Profi fersiwn newydd o Debian
Mae system weithredu Debian GNU/Linux yn ddosbarthiad poblogaidd o Linux sy’n sail i nifer o ddosbarthiadau eraill yn cynnwys gwahanol flasau o Ubuntu ac eraill (rhestr llawn yma).
Ar hyn o bryd, mae fersiwn newydd Debian 7.0 (wheezy) yn cael ei gwblhau a’u brofi. Mae sefydlydd y system ar gael mewn nifer o ieithoedd yn cynnwys Cymraeg. Y tro yma, roedd y fersiwn Gymraeg am ddiflannu oherwydd nad oedd wedi ei ddiweddaru ers rhai blynyddoedd.
Felly fe es i ati i gwblhau’r cyfieithiad gan fod y meddalwedd yn cael ei ‘rewi’ ddiwedd mis Mehefin. Fe ddylai’r gwaith yma fwydo mewn i Ubuntu yn y dyfodol.
Erbyn hyn mae fersiwn beta o sefydlydd Debian ar gael. Os ydych am brofi’r sefydlydd newydd a’r cyfieithiad Cymraeg, fe allwch gael copi o’r sefydlydd fan hyn (ffeil ISO). Mae’n bosib defnyddio VirtualBox neu rhywbeth tebyg i osod system newydd mewn peiriant rhithwir. Mi fase’n ddefnyddiol cael adborth am unrhyw wallau amlwg.

Carl Morris 7:39 PM on 3 Medi 2012 Permalink
Gwych iawn. Diolch yn fawr am dy waith Dafydd. Oes deadline am adborth?
Dafydd Tomos 10:43 AM on 4 Medi 2012 Permalink
Mae Debian yn enwog am beidio ryddhau tan fod nhw’n trwsio pob nam ond dwi’n meddwl fod rhyw fwriad i ryddhau erbyn Chwefror 2013 yn dilyn y patrwm blaenorol.
Felly dwi’n meddwl fydd cwpl o fisoedd eto ar gael i newid pethau cyn “rhewi’r” llinynnau.
Wnes i anghofio ddweud fod y cyfieithiad yma yn adeiladu ar waith Dafydd Harries ac eraill o 2004 ymlaen.