Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog
Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)…
Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.com. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu ei gweld yn y cefndir.)

Rydyn ni’n blogio i:
rhannu nodiadau
postio fideos/dolenni/awdio (Yr Haclediad)
parhau gyda syniadau a phrosiectau
gofyn/ateb cwestiynau
trefnu sesh lleol Hacio’r Iaith Bach mewn pyb
ac ati
Mae’r blog Hacio’r Iaith ar sail WordPress, mae’n weddol hawdd i’w defnyddio (ac mae help ar gael os ti’n styc).
Mewn ffordd mae’r gymuned Hacio’r Iaith yn parhau trwy’r flwyddyn ar y blog, ar y we ac unrhyw bryd mae pobol eisiau cwrdd i drafod technoleg a Chymraeg ledled Cymru.


Robin Hughes 4:35 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A gaf i gyfrif plis? Diolch.
Mark Jones 10:02 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A finnau! Diolch!
Carl Morris 12:12 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Robin a Mark, dw i newydd greu cyfrifon i chi. Gweler eich ebost.
Nici Becch 4:18 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A fi os gwelwch yn dda
Carl Morris 11:59 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Nici, mae gen ti ebost.
Gareth Jones 7:40 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Gai gyfrif
Gareth Jones 3:43 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Diddorol gweld rhai ymatebion yn ymddangos yn syth tra bod eraill yn disgwyl eu cymedroli.
Carl Morris 1:18 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Gareth, dydyn ni ddim yn rhoi cyfrifon i bobol sydd ddim wedi dod. Mae rhaid cael rhyw fath o linell. Does dim eithriadau. Diolch i ti am y sylwadau.