle fo fod ar gael heddiw.
Diolch am drefnu neithiwr Carl. Wedi edrych ar sourcecode whatdotheyknow (cwyno am wasanaeth Cymraeg), a Rails yw’r code.
Huw, mae dau cofnod yn well nag un – edrych ymlaen!
Gareth, mae datblygiad yn dechrau digwydd yma
http://haciaith.com/2010/04/26/cwyno-yn-gyflym-am-wasanaeth-cymraeg-gan-sefydliadau-cyhoeddus-syniad-gwefan-gan-aluneurig/
Diolch am ddod!
Fideo cynorthwyol i bobol sy ddim yn gwybod sut i newid feddalwedd i Gymraeg
Stori ar gyfer plant bach ar iPhone
Beth yw’r enw meddalwedd, unrhyw un?
Dr Barnacles and the Bogey Blues / Dr Cocos a Salwch Snobs
http://twitter.com/DrBarnacles / http://www.drbarnacles.com
Adolygiad: http://metastwnsh.com/adolygiad-app-iphone-dr-cocos-a-salwch-snobs/
Diolch Rhodri app, dw i wedi newid teitl/disgrifiad YouTube.
Syniad gwefan – cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus
Mae’n bosib gyda peiriant WhatDoTheyKnow neu FixMyStreet gan mySociety, ar gael dan trwydded cod agored
Syniad gwych. Allai o fod yn brosiect ar gyfer Cymdeithas yr Iaith? Werth cysylltu efo nhw i weld os gallan nhw roi cymorth.
Dw i wedi bod yn sgwrsio am hyn gyda Alun yn y gorffenol, felly roedd yn dda gallu ei drafod ymhellach a chael barn eraill amdano.
Os ydy Cymru i gael Comisiynydd Iaith, byddai gwasanaeth o’r fath yn ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, sparduno mwy i gwyno wrth iddynt weld bod eraill wedi gwneud hefyd, a gwneud y broses yn haws.
Mae cod WhatDoTheyKnow yma a FixMyStreet yma
WDTK v FMS
Yn bersonol, dw i’n meddwl mai WDTK yw’r opsiwn orau, gan ei fod yn handlo dogfennau’n well ac wedi ei selio o gwmpas sefydlaidau, tra mae FixMyStreet wedi ei adeiladu o gwmpas lleoliadau. Hefyd ar gyfer arwyddion gwallus, mae unrhyw lun Scymraeg gyda geodata wedi ei fapio’n barod
Dw i wedi bod yn meddwl mwy am y peth neithiwr a beth fyddai angen i ni wneud
Cyn dechrau, penderfynu ar
-pa sefydliadau sydd am gael eu cynnwys
-sut byddwn yn cyslltu/trosglwyddo cwynion atynt
-pwy arall faith gopi awtomatig o’r cwyn (BYIG, CYIG?)
-sut mae gerio pethau / pa fath o gwynio’n i’w hannog
Technegol (ddim yn siwr ym mha drefn)
-Mae’r cod wedi ei selio ar Ruby on Rails, felly angen ffeindio codwyr
-Llwytho’r cod ar weinydd
-Addasu’r geirfa + Cymreigio/Lleoleiddio
Pawb
-Addasu’r geirfa
-Lleoleiddio
-Dod o hyd i fanylion cyswllt (ebost) swyddogion iaith / adrannau cwynion sefydliadau cyhoeddus (+ unrhyw gwmniau eraill sy’n dod o dan Ddeddf Iaith 1993?)
Rhys, dwi di lawrlwytho’r source. Oes na un directory sy’n dal yr holl ffeiliau iaith plis?
@Gareth – nag oes
Beth bynnag, dwi wedi cael yr enw parth http://cwyno.org .
Mae’r côd WDTK yn cuddio tu ôl i’r tudalen flaen diflas ‘na ar fy ngweinydd i.
Dwi’n cyfarwydd â RoR ac yn hollol fodlon i wneud unrhyw waith codio sy’ eisiau.
Cyn hynny, oes well i ni cwrdd eto (o dan baner Cymdeithas efalla’) i trafod yn union pa fath o wefan bydd hwn, sef y ‘functionality’ ayyb?
Go dda David. Dw i’n cîn i gwrdd eto. Oes yna nrhyw waith cib a rhaw all nob-datblygwyr helpu gyda? Cysyllta i gyda Alan (rhag ofn nad ydi o’n dilyn y blog yma) ac efallai gallwn gwrdd eto’n fuan. dw i’n nabod un neu ddau aelod o CYIG, ac mae yna Rali y penwythnos nesa yma yng Nghaerdydd dw i’n meddwl – efallai bydd rhywun a diddordeb yno.
Wel, fasa hi’n syniad da cael blog, neu hyd yn oed paragraff neu ddau i esbonio pwynt y wefan (gwaith addas i rywun hefo cefndir cyfreithiol?). Siwr bydd angen dipyn bach o waith dylunio hefyd.
Wel mae’n dda i weld bod na gymaint o diddordeb yn y syniad!
Fe hoffem cyfarfod fyny i drafod ymhellach beth fedrwn gwneud. Hoffwn fod yn ymwneud ar wefan ar sail parhaol, gwaith hybu, ymatebion, gweinyddu etc Er nid oes gennyf unrhyw syniadau am redeg y fath wefan. Ond mae fy nghefndir proffesiynol mewn datblygu iaith gymraeg yn y gwasanaethau cyhoeddus, fel mae gennyf cryn dipyn o arbenigedd.
Ar mater arall, dwi’n yn falch i weld fod popeth di symud yn gyflym. Dwi ddim, i fod yn hollol onest, ddim yn hoff o syniad o defnyddio cyfeiriad http://www.cwyno.org. Credai bod na rhywbeth negatif neu ‘downbeat’ amdano fo. Oes na siawns i ni feddwl am enw rhwybeth mwy creadigol, gyda ychydig o hiwmor?
ee. http://www.asiffeta.com fel (asiffeta, di hwn ddim yn y gymraeg)?
e.e. http://www.mawredd.com (eto mawredd, di hwn ddim yn gymraeg)?
nai feddwl am syniadau enw gwell!
@David, Ia, byddai blog bach falle’n syniad. Mi wna i setio un i fyny.
..ond yn cytuno bod angen meddwl am enw gwell na cwyno.org (er mae’n enw iawn am rwan i bobl gyferio ato).
Cynnig fi ydy OesGydaNiDdewis.com – bach o lond ceg falle, ond mae’n dilyn steil enwi gwefannau MySociety, ddim cweit mor negyddol a ‘cwyno’, ac yn tynnu coes ychydig ar ymgyrch (teilwng) BYIG, sef Mae gen ti dewis.
Fersiwn wreiddiol yw Mae gen ti ddewis? (“gen” ac unigol), felly fersiwn newydd yw Oes gen i ddewis?… Mae’r brawddeg yn dda iawn ond ydy e’n rhy agos i’r fersiwn Bwrdd yr Iaith am yr enw? Bydd yn dda fel slogan dan y teitl yn fy marn i.
Mae Cwyno.org yn tyfu gyda fi. “Brand” da, hawdd i sillafu a byr iawn am Twitter ayyb (mae Cwyno.org yn byrrach na tinyurl.com) Mae’n eitha negyddol ond dyn ni’n gallu creu gwefan neis/moesgar. Mae David yn barod i ddechrau gyda fe!
Beth am
- cwyno.org am y wefan y gwasanaeth
- blog.cwyno.org am y blog (dolen i’r blog o bob tudalen)
- “Oes gen i ddewis?” fel slogan (pob tudalen)
- gwasanaeth 100% Cymraeg felly dw i’n awgrymu meddalwedd rydd WordPress am y blog
?
Des i yma… waa blwyddyn wedyn i’r dim! Unrhyw alw am y wasanaeth yma?
Yn y cyf-amser dw i wedi dechrau tudalen Hedyn fel prawf.
http://hedyn.net/wici/Troseddau_Google_Translate_a_chyfieithu_peirianyddol
Dan ni yn crap…
Yn y cyfamser, mae’r Bwrdd yn hyrwyddo ffurflen gwyno eu hunain
Hefyd, dyma enghraifft o system/syniad tebyg o gasglu cwynion/enghreifftiau o awdurdodau lleol yn camfihafio: Curating Crimes Against Democracy
Ond mae’r Bwrdd yn dod i ben cyn hir…
Fi’n siwr y byddai gan y Gymdeithas ddiddordeb mawr yn hyn. Allai rhywun ebostio fi gyda’r hyn sydd angen gwneud. Gallwn ni ddarparu gwesteai a phob math o beth
Gwendid y darpariaeth Bwrdd yw’r preifatrwydd y cynnwys (bydd e’n defnyddiol i weld y sylwadau o leiaf – fel cwsmer). Dylen ni ddechrau gyda rhywbeth syml iawn yn fy marn i. Beth am brototeip fel addasiad o feddalwedd blog neu wici neu meddalwedd mySociety?
e.e. gyda blog syml iawn fel prototeip, mae pob cofnod neu tudalen yn cwmni, e.e. HSBC yw cofnod, Cynulliad yw cofnod (!), BT yw cofnod. Mae’r thema wedi cael ei haddasu i golli’r dyddiau a phethau diangen. Wedyn dylen ni i gyd gadael sylw i brofi’r peth ac wedyn datblygu mwy. Dw i ddim yn meddwl bydd proses dylunio enfawr yn gweithio yma.
Nai ddatblygu rhywbeth yn y dyddiau nesaf. Sail am drafodaeth agored. Bydd unrhyw canlyniad dan GPL gyda chynnwys dan CC-BY.
Croeso i bobol eraill datblygu arbrofion wrth gwrs.
Rydych chi i gyd yn wych. Angen teitl fel “Mae gen ti hawl” yn hytrach na ‘dewis’.

Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd
nos Lun 26ain mis Ebrill 2010
7 yp tan hwyr
Prif bar, Chapter
Market Road
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
#haciaith
haciaith.com
wifi ar gael
Cawson ni syniad bach. Digwyddodd y Hacio’r Iaith cyntaf.
Ond rydyn ni eisiau cwrdd eto a thrafod mwy. Felly rydyn ni wedi trefnu Hacio’r Iaith Bach.
Rydyn ni’n siarad am bynciau amrywiol, technoleg, y we, Cymraeg, ayyb.
Os mae’n llwyddiannus (mwy nag un person) byddwn ni’n gwneud rhywbeth arall eto.
Croeso i bawb.
Ma’r llun na’n haeddu caption competition… “SBIA! Ma #miciplwm yn trendio yn rhynglwadol!”
Bosib bydd na Hacio’r Iaith Bach yn ystod Cynhadledd Rynglwadol Mercator hefyd:
http://www.aber.ac.uk/cgi-bin/user/merwww/index.pl?rm=c_main
Mwy o fanylion am y gynhadledd yn fuan
Dw i’n bersonol yn edrych ymlaen i gwrdd a Jade goody
Mae’r blog Guardian Cardiff newydd wedi cael ei lansiad heddiw.
Rhys Wynne 12:15 PM ar 16 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol
Yn bendant. Nid mod i eisiau beirniadu MySociety mewn unrhyw ffordd (dw i’n meddwl bod nhw’n bobl gwych) ond gan mai creu gwefannau are gyfer ei wneud yn haws i’r cyhoedd ‘ryngweithio’ gyda sefydliadau cyhoeddus (a vice-versa) yn y Deyrnad Gyfunol yw’r prif reswm dros eu bodolaeth, siawns dylent fod yn meddwl am y gallu i leoleiddio wrth greu pob prosiect. Mae Ddeddf Iaith 1993 yn berthnsaol i bron iawn pob sefydliad mae’n nhw’n creu gwefannau ar eu cyfer dybiwn i.
Wrth gwrs byddai disgwyl i wirfoddolwyr fel ni wneud y lleoleiddio wedyn.
Carl Morris 3:33 PM ar 16 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol
Cytuno, dyna pam mae’n pwysig i ymuno’r cofrestrau ebost a dylanwadu’r meddalwedd fel unrhyw beth côd agored.
https://secure.mysociety.org/admin/lists/mailman/listinfo