
Dw i’n sicr fod ti’n nabod y stori wreiddiol.
Dw i’n gweld y stori hon yn y siart BBC yn aml iawn. Mae pobol ryngwladol DAL yn ffeindio fe nawr.
Mae e’n un o’r straeon mwyaf poblogaidd am Gymraeg arlein – erioed!
Chwilia am “swyddfa” ar Google, y cofnod Language Hat am y stori BBC yw’r canlyniad CYNTAF.
Nes i stopio chwerthin misoedd yn ôl. Ond ro’n i eisiau gofyn – ydy’r agwedd pobol a phroffil Cymraeg arlein yn bwysig i ti? Beth allan ni dysgu am farnau pobol ddi-Gymraeg arlein?
Ydy’r barnau yn y sylwadau yma yn bwysig i ti?
http://boingboing.net/2008/10/31/email-error-on-road.html
Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.
Neu ydy pethau fel hyn yn digwydd ar hap?
Rhys Wynne 7:34 AM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol
Fawr o golled – doedd y sylwadau ddim yn adeiladuol tu hwnt (i ddwued y lleiaf)
RHyfedd hefyd, pan wnaeth y BBC newid eu system sylwadau fel bod rhaid cael cyfrif BBC cyn gadael sylw, fe gafodd y blogiau Cymraeg aros gyda’r hen sustem ble gallai unrhyw un adael sylw. ‘Sgwn i a oedd hyn yn fwriadol er meyn lleihau’r rhwystrau?
Dafydd Tomos 1:55 PM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol
Ie.. o’n i’n meddwl fod hi’n od nad oedd y ‘criw arferol’ wedi bod yn gwneud sylwadau am S4C! Wnes i’m sylwi fod y sylwadau ffwrdd. Allwch chi wastad fynd draw i WalesOnline i weld y giwed yna wrth gwrs
Carl Morris 9:53 PM ar 13 Hydref 2010 Dolen Barhaol
esboniad
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/10/please_leave_your_comment.html