Tagiwyd fel: blogio RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:22 PM ar 29 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , blogio, ,   

    Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog 

    Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)…

    Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.com. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu ei gweld yn y cefndir.)

    fe-flogiwn-ni-eto gan huw prestatyn

    Rydyn ni’n blogio i:
    rhannu nodiadau
    postio fideos/dolenni/awdio (Yr Haclediad)
    parhau gyda syniadau a phrosiectau
    gofyn/ateb cwestiynau
    trefnu sesh lleol Hacio’r Iaith Bach mewn pyb
    ac ati

    Mae’r blog Hacio’r Iaith ar sail WordPress, mae’n weddol hawdd i’w defnyddio (ac mae help ar gael os ti’n styc).

    Mewn ffordd mae’r gymuned Hacio’r Iaith yn parhau trwy’r flwyddyn ar y blog, ar y we ac unrhyw bryd mae pobol eisiau cwrdd i drafod technoleg a Chymraeg ledled Cymru.

     
    • Robin Hughes 4:35 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A gaf i gyfrif plis? Diolch.

    • Mark Jones 10:02 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A finnau! Diolch!

    • Carl Morris 12:12 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Robin a Mark, dw i newydd greu cyfrifon i chi. Gweler eich ebost.

    • Nici Becch 4:18 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A fi os gwelwch yn dda

    • Carl Morris 11:59 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Nici, mae gen ti ebost.

    • Gareth Jones 7:40 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Gai gyfrif

    • Gareth Jones 3:43 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Diddorol gweld rhai ymatebion yn ymddangos yn syth tra bod eraill yn disgwyl eu cymedroli.

    • Carl Morris 1:18 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Gareth, dydyn ni ddim yn rhoi cyfrifon i bobol sydd ddim wedi dod. Mae rhaid cael rhyw fath o linell. Does dim eithriadau. Diolch i ti am y sylwadau.

  • Rhys Wynne 10:31 AM ar 14 November 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: barnet, blogio, ,   

    Blogiwr arall yn cael ei erlid gan awdurdol lleol. 

    Dan ni eisoes wedi blogio yma am Gyngor Sir Gâr yn galw’r heddlu wrth i flogwraig lleol recordio cyfarfodydd y cyngor.  Tro Cyngor Barnet, Llundain yw hi y tro hwn i ddangos i’r byd sut i beidio ag ymddwyn yn ddemocrataidd.

    Cefndir: Yn dilyn penodiad gan y cyngor ar gyfer Creation of a Change and Innovation Manager (cyflog £50K), dyma blogiwr lleol,  Mr Mustard (enw iawn Derek Dishman) yn ysgrifennu cofnod yn cwestiynu gwerth ac chymhellion y swydd. Yn yr un cofnod mae hefyd yn ailgyhoeddi gwybodaeth am y sawl a benodwyd, Jonathan Tunde-Wright, a ddaeth yn syth o wefan/blog personol y gwr hwnnw.

    Dyma Cyngor Barnet yn cwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth a honni bod Derek Dishman wedi torri’r gyfraith o dan y Ddeddf Gwarchod Data (a all olygu dirwy o hyd at £5,000) nad nad oedd wedi cofrestru fel Data Controller, a’i fod wedi “processed personal data unfairly” am nad oedd Jonathan Tunde-Wright wedi cyfeirio at ei swydd newydd ar ei wefan.

    Dyma’r Comisiynydd yn gwrthod y cwyn.

     
  • Carl Morris 5:32 PM ar 6 October 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , blogio   

    Diwrnod Ada Lovelace 2011 – yfory yng Nghymru 

    Bydd Ddiwrnod Ada Lovelace yfory (7fed mis Hydref 2001) yng Nghymru – diwrnod o flogio i ddathlu cyfraniadau benywod i dechnoleg.

    Mae nifer o bobol wedi cyfranogi yn Gymraeg yn 2009 a 2010. Efallai dylet ti ystyried sgwennu/recordio cofnod hefyd. (Enghraifft o gofnod am danah boyd ar fy mlog llynedd.)

    Mwy o fanylion ynglŷn â Diwrnod Ada Lovelace 2011: http://findingada.com

     
  • Carl Morris 2:57 PM ar 14 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , blogio, bwyd, diod, ,   

    5 blog newydd am fwyd a diod 

    Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn amheuthun iawn os ti’n licio blogiau am fwyd a diod yn yr iaith Gymraeg.

    5 blog newydd hyd yn hyn

     
  • Rhodri ap Dyfrig 5:05 PM ar 11 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: blogio, cystadleuaeth, ,   

    Eisteddfod 2011: Y Gystadleuaeth Blogio 

    Llongyfarchiadau i Carwyn Tywyn am ennill cystadleuaeth blogio’r Eisteddfod. Dwi’n siwr bod ei waith yn deilwng a hoffwn i ei ddarllen.
    Dwi’n falch bod yr Eisteddfod yn ceisio gwneud lle i ddulliau gwahanol o sgwennu, ond dwi’n meddwl bod yn rhaid codi cwestiynau eithaf sylfaenol am y gystadleuaeth hon.

    Dyma oedd yn y rhestr testunau am 2011:

    166. Blog dros gyfnod o fis hyd at 3,000 o eiriau. Dylid cyflwyno’r gwaith ar ddisg yn unig.
    Ystyrir cyhoeddi’r buddugol ar safle we’r Eisteddfod
    Gwobr:
    £200
    Beirniad: Lyn Lewis Dafis

    Mae na sawl peth yma sydd yn peri dryswch ac yn fy marn i yn atal y gystadleuaeth rhag cyrraedd ei photensial.

    Pam bod angen cyflwyno ar ddisg yn unig? Os taw pryder am olygu testun y blog yn ystod neu ar ôl beirniadu sydd wrth wraidd hyn yna gofynnwch am sgrinlun, argraffu’r dudalen neu gopi Word o’r blog fel copi wrth-gefn, ond yr URL ddylai fod y flaenoriaeth (dyna sy’n digwydd gyda’r asesiadau blogio ym Mhrifysgol Aberystwyth). Os nad oes angen creu blog, neu fod â blog eisoes wedi ei greu i gystadlu, yna mae’n annodd gen i weld sut gellir ei alw’n flog.

    Drwy gynnal cystadleuaeth blogio dylai’r Eisteddfod weld bod y cyfrwng, a’r hyn a ysgrifennir ar y cyfrwng, yn annatod ac taw annog defnydd priodol o’r cyfrwng sydd eisiau. Mae cyfrwng canu yn cael llwyfan priodol, mae cyfrwng barddoniaeth yn cael cyhoeddiad priodol, mae cyfrwng dawns yn cael trac sain bridol – dylai’r Eisteddfod dderbyn llwyfan priodol blog.

    Mae’r Eisteddfod hefyd yn dweud y basen nhw’n ‘ystyried cyhoeddi’r buddugol ar eu gwefan’, ond dylai’r ennillydd (os nad pob cystadleuydd) gael dolen o wefan yr Eisteddfod. Mae dolen yn werth llawer mwy na chopio testun ar wefan yr Eisteddfod, achos mae’r ddolen honno’n debygol o gael ei dychwelyd gan y blog. Does dim cost i ddolen, nid oes prinder lle ar y we, ac mae’n hybu defnydd o flogiau lle maen nhw’n fod i fodoli: ar y we ac nid ar bapur. Ni ddylid cyhoeddi cofnod blog yn y cyfansoddiadau am y rheswm hwnnw chwaith (os yw hynny’n fwriad hynny yw). Os taw eisiau cael cynnwys wedi ei gynhyrchu yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth mae’r Eisteddfod ei eisiau, mae hynny hefyd yn mynd yn groes i natur agored a chymdeithasol blogiau hefyd.

    Dylai unrhyw flog fod ar y we: dyna natur blog. Er bod dadlau am beth sy’n diffinio blog ar wahan i gyhoeddi ar ffurfiau eraill electronig, mae dolenni (mewnol ac allanol), RSS, sylwadau, a’i fod arlein yn rhai o’r elfennau craidd.

    Rydw i’n gweld (diolch @cetyn!) bod y gystadleuaeth yn rhedeg eto ar gyfer 2012, a chan nad oes unrhyw fanylion am ddull cyflwyno y tro hwn, bydda i’n annog pawb sydd wedi blogio o gwbl ym mis Mawrth 2012 i URLs eu cofnodion gorau at yr Eisteddfod a gweld beth ddaw. Ond er eglurder i bawb ac er mwyn hybu’r cyfrwng orau posib byddwn yn annog y Steddfod i roi rhai canllawiau pellach a sicrhau bod blog yn cael ei drin fel blog. Pwy a ŵyr efallai bydd mwy yn cystadlu: wedi’r cyfan mae 56 blog newydd yn 2011 yn barod, oni ddylen nhw i gyd fod yn cystadlu a chael link, ac yn eu tro yn dolennu nôl at yr Eisteddfod gan greu loop sydd yn fanteisiol i bawb?

