Cymuned o bobol proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith ble byddwn yn trin a thrafod sut mae technoleg yn berthnasol i’r Gymraeg, sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio a beth yw’r posibiliadau.

Caiff sawl maes ei drafod, gan gynnwys:

  • blogio, fideo a chyfryngau cymdeithasol eraill
  • e-lyfrau
  • lleoleiddio a rhyngwladoli
  • cyfieithu peiriant
  • API a stwnsh
  • addysg
  • ymgyrchu a gweithredu
  • newyddion a newyddiaduriaeth
  • hyper-lleol a phapurau bro
  • symudol
  • meddawledd rydd a chod agored
  • hawlfraint a thrwyddedu
  • a mwy…

Rydyn ni’n cwrdd trwy’r flwyddyn ledled Cymru.

Hacio’r Iaith 2012

Bydd y digwyddiad Hacio’r Iaith 2012 yn rhannol BarCamp a rhannol  Hack Day (y ddau yn gydnabyddedig yn fyd-eang fel fformatau ar gyfer digwyddiadau). Golygir hyn bydd llawer o rannu syniadau, sesiynau arddangos ac ymarferol, oll drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhaglen y dydd yn user-generated, felly rydym yn annog cyfranogaeth go iawn a croesawn unrhyw un sy’n dymuno cynnal sesiwn yn berthnasol i dechnoleg a’r Gymraeg. Gall sesiwn gael ei gyflwyno gan fwy nag un person – os yw’n ddefnyddiol, diddorol neu hwyl ewch amdani! Bydd yna stwff ar gyfer dechreuwyr pur, y gîcs, a phawb yn y canol.

I weld yn union beth fydd yn digwydd ar y diwrnod, ewch draw at ein wici.

Fel gynhelir Hacio’r Iaith ar ddydd Sadwrn 28ain Ionawr 2012 yn Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth [map].

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr a’i ariannu gan ein noddwyr.

Cer i’r wici a sgwennu dy enw yn yr adran Pwy Sy’n Dod

Iaith

Fe groesawir cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, ond ffocws y digwyddiad yw’r defnydd o dechnoleg y we gan siaradwyr Cymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg ac hefyd ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael drwy gais o flaen llaw.