Updates from Iestyn Lloyd RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Iestyn Lloyd 1:59 AM ar 10 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , eGyhoeddi, , , , , ,   

    Creu eLyfrau (ePub) 

    Cefais y cyfle i siarad yn Hacio’r Iaith 2012 am sut i greu eLyfrau, roedd pawb yn dweud wrthyf ei fod wedi mynd yn grêt ond yn fy mhen i oedd y cyflwyniad dros y siop (efallai mai dyna sut mae cyflwyniadau munud olaf i fod ar ddiwrnodau fel hyn!). I neud i fyny am hyn o’n i’n meddwl byswn yn ysgrifennu erthygl i drio esbonio yn well y ffurf sydd ar gael ar y funud i greu eLyfrau.

    Beth yw eLyfr?

    Yn blwmp ac yn blaen llyfr electroneg yw eLyfr, ond yn debyg iawn i unrhyw beth electroneg mae ‘na llawer o fformatia wahanol ar gael. Y rhai mwyaf poblogaidd – oherwydd poblogrwydd yr Amazon Kindle – yw .azw .mobi a’r un newydd ers y Kindle Fire, KF8. Y brif un arall, mae bron pob darllenydd eLyfrau – heblaw am y Kindle – yn ei gefnogi yw .ePub, a dyma mae pawb yn cytuno yw safon agored eLyfrau. (Mae .pdf hefyd yn cael ei gysidro fel ffurf o eLyfr.)

    Felly sut mae creu eLyfr (ePub)?

    Y ffordd Hawdd

    Pages ‘09 – £13.99 – Apple

    Apple's Pages

    Prosesydd geiriau gan Apple yw Pages, yn y rhy’n fodd mai Word yw un Microsoft. Os ydych yn gwybod sut i ddefnyddio Word mi fyddwch yn eithaf cartrefol yn Pages.

    Yn syml, dyma rhai o bethau i gofio ar gyfer creu eLyfr yn Pages:

    • Teipiwch eich llyfr trwy ddefnyddio Blank Template
    • Ar ôl neu yn ystod teipio fformatiwch y ddogfen trwy ddefnyddio paragraph styles sydd yn cuddio o dan View / Show Styles Drawer
    • Unrhyw eiriau fyddwch yn fformatio i fod yn Heading 1 fydd penodau’r eLyfr
    • Fe allwch lusgo lluniau i mewn i’r ddogfen o unrhyw ffolder, ond i gael y llun i ymddangos yn yr eLyfr mi fydd rhaid ei wneud yn Inline (efo’r llun wedi ei ddewis mae’r botwm yn ymddangos ar y top ar y dde).
    • Os ychwanegwch lun i’r tudalen cyntaf mae modd ei ddefnyddio fel clawr y llyfr.
    • Fe allwch ychwanegu fideo a thraciau sain i mewn i’r ddogfen yn y rhy’n fodd a’r lluniau.
    • Pan fyddwch wedi gorffen ewch i File / Export a dewis ePub. Yn fan hyn fydd y dewis i newid y tudalen cyntaf i fod yn glawr.
    • A dyna ni…

    Y ffordd sydd ddim mor hawdd

    InDesign CS5.5 – £714 – Adobe

    Adobe InDesign

    Mae InDesign wedi cael ei greu gan Adobe, y rhy’n pobl y tu ôl i Photoshop. Os rydych wedi edrych ar Photoshop ac wedi meddwl pa mor gymhleth mae’n ei edrych, wel mae InDesign eithaf tebyg. Yn fy ngwaith dwi’n defnyddio InDesign bron pob dydd i greu dogfennau ar gyfer print, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau troi i mewn i raglen sy’n trio creu cylchgronau a llyfrau yn ddigidol hefyd.

    Ni rwyf am fynd i mewn i lawer am y broses yn fan o greu eLyfr o InDesign gan eich bod yn gorfod dysgu’r rhaglen ei hun yn gyntaf ac yma fyswn i! Fe allwch ei ddefnyddio yn y rhy’n fodd a Pages a gosod allan eich dogfen yn blaen ac wedyn mynd i File / Export a dewis ePub. Mi gewch lawer mwy o ddewisiadau na Pages sydd yn beth da a drwg.

    Mi fydd Adobe yn dod a fersiwn newydd o InDesign allan yn y misoedd nesaf. Mae ‘na lawer o obeithion gan bobl fydd y fersiwn yma, CS6, yn neud y broses llawer haws i greu llyfrau a chylchgronau digidol (hint hint apGolwg).

    Y ffordd anodd – ond y gorau

    Côd – £AM DDIM ag i fyny

    Panic's Coda

    Os ydych o ddifri am ddechrau creu eLyfrau yn llawn amser, mae rhaid i chi ddysgu am beth sy’n gwneud ePub. Yn syml, cyfuniad o côd XHTML, XML a CSS yw ePub efo ychydig o ffeiliau eraill sy’n cyfuno nhw i gyd at ei gilydd. Y ffordd hawdd o feddwl am ePub yw fel gwefan bach. Yn y rhu’n fodd ac mae rhaglenni sydd yn gadael i chi creu gwefannau heb gyffwrdd côd yn creu côd hyll iawn, mae rhaglenni sy’n creu .ePub yn creu côd hyll iawn. Y broblem efo hyn yw ei fod yn gallu niweidio eich llyfr ac yn creu gwallau ar rhai darllenydd. Hefyd dyma’r unig ffordd, ar y funud, i allu creu eLyfr hollol unigryw â’i gael i edrych yn union fel da chi eisiau.

    I ddysgu am ‘y côd’ hyn rwyf yn argymell yn fawr iawn y llyfr darllenais i pedair blynedd yn ôl, Build Your Own Website the Right Way gan Ian Lloyd (ddim perthynas!). Mi wneith hwn ddysgu chi bron popeth y gwelwch chi y tu fewn i .ePub.

    Y rhaglen da ni’n ei ddefnyddio i greu gwefannau a rŵan ei’n eLyfrau yw Coda ond mae’n bosib gwneud y gwaith i gyd trwy ddefnyddio unrhyw raglen ‘text editor’ allan yna, hyd yn oed y rhai sy’n dod am ddim ar ei’ch cyfrifiadur.

    Gwyro’r Gwallau

    Unwaith fyddwch wedi creu eich ePub mae angen ei drio i weld os mae’n gweithio. Mi oeddwn i yn defnyddio Adobe Digital Editions i wneud hyn, ond ers i Apple ddod a’r rhaglen Book Proofer (mae rhaid bod yn aelod o iTunes Connect i gael hwn) allan rydym yn defnyddio’r iPad yn syth i weld sut mae’n edrych. (Diweddariad: Mae cwmni o’r enw TidBITS newydd ddod a darllenwr eLyfrau newydd allan i’r Mac o’r enw Bookle sydd i weld werth ei edrych arno.)

    Os oes unrhyw broblemau, neu hyd yn oed os does ‘na ddim, mae gwerth rhedeg eich .ePub trwy’r ‘ePub Validator’ i weld beth yn union sydd yn bod ar eich ffeil.

    I Gloi

    Mae hyn wedi bod y mwyaf i mi erioed teipio fel erthygl, felly rwyf am orffen yn fan hyn. Mi fyswn yn gallu mynd i mewn i sut i newid .ePub i mewn i fformat i’r Kindle, mi fyswn yn gallu dysgu chi fwy am strwythur dogfen .ePub, mi fyswn yn gallu mynd i mewn i siarad am eLyfrau ‘fixed width’. Mae gymaint i drafod yn y pwnc hwn fe allai gymered gwefan cyfan i fyny. Os ydych eisiau i mi fynd i mewn i fwy o fanylder gadewch gofnod isod.

    Mi nai orffen gyda rhestr o raglenni eraill sydd ar gael (dwi un ai heb eu defnyddio, neu yn meddwl eu bod nhw’n warthus e.e. Calibre – hyll uffernol):

    O.N. Mi rwyf yn Mac ‘biased’ gan mai dyna rwyf yn ei ddefnyddio. Sori, gennai ddim syniad am feddalwedd i Windows a Linux, unrhyw un arall yn gwybod?

     
    • Howlsedhes Services 2:11 AM ar 24 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Mae nifer o wefanna sy’n troi pdf i ePub am ddim, ac mae’m bosib hefyd i neud pdf-au gan Openoffice (meddalwedd rhydd fel MSOffice i bub llwyfan). Efallai dyna’r ffordd hawsa. Oes ‘na broblema gan hynny?

    • iestyn 10:35 AM ar 28 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Dwi heb ddefnydio y gwefannau yna, ond dwi’n siwr eu bod yn gweithio’n iawn os mai mond tecst rwyt ti’n delio efo. Unwaith mae lluniau a fideos yn dechra dod i mewn i’r llyfr fe all fynd yn fler.

  • Iestyn Lloyd 4:10 PM ar 18 November 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    eLyfrau Cymraeg yn dod i Gwales.com 

    Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn creu y sylfaen i ddod a eLyfrau Cymraeg i’r farchnad.

    Mae Canolfan Bedwyr wedi gwneud llawer o ymchwil ac wedi creu’r Adroddiad eGyhoeddi yn y Gymraeg (copi Saesneg). Mae llawer o bethau diddorol yn yr adroddiad, gormod i mi ddisgrifio fan hyn, ewch i ddarllen o!

    Y pethau mwyaf diddorol i mi ddoth allan ohono oedd y ffaith fod gwefan Gwales yn mynd i fod y canolfan i werthu yr holl eLyfrau Cymraeg. Mae hyn wrth gwrs yn opsiwn i pob cyhoeddwr ac efallai yn haws na gwerthu eu llyfrau ar gwefannau eu hunain. Mi fydd safle Gwales yn defnyddio Gardners Books fel warws yr eLyfrau, mae hyn hefyd yn eu galluogi i werthu drwy yr iBookstore gan Apple a gwefan Waterstones yn hawdd iawn gan eu bod wedi partneru hefo nhw i gyhoeddi i’r ddau safle. Yr unig drwg welai yn hyn yw fod Gardners yn defnyddio DRM Adobe, ac mi oeddwn i yn gobeithio fuasai Cymru yn arwain y ffordd a peidio defnyddio DRM ar eu llyfrau gan rhoid ffydd ynom ni fel pobl gonest i beidio rhannu y llyfrau allan (erthygl dda ar hyn ar Gigaom.com).

    Ond mae llawer iawn o ddyfeisiadau yn cefnogi y math yma o DRM, yr un dyfais poblogaidd sydd ddim yn ei gefnogi yw’r Amazon Kindle. Ar y funud mae pawb i weld eisiau gwerthu ar y Kindle ond rwy’n gobeithio os fydd gymaint o gyhoeddwyr yn cyhoeddi yn y fformat ePub mi fydd rhaid i’r Kindle cefnogi hyn yn y pen draw.

    Does dim dyddiad pendant i’r lansiad yma ar Gwales.com ond mi fydd yn bendant yn dod yn 2012. Felly os ydych yn awyddus i gael darllenwr eLyfrau y Nadolig yma cofiwch ddweud wrth Siôn Corn mai nid Kindle da chi eisiau.

     
    • Carl Morris 5:30 PM ar 18 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Datblygiad diddorol iawn. Wrthi’n mynd trwy’r adroddiad Bedwyr. Diolch Iestyn.

      Sut mae Gwales yn gweithio gyda chyhoeddwyr ar hyn o bryd – dw i’n gwybod am yr arian cyhoeddus ond pa fath o fenter ydy e? e.e. ydyn nhw yn cadw rhan o’r gwerthiannau? Ydyn nhw yn ‘cystadlu’ gyda Palas Print, Siop y Pethe, Caban a chwmniau eraill? Jyst gofyn.

      Dw i wedi bod yn meddwl pa mor llwyddiannus bydd y marchnad Kindle heb DRM. Pa mor anochel fydd dyfodol Kindle heb DRM, ydy e’n polisi dros dro? Maen nhw yn colli arian ar bob Kindle Fire achos prif busnes nhw ydy’r cynnwys. O leiaf prif busnes Apple yw dyfeisiau ac os rydyn ni’n ystyried Apple iTunes Store fel cynsail roedd DRM ar cynhyrchion iTunes Store am chwe blynedd cyn iddyn nhw cael gwared â’r DRM. Ond roedd y dyfeisiau yn ‘agored’ i MP3 ers y dechrau heb gymaint o ffwdan â’r sefyllfa Kindle. Felly does dim lot o siawns yn fy marn i.

      Oes modd creu ‘gwrth-hysbyseb’ Kindle ar gyfer Nadolig yma?!

    • Nici Beech 6:49 PM ar 18 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Diolch Iestyn, fel ti’n gwbod roedd hi’n gyd-ddigwyddiad od pnawn ‘ma pan wnes i alw heibio wrth iti bostio hwn ar y blog. Roedd Mam newydd gynnig prynu Kindle i fi fel anrheg penblwydd a do’n i ddim yn siwr be i ddeud felly ddois i draw i holi dy farn! Wnes i son wrth mam nad ydi Amazon yn cefnogi llyfrau Cymraeg. Mae hi’n dweud bod ‘na ffordd o drosglwyddo fformats eraill i’r Kindle drwy’r PC….? Dwi dal ddim yn siwr be i wneud! Dwi yn prynu llawer o lyfrau Cymraeg ac yn hoffi cefnogi fy siop lyfrau lleol http://www.palasprint.com . Dwi hefyd yn prynu nifer o lyfrau llais arlein. Mae gen i app Kindle i’r Iphone a wnes i ddarllen llyfr Chris Cope The Way Forward ar hwnnw. Ydw i angen E-reader hefyd…?!

    • iestyn 3:04 PM ar 22 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Dibynnu faint o ddarllen tisho neud, i fi mae’r iPhone rhy fach. Mae’r ipad yn gret ond yn ddrud. Mae na llwyth o ddyfeisiadau da allan yna, problem y Kindle yw fod y llyfrau yn gaeth iddo, ond os ti’n ddigon barod malu cach efo Calibre mi fydd yn iawn, a mi fyddi di yn gallu rhoi llyfrau Cymraeg arno.

    • iestyn 3:07 PM ar 22 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Carl – na’i weld am y ‘gwrth-hysbyseb’ na. Ddim syniad sori am manylion Gwales.

    • libalyson 2:52 PM ar 3 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Gwales – rhan o Cyngor Llyfrau yw e. Mae CLlC yn ‘distributor’ fel Gardners, ac maen nhw prynu llyfrau o’r cyhoeddwyr, at discount, wedi, gwerthu i’r siop llyfrau yng Nghymru. Mae warehouse yn Aberystwyth, ac mae ‘reps’ syn teithio i werthu llyfrau Cymraeg/Cymreig i’r siopau llyfrau. Dw i’n credu tua pob cyhoeddwyr yng Nghymru yn defnyddio CLlC achos mae’n defnyddiol. Mae siop llyfrau siwr o fod yn defnyddio hefyd, as well as archebu llyfrau trwy’r Gardners ayyb o Loegr. (sorry for spelling mistakes)

  • Iestyn Lloyd 3:56 PM ar 6 October 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Steve Jobs   

    Steve Jobs 1955 – 2011 

    “Your work is going to fill a large part of your life, and the only way to be truly satisfied is to do what you believe is great work. And the only way to do great work is to love what you do. If you haven’t found it yet, keep looking. Don’t settle. As with all matters of the heart, you’ll know when you find it. And, like any great relationship, it just gets better and better as the years roll on. So keep looking until you find it. Don’t settle.”

    — Steve Jobs

     
  • Iestyn Lloyd 10:19 AM ar 27 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , eBooks, , ,   

    “Yes, we support books in Welsh.” 

    Ychydig yn ôl fe gysylltodd Y Lolfa a Amazon am gael ei llyfrau yn y siop eLyfrau Kindle, dywedodd Amazon eu bod nhw ddim yn cefnogi llyfrau Cymraeg, a byddai rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawf ddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle.
    Ar ôl clywed am y siom yma penderfynais gysylltu â Apple am eu iBookstore a gofyn iddynt a oeddynt yn cefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg, ac yn nodweddiadol o Apple gefais ebost byr ac i’r pwynt yn ôl

    “Yes, we support books in Welsh.”

    Bellach rwyf wedi rhoi cais i mewn i fod yn gyhoeddwr ar yr iBookstore i allu gwerthu llyfrau, fe adawai chi wybod sut mae’n mynd yn y dyfodol.

     
  • Iestyn Lloyd 3:33 PM ar 29 July 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Mac, , sillafu   

    Darganfyddiad Gwirio Sillafu Cymraeg ar y Mac! 

    Mae gwirio sillafu ar y Mac di bod yn boen ers talwm, ond fel rwyf yn teipio hwn allan yn TextEdit mae’r llinellau coch yn ymddangos o dan y geiriau sydd wedi cael ei gamsillafu (mae na lot pan dwi’n teipio!)

    Ond sut mae hyn yn bosib, mae TextEdit yn dibynnu ar geiriadur y sustem i wirio y sillafu? Wel am y tro cyntaf heddiw ar ôl i @Nwdls ofyn wrthyf sut i droi y llinellau coch i ffwrdd yn y Twitter app (does dim ffordd) fe es i’r System Preferences / Language & Text i weld be oedd yna. O dan y pennawd Text mae na dewislen Spelling ac yn waelod hwnw fe welwch Set Up… ag i mewn yn fyna mae’r frawddeg

    “To add an additional spelling dictionary, copy the dictionary files (.aff and .dic) to the Spelling folder in your Library folder.”

    Gan fy mod yn rhedeg Lion(10.7) mi oeddwn yn meddwl mai rhywbeth newydd oedd hwn, ond fe edrychais yn Snow Leopard(10.6) ag oedd yna hefyd! Duw a wyr ers faint mae’r optiwn yma di bod ar gael.

    Felly dyma y camau i gael gwirydd sillafu Cymraeg o fewn sustem Mac OS X:

    1. Lawrlwythwch y geiriadur Cymraeg o OpenOffice (Yr un sy’n dweud Spelling 2004-04-25, mae reit ar waelod y tudalen).  Lawrlwythwch y ZIP oddiar fy nghwmwl i.
    2. Agor y zip. O fewn y zip mae’r feiliau .aff a .dic
    3. Copiwch y .aiff a .dic i fewn i ~Library/Spelling (os ydych yn rhedeg Lion y ffordd hawdd o gweld eich ffolder Library yw agor y Finder, mynd i Go yn y top, dal Alt i lawr ar y keyboard a fe welwch chi o yn ymddangos yn y canol.
    4. Mi ddylai fod Cymraeg (Library) yn dangos i fyny fel dewis yn y dewislen Spelling o dan y pennawd Text yn System Preferences / Language & Text.

    *Diweddariad* – Fideo o’r broses.

    Rwyf wedi testio hyn mewn sawl rhaglen rŵan ag mae i weld yn gweithio yn iawn, dwi ddim yn siŵr os mae’r Automatic by Language yn gweithio, efallai rhaid i mi ail ddechrau y Mac. Ond mae hyn yn mynd i fod yn help mawr i fi ag yn fy safio rhag gorfod agor Cysill o hyd.

    Os ydych yn gwybod am geiriadur gwell na’r un OpenOffice neu am unrhyw triciau eraill i gael teipio yn Gymraeg yn haws ar y Mac gadewch i mi wybod.

    Diweddariad 2

    Gan fod fersiwn Open Office ddim ar gael bellach, lawrlwythwch y ZIP oddiar fy nghwmwl i.

     
    • Iestyn Roberts 10:25 AM ar 1 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Gwych gwych! Diolch, diolch yw fy nghân Iest!

    • Ciaran 1:01 AM ar 9 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Gwych! Diolch.

    • Aled Wyn 11:03 AM ar 15 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Gwych! Diolch o galon am hyn Iestyn! Un peth dwi’n cael trafferth gyda, ac efallai dy fod di wedi dod o hyd i ateb, a oes modd newid rhwng sillafu Cymraeg a Saesneg, heb orfod mynd trwy system preferences bob tro?

    • Rhodri 5:20 PM ar 20 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Gweithio ar TextEdit ond methu cael o i weithio ar Word 2011 am ryw reswm. Dwi wedi ei ychwanegu fel custom dictionary a wedi newid iaith pob dogfen newydd i fod yn Gymraeg fel default, ond dwi’n cael dim cywiriadau. Sa unrhywun arall wedi trio fo ar Word 2011?

    • Iestyn 6:36 PM ar 20 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Yn anffodus mae Office yn defnyddio geiriadur ei hyn yn hytrach na un y system. Mae gan Microsoft geiriadur Cymraeg i Office ar Windows ond dwi’m yn meddwl eu bod wedi creu y Pecyn Iaith i Mac. 

      Defnyddio unrhywbeth heblaw Word fysw’n i’n awgrymu. Mae’r geiriadur yn gweithio efo unrhyw rhaglen sy’n defnyddio rhai y sustem.

    • Argoed 10:19 PM ar 20 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Credaf nad yw’r ffeiliau bellach ar gael i’w lawrlwytho ar y wefan, ond ‘rwy’n meddwl efallai bydd y linc yma’n gweithio yn lle… http://www.findthatfile.com/search-6610857-hZIP/winrar-winzip-download-cy_gb.zip.htm

    • Nudd 2:00 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Defnyddiol iawn – diolch!

      (Ond rhaid cofio mai dim ond gwirio sillafu y mae hwn yn ei wneud, lle mae CySill yn gwirio gramadeg yn ogystal.)

    • Iestyn Lloyd 2:13 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Dyna sydd yn y teitl ;-)

    • Nudd 2:29 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      “…fy safio rhag gorfod agor Cysill o hyd.” ;-)

    • Iestyn Lloyd 2:56 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Fyngggggg ngramadeg i yn Perffaith pob hyd

    • Iestyn Lloyd 3:13 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Hefyd yn amhosib i rhoi dogfen 30,000 o eiriau i fewn yn Cysill

    • Mal Pate 3:15 PM ar 21 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Dwi’n defnyddio Pages (gan ddefnyddio’r gwiriwr sillafu Cymraeg) – a diolch i Iestyn am ddangos inni sut i’w osod – ac wedyn mae ‘na opsiwn i gadw’r ffeil fel dogfen Word, os oes angen.

  • Iestyn Lloyd 12:01 PM ar 29 January 2010 Dolen Barhaol | Ymateb  

    Sticeri enwau wedi ei neud, diolch i Rhodri.

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu