Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple.
Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus).
Byddwn yn trafod yr iCloud (neu’r tamed ohono, yr iNiwl os hoffech chi, sydd allan yno), a chynlluniau sensro’r we, a ddylen ni fod yn ofnus?
Diolch eto am wrando ar Bryn (
@bryns), Iestyn (
@iestynx) a Sioned (
@llef) am 10 hacleciad, welwn ni chi yn yr Eisteddfod!
Ella bod y criw yn sâl ond ma’r drafodaeth yn wych, fel arfer. Ma na drafodaeth bwysig yma am be di’n disgwyliadau ni ar gyfer safon deunydd Cymraeg ac ydan ni’n ddigon gonest am bethau Cymraeg sydd ddim yn ddigon da.
O ran ap Golwg, dwi heb ei lawrlwytho achos da ni’n talu am y cylchgrawn print bob wythnos a fasa’n rhaid talu’r un pris eto am yr un peth ar yr ap. Dwi hefyd methu diodda darllen cylchgronnau arlein lle ma raid zoomio mewn ac allan i pdf, a throi tudalen. Urgh. Dwisio hyperlinks!
Yr unig adeg efallai y gallwn i ragweld ei ddefnyddio ydi i ddarllen un rhifyn mewn argyfwng os di pob siop bapur newydd yn cau yn Aberystwyth! Ma’n biti nad ydyn nhw wedi trio fformatio’r cylchgrawn ar ffurf Flipboard-aidd. Rhaid cyfaddef, mod i jest isio Golwg360 mewn fformat symudol gwell neu ar ffurf app.
[Cynlluniau ar y gweill am ailgynllunio Ap Cyw! Woo! Iei!]