Unrhyw blogiau eraill – rhaglennu, digwyddiadau, pethau eraill?
Oes blogiau gyda chyflwynwyr a phobol S4C?
Mae blogiau sy’n cysgu yn hollol iawn.
Mae lot o gynnwys o deledu ar gael ond ar goll mewn Facebook yn unig. ‘Yr unig’ yw’r problem, beth am Facebook a blog? Ble fydd y stwff Facebook pan mae DVD yn dod mas? Neu mae’r sianel yn ail-adrodd rhaglennu?
Carl,
Diolch am dy sylwadau – gwethfarogi’r mewnbwn yn fawr, a falch clywed gan rhywun sy’n dallt y dalltings ein bod yn mynd ati i lunio pethau’n gywir ar dudalen Facebook a Twitter cariad@iaith@love4language.
Mae’r gyfres yn siapo’n ryfeddol o dda. Wyth seleb adnabyddus tu hwnt, a digon o newyddion i’w ‘drip-ffidio’ i gadw’r gwylwyr a’r blogwyr yn hapus!
Da’n ni’n croesawi syniadau a sylwadau bob tro!
Cofion oll,
Tim cariad@iaith:love4language
Rhys Wynne
10:36 AM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Wedi ychwaneg 8fed blog, sef Popeth yn Gymraeg. Roedd ar y rhest yn barod, ond ddim wedi ei gategorieddio’n llawn.
Dw i’n edrych ymlaen at gyfres cariad@iaith – rodd ffrind prifysgol i mi a’m gwriag yn cymryd rhan yn y gyfres gyntaf un (yr un pobl cyffredin, nid y slelbs), sef Ursula, y Wyddeles.
Ta beth, es i draw i dudalen Facebook cariad@iaith rawn i weld mwy. Mae’n dda bod nhw wedi dewis y gosodiad agored fel bod pawb yn medru ei ddarllen, ond roedd rhaid mewngofnodi i adael sylw. Do’n i heb fewngofnodi ar Facebook ers misoedd, ac wedi mewngofnodi, do’n i dal ddimyn gallu gadael sylw. Roedd rhaid i fi ofyn ar Twitter sut mae gadael sylw ar Facebook! Yr ateb oedd, oedd rhaid ‘Hoffi’r dudalen yn gyntaf.
OK, d wi’n gwybod yr ateb rwan, ond mam bach, dyma lle mae blog yn rhagori dros Facebook a Twitter – does dim rhaid bod a chyfrif i adael sylw, felly llai o rwystr i bobl gyfrannu.
Mantais arall blogiau, yn enwedig rhai ar cy.wordpress.com ydy’r serendipity posib os ydych yn tagio eich cofnodion blog, gyda pethau fel fideo, s4c, ac os byddai blog Saesneg ar en.wordpress.com, drwy’r tag welsh
Cytuno i raddau, Rhys. Ond mae Facebook yn hwyluso’r broses i ni o ran ei statws fel y rhwydwaith cymdeithasol fwya’.
Da’n ni hefyd ar Twitter: http://www.twitter.com/s4cariad
Dw i’n deall y fantais Facebook, mae’n boblogaidd ac hawdd. Wrth gwrs dylai cwmniau teledu gymryd mantais o’r gwasanaeth.
Rydyn ni’n trio adeiladu ‘achos’ am y we agored yma.
Nes i siarad am y cyfleoedd i fod yn arloesol uchod. Mantais 1.
Mantais 2. Bydd stwff ar y we agored, e.e. blog (neu hyd yn oed blogiau gwahanol gan y dysgwyr gwahanol), yn ymestyn mas i gynulleidfa wahanol a bwydo’r uber-ffans. Bydd lot ohonyn nhw yn hyrwyddo’r gyfres ar eich rhan; y mavens, cysylltyddion, dylanwadwyr, yr uber-ffans, beth bynnag yw’r term ar hyn o bryd. Felly mae mantais o ran cyhoeddusrwydd, hyrwyddo’r rhaglen nawr.
Mantais 3. O safbwynt ni, diffyg cynnwys Cymraeg ar y we yw problem enfawr arall… Neu cyfle enfawr os ti eisiau bod yn bositif. Tu fas o gyhoeddusrwydd dylen ni, yn fy marn i, meddwl am y profiadau ar-lein. Mae dysgwyr wastad yn gwerthfawrogi deunydd, tips, fideos, cydarwaith ac ati – ar alw. Dw i’n gwybod achos dw i wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Roedd chwant stwff Cymraeg arnaf i (nid pethau sylw i ddysgwyr yn unig ond stwff o bob math).
Mantais 4. Y dyfodol o’r cynnwys. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i gofnod blog penodol Popeth yn Gymraeg nawr, e.e. Ifor ap Glyn yn Y Fenni yn 2005. Dw i wedi bod yn gwylio’r gyfres ar DVD am y tro cyntaf mis yma, mewn gwirionedd. Mae Facebook yn wahanol, fyddan ni dal yn darllen ein tudalennau Facebook yn 2017, tybed? Dych chi wedi trio chwilio am gofnod neu post o flynyddoedd neu hyd yn oed misoedd yn ôl?!
“Mavens”? Y’t ti ‘di darllen “The Tipping Point” hefyd, felly?! Am lyfr da!
Dw i’n cytuno â dy bwyntiau i gyd, wir. Ond y gwirionedd amdani yw fod tudalen Facebook yn hynod hawdd ei gadw i fynd (hyd yn oed ar ‘slow news day’, fel heddiw – noder y lluniau o’r Swyddfa . Mae angen setio Blog i fyny – ac yng nghanol y gwaith cynhyrchu, does yna lawr o amser ‘potsian’, fel petai.
Da’n ni wir yn gweld pa mor bwysig ydy cyfarthrebu electronig, ond mae amser a chyllideb yn ffactor bwysig i ystyried hefyd.
Come have a drink and talk blogs in the Aberystwyth Arts Centre Theatre Bar on Friday 17 June from 5-7pm. (Yes, that’s this Friday.)
Anyone is welcome. You DON’T have to have a blog. Just need to be interested in them. There won’t be a presentation; just lots of friendly chatting.
Use #aberblogs to tweet about the meetup.
Joni Ayn Alexander (@joniayn, that’s me) — a web journalist at ITV Wales and journalism lecturer — will be hosting the meetup. She’s not from Aber. She’s not even from Cardiff (though she lives there). She’s from Oklahoma. (The state in America above Texas.) But she is very interested in people blogging, and is working on a whole PhD about hyperlocal bloggers. So please pop along and say hello.
The Digital Storytelling conference will be held in this area until 5pm, so if you’re a #DS6′er, come along. You don’t have to be from Aberystwyth to be welcome.
Gotta get down on Friday — to the Arts Centre bar, that is.
P.S. You don’t need a ticket to attend. They’re just to get an idea of how many people plan to come.
Ro’n i’n amau rhywbeth fel hyn. Dw i’ wedi bod yn darllen tipyn am Y Wladfa, yn enwedig nifer o gyfrolau sy’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymru a’r Wladfa dros y blynyeddoedd.
Un peth a nodwyd oedd, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyuntaf (neu falle’r Ail!) daeth symud yn ol a mlaen rhwng y Cymru a’r Wladfa i stop bron, a bu lot llai o gysylltiad. Yna, pan fu dthlu canmlwyddiant y Lanfa yn y 1960au, ail gynnwyd y cysylltiad, ac fel y daeth cost hedfan yn is, daeth ymweld a’r Wladfa yn rhywbeth ffasiynol i Gymry Cymraeg.
Y peth naturiol nesaf dybiais i, oedd cysylltu tros y we, yn enwedig gyda dyfodiad rhwydweithiau cymdeithasol, ond ychydig iawn sydd hyd heddiw. Mae’r erthygl uchod yn mynd rhyw ffordd at egluro hyn.
Dw i hefyd yn cael blas ar ddarllen blog Lois. Mae ambell i swyddog wedi bod draw i weithio i Batagonia o’i blaen, ond dw i’n meddwl mai hi yw’r cyntaf i gadw blog fel hyn, ac mae hi’n cael hwyl arni. Cafwyd tri cofnod ar flog Golwg360 gan Eluned Owena Evans, ond daeth i ben yn ddisymwth
Des ar draws blog Lois tra’n chwilio am fanyliona am Clecs Camey, papur bro newydd ardal Dyffryn Camwy yn Y Wladfa. Mae copi PDF ar gael ohono arlein, ond es i un cam ymhellach. Os chi’n nabod unrhwy un sydd wedi ymweld a Dyffryn Camwy, gofynwch iddyn nhw fynd draw i’r wefan a gadael sylw am lefydd maen nhw wedi ymweld a nhw.
Mae blogiwr lleol @caebrwyn, aka Jacqui Thompson, wedi cael ei harestio am ffilmio cyfarfod Cyngor Sir Gâr – o’r oriel gyhoeddus.
The second event, as I mentioned in my previous post is what happened when I tried to film this latest travesty of democracy. Clearly my presence was noted when I entered the Public Gallery and when the row commenced over the Day Club, I started filming with my phone, (not terribly well I know but better than nothing) I was asked to leave by the Chairman and Mark James, I said that I was not doing anything wrong, it is not against the law nor even in their standing orders (rules for meetings), neither was I disturbing the meeting in any shape or form. Mr James sarcastically asked whether I now had a good photo of him to put on my website. As I didn’t leave, Mr James and the Chair called the police and then adjourned the meeting. Unlike my complaint of assault in the Public Gallery where the police took four days to take my statement and several more to speak to the chap concerned, it only took ten minutes today for two police cars and four police officers to appear in the Gallery. I tried to argue my point but was then arrested in the Public Gallery for ‘breaching the peace’. I was taken outside the door, handcuffed, searched, my phone taken and marched out to the waiting police cars.
I was then taken 30 miles to Llanelli police station where I remained handcuffed for another hour before being ‘processed’, and put in a cell for another two hours.
By this time I was very disorientated, worried about my young daughter who needed picking up from school, I was cold (the police had taken my jacket and shoes and socks) and distressed. Without a solicitor present, I was then threatened by three police officers who said that if I didn’t sign an ‘undertaking’ not to film/record any more meetings I would be kept in overnight, I am not sure now whether they could even keep me that long. Earlier in the day I had been told that they was looking at the relevant legislation and were ‘talking’ to the council, it is now clear exactly what was discussed; ‘she probably can’t be charged with anything so tell her to sign and you’ll let her go’. I am now asking my solicitor about the legality of this and regardless of the outcome I will not abide by something I was forced to sign. I will be back.
Rhodri ap Dyfrig
4:31 PM ar 9 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Dylai pob cyngor sir we-ddarlledu eu cyfarfodydd cyhoeddus, yn arbennig y cyfarfodydd llawn. Does dim byd yn stopio nhw wneud hynny. Mae’r rhan fwyaf o siambrau wedi eu meicio felly mater bach fyddai cymryd y feed sain a gosod camera llydan statig i recordio.
Oes unrhyw reolau yn dweud nad oes hawl i ffilmio? Ydyn nhw’n reolau sir wrth sir? Beth am flogio-byw? Trydar?
Mae Cyngor Caerdydd yn ffilmio pob cyfarfod llawn a’u cyhoeddi ar y we. Dw i’n siwr mod i wedi darllen rhwyle bod unai cynhorwyr neu aelodau o’r cyhoedd wedi cael eu rhwystro rhag blogio byw/trydar gan gynghorau yn Lloegr – rhaid gwglo
“Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i recordio neu ddarlledu holl gyfarfodydd cynghorau sy’n agored i’r cyhoedd, neu eu ffrydio ar y we, er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r ddyletswydd hon alluogi’r cyhoedd, fel arsyllwyr cyfrifol, i recordio neu ffilmio cyfarfodydd o’r fath heb gael caniatâd o flaen llaw, a rhoi rhwydd hynt iddynt ddefnyddio’r deunyddiau y maent yn eu recordio i ddarparu cyswllt uniongyrchol ac ehangach â’r etholwyr.”
Carl Morris
4:48 PM ar 10 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
There will, of course, be some changes. The design and navigation are very different. The text will look more like normal news stories or features. But the content will be the same. Nick & co will still each have their own page, and these will still operate like blog indexes, with the newest entry at the top. You can see how it looks with Mark Mardell’s page here which has already moved over to the new design. And part of the plan is to make these new pages the place where you can follow a particular correspondent, whatever form of journalism they are producing. So we plan over the next few weeks to incorporate correspondents’ tweets, if they have them, into their pages, along with some of their reports in audio and video, and also where they add “text box” contributions to news stories (see right). We hope that, together, these will make a compelling and new way to follow a story or subject.
Changes to the RSS feeds are something I should have mentioned earlier, and I apologise for not doing so. Whereas we previously offered full text feeds of blogs, the RSS feed of the new pages is headline and summary only. I recognise that this is clearly an issue for lots of people, and is frustrating to those who have been using our feeds. The change is an unintended consequence of moving into our main production system, which does not automatically export full text feeds. We are looking at the issue and I hope to be able to come back to you with more detail.
In addition, in our new system, comments have a maximum length of 400 characters. It’s my view that this makes for sharper contributions, though I know some disagree.
Chwarae teg, mae WordPress yn wych am eich helpu i ddarganfod blogiau newydd a chofnodion diddorol mewn iaith benodol. Do’n i ddim yn meddwl bod neb yn trafferthu tagio ar flogiau Cymraeg ond wrth glicio at y tag ‘toriadau’ ar un blog, des ar draws 3 cofnod arall o ddau flog arall -dau yn ymwneud a thoriadua gwariant, ac un ynglyn a garddio!
Ond mae’r byd blogiau ar WordPress.com dal yn fach iawn. Mae sbamblog “Dim ar dy fywyd!” newydd cyrraedd rhif 14 ar y rhestr. http://nda001.wordpress.com
Rhai wythnosau’n ôl, cefais wahoddiad drwy Facebook gan berthynas i mi sy’n trefnu Bedwen Lyfrau 2011, sy yng Nghaerdydd eleni. Fel arall, faswn i ddim yn ymwybodol bod digwyddiad y Fedwen Lyfrau yn y brifddinas eleni. Dyma fynd i chwilio am fwy o fanylion a darganfod bod trafodaeth diddorol ar ddiwedd y dydd:
Y dyfodol i lyfrau… Yn oes y Kindle a’r iPad, beth yw dyfodol argraffu? A oes mwy o bobl yn darllen blogiau na llyfrau bellach?
Tybed sut fydd pobl yn darllen gwaith ein cenhedlaeth ni yn y dyfodol?
Gyda Sion Jobbins a’r blogiwr Carl Morris /NativeHQ
Mae llyfrau electronig yn gyfle enfawr i gwmnïau cyhoeddi!
O safbwynt y gwmnïau, mae’n defnyddiol i weld pethau fel “darllen blogiau vs darllen llyfrau”, neu “elyfrau vs print” fel perthnasau yn hytrach na cystadleuaeth.
Ces i amser da heddiw – sgyrsiau da. Dylen ni gwahodd rhai o’r bobol Bedwen Lyfrau i ddigwyddiadau Hacio’r Iaith.
Roedd y sesiwn Y Dyfodol i Lyfrau yn hwyl er bod e bach yn fyr – dim lot o amser i drafod pethau yn ffordd fanwl iawn. Yn enwedig, o’n i eisiau archwilio’r cytundeb Faustaidd gyda chwmnïau fel Amazon. Dw i’n licio’r cysyniad o e-lyfrau, dylai llyfrau Cymraeg bod ar gael i bobol beth bynnag yw’r platfform. Mae cyfleoedd i’r cwmnïau cyhoeddi. Ond fydda i ym mhersonol brynu rhywbeth o gwmni sy’n dibynnu ar DRM heb warant os dw i eisiau trosglwyddo’r llyfrau i ddyfais arall yn y dyfodol? Hmm..
Nes i joio’r sesiwn am gomics a chyfieithiadau Tintin.
Sesiwn diddorol, a biti garw ei fod mor fyr, o ystyried pwsigrwydd y pwnc. Gwnaeth Sion Jobbins job dda o wisgo dwy het (adran digideiddio’r Llyfrgell Genedlaethol a chadeirydd (?) presenol Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru) – byddai rhwyn o un o’r gweisg sy wedi dechrau gwerthu e-lyfrau (ai dim ond y Lolfa sydd wedi?) ar y panel wedi bod yn dda.
O ran y Cwlwm Cyhoeddwyr, roedd yn swnio fel eu bod yn gweld bygythiadau yn hytrach na chyfleodd, a’u dau prif ofid ydy:
1. Pobl yn medru copio a dosbarthu elyfrau am ddim
2. gostyniad mewn incwm
O ran gofid 1., efallai mod i’n bod yn naif, ond dw i ddim yn meddwl bod rhaid iddynt boeni bydd yr un peth yn digwydd a sydd wedi digwydd i’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang, oherwydd dw i’n meddwl mai ychydig iawno gopio CD’s cerddoriaeth Cymraeg fuoedd yna gan bod pobl yn reit driw i’r cerddorion, ac ynsylweddoli pa mor fach ydy eu gwerthiant yn barod. Yn yr un modd, dw i’n meddwl bod darllenwyr Cymraeg yn fwy tebygol o brynu llyfr Cymraeg na’i fenthyg o lyfrgell, eto oherwydd ffyddlondeb i’r gweisg Gymraeg.
Fel y nodaist ar y dydd, prin iawn yw’r data/profiad sy gyda ni o’r dechnoleg hyn gyda llyfrau Cymraeg/ieithoedd lleafrifol i weld beth fydd y patrwm defnydd, ond hoffais awgrym Penri y basai’n syniad da rhoi llyfrau Cymraeg Stori Sydyn mas am ddim drwy e-lyfr.
O ran gofid dau, os deallais yn iawn, poeni am y cut bydd Amazon yn gymryd oedden nhw? Dychmygaf bod cut Amazon ar Kindle yn debyg i’w cut sylweddol o werthu llyfrau ar eu gwefan, ac mae llyfrau Cymraeg bellach ar Amazon, achos mae’r cyhoeddwyr yn sylweddoli, mae sawl achos, os na all cwsmer brynnu llyfr ar Amazon, mi benderfynan nhw brynu llyfr arall yn hytrachna chwilio amdano rhywle arall (er bod modd prynnu llyfrau Cymraeg yn hawdd ar-lein dyddiau yma mewn sawl lle). Yny dyfodol, os na fydd llyfr ar gael i’w brynnu ar Kindle, fydd o ddim yn cael ei brynu full-stop.
Hoffais hefyd dy syniad y gallwn i gyd fod i yn lyfrgellwyr bellach yn llyfrgell byd-eang y we, ac y dylwn fynd ati i uwchlwytho a threfnu cynnwys CYmraeg i’r yd i gyd ei fwynhau.
Yn yr un modd, d wi’n meddwl bod dyletswydd ar y rhai ohonom sy’n darllen llyfrau Cymraeg i ymddwyn fel staff mwyaf cyfeillgar a cymwynasgar Waterstones drwy hyrwyddo a helpu darpar ddarllenwyr/prynnwyr o lyfrau/e-lyfrau Cymraeg ddod o i a gwybod am y gorau o lenyddiaeth Cymraeg. Dim ond drwy ddenu darllenwyr a chwsmeriaid newydd y gallwn sicrhau ffyniant. Gallwn wneud hyn drwy ysgrufennu adolygiadau ar-lein (unigolion) ac adeiladu gwefannau hawdd i’w cyrchu (cyhoeddwyr a Chyngor Llyfrau!).
Ydyn ni wedi colli unrhyw blogiau? Croeso i ti ychwanegu blogiau neu awgrymu blogiau isod.
Croeso i ti ail-ddefnyddio’r data am unrhyw beth. Bydd ffrydiau o gategorïau yn bosib, er enghraifft.
Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Rhys Wynne am help. Diolch eto i Rhys am y syniad! Mae’n anodd ffeindio blogiau Cymraeg weithiau, yn enwedig y rhai diddorol o 2005 sy’n cysgu ayyb, felly mae’r Rhestr wedi bod yn help mawr.
enw: fel dagrau yn y glaw
cyfeiriad: http://feldagrauynyglaw.blogspot.com/
disgrifiad: mwy dynol na dynol
awdur: Simon Dyda
lleoliad: Caernarfon
sefydlwyd: 2010
cariad@iaith:love4language 10:39 PM ar 15 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Carl,
Diolch am dy sylwadau – gwethfarogi’r mewnbwn yn fawr, a falch clywed gan rhywun sy’n dallt y dalltings ein bod yn mynd ati i lunio pethau’n gywir ar dudalen Facebook a Twitter cariad@iaith@love4language.
Mae’r gyfres yn siapo’n ryfeddol o dda. Wyth seleb adnabyddus tu hwnt, a digon o newyddion i’w ‘drip-ffidio’ i gadw’r gwylwyr a’r blogwyr yn hapus!
Da’n ni’n croesawi syniadau a sylwadau bob tro!
Cofion oll,
Tim cariad@iaith:love4language
Rhys Wynne 10:36 AM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Wedi ychwaneg 8fed blog, sef Popeth yn Gymraeg. Roedd ar y rhest yn barod, ond ddim wedi ei gategorieddio’n llawn.
Dw i’n edrych ymlaen at gyfres cariad@iaith – rodd ffrind prifysgol i mi a’m gwriag yn cymryd rhan yn y gyfres gyntaf un (yr un pobl cyffredin, nid y slelbs), sef Ursula, y Wyddeles.
Ta beth, es i draw i dudalen Facebook cariad@iaith rawn i weld mwy. Mae’n dda bod nhw wedi dewis y gosodiad agored fel bod pawb yn medru ei ddarllen, ond roedd rhaid mewngofnodi i adael sylw. Do’n i heb fewngofnodi ar Facebook ers misoedd, ac wedi mewngofnodi, do’n i dal ddimyn gallu gadael sylw. Roedd rhaid i fi ofyn ar Twitter sut mae gadael sylw ar Facebook! Yr ateb oedd, oedd rhaid ‘Hoffi’r dudalen yn gyntaf.
OK, d wi’n gwybod yr ateb rwan, ond mam bach, dyma lle mae blog yn rhagori dros Facebook a Twitter – does dim rhaid bod a chyfrif i adael sylw, felly llai o rwystr i bobl gyfrannu.
Mantais arall blogiau, yn enwedig rhai ar cy.wordpress.com ydy’r serendipity posib os ydych yn tagio eich cofnodion blog, gyda pethau fel fideo, s4c, ac os byddai blog Saesneg ar en.wordpress.com, drwy’r tag welsh
cariad@iaith:love4language 10:49 AM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Cytuno i raddau, Rhys. Ond mae Facebook yn hwyluso’r broses i ni o ran ei statws fel y rhwydwaith cymdeithasol fwya’.
Da’n ni hefyd ar Twitter: http://www.twitter.com/s4cariad
Carl Morris 2:52 PM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Dw i’n deall y fantais Facebook, mae’n boblogaidd ac hawdd. Wrth gwrs dylai cwmniau teledu gymryd mantais o’r gwasanaeth.
Rydyn ni’n trio adeiladu ‘achos’ am y we agored yma.
Nes i siarad am y cyfleoedd i fod yn arloesol uchod. Mantais 1.
Mantais 2. Bydd stwff ar y we agored, e.e. blog (neu hyd yn oed blogiau gwahanol gan y dysgwyr gwahanol), yn ymestyn mas i gynulleidfa wahanol a bwydo’r uber-ffans. Bydd lot ohonyn nhw yn hyrwyddo’r gyfres ar eich rhan; y mavens, cysylltyddion, dylanwadwyr, yr uber-ffans, beth bynnag yw’r term ar hyn o bryd. Felly mae mantais o ran cyhoeddusrwydd, hyrwyddo’r rhaglen nawr.
Mantais 3. O safbwynt ni, diffyg cynnwys Cymraeg ar y we yw problem enfawr arall… Neu cyfle enfawr os ti eisiau bod yn bositif. Tu fas o gyhoeddusrwydd dylen ni, yn fy marn i, meddwl am y profiadau ar-lein. Mae dysgwyr wastad yn gwerthfawrogi deunydd, tips, fideos, cydarwaith ac ati – ar alw. Dw i’n gwybod achos dw i wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Roedd chwant stwff Cymraeg arnaf i (nid pethau sylw i ddysgwyr yn unig ond stwff o bob math).
Mantais 4. Y dyfodol o’r cynnwys. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i gofnod blog penodol Popeth yn Gymraeg nawr, e.e. Ifor ap Glyn yn Y Fenni yn 2005. Dw i wedi bod yn gwylio’r gyfres ar DVD am y tro cyntaf mis yma, mewn gwirionedd. Mae Facebook yn wahanol, fyddan ni dal yn darllen ein tudalennau Facebook yn 2017, tybed? Dych chi wedi trio chwilio am gofnod neu post o flynyddoedd neu hyd yn oed misoedd yn ôl?!
cariad@iaith:love4language 4:46 PM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
“Mavens”? Y’t ti ‘di darllen “The Tipping Point” hefyd, felly?! Am lyfr da!
Dw i’n cytuno â dy bwyntiau i gyd, wir. Ond y gwirionedd amdani yw fod tudalen Facebook yn hynod hawdd ei gadw i fynd (hyd yn oed ar ‘slow news day’, fel heddiw – noder y lluniau o’r Swyddfa . Mae angen setio Blog i fyny – ac yng nghanol y gwaith cynhyrchu, does yna lawr o amser ‘potsian’, fel petai.
Da’n ni wir yn gweld pa mor bwysig ydy cyfarthrebu electronig, ond mae amser a chyllideb yn ffactor bwysig i ystyried hefyd.
Rhys 11:56 AM ar 4 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol
Wps, mae’n ymddangos bod tudalen Facebook cariad@iaith yn cynnwys fideo YouTube gan ‘Y Golygydd’ http://www.facebook.com/s4cariad/posts/176361089093892
Carl Morris 12:17 PM ar 4 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol
Da iawn yn fy marn i. Rydyn ni’n ymddwyn fel y mae cipolwg dan ddelio teg ac yn hollol iawn i’w ailddefnyddio.