Updates from Rhys Wynne RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhys Wynne 9:55 PM ar 23 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    FixMyStreet yn Gymraeg? 

    Yr wythnos diwetha, gwelais drydariad gan MySociety ynglŷn a’r ffaith bod Repara Ciutat (sef fersiwn Sbaenaidd o FixMyStreet/system nodi digwyddiad traffig?) wedi ennill rhyw wobr neu gilydd. Sylwais bod y wefan ar gael mewn Catalaneg a Castilieg (a Saesneg i ddod).

    Holais MySociety os byddai’n bosib lleoleiddio FixMyStrret i’r Gymraeg, gan bod awdurdodau lleol Cymru yn cymryd Deddf Iaith 1993 a’u cynlluniau iaith mor o ddirfi!

    Cefais yr atab cadarnhaol hyn yn ôl:

    Dear Rhys,

    Thanks for getting in touch, and thanks for the offer [o gynnig gwneud y lleoleiddio]!

    We’re actually in the process of migrating FixMyStreet to Catalyst, and so you might want to wait a while in case anything changes drastically during the conversion and to give us a chance to iron out any bugs.

    However, the file to translate presumably wouldn’t change too much, if you want to take a look at it:
    https://github.com/mysociety/fixmystreet/blob/master/locale/FixMyStreet.po

    This is the current language file; there is a possibility that it may well change due to the migration – but hopefully only in spacing, etc., and the main bits of text should theoretically remain relatively unchanged.

    Diolch :)

    Dw i’n meddwl mai aros i’r wefan gael ei newid fyddai orau, er yr awgrymiad mai ychydig iawn o newid fydd. Croeso i unrhyw un edrych ar y ffeil yn y cyfamser.  Mond un blog Cymraeg sy’n defnyddio FixMyStreet ar hyn o bryd, ond hoffwn ei ychwanegu at Ein Caerdydd.

    Mi adawa i chi wybod am unrhyw ddatblygiadau.

     
    • Carl Morris 11:36 PM ar 23 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Dim ond 483 ymadrodd unigryw. Pam aros? :-)

      Mae Google Docs yn eitha cynaliadwy am gyfieithu .po os ti eisiau rhannu’r gwaith. Neu gosod teclyn fel Pootle.

    • Rhys Wynne 8:52 AM ar 24 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Go on ‘ta. Alli di ei osod ar ddogfen GoogleDocs? Ceisiais wneud, ond do’n i ddim yn gallu cael y rhifau cywir wrth ochr yr ymadroddion, neu dydy hynny didm llawer o bwys?

    • Rhys Wynne 12:36 PM ar 24 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Wedi cael fy hysbysu bod y diweddariad wedi cael ei wneud i’r wefan, felly dyma’r llinynnau ar GoogleDocs os ydy rhywun eisiau rhannu’r gwaith lleoleidido gyda fi.

      Cwestiwn #1 – Beth yw’r gair gorau am ‘(an) alert’? ‘Rhybudd’ neu ‘Hysbysiad’?

  • Rhys Wynne 9:15 PM ar 3 May 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , , ,   

    ‘Y dyfodol i lyfrau…’ (Bedwen Lyfrau 2011, Caerdydd 7.5.11) 

    Rhai wythnosau’n ôl, cefais wahoddiad drwy Facebook gan berthynas i mi sy’n trefnu Bedwen Lyfrau 2011, sy yng Nghaerdydd eleni. Fel arall, faswn i ddim yn ymwybodol bod digwyddiad y Fedwen Lyfrau yn y brifddinas eleni.  Dyma fynd i chwilio am fwy o fanylion a darganfod bod trafodaeth diddorol ar ddiwedd y dydd:

    Y dyfodol i lyfrau… Yn oes y Kindle a’r iPad, beth yw dyfodol argraffu? A oes mwy o bobl yn darllen blogiau na llyfrau bellach?

    Tybed sut fydd pobl yn darllen gwaith ein cenhedlaeth ni yn y dyfodol?

    Gyda Sion Jobbins a’r blogiwr Carl Morris /NativeHQ

    Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol yw cymharu blog gyda llyfr, ond gobeithio bydd ffigyrau ar gael.   Os yw’n helpu, roedd 400+ o ddarllenwyr dyddiol gan y Blogiadur  ar gyfartaledd yn mis Mefefin 2007, tra mae Ifan Morgan Jones yn trafod gwerthiant ei ddwy nofel ar ei flog (ble mefyd cewch ddwy gofnod am Kindle).

     
    • Carl Morris 11:09 AM ar 4 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Ah diolch. Gobeithio bydd e’n sgwrs gynhyrchiol.

      Mae llyfrau electronig yn gyfle enfawr i gwmnïau cyhoeddi!

      O safbwynt y gwmnïau, mae’n defnyddiol i weld pethau fel “darllen blogiau vs darllen llyfrau”, neu “elyfrau vs print” fel perthnasau yn hytrach na cystadleuaeth.

    • Carl Morris 9:28 PM ar 7 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Ces i amser da heddiw – sgyrsiau da. Dylen ni gwahodd rhai o’r bobol Bedwen Lyfrau i ddigwyddiadau Hacio’r Iaith.

      Roedd y sesiwn Y Dyfodol i Lyfrau yn hwyl er bod e bach yn fyr – dim lot o amser i drafod pethau yn ffordd fanwl iawn. Yn enwedig, o’n i eisiau archwilio’r cytundeb Faustaidd gyda chwmnïau fel Amazon. Dw i’n licio’r cysyniad o e-lyfrau, dylai llyfrau Cymraeg bod ar gael i bobol beth bynnag yw’r platfform. Mae cyfleoedd i’r cwmnïau cyhoeddi. Ond fydda i ym mhersonol brynu rhywbeth o gwmni sy’n dibynnu ar DRM heb warant os dw i eisiau trosglwyddo’r llyfrau i ddyfais arall yn y dyfodol? Hmm..

      Nes i joio’r sesiwn am gomics a chyfieithiadau Tintin.

      Beth feddyliest ti Rhys?

    • Rhys Wynne 1:31 PM ar 10 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Sesiwn diddorol, a biti garw ei fod mor fyr, o ystyried pwsigrwydd y pwnc. Gwnaeth Sion Jobbins job dda o wisgo dwy het (adran digideiddio’r Llyfrgell Genedlaethol a chadeirydd (?) presenol Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru) – byddai rhwyn o un o’r gweisg sy wedi dechrau gwerthu e-lyfrau (ai dim ond y Lolfa sydd wedi?) ar y panel wedi bod yn dda.

      O ran y Cwlwm Cyhoeddwyr, roedd yn swnio fel eu bod yn gweld bygythiadau yn hytrach na chyfleodd, a’u dau prif ofid ydy:
      1. Pobl yn medru copio a dosbarthu elyfrau am ddim
      2. gostyniad mewn incwm

      O ran gofid 1., efallai mod i’n bod yn naif, ond dw i ddim yn meddwl bod rhaid iddynt boeni bydd yr un peth yn digwydd a sydd wedi digwydd i’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang, oherwydd dw i’n meddwl mai ychydig iawno gopio CD’s cerddoriaeth Cymraeg fuoedd yna gan bod pobl yn reit driw i’r cerddorion, ac ynsylweddoli pa mor fach ydy eu gwerthiant yn barod. Yn yr un modd, dw i’n meddwl bod darllenwyr Cymraeg yn fwy tebygol o brynu llyfr Cymraeg na’i fenthyg o lyfrgell, eto oherwydd ffyddlondeb i’r gweisg Gymraeg.

      Fel y nodaist ar y dydd, prin iawn yw’r data/profiad sy gyda ni o’r dechnoleg hyn gyda llyfrau Cymraeg/ieithoedd lleafrifol i weld beth fydd y patrwm defnydd, ond hoffais awgrym Penri y basai’n syniad da rhoi llyfrau Cymraeg Stori Sydyn mas am ddim drwy e-lyfr.

      O ran gofid dau, os deallais yn iawn, poeni am y cut bydd Amazon yn gymryd oedden nhw? Dychmygaf bod cut Amazon ar Kindle yn debyg i’w cut sylweddol o werthu llyfrau ar eu gwefan, ac mae llyfrau Cymraeg bellach ar Amazon, achos mae’r cyhoeddwyr yn sylweddoli, mae sawl achos, os na all cwsmer brynnu llyfr ar Amazon, mi benderfynan nhw brynu llyfr arall yn hytrachna chwilio amdano rhywle arall (er bod modd prynnu llyfrau Cymraeg yn hawdd ar-lein dyddiau yma mewn sawl lle). Yny dyfodol, os na fydd llyfr ar gael i’w brynnu ar Kindle, fydd o ddim yn cael ei brynu full-stop.

      Hoffais hefyd dy syniad y gallwn i gyd fod i yn lyfrgellwyr bellach yn llyfrgell byd-eang y we, ac y dylwn fynd ati i uwchlwytho a threfnu cynnwys CYmraeg i’r yd i gyd ei fwynhau.

      Yn yr un modd, d wi’n meddwl bod dyletswydd ar y rhai ohonom sy’n darllen llyfrau Cymraeg i ymddwyn fel staff mwyaf cyfeillgar a cymwynasgar Waterstones drwy hyrwyddo a helpu darpar ddarllenwyr/prynnwyr o lyfrau/e-lyfrau Cymraeg ddod o i a gwybod am y gorau o lenyddiaeth Cymraeg. Dim ond drwy ddenu darllenwyr a chwsmeriaid newydd y gallwn sicrhau ffyniant. Gallwn wneud hyn drwy ysgrufennu adolygiadau ar-lein (unigolion) ac adeiladu gwefannau hawdd i’w cyrchu (cyhoeddwyr a Chyngor Llyfrau!).

    • Carl Morris 3:23 PM ar 24 Mai 2011 Dolen Barhaol

  • Rhys Wynne 9:04 AM ar 2 March 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Anghynhadledd Talk About Local 2011: Caerdydd, 2 Ebrill 

    Os nad ydych wedi ymweld â gwefan Talk About Local eto, yna plîs gwnewch. Amcan y prosiect yw:

    to give people in their communities a powerful online voice.  We help people communicate and campaign more effectively using the web to influence events in the places in which they live, work or play.  William Perrin talks here about how people have used the web to empower themselves in their communities.

    Mae’r wefan yn llawn syniadau gwych am sut i greu gwefannau hyper-lleol, pa fath o gynnwys i’w roi, cyngor technegol a llawer mwy.  Eleni, mae eu anghynhadledd blynyddol (#TAL11) yn dod i Gaerdydd.

    Dw i’n gobeithio daw tipyn syniadau o’r cynhadledd y gelli’r eu rhoi ar waith o fewn y we Gymraeg.  Fel sy wedi ei drafod sawl gwaith yn barod, prin yw presenoldeb gwefannau cymunedol Cymraeg a’r Papurau Bro. Mae prosiect diweddaraf Gareth Morlais, sef BaeColwyn.com yn chwa o awyr iach, ac mae wrthi’n arbrofi drwy dynnu cynnwys (a chynnwys Cymraeg ble’n bosib) o wefannau eraill i’w wefan ei hun – dyma faes hoffwn ddysgu  mwy amdano.

    Mae’r tocynnau ar gyfer #TAL11 am ddim, ac ond yn cael eu rhyddhau mewn niferoedd cyfyngedig ar y tro. Dw i wedi gwneud cais a dw i ar restr aros. Os ydych am fynd, peidiwch a’i gadael hi’n rhy hir. Gobeithio y gwela i chi yna.

    Diweddariad: Mwy  am y digwyddiad ar flog Talk About Local.

     
  • Rhys Wynne 10:20 PM ar 28 February 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: CLDR,   

    Ychydig o ‘data input’ a phleidleisio ar y CLDR (Common Locale Data Repository) 

    Newydd gael y neges canlynol gan un o weinyddwyr Wicipedia sy’n gwneud lot o waith tu ôl i’r lleni yn lleoleiddio’r rhyngwyneb.  Wyddwn i ddim byd am CLDR tan hyn nac mai o’r fan hyn mae Wikimedia (a meddalwedd MediaWiki mae’n debyg) yn cael eu termau Cymraeg.

    Efallai dy fod wedi clywed sôn am CLDR (Common Locale Data Repository) sy’n ran o Unicode, storfa ‘open source’ o ddata ar gyfer localisation. Mae enwau’r ieithoedd sydd ar WikiMedia yn dod o’r CLDR, ond ar hyn o bryd dyna’r unig wybodaeth sy’n dod atom ni ohono.

    Maent yn cael cyfnod o ‘data input’ ar hyn o bryd (mae hynny’n digwydd rhyw ddwywaith bob blwyddyn). Mae angen pobl i gyfrannu geirfa Cymraeg arnynt ac hefyd i bleidleisio dros yr eirfa sydd yno’n barod er mwyn iddo gael ei roi ar gadw. Yna bydd yr enw ‘Breton’ e.e. yn diflannu o’r fersiwn Gymraeg o feddalwedd aml-ieithog a ‘Llydaweg’ yn ymddangos yn ei le!

    Mae CLDR yn derbyn pleidleisiau a thermau newydd hyd at y 9fed o fis Mawrth. Bydd yn dal i dderbyn pleidleisiau hyd at y 6ed o Ebrill.

    Os wyt ti am fwrw iddi, bydd eisiau agor cyfrif ‘Guest’ arnat yno. I wneud hynny dilynna’r cyngor fan hyn http://cldr.unicode.org/index/survey-tool/accounts.

    Ar ôl cael cyfrif gelli fynd at y survey tool – byddi’n mynd i fan hyn http://unicode.org/cldr/apps/survey?s=izVf2bvu.JWhjJUb0TwLCixlXuk,&_=cy.
    Yn ‘jump to’ gelli ddewis unrhyw un o’r mathau o ddata, gwed languages. Os wyt ti am bleidleisio dros rhyw derm gwasga’r botwm wrth ymyl y term. Dwi’n methu cael yr ‘add references’ i weithio hyd yma ac wedi holi am help mewn bug report. Mae rhagor o gymorth i’w gael fan hyn http://cldr.unicode.org/index/survey-tool.

    Heb fynd yno eto i gyfranu, ond dw i’n siwr bod o’r math o beth gallwch bicio i mewn ac allan ohono’n rhwydd os oes pum munud sbâr gyda chi.

     
  • Rhys Wynne 1:34 PM ar 14 October 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    Llai o raglenni Cymraeg ar y radio (ond mwy yn fyw ar-lein) 

    Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu.  Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny fan hyn), ond yn hytrach y newyddion hyn:

    …[bydd] Maggi Dodd yn cyflwyno rhaglen ar y we rhwng 7-8 gyda’r rhaglen honno, Dodd ar y We yn cael ei hailddarlledu ar C2 rhwng hanner nos ac un y bore.

    Tra nad yw cwtogi oriau yn amlwg yn beth da, mae arbrofi gyda darlledu ar-lein yn syniad dewr.  Dyma’r union raglen y dylid arbrofi gyda hi, gan mai ei chynulledfa darged yw’r kids, ac os ydy unrhyw un am wrando ar radio ar-lein, nhw ydy’r rheini.

    Yn bersonol, dw i ddim wrandawr mawr ar radio, ond mae digwydd bod stereo yn ein ystafell fyw, ystafell fwyta a’n cegin ni, felly mater hawdd iawn yw troi’r radio ymlaen. Gan bod cysylltiad di-wifr gyda ni acw, mae’n dod yn haws symud y gliniadur o un ystafell i’r llall, ond dw i’n dal i’w weld bach o ffaff (am y rheswm yma, mond unwaith dw i wedi ‘tiwnio i mewn’ i Radio Shwmae, er mawr cywilydd i mi) . Gyda datblygiadau pellach mewn technoleg a chysylltiadau gwell i’r we, mae’n siwr daw gwrando ar-lein yn beth haws a mwy naturiol.

    Yr unig beryg efallai yw y gwelith Llywodraeth Llundain hyn fel esgus i gwtogi pellach a  dweud gall popeth fynd a- lein, ond mewn gwirionnedd, rheswm dros fwy o sianeli/gorsafoedd fydd hyn.
     
    • bob 3:00 PM ar 14 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      Ydi “Dod ar y We” ddim jest yn slang am wefannau pr0n?

    • Carl Morris 4:21 PM ar 14 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      Diddorol. Dw i eisiau sioe radio am y we!

      Err, diolch am y sylw “bob”.

    • Rhys Wynne 7:50 AM ar 15 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      Diddorol. Dw i eisiau sioe radio am y we!

      Wel ia, yn union – mae hi’n 2010 a hyd y gwydda i, does dim un rhaglen ar Radio Cymru wedi trafod y ‘ffenomena diweddaraf’ yma a elwir ‘y we’, (ag eithrio ambell gwestin twp).

      Beth am ddanfon proposal rhaglen atynt?!

    • Rhodri ap Dyfrig 12:45 PM ar 15 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      O’n i’n rhan o gynnig atynt ar y trywydd hwn tua blwyddyn yn ol. Dim lwc yn anffodus.

    • Carl Morris 2:12 PM ar 5 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      O’r gofrestr ebost C2

      Ma’n siwr fod eich rhieni yn cofio ble roedden nhw pan ddaru dyn lanio ar y lleuad. Ma’n siwr fod chi’n cofio lle roeddech chi pan fu farw Michael Jackson? Ie, y digwyddiadau hanesyddol lle ma PAWB yn cofio ble roedden nhw ar yr amser penodol yna!

      Nos Lun yr 8fed o Dachwedd 2010 am 7pm lle fyddwch chi? Ydech chi isho bod yn rhan o hanes darlledu yng Nghymru? Wel, cofiwch wrando nos Lun wrth i Magi Dodd ddechre darlledu ar y we nos Lun i nos Wener. Darlledu arloesol ar y BBC yng Nghymru, cofiwch!! Byddwch yn rhan o hanes!!

  • Rhys Wynne 1:05 PM ar 16 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Hwyl fawr Bloglines 

    Wrth fewngofnodi i fy nghyfrif Bloglines echnos, dyma’r neges a oedd yn fy nisgwyl i:

    As you may have heard, we are sorry to share that Bloglines will officially shut down on October 1, 2010.

    Dw i ddim yn cofio pryd y dechreuais ddilyn blogiau a gwefannau newyddion trwy wasanaeth Bloglines, ond fe drawsnewidioddy y ffordd y defnyddiais y we.  Yn ôl Ask.com, perchnogion y gwasanaeth, newidiadau pellach ym mhatrymu defnyddiwyr y we sy’n gyfrifol am ddod a’r gwasanaeth i ben.

    The Internet has undergone a major evolution. The real-time information RSS was so astute at delivering (primarily, blog feeds) is now gained through conversations, and consuming this information has become a social experience. As Steve Gillmor pointed out in TechCrunch last year , being locked in an RSS reader makes less and less sense to people as Twitter and Facebook dominate real-time information flow. Today RSS is the enabling technology – the infrastructure, the delivery system. RSS is a means to an end, not a consumer experience in and of itself. As a result, RSS aggregator usage has slowed significantly, and Bloglines isn’t the only service to feel the impact.. The writing is on the wall.

    Nhw sy’n gwybod orau, yn enwedig os ydynt wedi gweld cwymp yn nefnydd y gwasanaeth, ond byddaf i’n sicr yn gweld ei golled.  Mae un defnyddiwr trist yn rantio (ei geiriau hi!):

    Why does every. bloody. thing have to be a social experience? I cannot go to a library or bookstore for a book anymore, it has to be for the social aspect and friendships and connecting! And, apparently, now I cannot quickly read through hundreds of blogs and newsfeeds, no, it has to be a Facebook experience.

    A gallaf uniaethu gyda sylw ar y blog uchod:

    I’m certainly not going to rely on my Facebook friends to send me relevant links – they mostly post funny cat pictures. Now, I love funny cat pictures, but I use my Google Reader feeds for all of my book blogging needs, plus news commentary and cooking blogs. Few other people I know have the same style of interests as me (and feel the need/inclination to share those posts), so I prefer the self-reliance of an RSS reader!

    Mae Steve Boese yn nodi ei bod yn llawer rhy hawdd gwasgu’r botwm ‘aildrydar’,  a bod rhai’n meddwl bod lledaenu a rhanu stori rhywsut yn bwysicach na darllen a gwerthfawrogi cofnod blog yn iawn yn y lle cyntaf.

    Ask.com is making the determination (that very well may be true, it is hard to know), that simply consuming content in an RSS Reader is no longer ‘good enough‘.  We have, as users, to be able to easily spread that content out across our social networks like Twitter and Facebook, and in turn, we need to be able to mine our networks to find and consume content pushed or shared by our connections.  That news item, blog post, or funny video of kitty antics accrues more value to us, and to the network, the more that is is shared and circulated.  I get it, in fact that is pretty obvious. I would love this post to get widely shared around the social web, passed from Tweet, to Facebook wall, to Google Buzz, and back around again in a self-sustaining frenzy of consumption.

    But before any of that can happen, I need someone to actually read the post first.

    Ychydig iawn dw i wedi ddefnyddio o Google Reader yn y gorffenol,  a doeddwn i ddim yn ei hoffi ryw lawer, ond oes llawer o opsiynnau eraill gyda fi? Sut mae pawb arall yn darllen porthiannau RSS, neu ydych chi’n dipynnu ar bobl yn gosod dolenni ar Facebook, Twitter a Delicious?

     
    • Carl Morris 2:39 PM ar 16 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Mwy o sgwrs ar Daflog

      Mae’r potensial masnachol darllenwyr sy’n rhedeg ar y we yn wahanol i ddefnydd a galw. Esgus Ask yw e, allen nhw wedi dweud ‘dyn ni ddim wedi bod yn llwyddiannus gydag ein strategaeth am ddarllenwr RSS’.

      Rhys, dylen ni cystadlu gyda Google! Efallai dechrau gyda’r meddalwedd yma, gwerthu hysbysebion neu rhywbeth. :-)

      (Arddang Tiny Tiny RSS)

    • Rhys Wynne 3:07 PM ar 16 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Wps, methais y cofnod ar Daflog (gormod o danysgirifadau RSS i fynd drwyddynt ar Bloglines falle!!)

      Baswn i’n foldon talu £5-£10 y flwyddyn am wasanaeth darllen RSS dibynadwy.

    • Carl Morris 8:56 PM ar 17 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Faint fyddi di dalu am wasanaeth gyda dewis o ryngwyneb Cymraeg, gydag awgrymiadau hefyd? Jyst chwarae gyda’r syniad ar hyn o bryd.

      Dw i’n disgwyl mwy o ddarllenwyr RSS yn y dyfodol, o bob math, nid llai.

      e.e.
      http://thenextweb.com/apps/2010/09/10/wordpress-com-launches-blog-subscriptions/

  • Rhys Wynne 9:42 PM ar 5 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth 

    Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfeithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er mwyn cysoni’r defnydd o gyfrifon gwasanaethau rhwydweithiau cymdeithasol y sefyliad.  Dyma’r blurb swyddogol (yn Saesneg, gan bod y sefydliad yn gweithredu’n dairieithog):

    The Government of Catalonia has prepared the Handbook of writing and style of  the Virtual Procedures Office (VPO) and the Style and usage guide of the Government of Catalonia’s social networks. The handbook explains to the responsibles of VPO the guidelines for the correct way of communicating whereas the guide is published with the intention of providing some common guidelines to enable the Government of Catalonia’s departments, services and brands to present themselves in a coherent, standardised manner.

    Bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd dogfen o’r enw Goblygiadau gwe2.0 ar gyfer gwefannau dwyieithog – tuag at arfer gorau, gan Daniel Cunliffe. Soniodd Daniel amdano ar ei flog, af fe flogiodd Rhodri ap Dyfrig amdano ar Metastwnsh. Pwrpas y ddofgen oedd codi cwestiynnau yn hytrach na chynnig canllawiau.

    Yn ei gofnod blog, mae MarcG yn cymharu sut mae tri sefydliad cyhoeddus yng Nghatalonia a Gwald y Basg yn trin ieithoeddedd ar wahanol wasnaethau Gwe2.0.  Y tri oedd Llywodraeth Catalonia,  Amgueddfa Picasso a gwefan Irekia (gwefan tebyg i Your Freedom ar gyfer Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) – jyst ddim mor ffaeledig).

    Beth sy’n diddorol yw, tra bod bron pob sefydliad yn Nghymru (sy’n cymryd eu polisi iaith o ddifri) wedi mynd am yr opsiwn o greu cyfrifon cwbl ar wahan ar gyfer Cymraeg a Saesneg, tra mae’r tri yn astudiaeth MarcG yn cadw un cyfrif yn unig ac yn ei ddefnyddio ar gyfer tair iaith.  Tydy hynny ddim yn golygu bod y dair iaith yn cael eu trin yr un fath – mae Llywodraeth Catalonia yn tueddu cyhoeddi mewn Catalaneg yn bennaf gan mai dyna yw ‘prif iaith’, mae Amgueddfa Picassa yn tueddu i ddefnddio Saesneg yn bennaf gan bod 70% o’r ymwelwyr yn dod o du allan i Sbaen, gan ddefnyddio’r ddwy iaith arall yn dibynnu os yw’r pwnc yn berthnasol i Sbaen gyfan neu i Gatalonio’n benodol.  Yn ôl Llywodgraeth Euskadi, cadwir yr ieithoedd gyda’i gilydd er mwyn (cyfieithiad Google):

    The idea of having multiple profiles (in Facebook and Twitter ) on each language was rejected by “coexistence and normalization”, ie separating not only divided the followers causes and complicates the management but also as pointing from us Euskadi, not promoted the normalization and coexistence of the two co-official languages.

    Beth ydach chi’n feddwl o’r syniad o gymysgu ieithoedd fel hyn? Rhaid i fi ddweud mod i’n blino o weld yr un peth yn cael ei ddweud ddwywaith gan gyfrifon Twitter sy’n postio’n gyfan gwbl ddwyieithog.  Ydy cael cyfrifon ar wahan ar sail iaith yn golygu nad yw yr iaith lleiafrifol yn cael ei ‘phrif-ffrydio’?

     
    • Dafydd Tomos 11:10 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Well gen i gadw pethau ar wahan ar wefannau a Twitter. Dwi ddim yn defnyddio Facebook digon i wybod ond dwi’n amau fod e’n well ar wahan fan yna hefyd. Mae cymysgu iaith ar yr un dudalen yn gwneud hi’n anoddach i chwilotwyr fel Google allu hidlo tudalennau heblaw fod y testun wedi ei farcio gyda cod iaith (sydd ddim yn bosib ar lawer o wefannau rhwydweithio, ond yn bosib iawn mewn CMSes perchnogol).

      Dwi’n gwybod fod dadl fod dangos y Gymraeg yn helpu codi ymwybyddiaeth a normaleiddio yr iaith ond fe ddylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gyfer y Cymry Cymraeg yn bennaf nid i addysgu’r di-Gymraeg! Er fod y cwynion ystrydebol o ‘arwyddion dwyieithog’ yn drysu pobl – dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru yn dysgu hidlo allan testun Cymraeg yn reit rhwydd. Mae e’n anweledig iddyn nhw hyd yn oed pan mae mewn golwg plaen.

      Dwi ddim yn gwybod y sefyllfa mewn gwledydd amlieithog eraill ond mae rhyw ddiwylliant yng Nghymru lle mae pobl yn penderfynu (neu’r penderfyniad yn cael ei wneud drostynt) fod y Gymraeg yn diflannu o’i bywyd ar rhyw oed arbennig a wnewch chi ddim eu denu nhw nôl drwy wthio’r iaith arnyn nhw ar bob cyfle. Mae e fyny i unigolion wneud y dewis o ddysgu neu ail-ddysgu’r iaith a dwi’n gweld fod angen gwneud hynny drwy brosiectau neu ddigwyddiadau diwylliannol. Fel arall dwi jyst yn meddwl fod pobl yn anwybyddu unrhyw destun Cymraeg o’i blaen yn gwbl ddiymwybod felly dyw cyfuno ieithoedd ddim yn cael effaith bositif. (ond barn yw hwn nid canfyddiad o ymchwil empiraidd).

  • Rhys Wynne 9:33 AM ar 11 June 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Clonc Cwpan y Byd: Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith 

    Am 2:30pm heddiw (11eg o Fehefin) bydd arbrawf unigryw ar wefan BBC Cymru o’r enw Clonc Cwpan y Byd:

    Fel rhan o sylw’r BBC i Gwpan y Byd, ry’n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.

    Yn ôl Iwan Standley ar Radio Cymru bore’ma, bydd GoogleTranslate yn cael ei ddenfyddio fel bod pob sylw ar y negesfwrdd yn cael ei trosi i ddeg iaith arall.  Y ieithoedd fydd; Albaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Saesneg, Perseg, Portwgaleg, Rwsieg, Sbaeneg, Swahili, Fietnamega a’r Gymraeg

    Pwysleisiodd Iwan na fydd y cyfieithiadau’n berffaith a bod hyn yn gael ei wneud yn glir ar y wefan.  Dyma mae’n ddweud ar y wefan:

    Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o’r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo’u mamiaith.

    Mae’r BBC eisoes wedi cynnal arbrawf o sgwrsio amlieithog fel hyn o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn ran ohoni.

     
    • Carl Morris 2:09 PM ar 11 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

    • Carl Morris 2:16 PM ar 11 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Rheolau am gymunedau arlein a chyfieithu

      1. Rhaid i ti dangos y neges yn yr iaith wreiddiol. (Efallai?)

    • Rhys Wynne 3:17 PM ar 11 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      @Carl,

      Beth wyt ti’n feddwl, bod e’n dweud ‘Cymraeg’ yn lle ‘Welsh’ neu ‘Kiwelsh’ wrth dy neges wreiddiol?

      neu son yn gyffredinol am wefannau eraill sy’n danogs gynnyrch GoogleTranslate, ac y dylent fod yn arddangos y testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen?

      Rhaid i mi ddweud, pan o’n i’n gwrando ar y radio o’n i ddim yn meddwl byddai yna lot o bwynt i hyn, ac er bod rhai yn dod allan fel garbwl llwyr, mi synnias ar pa mor gywir oedd yr un Tsieinëeg > Cymraeg yma (ag eithrio’r bit am ‘cynffon’!)

    • Rhys Wynne 3:43 PM ar 11 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      @Carl, dw i’n gweld beth ti’n feddwl rwan – yn y linell ‘Newid Iaith’.

    • Carl Morris 2:12 PM ar 20 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n meddwl “dangos testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen”.

      Dw i newydd wedi darllen papur academaidd gan Daniel Cunliffe am gymuned arlein o brifathrawon gyda chyfieithu gan berson. Efallai mae e dal yn bwysig i ddangos y fersiwn wreiddiol i atgoffa pobol.

  • Rhys Wynne 9:55 AM ar 3 June 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: gwobrau blogio   

    Gwobrau Blogiau Cymru 2010 

    Enwebwch eich hunain neu eraill yma: http://walesblogawards.co.uk/

     
    • Carl Morris 12:58 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Dw i wedi gadael sylw yna:

      All the best with the preparations. I have one question.

      Are Welsh language blogs being considered for ALL categories here? I think they probably should be.

      I could rattle off a list of good blogs based in Wales about technology, about politics, about blogs that model good writing… and so on. It would be a glorious mixture of blogs written in English language and Welsh language. So it seems odd to make a special dedicated category called “Best Welsh Language Blog”. What do you think?

    • Rhys Wynne 3:42 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Gadewais i nages yn gofyn yr un cwestiwn hefyd. Roeddwn am gynnig cyfieithu’r wefan hefyd, ond meddyliais bod un cwestin ynglyn a’r Gymraeg yn ddigon am un diwrnod!

      Mae’n edrych yn dda, ond mae bach o bryder gyda fi ei fod e’n cael ei drefnu gan bobl dw i erioed wedi clywed/gweld dim byd ganddynt yn y ‘blogfyd’ o’r blaen – nid bod hynny ynddo’i hun yn reswm i beidio ei gefnogi wrth gwrs. Hefyd, at beth mae arian y noddwyr yn mynd – at gynnal parti gwobrwyo gyda chwrw am ddim, neu i bocedi’r trefnwyr?

      Yn gywr,
      Sinig

    • Carl Morris 7:11 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Na, dylet ti cynnig i gyfieithu ar yr un pryd!

      Metastwnsh am #1 tech!

    • Dafydd Tomos 10:30 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Un pwrpas yn unig sydd i nosweithiau gwobrwyo. Gwneud arian i’r trefnwyr a chyfle i’r noddwyr hyrwyddo eu hunain. Grwp bychan o bobl hunan-etholedig yn gwneud eu hunain teimlo’n bwysig (ie dwi’n sinig achos dwi wedi gweld gormod o’r math yma o wobrau dros tua 14 mlynedd yn myd y cyfryngau newydd).

    • Carl Morris 10:10 AM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Gwir ond maen nhw yn gallu tyfu y sîn neu y marchnad i bawb yn fy marn i.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:31 AM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Ma’n bolycs llwyr dweud taw nhw ydi’r gwobrau blogio cynta. Dwi di gweld dau neu dri yn mynd a dod.

      Fasa’n eitha neis cael bach o sudd dolenni allan ohonyn nhw cofia…

    • Rhys Wynne 10:35 AM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Ble mae nhw’n honni taw nhw yw’r cyntaf?

    • Carl Morris 12:47 PM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Dwedon nhw’r un peth am eu digwyddiad. Ymatebais i’r un peth.
      http://yourcardiff.walesonline.co.uk/2010/02/17/come-to-the-first-ever-cardiff-bloggers-meet-up/#IDComment58141498

      Os ti eisiau adeiladu cymuned paid â dweud “dyn ni’n gyntaf” yma!

      Ond dw i’n croesawi unrhyw fenter fel hyn os mae pobol eisiau wneud e.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:05 PM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Mae’n dweud yn fama: http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/jun/03/wales-blog-awards-celebrate-welsh-blogosphere

      Dwinna’n croesawu nhw hefyd. Unrhyw sylw allwn ni gael ar gyfer blogiau Cymraeg yn beth da.

    • Carl Morris 3:19 AM ar 6 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

    • Carl Morris 1:16 PM ar 17 Medi 2010 Dolen Barhaol

  • Rhys Wynne 9:14 PM ar 2 June 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Cefn Gwlad, sadistiaeth Pwylaidd a phropoganda Islamaidd 

    Dw i ddim yn gwybod as mai melltith arall GoogleTranslate sy’n achosi hyn, ond yn ddiweddar wrth wneud chwiliadau am eiriau Cymraeg, dw i’n cael rhai canlyniadau digon anarferol, rhai yn ddigon anymunol.

    Weithiau, wrth chilio am bethau Cymraeg, mae’n fendith bod cynlleied o gynnwys Cymraeg ar-lein ac os yw’r wybodaeth chi eisiau ar gael mae i’w gael ymysg llond dwrn o ganlyniadau – yr unig adeg pan nad yw hyn yn wir yw pan fydd gan air Cymraeg hyfyd ystyr gwahanol mewn iaith arall (alla i ddim meddwl ma enghriafft wrth sgwennu hwn).

    Ta waeth, heddiw, chwiliais am treilars, cefn gwlad (peidiwch gofyn pam), a dyma un o’r canlyniadau
    ANADDAS I’R GWEITHLE

    http://www.sadistic.pl/cy/wiejskie-wesele-vt32239.htm

    Falle sylwch o’r URL y lythrennau ‘cy’ yn dynodi fersiwn Cymraeg, dychmyga i fod cyfieithiad o’r wefan yma ar gael mewn sawl iaith arall.

    Ar fwy nag un achlysur, dw i wedi bod yn cael canlyniadau tebyg ar gyfer gwefan Islamaidd.

    Falle bod hwn yn swnio’n gwestiwn twp, ond ydy’r tudalennau a’r cynnwys yma’n bodoli’n barod, neu ydyn nhw jyst yn ymddangos yn awtomatig bron wrth i mi greu chwiliad Google ac yna clicio arnynt – ydy fy nghwestiwn yn gwneud sens?

     
    • Huw 9:52 PM ar 2 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Ydi, mae’n gwneud synnwyr.

      Chwiliais am sawl beth yn ddiweddar, gyda chanlyniadau cymysg o’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos a wefannau trafod gyda ‘/cy/’ yn y cyfeiriad. Dwi’n meddwl fod Google Translate yn gyfrifol a hyd yn oed pecynnau iaith meddalwedd negesfyrddau. Bosib bod Google bellach yn darllen iaith y porwr ac yn arddangos canlyniadau sy’n berthnasol i’r iaith.

      Bosib bod Google Translate wedi galluogi rhai datblygwyr meddalwedd i ‘ddatblygu’ pecynnau iaith i’w hunain.

      Gweler: http://www.google.com/search?client=safari&rls=en&q=hacio+sony+ericsson&ie=UTF-8&oe=UTF-8

      Chwiliad Google am “hacio sony ericsson”.

    • Carl Morris 10:44 PM ar 2 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Nes i boeni pan welais i dy deitl, chwarae teg.

    • Rhodri ap Dyfrig 9:03 AM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl bod hwnna’n enill y wobr am y teitl mwyaf epic gan flog Cymraeg eleni. Efallai yn hanes blogiau Cymru.

      Oedd y ddelwedd y Dai yn brwydro’r infidel yn Łódź wedi’i arfogi gyda dim byd ond arseless chaps PVC a bullwhip yn un rhy dda o lawer.

    • Rhys Wynne 9:46 AM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Dw i ddim yn siwr pa un o’r tri yw’r bygythiad mwyaf i foesau/ffordd o fyw y Gorllewin.

    • Dafydd Tomos 6:26 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      Ie wedi sylwi ar hyn ers tipyn. Mae pawb nawr yn gallu gosod ategynnau sy’n cyfieithu eu blog/gwefannau yn awtomatig i bob iaith dan haul (neu’r ieithoedd mae Google yn gyfieithu). Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.

      Efallai y bydd Google yn sylwi ar y broblem ac yn addasu ei algorithm fel y wnaethon nhw i’r afael a gwefannau sbam oedd yn creu cynnwys ar hap, ond dwi ddim yn gweld ei fod yn hawdd gwneud hyn.

    • Rhys Wynne 11:51 AM ar 4 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

      “Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.“

      Dyna ydy fy mhryder i.

    • Rhys Wynne 3:01 PM ar 7 Mehefin 2010 Dolen Barhaol

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu