Cofnodion Diweddar Tudalen 2 Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr

  • Sioned Mills 1:57 PM ar 1 May 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , , ,   

    Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad 

    Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli.

    Mwynhewch

    O.N. — Mi recordwyd hwn wythnosau yn ôl, a nid yw Gafyn wedi bod yn agos ato, felly ymddiheuriadau am yr ansawdd a’r amser gymerwyd i’w ddarlledu.

     
  • Hywel Jones 1:46 PM ar 1 May 2014 Paraddolen | Ymateb  

    Lansio statiaith.com 

    Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn.

    Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn ystod diwrnod gwaith, hynny yw, mae’n dangos sut mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg mewn ardal yn wahanol yn ystod diwrnod gwaith – wrth eu bod yn symud o’u cyfeiriad preswyl i weithio. Dyma ddolen ato: Map newid yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar ddiwrnod gwaith. Mae’n rhoi syniad arall i’r ystyr o ‘gymuned’ – ac efallai’n awgrymu posibiliadau busnes.

    Mae hefyd yn cynnwys siart rhyngweithiol newydd sy’n dangos y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cymuned, Siart: Nifer a % yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl oed, yn ôl Cymuned.

    Dydy’r wefan ddim yn ddwyieithog. Yn un peth am na welais sut i greu gwefan ddwyieithog lle roedd modd newid o un iaith i’r llall o’u mewn. Cefais gryn foddhad yn llunio’r tudalen Saesneg, gan iddo adlewyrchu sefyllfa cymaint o wefannau ‘dwyieithog’: tudalen glanio Saesneg statiaith

    Os gall rhywun egluro i mi sut i wneud gwefan ddwyieithog gyda WordPress byddwn yn ddiolchgar.

    Problem arall sylwais arno yw nad yw’n hawdd dewis o’r ddewislen ar fy Nexus7 nac ar fy ffôn. Os oes gan rywun awgrymiadau am sut i wella hynny, byddwn yn ddiolchgar eto. Efallai bod thema WordPress arall sy’n gweithio’n well?

     
    • Ioan 2:34 PM ar 1 Mai 2014 Paraddolen

      Tydi’r linc statiaith.com ddim yn pwyntio at statiaith.com! Y wefan newydd yn edrych yn gret gyda llaw – gret i geek fel fi…

    • Hywel Jones 3:23 PM ar 1 Mai 2014 Paraddolen

      Ioan – diolch. Llwybrau perthynol/absoliwt wastad yn boen i mi. Wedi eu cywiro nawr.

  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM ar 22 April 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: Arfon Rhys, Cymdeithas y Cymod   

    Cofio am Arfon Rhys 

    Arfon Rhys

    Daeth y newyddion trist heno bod Arfon Rhys wedi marw ar ôl salwch byr yn 72 mlwydd oed.

    Des i adnabod Arfon trwy ddigwyddiadau Hacio’r Iaith ac roedd yn bleser cael ei gwmni hawddgar ar sawl achlysur i drafod sut oedd modd gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau technoleg newydd. Daeth atom yn llawn brwdfrydedd ac awch i ddysgu mwy am sut gallai ddefnyddio’r dechnoleg ar gyfer defnydd personol, ond fwy na hynny fel arf ymgyrchol dros yr iaith Gymraeg, a thros heddychiaeth drwy Gymdeithas y Cymod. Cefais yr argraff o ddyn oedd, mewn ffordd gwbl ddi-rodres, yn benderfynol o archwilio a defnyddio pob dull oedd ar gael iddo i newid y byd o’i gwmpas er gwell.

    Gallwch ddarllen ei flog personol Heddwch a Chyfiawnder am ei waith fel Cadeirydd Cymdeithas y Cymod a’r blog Cadw Rhandir sy’n adrodd hanes cymuned Groeslon yn datblygu rhandir tyfu llysiau.

     
  • Carl Morris 11:32 AM ar 4 April 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , App Store,   

    Apple: nid oes lleoleiddiad Cymraeg ar yr App Store 

    Mae Eiry Rees Thomas wedi bod yn cyhoeddi aps dwyieithog ar App Store Apple ac eisiau rhannu ei phrofiadau diweddar am broblem sylfaenol.

    Yn ddiweddar, cyhoeddais dri o aps dwyieithog sydd ar lwyfan Apple/ App Store/ iTunes.

    Mae teitl y gyfres yn ymddangos fel ‘The Flitlits’, heb gyswllt o gwbl i’r teitl Cymraeg, sef ‘Y Sbridion’. Mae’r sefyllfa yn ailadrodd o ran teitlau y tri ap unigol.

    O ganlyniad, mae angen i frodorion Cymraeg i fod yn ymwybodol o’r teitlau Saesneg ac i gysylltu â nhw cyn dod o hyd i’r aps dwyieithog, sydd yn sefyllfa annerbyniol. Mae disgrifiadau Cymraeg ar y llwyfan wedi cyrraedd yr aps ond o dan y disgrifiadau Saesneg.

    Dyma sefyllfa debyg i’r hyn a berodd anghydfod gyda Amazon yn ddiweddar.

    Yr wyf wedi codi’r mater gyda Apple ac mae eu ymatebion fel a ganlyn:

    ‘Thank you for contacting App Store Developer Support.

    It is possible to add additional localizations for your app. However, Welsh is not an available localization at this time.

    Please feel free to reply to this email with any feedback you may have regarding this issue as we will gladly forward it to the appropriate team.

    You can find more information on localizations in the iTunes Connect Developer Guide:

    https://developer.apple.com/library/ios/documentation/LanguagesUtilities/Conceptual/iTunesConnect_Guide/iTunesConnect_Guide.pdf’

    Ac wedi i mi gwyno:

    …’Thank you for contacting App Store Developer Support about your feedback.

    We appreciate your feedback regarding this issue and will keep this in mind for future enhancements.’

    Mae hyn yn galw am brotest torfol a galwad i’r gad. Gobeithio gwna’i dderbyn cefnogaeth, yn enwedig gan bod yr aps yn addysgol ac ar gyfer hybu darllen a llythrennedd.

    Rydym ni fel Cymry yn talu’r un taliadau i Apple ond yn derbyn llai o wasanaeth.

    Byddai Eiry yn croesawu unrhyw sylwadau gan eraill isod.

     
    • Iestyn Lloyd 5:14 PM ar 8 Ebrill 2014 Paraddolen

      “…mae angen i frodorion Cymraeg i fod yn ymwybodol o’r teitlau Saesneg”

      Dyw hyn ddim yn wir os ydych yn rhoi’r teitl yn ddwyieithog yn yr App Store, sef ‘The Fitlits – Y Sibrydion’.

      “Dyma sefyllfa debyg i’r hyn a berodd anghydfod gyda Amazon yn ddiweddar.”

      Dyw hyn ddim yn debyg i Amazon, elyfrau yn yr iaith Gymraeg oedd hynna nid apps. Mae’r apps yn dibynnu ar iaith yr OS i’w gael ei ddefnyddio yn yr iaith yna; os ydych eisiau app Twitter i fod yn Ffrangeg mae rhaid newid iaith yr OS i fod yn Ffrangeg.

      Ar y funud nid yw iOS, Android (yn cynnwys yr Amazon Kindle Fire) na Windows Phone efo’r iaith Gymraeg. Yr unig OS symudol i’w gefnogi yn ‘native’ yw Firefox OS, a di hwnnw unlle i weld ar y funud.

      Mi fyswn wrth fy modd os fysai pob un ohonynt yn cefnogi yr iaith Gymraeg ond tydw i ddim yn meddwl ei fod ar ei ‘priority list’.

      Ond… os ydych am gyhoeddi elyfr yn hytrach na app(lyfr) i Apple mae yna ddewis i ddweud mai ‘Welsh’ yw iaith y llyfr.

    • Eiry Rees Thomas 12:06 PM ar 10 Ebrill 2014 Paraddolen

      Diolch mawr Iestyn,

      Mae newid teitl y gyfres a theitlau unigol yr aps yn opsiwn ond does dim lle ar eicons mor fach i ganiatáu fersiynau dwyieithg. Ni fyddai’r teitl llawn yn dangos o dan yr eicons chwaith ac mae’n rhaid agor y disgrifiadau Saeneg a sgrolio lawr y dudalen heb ddod o hyd i’r disgrifiadau Cymraeg. Does dim llawer y galler ei wneud o ran hynny ond mae’n golygu bod y cynllun oedd gen i i greu aps allan o’r testunau ar gyfer ail iaith yn rhywbeth y bydd angen i mi feddwl drosodd yn ofalus. Tebyg iawn mae llyfrau print yn unig wna’i ddewis oherwydd y sefyllfa, sydd yn siomedig. Mae’r gost o greu aps unigol Cymraeg a Saesneg yn waharddol, gwaetha’r modd.

      Dwi’n ymwybodol mae e-lyfrau sydd wedi bod o dan sylw efo Amazon ond mae’r mater yn gyffelyb o ran gorfod ymladd am gydnabyddiaeth i’r iaith er hynny.

      Yn ysgafnach: ‘The Fitlits – Y Sibrydion’ yn hytrach na ‘The Flitlits – Y Sbridion’. Hmm… dyna syniad!

    • Iestyn Lloyd 1:02 PM ar 15 Ebrill 2014 Paraddolen

      Eiry – wyt ti di meddwl am drio iBooks Author http://www.apple.com/uk/ibooks-author/ Dio ddim yn sortio dy broblem o gael yr OS yn Gymraeg ond mae werth edrych ar yn hytrach na creu ap.

    • Eiry Rees Thomas 11:19 PM ar 15 Ebrill 2014 Paraddolen

      Diolch am yr awgrymiad, Iestyn. Mae’n werth edrych mewn i’r posibilrwydd. Rwy’n gobeithio perswadio Apple i greu cysylltiadau Cymraeg i’r aps dwyiethog gan nad oes llawer o obaith y byddant yn cydnabod Cymru o ran creu lleoliad. Os wnaf i dderbyn cytundeb ynglŷn a chreu cysylltiau Cymraeg, byddaf i a’r Sbridion yn hedfan baner Cymru o ben y simne!
      Y broblem fwyaf yn y cyfamser bydd lledu’r neges bod rhaid chwilio am aps Y Sbridion o dan y teitlau Saesneg. Rhaid i fi feddwl am strategaethau. Mae’r aps yn derbyn adolygiadau pum seren tu hwnt i Gymru sydd yn ddechrau da ond gwell byth fyddai hynny o Gymru.
      Mae mor rhwystredig bod grymoedd y farchnad yn penderfynu nad wyf yn medru dewis Cymraeg ar gyfer y teitlau rhagosodedig, a hynny oherwyddd bod creu aps o safon Y Sbridion yn golygu cyhoeddu yn rhyngwladol oherwydd y gost sylfaenol. Byddai cysylltiadau Cymraeg o fewn Apple yn ateb syth i’r broblem heb ormod o drefferth iddyn nhw, byddwn i’n tybio.
      Bydd mwy o drosolwg gen i cyn cyhoeddu’r fersiynau ail iaith a bydd iBooks Author yn opsiwn. Mae’r aps iaith gyntaf wedi eu rhaglennu mor wych wedi dweud hynny…

    • Eiry Rees Thomas 11:23 PM ar 15 Ebrill 2014 Paraddolen

      Teipos, teipos…rhaid cymryd mwy o ofal!

  • Iwan Stanno 2:31 PM ar 18 March 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags:   

    SWYDD: Datblygydd Gwe, Rondo Media 

    Mae cwmni teledu Rondo, sy’n gyfrifol am raglenni fel Sgorio, Rownd a Rownd, Gwlad yr Astra Gwyn a Gwefreiddiol, yn chwilio am ddatblygydd gwe i weithio o’u swyddfa yng Nghaernarfon.

    Rhaglennydd/Datblygydd Gwe

    I ymuno ag adran ddigidol ac aml-gyfryngol Rondo. Byddai profiad o HTML, CSS, PHP a SQL yn ddelfrydol.

    Cytundeb blwyddyn i gychwyn Ebrill 2014. Anfonwch CV at Liz Lewis, Rondo, Lôn Cae Ffynnon, Caernarfon LL55 2BD neu liz@rondomedia.co.uk.

    Mae’r dyddiad cau fory! (19 Mawrth).

     
  • Carl Morris 7:09 AM ar 12 March 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: cydraddoldeb,   

    Aildrydar dim ond menywod 

    Dw i newydd ddarllen cofnod blog diddorol gan Anil Dash am ei flwyddyn o aildrydar dim ond menywod, y profiadau mae fe wedi cael a’r gwersi mae fe wedi dysgu.

    [...] Maybe the most surprising thing about this experiment in being judicious about whom I retweet is how little has changed. I just pay a little bit of attention before I tap on the icon in my Twitter app, but it’s been effortless to make the switch, and has gotten me far more “thanks for the retweet!” messages than I used to get.

    More broadly, I found the only times I even had to think about it were very male-dominated conversations like the dialogue around an Apple gadget event. Even there, I’d always find women saying the same (or better!) things about the moment whose voices I could amplify instead of the usual suspects. And for the bigger Twitter moments I love, like award shows and cultural events, there are an infinite number of women’s voices to choose from.

    One thing that has happened, and I’m not sure if it’s attributable to my change in retweet behavior, is that I’ve been in far more conversations with women, and especially with women of color, on Twitter in the past year. That’s led to me following more women, and has caused a radical shift in how I perceive my time on Twitter, even though its actual substance isn’t that different. [...]

    Darllenwch y cofnod llawn.

    Ar fy nghyfrif personol dw i wedi bod yn ail-drydar trydariadau mewn categori penodol ers misoedd, sef trydariadau Cymraeg yn unig. O fewn y categori yna mae llwyth o drydariadau yn Gymraeg gan fenywod. Fyddai’r dull Dash ddim yn her anodd yn Gymraeg.

    Tybed os yw’r un tueddiadau mae fe’n sôn amdanynt yn wir yn Gymraeg ar Twitter? e.e. ‘gormod’ o leisiau dynion ar bwnciau penodol fel tech, diffyg cynrychiolaeth o farnau menywod ayyb.

     
  • Carl Morris 2:55 PM ar 25 February 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , Llywodraeth Cymru   

    Llywodraeth Cymru: grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg 

    Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau manylion am gyfres arall o grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg:

    Rydym yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am grant o raglen 2014/2015.
    Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion ein cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

    Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:

    • codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o
    • feddalwedd
      • aps
      • wasanaethau ar-lein
      • declynnau creu cynnwys Cymraeg
      • gynnwys digidol Cymraeg.
    • cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg ar-lein
    • cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.

    [...]

    Am ragor o fanylion ewch i wefan Llywodraeth Cymru a chysylltwch â nhw yn uniongyrchol.

     
  • Sioned Mills 1:58 PM ar 21 February 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags: , , ,   

    Haclediad #35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 

    Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch!

    *Dolenni i ddod…

     
  • Lowri Mair 9:49 AM ar 21 February 2014 Paraddolen | Ymateb  

    Chwilio am arbenigwyr digidol i helpu dysgwyr Cymraeg! 

    Fforwm Strategol Technoleg Gwybodaeth a datblygiadau digidol i ddysgwyr

    Mae hi’n ddymuniad gen i yma yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, sefydlu Fforwm i yrru defnydd TG ac adnoddau digidol wrth ddysgu ac addysgu Cymraeg yn ei flaen. Gwelwn fanteision gwahodd cyrff ac unigolion i gyfrannu at y datblygiadau, gan fanteisio ar arbenigeddau penodol.

    Rhai o’r rhwystrau sy’n ein wynebu’n feunyddiol ydyw mynediad at adnoddau, hawlfraint wrth ddatblygu cynnwys ac yn y blaen. Drwy gyfarfod ar ffurf fforwm ryw ddwywaith y flwyddyn gallwn roi gwybod i’n gilydd am gynlluniau cyfredol a sut byddai modd cydweithio ar y cynlluniau hyn er budd dysgwyr Cymraeg. Byddai modd sefydlu is-grwpiau wedyn i weithio ar brojectau a chyd-ddatblygu cynnwys ac yn y blaen. Byddai’n gyfle mewn ffordd i gydweithio er mwyn cynorthwyo’n gilydd a sicrhau darpariaeth ddigidol werth chweil a chyfredol i ddysgwyr Cymraeg. Tybed a fyddai diddordeb gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu at y Fforwm? Neu ydych yn adnabod rhywun a all fod yn rhan o’r fforwm?

    Os am fwy o wybodaeth ebostiwch:
    lowri.m.jones@bangor.ac.uk
    @Learn_Cymraeg

     
  • Carl Morris 12:10 AM ar 17 February 2014 Paraddolen | Ymateb
    Tags:   

    Wedi methu Hacio’r Iaith? 14 peth gwahanol o’r digwyddiad yn 2014 

    Dyma rhai o’r pethau a ddigwyddodd ar ddydd Sadwrn yn Hacio’r Iaith 2014. Does dim rhifau achos does dim trefn penodol.

    Ffrwti
    ffrwti-logoFfrwti ydy gwasanaeth newydd sy’n casglu trydariadau Cymraeg mewn un lle ac yn cynnig rhestr o bynciau sy’n trendio (ie, mae rhestr trendio yn Gymraeg yn ôl!). Dw i’n hoff iawn o’r Ffrwtibot – rhestr o’r dolenni sy’n boblogaidd NAWR. Mae’n wneud popeth a oedd Umap Cymraeg yn eu gwneud yn ogystal â dehongliadau a sgyrsiau gan gyfranwyr gwahanol am bynciau llosg. Mae’n cydweithrediad rhwng Gwlad y Basg a Chymru ac yn wych.

    Adnabod lleferydd GALLU
    Mae creu meddalwedd sy’n deall lleisiau Cymraeg wedi bod yn freuddwyd hyd yn hyn. Tra bod pethau fel Apple Siri yn adnabod cyfarwyddiadau yn Saesneg rydym yn gweld eisiau rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Wel, mae Canolfan Bedwyr yn gweithio arno fe. Bydd y feddalwedd o dan drwydded BSD, newyddion da iawn i’r rhai sydd eisiau creu gemau, meddalwedd dysgu iaith, pethau i blant ac ati. Yn gyntaf maen nhw yn bwriadu rhyddhau ap sy’n recordio eich llais er mwyn bwydo’r system gyda chorpws o recordiadau. Dyna oedd y cyflwyniad a chwarae teg i Dewi o Ganolfan Bedwyr am fod yn un o’r cyntaf i redeg sesiwn yn y bore.

    DuSkona-plakat-250

    Du Sköna
    Sylweddolais fy mod i erioed wedi gwylio ffilm o dramor gydag is-deitlau Cymraeg. Ydych chi? Mae llawer gydag is-deitlau Saesneg wrth gwrs, pam ddim Cymraeg? Dw i’n siŵr bod un neu ddau wedi bod o’r blaen? Fel prosiect yn ei amser sbar mae David Chan wedi cyfieithu is-deitlau ar gyfer Du Sköna, ffilm am fywyd mewn pentref bach yn Sweden. Cawson ni arddangosiad bach Nos Wener. Bydd y ffilm a’r is-deitlau ar gael ar y we cyn hir. Gallen ni ddilyn y model yma gyda rhai o’r goreuon o ffilmiau byd-eang. Oes ‘na unrhyw sianeli sydd eisiau darlledu ffilmiau gydag is-deitlau yn Gymraeg plîs? Beth am bethau fel Lars von Trier – neu ieithoedd bychain/lleiafrifedig eraill?

    Academia.edu
    academia-eduAcademia.edu ydy cymuned o academyddion lle maen nhw yn rhannu ymchwil. Mae Carys Moseley yn aelod brwd o’r cymuned, sy’n chwilio am ragor o academyddion Cymraeg. Mwy am Academia.edu

    Haclediad gan Llion Jones

    Haclediad – llun gan Llion Jones

    Haclediad
    Bydd yr Haclediad (podlediad awdio difyr ar dechnoleg) ar gael ar y wefan hon cyn hir felly dw i ddim yn mynd i ailadrodd y cynnwys… Yn sydyn, dau beth diddorol oedd: Huw M yn siarad am yr adran BBC hirddisgwyliedig Cymru Fyw (detholiad o straeon a thrafodaethau o gwmpas y we Gymraeg ac ymdrech i hybu sylw i gynnwys Cymraeg tu allan i’r BBC) ac Illtud o Lyfrgell Genedlaethol ar Bapurau Newydd Cymru Ar-lein (mwy o deitlau wedi mynd lan y mis hwn!), Cymru1900 a Cymru 1914.

    Y Codwr Canu
    Ewch i canu.gwilym.net ar eich ffôn neu dabled am geiriau caneuon ac emynau ar gyfer dathlu rygbi (gobeithio fydd rhywbeth i’w ddathlu). Wedyn os dych chi’n colli cysylltiad i’r we does dim ots, mae’ch ffôn yn cadw’r tudalennau a’r ganeuon i gyd. Ap sy’n rhedeg ar y we ydy’r prosiect yma gan Mei Gwilym. Mae e wedi ei sgwennu mewn HTML5 – a dim ond unwaith. Does dim rhaid sgwennu fersiynau ‘brodorol’ gwahanol ar gyfer Apple, Android, Windows ac ati. Datblygwyr: mae e wedi rhannu’r cod ar Github er mwyn i bobl eraill ei addasu a dysgu.

    dotcymru.cymru
    Siaradodd Aled Eirug ar ran Nominet am y cyfle i gofrestru enwau parth gyda .cymru (a .wales) a’r ymgyrch cyhoeddusrwydd Ein Cartref. Hefyd roedd e’n sôn am Ymddiriedolaeth Nominet sy’n ariannu prosiectau digidol gan gynnwys newyddion lleol a phethau cymunedol. Yn ôl y sôn mae prinder o geisiadau oddi wrth prosiectau Cymraeg ar hyn o bryd.

    Heliwm/Nwdls gan Lowri Mair

    Heliwm/Nwdls – llun gan Lowri Mair

    Heliwm
    Dyw Heliwm ddim yn bodoli eto ond bydd e’n canolbwynt i brosiectau ariannu torfol yn Gymraeg. Os ydych chi eisiau creu albwm, ffilm, prosiect digidol, llyfr neu rywbeth arall ac angen casglu arian oddi wrth eich cefnogwyr o flaen llaw, Heliwm fydd y lle i chi. Dilynwch Heliwm a gofynnwch Rhodri ap Dyfrig am ragor o fanylion.

    Mapio a siartiau
    Roedd Hywel Jones yn siarad am sut mae fe wedi creu mapiau (cyflwyniad Google Drive) a siartiau (siart rhyngweithiol) o Gyfrifiad 2011. Dangosodd Hywel waith oedd ganddo ar droed yn mapio’r boblogaeth ar ddiwrnod gwaith, yn hytrach na’r boblogaeth breswyl. Roedd yn amlygu patrymau diddorol. Er engraifft, roedd ardal Parc Menai’n gweld dros fil yn rhagor o siaradwyr Cymraeg yno’n ystod y dydd.

    DBpedia
    DBpedia ydy prosiect enfawr i ddefnyddio’r we semantig i ffeindio ffyrdd amgen o ailddefnyddio gwybodaeth Wicipedia ac i wella Wicipedia ei hun mewn ieithoedd gwahanol, e.e. os oes erthygl am wlad gydag eitem ‘prime minister’ byddai modd diweddaru Wicipedia Cymraeg gydag eitem ‘prif weinidog’ yn hollol awtomatig, ac ati am filoedd o eitemau. Hywel Jones oedd y cyflwynydd ar DBpedia (cyflwyniad Google Drive).

    WhatDoTheyKnow – Cais Rhyddid Gwybodaeth
    Mae Hywel Jones (fe eto – chwarae teg) wedi cyfieithu rhyngwyneb WhatDoTheyKnow. Mae modd darllen ceisiadau ac ymatebion a gwneud cais eich hun. Pa gais rhyddid gwybodaeth fyddech CHI am wneud trwy gyfrwng y Gymraeg?

    saundjawrsGimp My Taid
    Creuodd rhai ohonom ni ddelweddau sili gyda GIMP (fel PhotoShop ond meddalwedd rydd am ddim) a Pixlr (fel PhotoShop hefyd ond yn rhedeg ar y we am ddim), e.e. Saundjawrs (gan IfanMJ) ac Eurosaunders (gan IfanCeinion). Mae’n eithaf hawdd gyda haenau, dethol a theclynnau eraill.

    Wicipedia Cymraeg
    Wicipedia Cymraeg ydy’r wefan mwyaf prysur yn y Gymraeg. Mae pobl yn ymweld â mwy na 2 miliwn o dudalennau Cymraeg bob mis (yn wir). Yn anffodus gwnes i fethu’r sesiwn eleni (ydy unrhyw un eisiau crynhoi’r sgwrs isod?). Yn y cyfamser dyma cofnod diweddar am ddysgwyr Cymraeg a Wicipedia gan Rhys Wynne

    Y bobl
    Y cyfle i gwrdd â phobl cyfarwydd a newydd ydy un o uchafbwyntiau pwysicaf Hacio’r Iaith. Dw i’n credu bod amrywiaeth da o bobl. Mae rhyw fath o gydraddoldeb o ran gender ac oedran (beth mae pobl eraill yn meddwl?). Byddwn i’n awyddus iawn i gael sylwadau am sut i wella’r cydraddoldeb a sut i fod yn fwy croesawgar i amrywiaeth eang o gyfraniadau.

    Yn bersonol roedd hi’n braf cwrdd â LlionJ, cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a dyn sy’n trydar mewn trawiadau.

    Diolch yn fawr iawn i bobl Canolfan Bedwyr a Phrosiect TILT am noddi’r digwyddiad – a phawb sydd wedi cyfrannu.

    Gyfeillion, dw i’n gwybod fy mod i wedi methu rhai o uchafbwyntiau Hacio’r Iaith 2014. Roedd stwff am newyddion lleol a dysgu ieithoedd. Ychwanegwch mwy yn y sylwadau plîs!

    Hacio’r Iaith 2014 – rhagor o gofnodion

     
    • RhysMT 3:37 PM ar 17 Chwefror 2014 Paraddolen

      Edrych yn gret! Siom i golli’r digwyddiad – ond yn edrych ar y lincs nawr!

    • Rhys 11:04 AM ar 18 Chwefror 2014 Paraddolen

      Diolch am y rhain – defnyddiol iawn gan bod hi’n amhosib mynd i bopeth.

      Mae rhyw fath o gydraddoldeb o ran gender ac oedran (beth mae pobl eraill yn meddwl?).
      Teimlo o’n i nad oedd llawer o dan 30 oed yna – lle oedd y myfyrwyr/pobl iau?

      Wnaethon ni ddim sicrhau bod rhywun yn tynnu lluniau ar y dydd, ond dyma rai ar Comin Wikimedia. Os oes gyda chi luniau (ar Twitter/Flickr/Instragra ayyb) o’r dydd, danfonowch ddolen yma a nodwch os ydych yn hapus i mi ei roi ar y Comin ar drwydded CC-BY-SA

    • Carl Morris 9:07 PM ar 18 Chwefror 2014 Paraddolen

      Rwyt ti’n hollol iawn. Heblaw am ambell i eithriad – gan gynnwys y babi – doedd dim llawer o bobl o dan 30 oed. Rydym yn gallu gwneud mwy o ymdrech i gysylltu â phobl ifancach tro nesaf.

      Dw i’n licio’r ffaith bod pobl yn gyfforddus i ddod â babis bob blwyddyn gyda llaw, dyna un peth positif arall!

    • Hywel Jones 9:57 PM ar 18 Chwefror 2014 Paraddolen

      Arweiniodd @meigwilym sesiwn diddorol yn egluro sut adeiladodd ei ap – http://canu.gwilym.net/ – sy jyst y peth i’r rhai sy am ddysgu geiriau caneuon at gêm rygbi.

    • Maredudd 9:10 AM ar 19 Chwefror 2014 Paraddolen

      Edrych yn ddiddorol – piti i fi golli’r digwyddiad eleni eto.

      Diddorol gweld bod Aled Eirug yno i drafod .cymru. Gobeithio wnaeth rhywun ofyn y cwestiynnau canlynlol iddo:

      1. Pam wnaeth e gyfarfod â phob gwleidydd o Gymru yng Nghaerdydd a San Steffan a dweud celwydd iddynt fod dotCYM eisiau parth lefel-uchaf i’r Cymry Cymraeg yn unig er mwyn sicrhau fod y Cymry ddim yn berchen er eu parth eu hunain ac yn lle hynny yn mynd yn berchnogaeth i gwmni preifat yn Lloegr?

      2. Pa driciau brwnt arall y defnyddiodd e a Nominet i berswadio Llywodraeth Cymru i sicrhau fod y Cymry ddim yn rheoli adnodd pwysig fel eu parth eu hunain, fel yr Albanwyr, Basgwyr, Llydawyr, Galisiaid, Catalanwyr, Ffrancwyr, Almaenwyr a phob cenedl arall ag owns o hunan barch? Mae dau gais Rhybudd Gwybodaeth wedi ei wneud i gael gafael ar y cyfathrebu rhwng Nominet a’r Llywodraeth ond wedi cael eu gwrthod am resymau hurt, e.e., y byddai yn arwain at brotestio, byddai yn wael i fusnes yng Nghymru a byddai’n arwain at weision sifil yng Nghymru yn methu gwneud eu gwaith yn iawn yn y dyfodol.

      Rwy’n gobeithio na gafodd Aled Eurig groeso cynnes gan y byddai ond yn cryfhau hyder cwn bach Llafur fel e, sy’n gweithio yn erbyn y Gymraeg a Chymru, eu bod yn gallu gwneud unrhyw beth y mynnent i danseilio’r wlad, yr iaith a’r diwylliant.

      Mae Aled Eurig yn gweithio i stopio arloesedd a menter technolegol yng Nghymru – yn union yn groes i bwrpas Haciaith.

    • Aled Eirug 10:47 AM ar 22 Chwefror 2014 Paraddolen

      Diolch Maredudd. Rydych yn swnio’n chwerw tu hwnt. Roedd Hacio’r Iaith yn achlysur diddorol a defnyddiol tu hwnt o safbwynt unrywun sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu ar gyfrynge cymdeithasol a’r we. Mae nominet yn gwmni sydd ddim am wneud elw, ac wedi sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd, ac wedi cytuno I sefydlu Canolfan Alwadau ym Mhenrhyndeudraeth er mwyn ymwneud a .cymru a .wales .

      Mae sefydlu’r 2 parth yn gyfle arbennig I ddatblygu presenoldeb Cymru ar y we, a dwy’n gobeithio bydd llawer yn defnyddio ‘r ddau, neu .cymru yn unig Mae’n anffodus eich bod yn dewis bod mor negyddol.

    • Maredudd 4:25 PM ar 27 Chwefror 2014 Paraddolen

      Aled, dydy dweud fy mod yn chwerw neu’n negyddol ddim yn newid dim ar y ffeithiau ac mae’n dric plentynaidd i dynnu sylw oddi wrth y drafodaeth.

      Fel arfer byddai dim pwrpas parhau gyda’r ddadl yma gan taw eich amddiffyniad yw i ddweud fy mod i’n chwerw, ond mae’ch neges chi wedi codi nifer o gwetiynnau eraill.

      1. “Mae Nominet yn gwmni sydd ddim am wneud elw”

      Beth yn union ydych yn trio ei ddweud fan hyn?

      Ydych chi’n dweud nad ydy Nominet yn gwneud unrhyw elw? Y tro diwethaf edrychais, rhyw ddwy flynedd yn ôl, roedd Nominet yn gwneud tua £8miliwn o elw y flwyddyn.

      Ydych chi’n gymysglyd oherwydd taw ‘cwmni nid-er-elw’ yw Nominet. Dim ystyr hynny yw nad ydynt yn gwneud elw.

      Neu oes rhywun wedi dweud wrthych nad ydy Nominet yn mynd i wneud elw allan o barthau .cymru/.wales? Os taw dyna ydych yn trio ei ddweud yna dydy e ddim yn golygu dim. ‘Elw’ yw beth sydd yn weddill ar ôl costau’r cwmni. Faint o arian fydd yn mynd allan o Gymru fel costau cyn ein bod yn dechrau sôn am elw? Mae syniad go dda gen i achos rwy wedi bod drwy broses tendro gyda Nominet. Mae talu pobl fel chi yn gost cyn elw hefyd. Byddai rhai pobl yn dweud fod hynny’n wastraff arian.

      Felly dydy dweud bod Nominet yn ‘gwmni sydd ddim am wneud elw’ ddim yn golygu dim. Unai rydych chi yn deall hyn ac yn trio ein twyllo neu mae nhw’n dweud rhwybeth di-ystyr wrthoch nad ydych chi’n ei ddeall a rydych chi’n ei ail-ddweud fel parot wrthym ni.

      2. “Sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd, ac wedi cytuno i sefydlu Canolfan Alwadau ym Mhenrhyndeudraeth” – Ydw i fod yn impressed gyda hyn? Ar ôl dwyn adnodd mor bwysig oddi wrth Cymru rydych chi’n disgwyl i ni fod yn ddiolchgar iddynt am agor swyddfa fan hyn?

      3. “dwy’n gobeithio bydd llawer yn defnyddio’r ddau, neu .cymru yn unig” – ydy hyn yn golygu ei fod yn bosib prynu .cymru a .wales ar wahan ac nad ydynt yn dod gyda’i gilydd? Felly os ydw i’n prynu llewdu.cymru dydw i ddim yn cael llewdu.wales hefyd? Oes rhaid talu ddwywaith i gael y ddau ac a fyddai’n bosib fod rhywun arall wedi cael un a fi’n cael y llall?

      Rwy’n gobeithio fod hyn ddim yn wir gan y byddai’n golygu fod

      a) llewdu.cymru yn cystadlu yn erbyn llewdu.wales
      b) rhaid prynu 4 parth yn lle 2 os oes enw Saesneg i’r busnes, e.e. Black Lion (blacklion.cymru/blacklion.wales)
      b) y parth lefel-uchaf .cymru yn cystadlu yn erbyn .wales
      c) byddai’n gymysglyd iawn i’r defnyddwyr

      Yr unig reswm i wneud hyn fyddai er mwyn gwerthu mwy o barthau a gwneud mwy o arian i fynd i Nominet. Felly rwy’n gobeithio taw camgymeriad yw hyn ac y bydd llewdu.cymru a llewdu.wales yn gorfod mynd i’r un person am un pris. Wrth gwrs, byddai’n bosib i’r gweinydd wedyn i benderfynu dangos y wefan Gymraeg i llewdu.cymru a’r wefan Saesneg i llewdu.wales ond gobeithio nad ydych yn mynd i’n gorfodi i brynu dau barth am bob enw.

c
creu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod flaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
nôl i'r brig
l
go to login
h
show/hide help
esc
diddymu