Updates from rhodri RSS Toggle Comment Threads | Keyboard Shortcuts

  • Rhodri ap Dyfrig 9:43 PM on 6 September 2010 Permalink
    Tags: , , , ,   

    Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen? 

    Dyma fy ymateb i gofnod blog gan Ifan Morgan Jones – “Faint sy’n darllen?” – sy’n cwestiynu gwerth cael nifer fawr o gyfraniadau bychain ar y we, os oes bron neb yn eu darllen.

    Dwi wedi cau sylwadau yma, er mwyn i chi fynd a rhoi unrhyw sylwadau ar flog Ifan. Diolch.

    Petai David R Edwards wedi meddwl am gynulleidfa yn yr wythdegau, fyddai ganddon ni’r gwaith oedd ganddo yn y 90au?

    Petai pob rhaglen S4C yn cael ei barnu ar gynulleidfa fyddai hynny’n golygu bod dim pwynt cynhyrchu rhaglenni?

    Un peth am y ‘gynulleidfa’ we os alli di alw fo’n hynny hyd yn oed, ydi ei fod ddim yn dilyn pethau yn ddyddiol yn aml iawn ac yn dibynnu ar ddolenni gan bobol (ar Twitter neu Facebook gan amlaf) neu sefydliadau (Golwg360 neu BBC Cymru gan amlaf) i dynnu traffig drwodd i ddarnau unigol o gynnwys. Dydi o ddim yn ddibynnol ar amser (gall cofnod blog fod yn boblogaidd dros amser byr neu amser llawer hirach).

    O mhrofiad i o flogio, mae gen ti gynulleidfa gyson gymharol fach (ac mae’r gymharol yn bwysig), sydd yn driw, ac yn werth sgwennu ar eu cyfer. Os ti’n hapus yn blogio i 20 yna mae hynny’n gret. Mae llawer iawn o fanzines yn gweithredu fel’na. Mae unrhyw sin DIY yn gweithredu fel’na. Mi gei ambell i gofnod sydd rywsut yn cyrraedd tu hwnt i hyn ac yn rhoi spike mawr yn y traffig yna sefydlogi nol eto i’r un lefel, ac mae hyn yn gret, ond fel yn y cigfyd, dim ond rhai o’r llawer fydd yn cyrraedd cynulleidfa fawr.

    Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn destun siom, jest fel’na ma’r we yn gweithio. Mae Twitter wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dynnu traffig drwodd i wefannau eraill. Dydi rhan fwyaf o flogiau Cymraeg ddim yn gwthio eu cynnwys drwodd i Twitter, lle mae pobol yn gallu lledu gair am gofnod yn hawdd.

    Os ti isio ffigyrau yna dyma rai fideobobdydd.com am Awst:

    Ymwelwyr Unigol Absoliwt = 643
    Ymwelwyr Unigol = 1,175
    Ymweliadau Tudalen = 2,264
    Cyfartaledd amser a dreulir ar y wefan = 2 funud 17 eiliad
    Cyfartaledd tudalennau a ddarllennir = 1.93

    A bod yn onest, dwi’n fwy na hapus os mae na 643 o unigolion wedi ymweld a gwefan gwbl annibynnol, di-hysbyseb, di-farchnata (ish), a di-arian.

    Meddyliwch beth allai pobol wneud gyda chyllideb?

    A does neb yn ‘cyhoeddi ffigyrau’ am fod dim llawer o neb efo iot o ddiddordeb! Os mae blog yn cynhyrchu un darn da o gynnwys y mis. Mae hynny’n lwyddiant. Mae’n gwneud cystal a llawer i bapur bro neu raglen radio gymunedol fyswn i’n tybio.

    Efallai bod beth mae Catrin Beard yn dweud yn wir, fod na dipyn o bethau diflas ar-lein, ond mae nhw’n siwr o fod yn ddiddorol i rywun! Pam bod popeth yn gorfod bod yn ddiddorol i un person penodol? Mae’r we yn ddi-ddiwedd, does na ddim prinder lle na column inches, felly mae lle i gael blog crochet lluniau o superheroes y 50au yn Gymraeg os oes na un person yn darllen ac yn gwerthfawrogi hynny.

    Mae pobol dal i feddwl yn y ffordd, bod rhaid i bethau weithio fel print, fel teledu, fel radio – lle mae lle yn brin ac felly rhaid dewis a dethol beth fydd yn mynd arnynt. Ar y we, mae na infinte self space, felly does dim ots os oes blog sydd â dim ond deg darllennydd dyddiol (ac mae dyddiol yn misnomer hefyd – sawl ymwelydd i gofnod fasa’n fesur gwell – neu faint o amser mae nhw’n treulio ar y wefan).

    Mae blogiau hefyd yn lif o gynnwys yn hytrach nac yn erthgyl fisol, lle mae rhywun yn hogi fo i fod yn berffaith. Publish or be damned ydi’r ethos, ac os oes rhywbeth yn taro deuddeg bob yn hyn a hyn yna gret.

    Mae yna’r broblem o critical mass ar gyfer sylwadau ar flogiau Cymraeg, ond mae hynny’n rhywbeth arall yn llwyr.

    Dwi’n credu dy fod yn gwbl anghywir o ddweud bod darllen rhywbeth Cymraeg ar-lein yn fwy adeiladol na chreu rhwybeth newydd. Pam ar wyneb y ddaear bod y ddau yn mutually exclusive i ddechrau, a sut mae bod yn passive mewn byd lle mae cyfranogiaeth yn ein amgylchynu yn rhoi’r Gymraeg ar y droed flaen wn i ddim. Rhaid i ni gymryd rhan ym mhob agwedd o ddiwylliant digidol os da ni am gadw unrhyw berthnasedd yn y degawdau nesaf.

    Os mae digon o flogiau, a rhaid cofio taw nid dim ond blogiau yw’r we o bell, bell ffordd, yna mae pethau mwy poblogaidd yn bownd o godi ohonyn nhw.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:12 PM on 1 September 2010 Permalink | Reply
    Tags: ,   

    “Lliwiau” – meddalwedd Cymraeg newydd i blant ar gael ar gyfer yr iPhone ac iPad 

    http://itunes.apple.com/en/app/lliwiau/id387586254?mt=8

    “Dysgwch y lliwiau yn Cymraeg”

    Edrych mlaen i’w lawrlwytho…ond ma angen treiglo’r C i G fan’na bois…

     
    • cwmwl 2:41 PM on 1 Medi 2010 Permalink

      Cymraeg -> yn Gymraeg. Reit… update nesaf :-)

    • Ieithgi 4:04 PM on 1 Medi 2010 Permalink

      A’r fannod os am fod hyd yn oed fwy cywir… ;-)

  • Rhodri ap Dyfrig 9:55 AM on 31 August 2010 Permalink | Reply
    Tags:   

    HootSuite yn chwilio am gyfieithwyr 

    Mae rhaglen HootSuite nawr wedi agor eu system i gael ei leoleiddio. http://translate.hootsuite.com/

    Dyma’r hyn sydd agen ei wneud yn y Gymraeg: http://translate.hootsuite.com/cy/

    Unrhyw wirfoddolwyr. Dwi’n credu bod y Llyfrgell Gen yn ei ddefnyddio felly byddai na ambell berson yno fyddai’n cyfrannu hefyd siwr o fod.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 8:42 AM on 27 August 2010 Permalink | Reply
    Tags: ,   

    Trafod dyfodol digidol S4C ar wefan Click on Wales 

    Mae Bethan Jenkins yn gwneud achos da. Dwi wedi rhoi sylwadau llawn ar y diwedd.

    http://www.clickonwales.org/2010/08/time-for-s4c-to-spread-its-wings/

    Plis ychwanegwch eich sylwadau!

     
    • Carl Morris 9:47 AM on 27 Awst 2010 Permalink

      Chwarae teg am sylw Cymraeg. Pa fath o we ydyn ni’n rhedeg gyda sgyrsiau am S4C yn (unrhyw) iaith arall?

    • Rhodri ap Dyfrig 12:03 PM on 27 Awst 2010 Permalink

      On dydi o’n dweud rhywbeth go glir i ni am yr angen am fwy o wasanaethau Cymraeg ar-lein pan fo trwch y drafodaeth Gymraeg am ddyfodol cyfryngau Cymraeg Cymru ar ffurf print neu radio, a thrwch y drafodaeth Saesneg am yr un pwnc ar-lein.

      Newydd fod yn darllen Convergence Culture gan Henry Jenkins. Dyma ddyfyniad perthnasol:

      “The power of grassroots media is that it diversifies; the power of broadcast media is that it amplifies. That’s why we should be concerned between the flow between the two: expanding the potentials for participation represents the greatest opportunity for cultural diversity.” t.268

      Mae’n grassroots media ni mor wan efallai oherwydd dominyddiaeth ein cyfryngau darlledu, a’n cyfryngau darlledu ni mor benderfynol o anwybyddu potensial eu cynulleidfa, nad oes ganddon ni prin unrhyw ‘flow’ syniadau yn digwydd rhwng y ddau. Mae’n cyfryngau darlledu ni’n unigolyddol gan greu monopoli diwylliannol yn ein cyfryngau Cymraeg.

      Mae gan Golwg360 y potesial i wneud rhywbeth am y hyn ond dydi o ddim wedi ei strwythuro i wneud hynny ar hyn o bryd. Rhaid i ni ffeindio ffyrdd o fobileiddio cyfryngau cymunedol ac annibynnol Cymraeg mewn ffyrdd dychymygus newydd all fwydo mewn i adfywio ein cyfryngau prif ffrwd, a dinistrio’r monopoli diwylliannol ma.

    • Dafydd Tomos 4:34 PM on 27 Awst 2010 Permalink

      Eitha eironig dwi’n meddwl fod pawb yn cynnwys saeson a’r di-gymraeg eisiau dweud ei dweud am ddarlledu yn Gymraeg, ond fod neb llawer yn trafod y diffyg llwyr o gynnyrch yn Saesneg o Gymru (ar sianeli lleol neu rhwydwaith).

  • Rhodri ap Dyfrig 8:15 AM on 27 August 2010 Permalink | Reply
    Tags: dotcym, tld   

    Amser Dot Cym wedi dod? 

    http://www.clickonwales.org/2010/08/time-may-yet-cym-for-wales-on-the-net/

     
    • Dafydd Tomos 4:37 PM on 27 Awst 2010 Permalink

      Mae nhw’n dweud hyn bob blwyddyn ers 1998. Yn y cyfamser, mae’r we Gymraeg yn datblygu heb gymorth tri llythyren bach dibwys.

    • Carl Morris 1:55 PM on 1 Medi 2010 Permalink

      Dyw’r enwau .cym eu hun ddim yn gyffrous o gwbl. Dw i ddim yn edrych ymlaen at ail-prynu fy enwau parth.

      Paid aros am .cym os oes gyda ti syniad arlein.

      Mae bron pob enw .com i gael beth bynnag! Er enghraifft mae Rhys Wynne newydd wedi gosod WordPress ar http://gwenu.com

      Ond… mae’r canlyniadau potensial yn gyffrous – efallai. Mae buddugoliaethau symbolaidd yn bwysig yng Nghymru. Paid â diystyru (yng ngwlad gyda wal graffiti yn fel cofadail cenedlaethol).

  • Rhodri ap Dyfrig 12:31 PM on 24 August 2010 Permalink | Reply
    Tags: , , , ,   

    Adolygiad byr o’r app iSteddfod tra ar y maes 

     
    • Carl Morris 2:14 PM on 24 Awst 2010 Permalink

      Angen 3G a di-wifr yn Wrecsam 2011!

  • Rhodri ap Dyfrig 12:03 PM on 3 August 2010 Permalink | Reply
    Tags: ,   

    Hacio’r Iaith Bach – Gwyl Arall – Fideo 

    Dyma sgwrs fach ges i gyda Martin Owen am y prosiect mae’n gweithio arno, sef Y Ddyfeisfa.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 12:56 PM on 21 July 2010 Permalink | Reply  

    “Programming the Apple iPhone” – darlith gyhoeddus gan yr Athro Chris Price 

    Yr Athro Chris Price

    Yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth

    Dyddiad: Dydd Mawrth 27ain Gorffennaf 2010, 5.30 ar gyfer 6 yr hwyr.
    Lleoliad: Canolfan Ddelweddu, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais

    Mae model datblygu ‘apps’ a gwerthu iPhone Apple a’r App Store wedi chwildroi’r diwydiant meddalwedd symudol. Mae’n cynnig amgylchedd sydd wedi ei rheoli ar gyfer datblygiad, marchnata a gwerthiant i ddatblygwyr yr ‘apps’.

    Yn y sgwrs hon, sydd wedi ei hanelu at y rhai sydd â rhywfaint o brofiad o ddatblygu meddalwedd, bydd yr Athro Price yn trafod y broses a threfn gwaith dylunio ap ar gyfer yr iPhone, yn ogystal â phrofi a gwerthu. Bydd yn galw ar ei lwyddiant ei hunan o ddatblygu ap iPhone llwyddiannus ac yn trafod rhai o’r problemau all faglu datblygwr ap dibrofiad.

    Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chofrestru, te a bwffe ysgafn am 5.30 y prynhawn yn y Ganolfan Ddelweddu. Bydd y sgwrs yn dechrau am 6.00 ac yn cloi gyda sesiwn holi a chyfle i rwydweithio.

    Trefnir y sesiwn gan yr Adran Gyfrifiadureg, fel rhan o Software Alliance Wales http://www.softwarealliancewales.com. Cysylltwch â Margaret Walker zzy@aber.ac.uk erbyn y 23ain o Orffennaf os ydych yn bwriadu mynychu er mwyn ein cynorthwyo gyda threfniadau arlwyo.

     
    • Carl Morris 8:36 PM on 22 Gorffennaf 2010 Permalink

      Mae Apple yn dy raglenni di. :-)

      (Diolch)

  • Rhodri ap Dyfrig 9:26 AM on 1 July 2010 Permalink | Reply
    Tags: catalunya, tg, uoc   

    Darlith gan Jeremy Evas – “Technoleg Gwybodaeth a Ieithoedd Lleiafrifol” 

    Cynhaliwyd yn Rhagfyr 2008 yn yr Universitat Oberta de Catalunya yn Barcelona. Mae Jeremy’n dechrau siarad ar 7’00″. Mae’r boi sy’n ei gyflwyno yng Nghatalaneg yn dude.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 1:00 PM on 14 June 2010 Permalink | Reply  

    Defnyddio Kickstarter i ariannu prosiectau ieithyddol? 

    Mae Kickstarter yn wedfan crowd-sourcing (rhaid i ni gael term call am hwnna…”torf-gasglu”?) ar gyfer ariannu prosiectau newydd. Efallai taw’r un enwocaf hyd yn hyn ydi prosiect Diaspora sy’n trio gwneud rhwydwaith gymdeithasol agored. Mae nhw wedi codi dros $200k erbyn hyn, sydd yn 20 gwaith eu targed gwreiddiol. Mae Suw Charman-Anderson hefyd wedi penderfynu trio codi arian ar gyfer ei phrosiect Argleton yno.

    Wrth edrych am brosiectau yn ymwneu â iaith, mi ddes i ar draws hwn:

    Swnio’n eitha diddorol. Ro’n i wedi clywed am yr iaith Silbo Gomero o’r blaen (mwy), ac mae’n fy atgoffa i o’r iaith xiriga sydd gan y gweithwyr teils yn Asturias. Hynny yw, yn iaith gyfyng iawn, sydd ddim yn adnabyddus o gwbl, a chwbl ddi-statws.

    Mae nhw wedi llwyddo i gael dros 100% o’u targed hefyd ond ys gwn i a oes modd codi arian ar gyfer prosiectau Cymraeg yn y dull hwn.

    Mae GalegoLab wedi dechrau gwneud hynny ar gyfer yr iaith Galisieg eisoes (bydd cofnod arall ar Metastwnsh am hynny cyn bo hir)…ydi hi ddim yn bryd i ninnau wneud hefyd?

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel