Tagiwyd fel: Basgeg RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhys Wynne 10:49 AM ar 15 June 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Basgeg, , euskadi, , ,   

    Llywodraeth Euskadi yn fodlon talu am 10,000 erthygl i’r Wikipedia Basgeg 

    Pan ddarllenais y canlynol ar wefan newyddion Eitb;

    Lurdes Auzmendi, Deputy Secretary for Linguistic Policy in the Basque Government, stressed the importance of Microsoft’s support for the Basque language via some of its most recent tools, and highlighted “some of the key projects that will get underway this year” such as “the creation of 10,000 topics in the Basque language to be published in Wikipedia; the activation of an automatic translation system and the creation of a Public Bank of Traslation Recall.”

    ..ro’n i’n meddwl mai rhyw gamgymeriad oedd wedi bod wrth adrodd bod y 100,000fed erthygl wedi ymddangos ar y Wikipedia Basgeg. Ond o holi ymhellach, ces eglurhad bod Llywodraeth Euskadi (Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg) newydd osod tendr ar gyfer y gwaith o greu 10,000 erthygl.

    Mae’r manylion yma mewn Basgeg a thrwy GoogleTranslate fan hyn.

    Mae manylion am hyd y cytunedb (5 mis) a’i werth (169,400 Ewro),  ond allai ddim agor y ddogfen pdf.do i wybod mwy. Hoffwn wybod pa erthyglau caiff eu dewis ac o ba iaith byddant yn cyfieithu, neu a fyddant yn cael eu creu o’r newydd. Y rheswm hoffwn wybod yw gan bod erthyglau Wikipedia o mhrofiad o ddarllen rhai Saesneg (a rhai Cymraeg) yn gallu bod yn bell o ddi-duedd. Os darllenwch chi dudalen sgwrs erthyglau am bynciau llosg, megis iaith, gwleidyddiaeth a diffiniadau cenedlaethol yng Ngwlad y Basg a Catalonia, mae ffraeo ffyrnig rhwng cenedlaetholwyr Sbaenaidd/Ffrening a rhai Basgaidd. A thra bod gweinyddwyr yn ceisio dod i gyfaddawd, tydy’r canlyniadau ddim yn foddhaol bob tro. Dychmygaf bod y sefyllfa yr un fath neu’n waeth ar Wicipedai’s Sbaeneg a Ffrangeg a fyddair safbwyntiau hynny ddim yn dderbyniol gan Lywodraeth Euskadi.

    Diweddariad: Er bod y llywodraeth yn bwriadu talu 170K Ewro am y gwaith, ymddengys nad ydyn wedi dod i gysylltiad gyda gweinyddwyr y Wikipedia Basgeg i drafod pa erthyglau sydd eu heisiau. Yr un hen stori!

     
    • Carl Morris 2:48 PM ar 15 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Swydd fel golygydd Wicipedia Cymraeg unrhyw un? :-)

      Mae’r stori yma yn ddiddorol iawn IAWN, yn enwedig o ran diwylliant rhydd.

    • Rhys Wynne 5:07 PM ar 15 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Swydd fel golygydd Wicipedia Cymraeg unrhyw un?

      Wedi meddwl, fe gyflogdd y Llyfrgell Genedlaethol rhywun am gyfnod dros dro (o dan y cynllun Go Wales falle) i uwchlwytho rhai o’u delweddau ar Wikipedia a’r Wicipedia.

      A rwan, wedi i mi ddarllen y cyfnod blog yma, dw i’n gweld bod y Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio cynllun grantiau o’r enw Grantiau Arloesi a Datblygu, a Grantiau Cyfoeth Cymru Gyfan 2011/12.

      Dyma sut mae’r grant yn cael ei ddisgrifio ar y blog:

      Mae CyMAL wedi cynnig cynllun grant yn 2011-12. Pwrpas yr arian yma yw annog amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i weithio mewn partneriaeth agos â grwpiau trydydd sector i greu cynnwys digidol deniadol o ansawdd uchel. Cafwyd dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn ddiweddar, edrychaf ymlaen at ddarganfod pa brosiectau diddorol ac arloesol bydd yn cael ei ariannu’r flwyddyn yma.

      Cyfle i grwpiau (megis Mentrau Iaith?) gyflogi pobl ar brosiectau byr dymor i greu cynnwys Cymraeg am eu hardal nhw dybed? Neu falle cyflogi rhywun i gydlynnu prosiect fel hyn wedi ei ganolbwyntio ar Gymru i annog pobl i greu ac uwchllwytho cynnwys am amguedddfeydd lleol at y Wicipedia.

      Des ar draws gwefan Archifau Cymunedol Cymru yn ddiweddar hefyd sydd efo lot o gynnwys defnyddiol arno (gan gynnwys delweddau), lot ohono o dan drwydded Creative Commons. Arinawyd hwn gan Gymunedau”n Gyntaf.

    • Carl Morris 2:50 PM ar 16 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Ar y dechrau does dim rhaid iddo fe fod yn broject penodol. Dylai pob sefydliad cyhoeddus rhannu lluniau, fideo a thestun dan Creative Commons neu hyd yn oed mas o hawlfraint, bydd e’n dechrau da. Ond mae Rhys yn gwybod y manteision yn barod.

  • Rhodri ap Dyfrig 11:23 PM ar 5 April 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Basgeg,   

    Papur academaidd ar effaith y rhyngrwyd ar gadw a gwella safon iaith Fasgeg 

    http://www.fl.ut.ee/orb.aw/class=file/action=preview/id=980627/Maia-Larretxea+Larrea-Muxika+241-260.pdf

    Gan Julian Maia-Larretxea a Kepa Larrea-Muxika o Brifysgol Gwlad y Basg.

    Llawer mwy o erthyglau ar ieithoedd lleiafrifol yn y cyfnodolyn Estoneg yma.

    Safoni ie? Beth am effaith y rhyngrwyd ar gael pobol i siarad *eu* math nhw o Fasgeg beth bynnag ei safon? Dyna sydd o ddiddordeb i fi.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 11:05 PM ar 10 November 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Basgeg, Catalaneg, , trydar, ,   

    Umap – casglu trydar adar Gwlad y Basg 

    Mae Umap yn wasanaeth sydd yn casglu trydar Basgeg a’u cyflwyno ar blatfform arall. Mae’n aggregator, neu’n gydgaslgydd o’r holl drafod sy’n digwydd yn yr iaith ar Twitter.

    Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhoi deg uchaf o’r tagiau sydd wedi cael eu defnyddio yn y 24 awr dwetha, yr wythnos dwetha a’r mis dwetha.

    Mae’n defnyddio algorithm i weld pa ddefnyddwyr sy’n trydar mewn Basgeg, gweld pa tweets sydd yn yr iaith ganddyn nhw, a thynnu trends allan o’r trydar hynny. Mae hefyd yn casglu data ar y defnydd iaith, allai fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ymchwil a phwy a wyr pa ddefnyddiau eraill.


    Argazkiak.org | Umap in Basque, in an iPad © cc-by-sa: sustatu

    Heb allu deall Basgeg, na’r byd trydar Basgeg, alla i ddim gweithio allan pa mor effeithiol ydi’r system ddarganfod ar hyn o bryd, ond yn sicr byddai cael rhywbeth sydd hyd yn oed ddim ond yn fras iawn yn ddefnyddiol, er y byddai hynny’n amharu ar ddefnyddioldeb y platfform. Byddai hefyd a’r potensial i sbarduno rhagor o drafodaeth a chreu cylch adborth (feedback loop, ‘lly).

    Mae nhw’n honni i allu adnabod *pob* defnyddiwr Twitter sy’n trydar yn yr iaith Fasgeg, a’n casglu 95% o’r tweets Basgeg i gyd. Gallai hyn yn digwydd trwy broses o ffeindio y geiriau arbennig hynny sydd ar yr un pryd yn unigryw i’r iaith ac yn cael eu defnyddio’n aml, neu efallai bod system adnabod iaith fwy cymhleth.

    Mae yna eisoes Umap Catalaneg, sydd yn cynnwys ychwanegiad sef gwasanaeth newyddion awtomatig. Byddai hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i’r we Gymraeg dwi’n teimlo.

    Mae rhagor o gefndir ar flog Luistxo Fernandez sydd wedi gweithio ar y wefan, ac ar wefan CodeSyntax y cwmni sydd wedi rhyddhau Umap.

    Maen nhw’n frwd i rannu’r gwasanaeth rhwng ieithoedd eraill felly dwi’n siwr gwelwn ni fersiwn Gymraeg yn fuan iawn.

    Gallwch chi ddilyn y datblygiadau diweddaraf ar Twitter neu Umap Central.

     
    • Carl Morris 1:47 PM ar 12 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Edrych ymlaen at y fersiwn Gymraeg. Mae pobol yn hoffi trending topics ond mae’r gofrestr o’r DU ar Twitter yn bron hollol amherthnasol ar hyn o bryd. Bydd widgets gyda ystadegau yn bosib mewn theori hefyd.

    • Carl Morris 2:00 PM ar 12 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Gyda llaw dw i wedi bod yn meddwl am rywbeth tebyg ond gyda ffrydiau llawn o’r cofrestrau Twitter yma:
      http://hedyn.net/wici/Cyfeirlyfr#Twitter

      Basai’r canlyniadau yn gynnwys pob tweet gan (bron bob) defnyddwyr Cymraeg – yn gynnwys tweets Saesneg ac ieithoedd eraill gan ddefnyddwyr Cymraeg.

      Mae gyda fi mwy o ddiddordeb yn y pynciau yn tweets uniaith Cymraeg, dw i’n meddwl. Ond mae lot o siartiau amrywiol yn bosib hefyd (geotags am lleoliadau…). Mae’r gwahaniaethau yn ddiddorol.

    • Gareth Jones 4:36 PM ar 17 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      mae’r linc yn dy sylw diwethaf wedi torri Carl

    • Carl Morris 4:49 PM ar 17 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Trwsiwyd, diolch

  • Carl Morris 12:14 PM ar 26 May 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Basgeg,   

    Google Translate – iaith Basgeg ar gael (fersiwn alffa) 

    Google Translate

    http://translate.google.com/?hl=en#eu|cy|email

    newyddion

    http://googleresearch.blogspot.com/2010/05/five-more-languages-on.html

    Unrhyw awgrymiadau blogiau Basgeg?

     
  • Rhodri ap Dyfrig 4:59 PM ar 2 March 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Basgeg, dotsub, , isdeitlo   

    Isdeitlo fel Basg 

    Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.

    Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod trwy wefan Azpitituluak sydd yn cyhoeddi isdeitlau Basgeg ar ffilmiau sydd ddim yn cael eu dosbarthu gyda isdeitlau yn yr iaith. A hyn oll wedi ei darddu gan y dorf. Dwi ddim yn deall yn iawn sut mae’n nhw’n rhoi nhw ar y ffilmiau ac yn rhannu’r ffilmiau wedyn ond mae’n grêt bod nhw’n mynd ati i lenwi bwlch yn y farchnad.

    Dwi’n cofio clywed mewn cynhadledd yn Barcelona am fab un o’m cyd-gynadledwyr oedd yn treulio ei holl amser yn rhwygo cyfresi Americanaidd newydd fel Lost trwy Bittorrent, eu isdeitlo i’r Gatalaneg, a’u cyhoeddi ar Bittorrent eto a hynny o fewn oriau i’r rhaglenni gael eu darlledu yn yr UDA.

    Prin y byddai’r ysfa i hyn ddigwydd yma gan bod pawb yn deall Saesneg cystal, gan weld yr ymdrech o isdeitlo Cymraeg i ffilmiau tramor fwy o strach nac o werth. Ond mae ffilmiau ar gael gyda isdeitlau Sbaeneg, felly pam na ddylen ni gael gweld ffilm Quechua gyda isdeitlau Cymraeg yn lle rhai Saesneg. Byddai na hefyd fanteision i wneud detholiad o ffilmiau o’r fath ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn arbennig. Ac yn sicr mae na fanteision i ni ei wneud y ffordd arall rownd – h.y. rhoi cynulleidfa wahanol i sdwff cyfrwng Cymraeg.

    Mae gwefannau sy’n galluogi hyn eisoes fel DotSub (er dwi’n siwr nad oes posib rhoi ffilmiau Hollywodd arno…) a gallwch chi fynd ati i gyfieithu rwan drwy helpu Rhys i drosi testun un o fideos Hacio’r Iaith ar gyfer cynulleidfaoedd Saesneg…

    dotsub

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu