Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad
Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. [...]
Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw
Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol Hacio’r Iaith. Beth mae pobol yn meddwl?
Ym mhersonol es i yn syth i weld pa fath o strategaeth cynnwys Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma fy hoff ddarn sy’n sôn am mynediad agored i rai o’r cynnwys:
Ni fydd llawer o’r adnoddau yn y casgliad wedi’u cyfyngu at ddefnydd gan athrawon a dysgwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr dysgu yng Nghymru; oni fydd, er enghraifft, trwyddedau yn gwahardd hynny, byddan nhw ar gael i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, naill ai mewn lleoliad ffurfiol, fel coleg, neu mewn ffordd llai ffurfiol. Felly bydd y casgliad yn gweithredu fel llyfrgell adnoddau ac offer gyhoeddus fawr bydd unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, ni waeth beth fo’i oedran, cefndir na chymhelliant, yn gallu ei defnyddio.
Ond dyw e ddim yn glir pam fydd angen trwydded newydd ar gyfer rhai o’r cynnwys:
Paratoi cyfres o drwyddedau safonol ar ffurf debyg i Creative Commons i’w cymhwyso i’r adnoddau hyn, a thrwy hynny annog pobl i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at ddibenion addysgol.
Gweler Joi Ito ar y broblem o drwyddedau anghydnaws. A pham ‘dibenion addysgol’ yn unig?
O ran y casgliad enfawr bydd angen system rheoli cynnwys cryf a chyfeillgar. Mae sôn am ddefnydd o ‘ffynhonnell agored’ (sef cod agored) yn yr adroddiad ac mae sefydliadau o gwmpas y byd wedi dosbarthu systemau tebyg dan GPL neu hyd yn oed OGL. Gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cwmniau Cymreig i gynnal y system ac yn ail-dosbarthu unrhyw addasiadau dan drwydded cod agored (fel y mae alphagov wedi bod yn ei wneud).
Wel, beth mae pobol yn meddwl?
Efallai dylwn i lanlwytho’r peth i Skdadl, mae’r ffeil adroddiad wedi cael ei cyfansoddi ar gyfer print – does dim modd sgwennu dolen dwfn i adrannau penodol mewn PDF.


Ceri Anwen James 11:06 AM ar 23 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
Diolch am hwn!
Rhys Wynne 1:06 PM ar 24 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
Arbennig, ac ar gael i ddisgyblion eraill (hen ac ifanc). danke schön, Ceri!
Rhodri ap Dyfrig 10:18 PM ar 24 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
Haia Ceri, llongyfarchiadau!
Swnio fel prosiect gwych. Be am ddod i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr i sôn am be ti di bod yn gwneud? Ma na dipyn o addysgwyr eraill yn dueddol o fynychu. Dwi’n gwybod am o leia un athro Cymraeg ail iaith ac un athro Dylunio a Thechnoleg fydd yn dod. Dwi’n siwr byddech chi gyd yn gwneud sesiwn da ar ddefnydd cyfryngau digidol ar gyfer dysgu. Mae’r manylion i gyd yma: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_Ionawr_2012
Hywel M. 11:25 PM ar 24 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
Diddorol iawn. Llongyfarchiadau Ceri.