    Diweddariad 23.9.11 (gan Rhys Wynne)

    Tydy’r cofnod blog  buddugol ddim wedi ei gyhoeddi yng Nghfansoddiadau 2011 a toes dim golwg o ddolen at er eu gwefan. Yn ogystal a’r gystagleuaeth mae @cetyn wedi tynnu llun ohono, mae dwy gystadleuaetharall sy’n cynnwys y gair ‘blog’ yn 2012 hefyd:

    121. Blog neu ddyddiadur [ar gyfer dysgwyr]

    Tua 150 o eiriau

    Lefel Sylfaen

    Gwobr £50

    a

    170. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes

    ‘Achlysur i’w gofio’ (heb fod yn llai na 1,500 o eiriau) ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog

    Gwobr £200

    Diweddariad 30.9.11

    Yn yn ôl cyfrif Twitter yr Eisteddfod:

    Byddwn yn cyhoeddi dolen i’r blog a mwy o wybodaeth o’r Cyfansoddiadau ar ein gwefan yn fuan iawn.

     
    • Carl Morris 7:53 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Cytuno yn llwyr.

      Does dim sôn am amlgyfrwng chwaith, un o fanteision pwysicaf y we. Efallai dylai llun neu fideo cyfrif fel 1000 gair! Neu dylen nhw feddwl am lansio cystadleuaeth ar wahân, i fideo ar-lein.

      Hefyd nid blog ond cofnod blog yw’r her yma. Mae’r gwahaniaeth yn bwysig. Yn sicr mae lle am gystadleuaeth cofnod blog, sef cyfansoddi un eitem dda. Ond mae’n anodd creu cystadleuaeth i wobrwyo blogiau llwyddiannus: cymuned dda, sgyrsiau da (weithiau trwy’r sylwadau, weithiau ar y blogosffêr), perthnasedd y cynnwys ac yn cael eu cynnal am dymor hir.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:35 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Ie, o’n i’n meddwl sut fase nhw’n ymateb i Myndiawlmundial neu S4Cnewydd? A fyddai blog tumblr gyda dyfyniadau, lluniau a chlipiau fideo’n dderbyniol, neu ai llenyddiaeth destunnol ar ffurf electronig maen nhw eisiau?

      Dwi’n credu eu bod yn gofyn am gyfres o gofnodion blog (er taw ‘blogiau’ yw’r term yn y gystadleuaeth am 2012, sydd braidd yn ddryslyd efallai) yn hytrach nac un cofnod.

      Un ffordd sydd i ffeindio allan mae’n debyg: anfon URLs a gweld be ddaw…

    • Rhys Wynne 8:42 AM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae’n costio £5 am pob ymgais cofiwch (er, mae’n werth o, os yw’r wobr yn £200)

    • Rhys Wynne 11:30 AM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Un broblem ymarferol gyda jyst danfon URL’s mewn yw bod nifer o flogwyr yn blogio o dan eu henwau iawn, tra mae eisiau i gystadleuwyr cysatdlaethau’r Eisteddfod wneud hynny o dan enw ffug.

      Ond dyma’r math o bynciau y dylid eu hystyried au trafod yn fan hyn, a diolch am godi’r pwnc, Rhodri.

      Roedd cystadleuaeth fel yn yn 2009 os d wi’n cofio’n iawn, ac os edrychwch ar gyfansoddiadau’r flwyddyn honno, dw i ddim yn meddwl i neb gystadlu. Pan ofynwyd i mi feirniadu cystadleuaeth tebyg, ond ar gyfer dysgwyr yn 2010, holais os oedd unrhyw ganllawiau arbennig, oherwydd tybiais byddai diffyg manylion a dealltwriaeth am beth yn union yw blog yn golygu mai prin fyddai’r rhai a fyddai’n cystadlu (roeddwn yn iawn, mond dau wnaeth drio, ac ar bapur!). Dyma oedd ymated yr Eisteddfod:

      Mae’r math yma o gystadleuaeth yn un newydd gan fod blogs yn rywbeth diweddar. Nid ydym yn paratoi canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth hon- prin iawn yw’r achosion y byddem yn paratoi unrhyw fath o ganllawiau.

      …….

      Mae cystadlaethau fel hon ac eraill yn y maes technoleg newydd yn mynd i gymryd tipyn o amser i ddenu pobl i gystadlu mae gen i ofn-roedd un debyg i fewn yn yr adran llên ond gwan yw’r ymateb o gymharu a chystadleuaeth fel englyn dywederond efallai mai dyfal donc sydd raid.

      Mae eisiau canmol yr Eisteddfod am geisio cyflwyno mathau newydd o gystadlaethau, ac hefyd am ddyfalbarhau gyda nhw hyd yn oed os nad oes llawer o ymateb ar y dechrau, ond mae’n biti nad ydyn nhw hefyd yn fodlon bod yn fwy hyblyg a gweld yr angen i roi bach o gyfarwyddiadau pellach, yn arbennig gan eu bod yn cydnabod ei fod yn gystadleuaeth gwahanol iawn i’r rhai traddodiadol.

      Plis pobl yr Eisteddfod, byddwch yn barod i addasu pethau, ac hefyd peidiwch a bod ofn dod i ofyn yma am unrhyw awgrymiadau/cyngor.

    • Rhys 5:04 PM ar 15 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Peidiwch gofyn pam, ond dw i wedi blogio am bobl yn blogio am yr Eisteddfod.

    • Rhys Wynne 8:28 PM ar 23 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Mae dwy gystadleuaeth arall gyda’r gair ‘blog’ yn y manylio. Gweler y diweddaraid i’r cofnod blog.

  • Carl Morris 9:30 PM ar 10 August 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , blogio, , siroedd,   

    Siroedd Cymru a blogiau Cymraeg 

    Rhys yn dweud:


    Bron i hanner siroedd Cymru (9 o 22) heb eu cynrychioli gan flogiau Cymraeg :-( http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_o_Gymru #haciaith
    @rhysw1
    Rhys Wynne

    Problem yw, dyw’r Rhestr ddim yn hollol gyflawn. Dydyn ni ddim yn gwybod lleoliad o’r rhan fwyaf o flogiau. Wrth gwrs mae rhai yn siarad am bynciau tu hwnt lleoliad y blog, e.e. gwyddoniaeth, coginio neu gwleidyddiaeth Cymru fel gwlad. Mae rhai o bobol yn hapus i flogio heb nodi lleoliad.

    Dyma’r siroedd gyda’u blogiau, yn ôl Y Rhestr hyd yn hyn.
    Blog o Abertawe (2 blog)
    Blog o Flaenau Gwent (1 blog)
    Blog o Gaerdydd (34 blog)
    Blog o Gaerffili (6 blog)
    Blog o Sir Gaerfyrddin (6 blog)
    Blog o Gastell-nedd Port Talbot (1 blog)
    Blog o Geredigion (16 blog)
    Blog o Gonwy (3 blog)
    Blog o Sir Ddinbych (2 blog)
    Blog o Wynedd (16 blog)
    Blog o Sir Benfro (1 blog)
    Blog o Rhondda Cynon Taf (5 blog)
    Blog o Ynys Môn (3 blog)

    Felly mae 96 blog wedi cael eu nodi dan categorïau sir penodol
    Paid anghofio’r 33 blog sydd wedi cael eu nodi fel Blog o du all i Gymru

    Ond mae cyfanswm o 295 blog yn Y Rhestr.

    Felly mae 166 blog heb lleoliad.

    Efallai bydd rhai yn dod dan y categorïau uchod.

    Efallai bydd rhai (gobeithio) yn dod dan y categoriau isod, siroedd heb blogiau, yn ôl Y Rhestr hyd yn hyn.
    Bro Morgannwg
    Casnewydd
    Sir y Fflint
    Sir Fynwy
    Bwrdeistref sirol Merthyr Tudful
    Pen-y-bont ar Ogwr
    Powys
    Torfaen
    Wrecsam

    Defnyddia Google Blog Search os ti eisiau chwilio am eithriadau! e.e. pentrefi ym Mhowys

    Hyd yn oed gyda’r caveats uchod, dyw’r canlyniadau ddim yn edrych mor dda – yn enwedig achos rydyn ni’n siarad am hanes blogio Cymraeg hyd yn hyn yn gynnwys y blogiau sy’n cysgu.

    Edrych fel does neb yn fodlon cynrychioli‘r llefydd yma, neu does dim lot – 3 blog Ynys Môn ac 1 o Sir Benfro yn hanes blogio Cymraeg?

    Os ti eisiau dechrau blog nawr am unrhyw beth mae WordPress Cymraeg yn dda.

    Diolch i Rhys am ddechrau’r sgwrs yma.

     
    • Rhys Wynne 10:11 AM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Diolch am greu cofnod am hyn.

      Mi eiriais y trydariad fel y gwnes i gan yr oeddwn yn meddwl byddia’n ennyn ymateb (ni Gymry mor blwyfol!), a cafodd ei aildrydar gan sawl un, ces i ymateb gan flogiwr drwy Twitter yn dwed bod e flog o ar goll ac aeth eraill at Hedyn a gwirio manylion eu blogiau hwythau ac eraill – Canlyniad!

      Mae hefyd wedi procio fy nghof i am unai blogiau oedd heb eu cynnwys neu ble nad oeddynt wedi eu categoreiddio’n gyflawn eto, felly rwan mae gyda ni gynrychiolaeth ar gyfer Powys, Wrecsam, Sir y Fflint a Bro Morgannwg.

      297 blog ar y rhest erbyn hyn.

    • Dafydd Tomos 3:58 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Dwi’n gwrthwynebu braidd i’r categoreiddio yma. Alla’i ddim siarad am neb arall ond dyw lle dwi’n byw ddim i’w wneud a fy mlog i. Dwi ddim yn ‘cynrychioli’ Caerdydd nac yn canolbwyntio ar unrhyw gofnodion i wneud a’r lle (yn wahanol i flogiau sy’n benodol am aral fel Ein Caerdydd).

      Dwi ddim yn gweld fod blogiau yn gorfod adlewyrchu dosbarthiad daearyddol yr awduron. Mi fase’n i’n disgwyl fwy mewn llefydd fel Caerdydd oherwydd nifer uwch o fyfyrwyr ayyb. Mae’n werth gofyn pam nad oes fwy o flogiau o ardaloedd fel Gwynedd a Cheredigion ond dwi’n amau fod llawer o flogiau yn cael eu dechrau gan bobl ifanc tra eu bod nhw yn y coleg i ffwrdd o’i cynefin?

      Mae Twitter yn fwy addas ar gyfer y math yma o ddadansoddiad efallai.

    • Rhys Wynne 4:38 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      @Dafydd
      Gwrthwynebu categoreiddio ffwl stop, neu yn ol lleoliad yn benodol?

      Pwrpas y categori oedd jyst er mwyn i bobl sylwi bod blogwyr Cymraeg eraill yn byw yn eu mysg, ac falle hoffent drefnu rhyw flog-gwrdd lleol neu beth bynnag, dim byd arall.

      Trydarais fel y gwnes mond er mwyn cael ymateb a help gyda categareiddio pellach, nid er mwyn trio creu cystadleuaeth rhwng un ardal a’r llall (ac fei weithiodd). Nid ‘cynrychioli’ oedd y gair cywir falle.

      Ti newydd roi syniad i fi rwan am gategori arall – un yn ol galwedigaeth…..
      …OK, falle ddim.

    • Dafydd Tomos 5:06 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Dwi’n gwrthod categoreiddio ar leoliad heblaw fod y blog yn amlwg yn canolbwyntio ar ardal benodedig. Dwi ddim yn ei weld yn ddefnyddiol, heblaw fel astudiaeth academaidd. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i fi i wahaniaethu rhwng blog gan rywun yng Nghwynedd gyda blog rhywun yn Llundain neu blog o Japan er enghraifft. Blog Cymraeg ydi blog Cymraeg. (Os oedd posib ‘tagio’ blogiau yn y brif rhestr gyda un neu fwy o gategoriau (pwnc, lleoliad, ayyb) efallai fase’n i’n gwrthwynebu llai).

      Be ddigwyddodd i rhithfro.com lle’r syniad oedd gallu casglu awduron blogiau, falle creu map o leoliadau?

    • Carl Morris 5:56 AM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae gwybodaeth lleoliad ar y we gyhoeddus felly rydyn ni’n ei ailddefnyddio ‘achos mae’n bosib’.

      Mae rhai yn canolbwyntio ar ardal ac mae rhai yn cyhoeddi’r lleoliad, e.e. ar yr ochr neu tudalen ynghylch ayyb.

      Ar y dechrau gwnaethon ni cytuno i beidio sgwennu unrhyw beth sydd ddim ar y blog eisoes. (Weithiau trwy ffrindiau rydyn ni’n gwybod y lleoliad ond y rheol yw, dim ond gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.)

      Wrth gwrs does dim ots os mae 166 blog yn arnofio yn y gofod heb leoliad. Gwych.

      Ond dim blogiau byw yn Gymraeg sy’n gysylltiedig â Sir Benfro? C’mon.

      Rydyn ni wedi cael lot o sgyrsiau fel hyn. Mae’r project yn ‘top i lawr’. Fel y cyfeirlyfr Yahoo mewn ffordd.

  • Carl Morris 3:32 PM ar 18 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , blogio, cenedl,   

    Blogio, cenedl a chyfranogiad – papur gan Hansard Society 

    When it comes to more active online political participation, such as writing blog posts or commenting on blogs, the figures are usually male dominated. However, this mirrors other offline and non-political activities such as the gender of those who write letters to newspapers for publication. Overall the evidence for online politics suggests that the more an activity involves self-promotion, expounding your views to others or the risk of conflict then the more likely there is to be a male dominance.

    http://www.hansardsociety.org.uk/blogs/press_releases/archive/2011/07/07/why-are-political-blogs-dominated-by-men.aspx

     
  • Rhys Wynne 8:56 AM ar 15 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: blogio,   

    Gwasanaeth blogio Nireblog yn dod i ben. 

    Yn 2007, des ar draws gwasanaeth blogio Nireblog a penderfynu ei leoleiddio i’r Gymraeg. Roedd yn brosiect uchelgeisiol iawn gan ddau unigolyn o Wlad y Basg, yn arbennig eu hawydd iddo fod ar gael mewn cymaint o ieithoedd lleafrifol a phosib, yn groes i arferiion pob gwasanaeth arall sy’n canolbwyntio ar ddyrnaid o brif ieithoedd y byd yn unig. Diolch i ddolen ato o wefan BBC Cymru a thudalen flaen y Blogiadur, credaf i tua dwsin neu fwy falle o flogiau Cymraeg gael eu sefydlu arno (rhai yma).

    Pan ymwelais â’r wefan heddiw, gwelais y neges ganlynol:

    Nireblog close
    The next meet July 9 Nireblog five years and believe it is a good time to close the service have been five years which have created more than 100,000 blogs in over 60 languages ​​and have served hundreds of millions of pages, for the last 2 years and could not create Blogs and the system had ceased to be updated.
    This closure does not mean that blogs are going to disappear, we have developed a system to export your WordPress.com blogs or your own installation of WordPress, this migration preserve all your Posts, Comments, Graphics, … also all the visitors to your blog in Nireblog be redirected to the new address so your visitors will not notice the difference, however you will have your Blog on Blogs management system more advanced now.

    We have prepared a simple tutorial to make the migration in less than 5 minutes.

    If you have any questions please contact us at the address nireblog@nireblog.com sending your new blog with a post created where you see an image you upload your new site.

    We acknowledge your trust over the years.

    The Nireblog team

    Diolch yn fawr/Eskerrik Asko David a Lorena.

     
  • Carl Morris 10:47 PM ar 13 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: blogio, , , hunaniaeth   

    Pwy sy’n biau dy hunaniaeth ar-lein? (Erthygl neis iawn) 

    In many ways, we’re better off now: publishing online is far easier, less time-consuming, and more accessible than it has ever been, which has brought content, voices, and consumers online that wouldn’t have been otherwise.

    But all of these proprietary networks that want to own and hold in your content are reversing much of the web’s progress in some other areas, such as the durability and quality of online identity.

    If you care about your online presence, you must own it. I do, and that’s why my email address has always been at my own domain, not the domain of any employer or webmail service.

    http://www.marco.org/2011/07/11/own-your-identity

     
  • Carl Morris 5:22 PM ar 9 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , blogio, gwobrau   

    Gwobrau Blog gyda Media Wales & Warwick Emanuel PR 

    yn croesawi enwebiadau o Gymru o bob math yn ôl y sylw yma gan Ed Walker o Media Wales http://walesblogawards.co.uk/2011/07/nominations-open-for-wales-blog-awards-2011/comment-page-1/#comment-2004

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu