Raspberry Pi a’r Gymraeg
Mae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn:
Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau.
Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.
O safbwynt y Gymraeg, rŵan ydi’r amser i greu adnoddau i’r Raspberry Pi, boed yn gynllun gwersi ar sut i raglennu neu feddalwedd sy’n cyflawni pwrpas arbennig. Gan ei fod am redeg system gweithredu Fedora cod agored gall cael ei gyfieithu a’i leoleiddio i’r Gymraeg yn ddigon hawdd.
Pasiwch mlaen at unrhyw addysgwyr TGCh! Allwch chi feddwl am ddefnyddiau penodol?
Mae Sioned Mills eisoes wedi bathu term Cymraeg amdano sef Crempog Mafon / Crempog Sglodion!


Huw 10:43 PM ar 1 Mawrth 2012 Dolen Barhaol
Does dim i stopio pobl ei roi o dan eu teledu a chware fideoau YouTube. Cyfrifiadur rhad i bawn, gyda bwriad da dros ei sefydlu.
Carl Morris 11:21 AM ar 9 Mawrth 2012 Dolen Barhaol
Mae’r dosbarthiad Linux Fedora Remix ar gyfer Raspberry Pi yma os mae pobol eisiau dechrau cyfieithu. Does dim rhaid defnyddio Raspberry Pi i’w rhedeg. http://www.raspberrypi.org/archives/805