Tagiwyd fel: bbc RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM ar 21 May 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , ,   

    “A oes data?” “…data?!” 

    Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

    Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

    Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

    Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

    Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

     
  • Carl Morris 12:07 PM ar 10 April 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , ,   

    Adeiladu platfformau sydd yn hybu creadigrwydd gan @davidgauntlett 

    Dyma cofnod blog diddorol gan David Gauntlett gydag wyth egwyddor bwysig os wyt ti eisiau adeiladu/defnyddio platfform ar-lein i sbarduno creadigrwydd.

    http://www.digitaltransformations.org.uk/building-platforms-for-creativity-eight-principles/

    Daeth David Gauntlett i ambell i gyfarfod Fforwm Cyfryngau Newydd gyda ni llynedd. Mae fe’n awdur y llyfr Making Is Connecting.

     
  • Carl Morris 11:49 PM ar 6 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc,   

    RIP BBC Cylchgrawn 

    Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff.

    Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud:

    Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad ac i fy hysbysu mai fy adolygiad o Hunky Dory fydd yr olaf i gael ei chyhoeddi, gan fod y gwybodusion wedi penderfynu yn dilyn y toriadau ariannol nad oes lle mwyach i BBC Cylchgrawn.

    Bydd rhyw fath o ddatganiad swyddogol yn neis, hyd yn oed rhywbeth sy’n cyfeirio at y ‘diffyg galw’ fel pob un arall. Oes cynllun i ddarparu mwy mewn adran arall?

    Ym mis Chwefror 2011 daeth BBC Chwaraeon i ben, fel newyddion rhyngwladol yn Gymraeg cyn hynny.

    Mewn gwirionedd roedden nhw tri yn enghreifftiau o adrannau BBC dan-y-cownter. Maen nhw yn rhedeg ar hen systemau ac yn dioddef o ddiffyg cariad. Er enghraifft ar hyn o bryd rwyt ti’n gallu clicio I rannu dy hoff erthyglau Cylchgrawn ar Digg, Newsvine a NowPublic tra bod blaenoriaethau eraill fel Newyddion Arabeg yn mwynhau triniaeth llawn ar blatfformau cyfoes fel YouTube.

    Pa mor wych fydd y wasanaeth pe tasen nhw yn rhoi mwy o gymorth a dolenni i adrannau Cymraeg?

    Gweler y cartwn yma o 1968. Plus ça change, plus c’est la même chose.

     
    • Rhys Wynne 8:54 AM ar 7 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Ie, gwelais i hynna ar flog Lowri hefyd. Dw i wedi bod yn chwilio am ddatganiad hefyd. Mae’n adran gynhwysfawr iawn. Os mai diffyg galw ydy’r rheswm, sgwn i faint o defnydd sy’n cael ei wneud o dudalennau cyfatebol, sef Wales Arts ar wefan BBC Wales? Nid mod i eisiau gweld dirywiad yn y ddarpariaeth hynny chwaith, ond gweld mai ychydig iawn o sylwadau sy’n cael eu gadael ar y blogiau yno hefyd.

      Sylwais ar y golygiad yma ar erthygl un o’r papurau bro ar y Wicipedia yr wythnos yma, ble mae’r golygydd (di-enw) wedi gadael y sylw canlynol i esbonio’r golygiad:

      Lic (sic) wedi newid o bbc i facebook. Doedd bbc ddim yn diweddaru y dudalen

      Dw i’n cymryd bod y golygydd yr erthygl uchod yn rhywbeth i’w wneud gyda’r papur bro dan sylw. Sgwn i os ydyn nhw wedi bod yn gofyn i’r BBC ddiweddaru eu tudalennau nhw ar adran BBC Lleol i Mi ac wedi darparu’r cynnwys, a bod y BBC yn gwrthod gwneud?

    • Carl Morris 6:53 PM ar 11 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      BBC wedi cadarnhau y penderfyniad, does dim cynllun B eto chwaith: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/67505-adran-arall-o-wefan-gymraeg-bbc-yn-mynd

  • Carl Morris 2:46 PM ar 26 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , bbc, ,   

    BBC yn cael gwared â chomisiynwyr amlblatfform 

    Stori o Broadcast:

    BBC scraps multiplatform commissioners
    26 May, 2011 | By Catherine Neilan

    The BBC is scrapping the role of multiplatform commissioners and cutting ten more jobs from BBC Vision as part of its restructure of BBC online.

    Instead of distinct heads for multiplatform content, all commissions will go through the relevant channel and genre heads.

    The restructure splits BBC online into 10 distinct products including dividing what was previously conceived of as Vision Multiplatform into TV & iPlayer, headed by Victoria Jaye, and Knowledge & Learning, headed by Saul Nasse.

    It was first announced in January, and will also see new roles created as it nears completion.

    Cerys Griffiths has been hired in the new role of executive producer for development within Knowledge & Learning, a position she takes up in June, and the team is looking to appoint an indie executive focused on dealing with those companies who specialise in tech and design.

    The move forms part of a Trust-approved reduction in business, which sees £43m taken out of the budget and a total headcount reduction of 360. BBC Vision roles had originally been expected to comprise 85 to 90 of these jobs, but will now account for 90 to 100.

    More details have also been revealed about the selection criteria for the 12 annual projects that will see additional investment for online content.

    Doctor Who and EastEnders are two programmes already confirmed as receiving the financial boost, with Jaye describing them as “very precious brands”.

    She added: “We will be investing in a dozen ambitious pieces that enhance the audience’s experience. That will be very joined up with the channel controller, who has full expression over the programmes – so there is no division between online and on air.”

    The criteria for which programmes are selected differ according to the channel, Jaye explained. While BBC3 may look for items that “raise the creative benchmark”, or are new experimental programmes, BBC1 is more likely to focus on further developing established brands.

    Keating said: “A lot of hard work has been put into shaping this into a clear statement of how much money there is, and where it can be spent. Within those spikes of investment will be classic tactical and strategic mixes.”

     
  • Carl Morris 1:32 PM ar 23 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , ,   

    Blog gyda newyddion BBC – Betsan a Vaughan 

    Mae BBC yn newid eu systemau blogio.

    There will, of course, be some changes. The design and navigation are very different. The text will look more like normal news stories or features. But the content will be the same. Nick & co will still each have their own page, and these will still operate like blog indexes, with the newest entry at the top. You can see how it looks with Mark Mardell’s page here which has already moved over to the new design. And part of the plan is to make these new pages the place where you can follow a particular correspondent, whatever form of journalism they are producing. So we plan over the next few weeks to incorporate correspondents’ tweets, if they have them, into their pages, along with some of their reports in audio and video, and also where they add “text box” contributions to news stories (see right). We hope that, together, these will make a compelling and new way to follow a story or subject.

    http://www.bbc.co.uk/blogs/theeditors/2011/05/our_next_step_in_news_blogging.html

    Mae tudalen newydd am Betsan
    yma: http://www.bbc.co.uk/news/correspondents/betsanpowys/

    ond does dim tudalen newydd am Vaughan http://www.bbc.co.uk/news/correspondents/vaughanroderick/ (404 ar hyn o bryd)

    Gyda llaw dim ffrydiau RSS llawn nawr, pfft!

    Changes to the RSS feeds are something I should have mentioned earlier, and I apologise for not doing so. Whereas we previously offered full text feeds of blogs, the RSS feed of the new pages is headline and summary only. I recognise that this is clearly an issue for lots of people, and is frustrating to those who have been using our feeds. The change is an unintended consequence of moving into our main production system, which does not automatically export full text feeds. We are looking at the issue and I hope to be able to come back to you with more detail.

     
    • Rhys Wynne 2:29 PM ar 23 Mai 2011 Dolen Barhaol

      ‘Gwelliant arall hefyd:

      In addition, in our new system, comments have a maximum length of 400 characters. It’s my view that this makes for sharper contributions, though I know some disagree.

      Go BBC!

  • Carl Morris 7:37 PM ar 10 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , , treigladau   

    Newyddion BBC ar-lein – blwch Chwiliwch yn Gymraeg, newydd? 

    Newydd sylweddoli “Chwiliwch yn Gymraeg” ar y wefan Newyddion BBC.

    Ers pryd ydyn nhw wedi ei chynnig? Bach yn hwyr ond well na dim byd.

    e.e. y blwch

    http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9480000/newsid_9482100/9482145.stm

    e.e. canlyniadau chwilio

    http://search.bbc.co.uk/search?scope=cymru&q=dafydd%20elis%20thomas

    Mae’r peth yn chwilio am dreigladau yn awtomatig hefyd.

     
  • Carl Morris 1:46 PM ar 14 March 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , ,   

    “Cylch bywyd” cynnwys ar-lein – dwl 

    http://blog.tommorris.org/post/3512773108/channel-4-showing-the-fruits-of-content-lifecycle

    rant da

    The BBC have been proposing for the last few weeks that they are going to shut down a variety of websites. They’ve prevaricated over what they mean by the word ‘close’. They aren’t going to delete them. But they are going to, oh, burn them on a DVD-R and leave them floating around the office or something.

    The BBC have to save “domains”, by which they mean top-level directories. Because apparently, there is no need to still have a website called “election97” because nobody visits it, but the BBC absolutely have to purge the directory just in case they want another website called “election97”. Unlike IPv4 exhaustion, the next time you’ll need “election97” is 2097. By that time, I’m sure a disambiguation link from “election97” saying “If you want to read about the current 2097 election, please go to our new website” or somesuch will do the job…

     
  • Carl Morris 5:23 PM ar 10 March 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, , , , , , Y Cymro   

    Golwg360, Y Cymro, @umapcym a newyddion ar-lein… meddyliau @VaughanRoderick 

    Dyn dewr fyddai’n camu mewn i ffrae rhwng Angharad Mair a Cris Dafis ac rwy’n gobeithio na fyddaf yn pechu’r naill neu’r llall o golofnwyr Golwg trwy wneud hynny!

    Fe fydd darllenwyr y cylchgrawn yn ymwybodol bod y ddau wedi bod yn ffraeo rhiw faint ynghylch pwysigrwydd datblygiadau diweddar ar y we i ddyfodol y Gymraeg.

    Roedd Cris yn gweld datblygiad UMAP Cymru, y safle sy’n dod a thrydarwyr Cymraeg ynghyd, fel cam tuag at greu rhyw fath o rith-gymuned Gymraeg. Roedd Angharad yn gweld dim byd mwy na lot o glebran gwag. Mae’n gwbwl bosib i’r ddau fod yn gywir wrth gwrs.

    Yn sicr mae’r safle ynghyd a chyfres o ddatblygiadau eraill wedi rhoi hwb sylweddol i’r we Gymraeg oedd wedi dechrau teimlo fel lle cymharol sglerotig yn ystod y blynyddoedd diwethaf…

    http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2011/03/rhithfyd.html

    am fwy

    Sgwenna dy sylw ar y cofnod gwreiddiol neu isod.

     
    • Carl Morris 2:05 PM ar 11 Mawrth 2011 Dolen Barhaol

      Meddyliau…

      Mae cystadleuaeth yn newyddion neu cynnwys ar-lein yn wahanol iawn i gystadleuaeth yn farchnadoedd o stwff cyffyrddadwy all-lein, yn enwedig trwy’r iaith Gymraeg.

      Golwg360 / Y Cymro:
      1. Maen nhw dau yn cynnig darpariaethau newyddion am ddim.
      2. Maen nhw dau gyda’i gilydd yn cystadlu gyda digonedd o newyddion/cynnwys Saesneg.
      3. Rydyn ni angen rhwydwaith a chymunedau gwell o bobol Cymraeg ar y we
      4. Mae newyddion wedi cael ei dadfwndelu – ar-lein pob stori yw clic i ffwrdd

      Felly mae Golwg360 a’r Cymro yn gallu tyfu’r farchnad am ei gilydd. Wrth gwrs maen nhw yn gallu cystadlu am scoops ayyb. Ond dylen nhw siarad am ffyrdd i gyd-weithio yn sicr. Does dim pwynt copïo cynnwys os mae’r pethau i gael yn barod.

      e.e. dychmyga: mae Golwg360 yn ffeindio stori gyntaf, dylai’r Cymro rhoi ffocws ar elfen unigryw gyda dolen i’r stori ar Golwg360. A vice-versa.

      Mae Google yn dy anfon di i lefydd eraill, yn gynnwys Yahoo a Facebook. Ti’n dod yn ôl i rywle ddefnyddiol.

  • Carl Morris 3:02 PM ar 1 March 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: bbc, ,   

    Archif BBC: 500 rhaglen Desert Island Discs 

    http://www.bbc.co.uk/pressoffice/pressreleases/stories/2011/03_march/01/did.shtml

    The BBC is to launch an online collection of more than 500 episodes of Desert Island Discs alongside the choices of every single castaway, to coincide with the launch of BBC Radio 4 Extra in April.

    The archive will allow fans to download the last 500 complete episodes and will list the choices – music, books and luxury – of every guest since 1942. Classic editions will also be broadcast on Radio 4 Extra, curated by Kirsty Young, who will update and contextualise each interview. In addition, the station – the relaunched Radio 7 – will broadcast special, hour-long versions of episodes from the past year with previously edited material. Both Radio 4 Extra and the archive will launch in April.

    Ond pa fformat? Rhywbeth gyda DRM ar iPlayer neu rywbeth gwell fel MP3?

     
    • Rhys 3:35 PM ar 1 Mawrth 2011 Dolen Barhaol

      Gwych (cyn belled a’i fod ar fformat agored fel ti’n deud). Mae rhaglenni bore sadwrn John Hardy gyda clipiau o’r archif reit difyr, falle cawn rhywbeth tebyg i Radio Cymru (Rhaglen Beti George?)

      Dim i’w wneud a’r uchod, ond drwy hap bore ‘ma, dois ar draws stwnsh Radio Cymru o hackday BBC

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu