Updates from Carl Morris RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 6:20 PM ar 29 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , , , ,   

    Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad 

    Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. [...]

    Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw

    Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol Hacio’r Iaith. Beth mae pobol yn meddwl?

    Ym mhersonol es i yn syth i weld pa fath o strategaeth cynnwys Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma fy hoff ddarn sy’n sôn am mynediad agored i rai o’r cynnwys:

    Ni fydd llawer o’r adnoddau yn y casgliad wedi’u cyfyngu at ddefnydd gan athrawon a dysgwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr dysgu yng Nghymru; oni fydd, er enghraifft, trwyddedau yn gwahardd hynny, byddan nhw ar gael i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, naill ai mewn lleoliad ffurfiol, fel coleg, neu mewn ffordd llai ffurfiol. Felly bydd y casgliad yn gweithredu fel llyfrgell adnoddau ac offer gyhoeddus fawr bydd unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu, ni waeth beth fo’i oedran, cefndir na chymhelliant, yn gallu ei defnyddio.

    Ond dyw e ddim yn glir pam fydd angen trwydded newydd ar gyfer rhai o’r cynnwys:

    Paratoi cyfres o drwyddedau safonol ar ffurf debyg i Creative Commons i’w cymhwyso i’r adnoddau hyn, a thrwy hynny annog pobl i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at ddibenion addysgol.

    Gweler Joi Ito ar y broblem o drwyddedau anghydnaws. A pham ‘dibenion addysgol’ yn unig?

    O ran y casgliad enfawr bydd angen system rheoli cynnwys cryf a chyfeillgar. Mae sôn am ddefnydd o ‘ffynhonnell agored’ (sef cod agored) yn yr adroddiad ac mae sefydliadau o gwmpas y byd wedi dosbarthu systemau tebyg dan GPL neu hyd yn oed OGL. Gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cwmniau Cymreig i gynnal y system ac yn ail-dosbarthu unrhyw addasiadau dan drwydded cod agored (fel y mae alphagov wedi bod yn ei wneud).

    Wel, beth mae pobol yn meddwl?

    Efallai dylwn i lanlwytho’r peth i Skdadl, mae’r ffeil adroddiad wedi cael ei cyfansoddi ar gyfer print – does dim modd sgwennu dolen dwfn i adrannau penodol mewn PDF.

     
  • Carl Morris 4:24 PM ar 21 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Cwestiynau am ddarpariaeth e-lyfrau Gwales 

    Mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – wedi cyhoeddi ei bod bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print.

    [...]

    Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu e-lyfrau ar wefan gwales.com.

    “Mae’n galonogol y bydd darllenwyr bellach yn gallu archebu e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o wefan Gwales ac rwy’n falch y bydd y datblygiad hefyd o gymorth i siopau llyfrau, llyfrgelloedd a’r cyhoedd.”

    [...]

    o gwales.com yn gwerthu e-lyfrau, Golwg360

    Mae’r datganiad yn codi pryderon a chwestiynau am ddyfodol yr economi deallusol yn Gymraeg. Wrth gwrs mae angen datblygu’r diwydiant e-lyfrau yng Nghymru ac yn Gymraeg ond beth yw’r ffordd gorau a’r defnydd gorau o arian cyhoeddus?

    Beth mae menterau preifat fel siopau a gwasanaethau eraill yn meddwl am y defnydd o arian cyhoeddus i gystadlu gyda nhw? Dw i’n gwybod bod Gwales wedi cynnig rhyw fath o werth i’r diwydiant. Ond faint o arloesi fydden ni weld yn y diwydiant e-lyfrau yng Nghymru ac yn Gymraeg? Mae diwydiant e-lyfrau mor ifanc ac mae lot o arloesi potensial ar y gweill o ran defnydd o dechnoleg, gwerth ychwanegol, y ‘profiad’ o e-lyfrau, adolygiadau, bod yn mentrus ar yr ochr busnes… Os wyt ti’n ystyried yr enghraifft o lyfrau papur oes digon o arloesi wedi bod ers 1999?

    Fydd digon o ddewis a siawns i unrhyw mentrau bychan?

    Pwy sydd yn penderfynu’r polisi golygyddol? Elfen fawr sydd wedi cael ei weld yn Saesneg yw’r twf yn hunan-gyhoeddi a chyhoeddwyr annibynnol. Oes cyfle iddyn nhw?

    Maen nhw wedi dweud bydd DRM ar bob e-lyfr trwy Gwales eisoes. Yn fy marn i dylai’r cyhoeddwyr gwneud y penderfyniad yna.

     
    • Rhys Wynne 5:26 PM ar 21 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Maen nhw wedi dweud bydd DRM ar bob e-lyfr trwy Gwales eisoes. Yn fy marn i dylai’r cyhoeddwyr gwneud y penderfyniad yna.

      Ti’n iawn, rhyfedd bod Gwales wedi penderfynu hynny eu hunain.

  • Carl Morris 10:04 PM ar 20 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , digwyddiad hacio,   

    Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith 

    Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti adael sylw neu fod yn rhan o rywbeth.

    Mae rhai o hackathons yn ffug. Mae pobol yn sgwennu’r cod rhywle dawel cyn iddyn nhw fynd! Hefyd mae cwmnïau yn defnyddio nhw i ffeindio talent a syniadau.

    Byddwn i o blaid rhywbeth Hacio’r Iaith gyda ffocws penodol ac ymarferol.

    Mae cymhareb o spectators i gyfranogwyr yn bwysig gyda rhywbeth ymarferol. Efallai bydd angen gweithdy bach ar y dechrau ac wedyn mae pobol yn gallu ymarfer y sgiliau newydd?

    Efallai mae angen ‘cyfyngiadau’ hefyd sef

    • casgliad o ddata
    • neu API
    • neu pwnc penodol

    er mwyn sbarduno syniadau a chanolbwyntio ar rhywbeth.

    e.e.
    archif S4C
    archif Radio Cymru
    data Radio Cymru, e.e. playlist
    archif Llyfrgell Gen
    “barddoniaeth”
    mynyddoedd
    Y Rhestr o flogiau ar hedyn.net
    Wicipedia Cymraeg
    stwff yn Gymraeg dan Creative Commons
    data Umap
    ayyb

    Mae’r cofnod yma yn anghyflawn yn bwrpasol… :-)

     
    • Rhodri ap Dyfrig 10:25 PM ar 20 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      casglidau fideo yn ddiddorol – byddai defnydd o feddalwedd Mozilla Popcorn i ailgyflwyno a rhoi cyd-destun i ddeunydd yn arbrawf diddorol. Mae archif HTV ar y ffordd i’r llyfrgell gen…

  • Carl Morris 1:11 PM ar 15 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb  

    Meic Agored Inventorium – trafod syniadau tech ym Mangor, Ebrill 2012 

    Dw i’n pasio neges Inventorium ymlaen.

    Beth sy’n digwydd i’ch eiliadau eureka?
    Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch syniad gwych ar ôl ei sgrifennu ar napcyn?

    Mae sesiwn Meic Agored Inventorium yn gyfle i chi rannu’r syniadau gorau rydych wedi’u hysgrifennu ar napcyn, ar fat cwrw, ac ar gefn eich llaw.

    Mae croeso i unrhyw un alw draw, hyd yn oed heb syniad!

    Bydd gennych dri munud i sefyll ar eich traed, bod yn ddewr a chyflwyno eich syniad mwyaf ysbrydoledig a dychmygus i gynulleidfa a fydd yn cynnwys pawb o arianwyr i bobl chwilfrydig, fydd yn gofyn cwestiynau a rhoi eu hymateb yn y fan a’r lle.

    Bydd y syniadau gorau yn cael cefnogaeth gan dîm Inventorium ynghylch sut i ddatblygu eu syniadau ymhellach yn fodelau busnes llwyddiannus.

    Mae’r sesiwn Meic Agored yn gyfle i chi rannu syniadau, ymarfer cynnig syniadau, dechrau sgwrsio a thrafod, a ffurfio partneriaethau newydd gwych.

    Rydym yn estyn gwahoddiad i rai o’r prif arianwyr, sefydliadau’r llywodraeth a busnes, gan gynnwys Croeso Cymru, Xenos, Business Link, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Meddalwedd Cymru i fod yn y gynulleidfa. Mae’r sefydliadau hyn mor awyddus â chi i gael syniadau newydd.

    Mae syniadau yn gallu ymddangos o unrhyw le, ac wyddoch chi ddim ble byddwch yn cwrdd â’r bobl allweddol, sydd â’r sgiliau i wireddu eich syniad.

    Efallai y dewch o hyd i:

    Eich partneriaid busnes ar gyfer y dyfodol
    Pobl fydd yn buddsoddi yn eich syniad
    Rhywun i drafod neu hyrwyddo eich syniad
    Cyfaill beirniadol pwysig
    Dylunwyr, datblygwyr, arbenigwyr ar gynnwys, sydd eisiau gweithio gyda chi
    Arweinwyr masnachol gydag arian a gwybodaeth i’ch cefnogi
    Cofiwch, bydd y cynnwys yr un mor gyffrous â’ch cyflwyniad. Tri munud fydd gennych, felly gwnewch eich gorau glas!

    Pryd: Dydd Mawrth 17 Ebrill 2012 18.30 – 21.00

    Ble: Fat Cat Bangor

    I gael gwybod mwy, cysylltwch â jenny@inventorium.org.

     
  • Carl Morris 9:37 PM ar 14 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    Sawl llun, i’r Cwîn 

    http://www.theregister.co.uk/2012/03/14/face_britain_copyright_grab/

    Mae prosiect o’r enw Face Britain yn ecsploetio lluniau gan blant – ac wedi cymryd pob hawl eiddo deallusol.
    Anhygoel. Maen nhw wedi casglu 70,000 llun gwahanol hyd yn hyn. Y bwriad ydy llun mosaig enfawr o Elizabeth Windsor… Darllena’r erthygl.

     
  • Carl Morris 5:30 PM ar 8 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , Replicant, tabledi   

    Replicant: adeiladu fersiwn o Android sydd yn hollol rydd 

    Dyma cyfweliad diddorol iawn am brosiect Replicant ar gyfer ffonau/tabledi gan gynnwys sgwrs am breifatrwydd/rheolaeth go iawn.

    http://www.techworld.com.au/article/417902/replicant_developer_interview_building_truly_free_android/?

    Maen nhw yn chwilio am bobol i gyfrannu. Mae modd cyfrannu ein cyfieithiadau Cymraeg o graidd Android i Replicant hefyd.

    Gyda llaw mae cyfle busnes yma i rywun sydd yn gallu gosod Android Cymraeg neu Replicant Cymraeg ar dabledi a’i chynnal ar gyfer ysgolion Cymraeg.

     
  • Carl Morris 11:49 PM ar 6 March 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    RIP BBC Cylchgrawn 

    Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff.

    Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud:

    Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad ac i fy hysbysu mai fy adolygiad o Hunky Dory fydd yr olaf i gael ei chyhoeddi, gan fod y gwybodusion wedi penderfynu yn dilyn y toriadau ariannol nad oes lle mwyach i BBC Cylchgrawn.

    Bydd rhyw fath o ddatganiad swyddogol yn neis, hyd yn oed rhywbeth sy’n cyfeirio at y ‘diffyg galw’ fel pob un arall. Oes cynllun i ddarparu mwy mewn adran arall?

    Ym mis Chwefror 2011 daeth BBC Chwaraeon i ben, fel newyddion rhyngwladol yn Gymraeg cyn hynny.

    Mewn gwirionedd roedden nhw tri yn enghreifftiau o adrannau BBC dan-y-cownter. Maen nhw yn rhedeg ar hen systemau ac yn dioddef o ddiffyg cariad. Er enghraifft ar hyn o bryd rwyt ti’n gallu clicio I rannu dy hoff erthyglau Cylchgrawn ar Digg, Newsvine a NowPublic tra bod blaenoriaethau eraill fel Newyddion Arabeg yn mwynhau triniaeth llawn ar blatfformau cyfoes fel YouTube.

    Pa mor wych fydd y wasanaeth pe tasen nhw yn rhoi mwy o gymorth a dolenni i adrannau Cymraeg?

    Gweler y cartwn yma o 1968. Plus ça change, plus c’est la même chose.

     
    • Rhys Wynne 8:54 AM ar 7 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Ie, gwelais i hynna ar flog Lowri hefyd. Dw i wedi bod yn chwilio am ddatganiad hefyd. Mae’n adran gynhwysfawr iawn. Os mai diffyg galw ydy’r rheswm, sgwn i faint o defnydd sy’n cael ei wneud o dudalennau cyfatebol, sef Wales Arts ar wefan BBC Wales? Nid mod i eisiau gweld dirywiad yn y ddarpariaeth hynny chwaith, ond gweld mai ychydig iawn o sylwadau sy’n cael eu gadael ar y blogiau yno hefyd.

      Sylwais ar y golygiad yma ar erthygl un o’r papurau bro ar y Wicipedia yr wythnos yma, ble mae’r golygydd (di-enw) wedi gadael y sylw canlynol i esbonio’r golygiad:

      Lic (sic) wedi newid o bbc i facebook. Doedd bbc ddim yn diweddaru y dudalen

      Dw i’n cymryd bod y golygydd yr erthygl uchod yn rhywbeth i’w wneud gyda’r papur bro dan sylw. Sgwn i os ydyn nhw wedi bod yn gofyn i’r BBC ddiweddaru eu tudalennau nhw ar adran BBC Lleol i Mi ac wedi darparu’r cynnwys, a bod y BBC yn gwrthod gwneud?

    • Carl Morris 6:53 PM ar 11 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      BBC wedi cadarnhau y penderfyniad, does dim cynllun B eto chwaith: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/67505-adran-arall-o-wefan-gymraeg-bbc-yn-mynd

  • Carl Morris 1:04 PM ar 27 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Sialens Geovation: diwrnod creu syniadau gydag Inventorium 

    Mae gwerth £115, 000 o wobrau ar gael am syniadau da ynghylch ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ a hyd yn oed fwy o wobrau am syniadau i gefnogi ymwelwyr a chymunedau ar hyd y llwybr newydd, ‘Llwybr Arfordir Cymru’. Mae’r gwobrau hyn yn rhan o Sialensiau GeoVation yr Arolwg Ordnans.

    Ar ddydd Gŵyl Dewi, mae Inventorium yn gwahodd arloeswyr i weithdy anffurfiol gyda’r nod o ffurfio timau â syniadau fydd yn gallu datrys Sialensiau GeoVation.

    Bydd Sialensiau GeoVation yn cael eu datrys gan dimau sydd â gwybodaeth amrywiol am dechnoleg, busnes ac anghenion cymdeithas. Bydd yr Arolwg Ordnans yn ariannu’r syniadau sy’n gwneud defnydd gora o’r ddata, gan gynnwys OS OpenData ac OS OpenSpace.

    Mae Sialens ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ yn rhedeg tan 28 Mawrth a bydd y syniadau gorau yn cael gwahoddiad i benwythnos Gwersyll GeoVation yn Southampton rhwng 18 a 20 Mai 2012. Bydd y rhai fydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn y gwersyll hwnnw yn cael eu gwahodd i Sioe Arddangos GeoVation ar 20 Mehefin 2012 i roi cynnig am gyfran o’r arian.

    Bydd manylion Sialens ‘Llwybr Arfordir Cymru’ yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

    Yng ngweithdy Inventorium bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cwrdd â darpar bartneriaid, gweithio ar syniadau a’u troi’n gyflwyniadau ar gyfer y Sialens.

    Pryd: 1af Mawrth, 09.30 – 15.30

    Lleoliad: Tŷ Menai, Bangor. LL57 4HJ

    Fe fydd gweithgarwch strwythuredig rhwng 09.30 ac 13.00 yna cefnogaeth ac ymgysylltu hyblyg ar gyfer y rhai sydd eisiau galw draw wedi hynny.

    rhagor o wybodaeth:

    http://www.inventorium.org/events/geovation-challenge-inventorium-idea-team-generation-day/

    http://www.geovation.org.uk/geovationchallenge/

     
  • Carl Morris 5:52 PM ar 22 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , WPML   

    Mapiau dwyieithog ar WordPress gyda math cofnod addasu 

    Simon Dickson yn sôn am greu map gyda lleoliadau dwyieithog ar Google Maps/WordPress (ar gyfer digwyddiadau y Comisiwn Silk ledled Cymru).

     
  • Carl Morris 2:25 PM ar 1 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth 

    Mae’r Llywodraeth DU wedi agor ei phlatfform newydd fel prawf beta:

    https://www.gov.uk/

    (Newyddion ar BBC News heddiw)

    Hmmm. Llynedd gwnes i ofyn am ddarpariaeth Gymraeg ac yn ôl y sôn maen nhw yn siarad â Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru.

    Yn fy marn i, o ran digidol mae’r prosiect yma yn cynnig cyfle gwych i Fwrdd yr Iaith, i’r Cadeirydd dros dro a’i thîm, i sicrhau’r darpariaeth gorau yn Gymraeg ar gov.uk.

    DIWEDDARIAD: tipyn bach o sgwrs gan gynnwys addewid penodol ganddyn nhw. Llywodraeth DU yw fy hoff lywodraeth – prynhawn yma!

    @, hello. Congrats on the beta launch. Will the new site and services support Welsh language users?
    @carlmorris
    Carl Morris ☺☻
    @ prynhawn da this will be incorporated into future iterations of the site
    @ prynhawn da iawn. Diolch GovUK!
    @carlmorris
    Carl Morris ☺☻
     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu