Croeso i grŵp-blog Hacio’r Iaith!
Cyfrif
Mae aelodau Hacio’r Iaith yn gallu postio! Wnes i greu cyfrif ar gyfer bron pawb. Paid anghofio Gravatar er mwyn cael avatar dy hun. Newidia dy gyfrinair.
(Dim cyfrif? Os wyt ti eisiau cyfrif, anfona dy gyfeiriad ebost at Carl Morris.)
Cofnodion
Mae popeth yma ar agor i’r we cyfan. (Dim Facebook cytyndeb nonsens fyn hyn, agor ar o’r cychwyn!) Defnyddia grŵp Flickr os ti eisiau postio lluniau.
Problemau gyda’r wefan?
Defnyddia Ymchwilio am ateb. Gofyna i rywun arall. Os ti dal yn cael problemau, postia gofnod gyda’r tag ‘problem’ – os ti’n gallu. (Paid anfon problemau drwy ebost – os ti’n gallu postio – achos mae pobol eraill yn gallu helpu.)
Dy flog dy hun
Dyn ni’n annog blogio ar dy flog dy hun. Wrth gwrs! Sgwennaist ti gofnod am Hacio’r Iaith? Neu technoleg a Chymraeg? Postia dolen ddwfn yma.
Sylwadau
Mae aelodau yn gallu postio cofnodion. Ond dyn ni’n croesawu sylwadau gan bobl sydd ddim yn mynychu Hacio’r Iaith.Termau ac Amodau
Dyn ni dal yn profi’r syniad newydd yma. Bydd pethau’n araf/annibynadwy efallai. Bydda’n amyneddgar plîs! Dim gwarant, ymddiheuriadau.
Gwefan
Diolch i Iestyn Lloyd am boster a logo. Diolch i Bryn Salisbury, Rhys Wynne a Rhodri ap Dyfrig am eich help gyda’r cyfieithiad. Diolch i WordPress ac Automattic hefyd. Adeiladwyd gan Carl Morris, mis Ionawr 2009
