Tagiwyd fel: app RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 9:30 AM ar 28 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , app, , Flash, html5, ,   

    Newyddion tech gorau y mis yn fy nhŷ i:

    SlideShare, the website for sharing PowerPoint presentations and other documents, has had a major makeover. The company has ditched Adobe Flash technology entirely, and rebuilt its website using the HTML5 markup language [...]

    This means that SlideShare is now viewable on every kind of mobile device, from iPads to iPhones to Android devices and beyond. Another perk is that the website is now 30 percent faster and its files take up 40 percent less space than they used to. Search engines can now read the content within SlideShare slides. [...]

    SlideShare initially set out to build its mobile experience by making individual apps for the Apple store, the Android marketplace, and others, but quickly realized that in the long term such a strategy would not be sustainable. [...]

    http://gigaom.com/2011/09/27/slideshare-html5/

    Gobeithio fydd mwy o bobol yn mabwysiadu HTML5 – yn hytrach nag apps ar blatfformau dan gwmniau. Mae’r we a safonau agored mor bwysig. Beth sy’n dda yn yr enghraifft yma ydy’r manteision eraill: platfform niwtral, cyflymder, SEO.

    Nawr dw i’n trio dychmygu pob app fel gwasanaeth ar y we trwy HTML5.

    Rhaglenwyr: os wyt ti eisiau dysgu sut i adeiladu apps efallai dylet ti ystyried HTML5 (yn lle!).

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:06 PM ar 23 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: app, ,   

    “Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…” 

    Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho.

    Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd cynulleidfa fel yna. Byddai’n ddiddorol gwybod faint ddefnyddiodd o ar y maes ei hun.

    Sgwn i a fydd yna fersiwn Android y flwyddyn nesa?

    Yn sicr, roedd yn app gwerth yr arian, os am y map yn unig. Roedd rhai elfennau yn ddibynnol ar gyswllt data, oedd yn amharu braidd oherwydd y diffyg oedd yna yng Nglyn Ebwy. Mae’n siwr o fod yn dipyn cryfach yn ardal Wrecsam, os nad cyswllt 3G, fydd yn gwella’r profiad.

    Oes na bethau hoffech chi weld arno?

     
    • Rhys Wynne 2:45 PM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau marchnata’r rhaglen yn well cyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

      “Dw i’n meddwl y bydd yr Eisteddfod yn gwneud mwy fyth o waith marchnata’r flwyddyn nesaf,” meddai cyn dweud eu bod yn cyfarfod gyda threfnwyr yr ŵyl ym mis Medi er mwyn trafod y dyfodol.

      Newyddion da, er beth fyddai’n fuddiol yw petai’r cyfarfod yma’n un agored (ac yn cael ei hysbysebu) gan y gall fod o ddiddordeb i ‘ddarpar-ddarparwyr’ newydd ddod i wybod pa fath o wybodaeth o flae llaw sydd gan yr Eisteddfod a allant ei ddefnyddio, ac i nodi pa wasnaaethau gallant ddarparu.

      Mae ffaith bod 1,000 wedi ei lawrlwytho yn ffigwr reit uchel o’i gymharu a faint sy’n ymweld â’r ‘Steddofd ei hun.

    • hywel 3:21 PM ar 23 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Llongyfarchiadau iddyn nhw am do figwr fast o lawrlwyddo

  • Rhodri ap Dyfrig 2:12 PM ar 1 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: app,   

    “Lliwiau” – meddalwedd Cymraeg newydd i blant ar gael ar gyfer yr iPhone ac iPad 

    http://itunes.apple.com/en/app/lliwiau/id387586254?mt=8

    “Dysgwch y lliwiau yn Cymraeg”

    Edrych mlaen i’w lawrlwytho…ond ma angen treiglo’r C i G fan’na bois…

     
    • cwmwl 2:41 PM ar 1 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Cymraeg -> yn Gymraeg. Reit… update nesaf :-)

    • Ieithgi 4:04 PM ar 1 Medi 2010 Dolen Barhaol

      A’r fannod os am fod hyd yn oed fwy cywir… ;-)

  • Rhodri ap Dyfrig 11:39 AM ar 24 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: app, , , , , Learn Welsh, Peblig, SeiberCofis   

    Fideos Hacio’r Iaith: app iPhone ‘Learn Welsh’ a SeiberCofis 

    Hacio’r Iaith: Neil Taylor gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo.

    Hacio’r Iaith: SeiberCofis gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo.

     
    • Dafydd Tomos 9:29 PM ar 24 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Diolch am rhein. Mae Seibercofis yn brosiect da ond mae tipyn o brosiectau tebyg o gwmpas ers nifer o flynyddoedd. Cyn symud swyddfa yn 2007 fe aeth llawer o’n hen gyfrifiaduron ni (+monitors CRT) i brosiect fel hwn yng Nghaerdydd sy’n ei ail-gylchu ar gyfer pobl ddi-freintiedig yn y cymoedd.

      Ddim yn siwr os wnaeth hyn ei grybwyll (mae’n anodd clywed y gynulleidfa) – fe ddylai John edrych ar Ghost for Linux er mwyn gallu gosod delwedd Ubuntu yn syth i’r ddisg galed.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:56 AM ar 25 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Diolch am dy sylw Dafydd. Na’i basio fo mlaen at John.

      Mae’r sain ar gyfer sylwadau am fod yn broblem ar bob fideo yn anffodus. Doedd ganddon ni ddim roving mic. Tro nesa…

    • Rhys Wynne 11:09 AM ar 26 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Heb wrando ar y cyflwyniad ar Cybercofis eto, ond des ar draws cynllun Free Geeks yn Portland, UDA sy’n rhoi hyfforddiant o bobl yn ogystal a darparu cyfrifiaduron ac hefyd sydd a siop yn gwertthu darnau ail law. Hoffwn weld lot o bethau fel hyn er mwyn help cael gwared o hen PC ayyb o’r cartref a’r gweithle.

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu