Updates from Carl Morris RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:25 PM ar 1 February 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth 

    Mae’r Llywodraeth DU wedi agor ei phlatfform newydd fel prawf beta:

    https://www.gov.uk/

    (Newyddion ar BBC News heddiw)

    Hmmm. Llynedd gwnes i ofyn am ddarpariaeth Gymraeg ac yn ôl y sôn maen nhw yn siarad â Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru.

    Yn fy marn i, o ran digidol mae’r prosiect yma yn cynnig cyfle gwych i Fwrdd yr Iaith, i’r Cadeirydd dros dro a’i thîm, i sicrhau’r darpariaeth gorau yn Gymraeg ar gov.uk.

    DIWEDDARIAD: tipyn bach o sgwrs gan gynnwys addewid penodol ganddyn nhw. Llywodraeth DU yw fy hoff lywodraeth – prynhawn yma!

    @, hello. Congrats on the beta launch. Will the new site and services support Welsh language users?
    @carlmorris
    Carl Morris ☺☻
    @ prynhawn da this will be incorporated into future iterations of the site
    @ prynhawn da iawn. Diolch GovUK!
    @carlmorris
    Carl Morris ☺☻
     
  • Carl Morris 4:44 PM ar 31 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , ePub, ,   

    Syniad i gyhoeddwyr – darparu e-lyfr gyda llyfr papur 

    Mae’r strategaeth yma gan Nicholas Carr yn wych:

    [...]

    There’s a lesson here, I think, for book publishers. Readers today are forced to choose between buying a physical book or an ebook, but a lot of them would really like to have both on hand – so they’d be able, for instance, to curl up with the print edition while at home (and keep it on their shelves) but also be able to load the ebook onto their e-reader when they go on a trip. In fact, bundling a free electronic copy with a physical product would have a much bigger impact in the book business than in the music business. After all, in order to play vinyl you have to buy a turntable, and most people aren’t going to do that. So vinyl may be a bright spot for record companies, but it’s not likely to become an enormous bright spot. The only technology you need to read a print book is the eyes you were born with, and print continues, for the moment, to be the leading format for books. If you start giving away downloads with print copies, you shake things up in a pretty big way.

    So why give away the bits? Well, traditional book publishers have three big imperatives today: (1) protect print sales for as long as possible (in order to fund a longer-term transition to a workable new business model); (2) help keep physical bookstores in business [...] and (3) do anything possible to curb the power of Amazon.com, the publishers’ arch-frenemy.

    [...]

    Dylai cyhoeddwyr yng Nghymru darllen yr erthygl lawn: http://www.roughtype.com/archives/2012/01/why_publishers.php

     
    • iestyn 9:20 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Syniad gwych. Mae rhai bandiau sy’n gwerthu cerddoriaeth ar Bandcamp yn rhoi fersiwn digidol am ddim pan ydych yn prynu y vinyl neu’r CD.

    • Carl Morris 11:55 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      iestyn, dw i’n sylwi lot o debygrwydd rhwng cerddoriaeth ddigidol ac e-lyfrau. Apple iTunes oedd y ‘frenemy’ (term Carr uchod), nawr mae Amazon angen cystadleuaeth.

  • Carl Morris 2:22 PM ar 29 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , ,   

    Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog 

    Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)…

    Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.com. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu ei gweld yn y cefndir.)

    fe-flogiwn-ni-eto gan huw prestatyn

    Rydyn ni’n blogio i:
    rhannu nodiadau
    postio fideos/dolenni/awdio (Yr Haclediad)
    parhau gyda syniadau a phrosiectau
    gofyn/ateb cwestiynau
    trefnu sesh lleol Hacio’r Iaith Bach mewn pyb
    ac ati

    Mae’r blog Hacio’r Iaith ar sail WordPress, mae’n weddol hawdd i’w defnyddio (ac mae help ar gael os ti’n styc).

    Mewn ffordd mae’r gymuned Hacio’r Iaith yn parhau trwy’r flwyddyn ar y blog, ar y we ac unrhyw bryd mae pobol eisiau cwrdd i drafod technoleg a Chymraeg ledled Cymru.

     
    • Robin Hughes 4:35 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A gaf i gyfrif plis? Diolch.

    • Mark Jones 10:02 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A finnau! Diolch!

    • Carl Morris 12:12 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Robin a Mark, dw i newydd greu cyfrifon i chi. Gweler eich ebost.

    • Nici Becch 4:18 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      A fi os gwelwch yn dda

    • Carl Morris 11:59 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Nici, mae gen ti ebost.

    • Gareth Jones 7:40 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Gai gyfrif

    • Gareth Jones 3:43 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Diddorol gweld rhai ymatebion yn ymddangos yn syth tra bod eraill yn disgwyl eu cymedroli.

    • Carl Morris 1:18 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Gareth, dydyn ni ddim yn rhoi cyfrifon i bobol sydd ddim wedi dod. Mae rhaid cael rhyw fath o linell. Does dim eithriadau. Diolch i ti am y sylwadau.

  • Carl Morris 1:33 PM ar 29 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – gwerthusiad 

    Diolch i bawb wnaeth dod i gymryd rhan yn y drydedd Hacio’r Iaith yn Aberystwyth ddoe! Diolch hefyd i’r noddwyr am sicrhau mynediad am ddim a bwyd eleni. Mae mwy o gofnodion i ddod am y digwyddiad gan gynnwys nodiadau, fideos ac ati.

    Yn y cyfamser, ar diwedd y dydd cawson ni sesiwn i drafod fformat y digwyddiad, y lleoliad, sut ydyn ni’n gallu gwella popeth, ayyb. Roedd lot o sylwadau da a defnyddiol ond roedd rhaid i rai o bobol gadael erbyn hynny. Felly o’n i eisiau creu’r cyfle i bostio sylwadau am y peth fel gwerthusiad bach pan mae atgofion dal yn ffres.

    Cwestiynau i annog sylwadau isod: Pa elfennau oedd yn dda? Pa elfennau oedd angen eu newid ac oes modd gwella’r digwyddiad unrhyw sut? Sut ydyn ni’n gallu cynrychioli grwpiau, diddordebau neu fathau gwahanol o berson – fel petai – tro nesaf? Sut fyddi di ddefnyddio allbwn y digwyddiad? Fyddi di’n ystyried cymryd rhan eto?

    Mae rhaid dweud bod Hacio’r Iaith yn dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr ac mae pawb sydd yn dod yn cyfrif fel rhan o’r cyd-weithrediad. Felly os oes gyda ti awgrymiad penodol efallai mae modd cyfrannu help rhywsut…

    Fel arall rwyt ti’n gallu blogio cofnod bach ar dy flog personol. Mae croeso i ti postio’r dolen i’r cofnod fel sylw.

     
  • Carl Morris 5:30 PM ar 28 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Cip o system cyfieithu Prifysgol Bangor gyda @gruffprys 

    image

    System yn cynnwys cyfieithu peirianyddol arbennig (nid Google) a dynol gyda chof cyfieithu a gwirydd gramadeg a sillafu

     
    • Stephen Mason 7:23 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Gwirydd sillafu a gramadeg arlein? Dim ond os mae’n canwaith gwell na Gwgl Translet – angen delio ag idiomau a phopeth arall. Beth am y rhai sy’n gweithio fel cyfieithydd te?

    • Carl Morris 12:49 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Stephen, o’n i’n trio rhannu cipolwg trwy fy ffôn yn ystod y sesiwn fel blas. Mae fideo o’r sesiwn sy’n esbonio lot mwy. Gwnawn ni ei phostio fan hyn rhywbryd er mwyn i ti glywed mwy o wybodaeth gadarn am y system a sut mae cyfieithwyr yn manteisio arno fe. Diolch!

    • Gareth Jones 3:42 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Diolch Iest am glirio hyna i fynu. Meddwl bo fi wedi meddu rhywbeth am Apple am eiliad :)

  • Carl Morris 10:38 AM ar 28 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    e-lyfrau – pa ddyfais? 

    image

    (mae lot mwy na Kindle!)

    graff gan Delyth Prys

     
    • Diane 1:39 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Yw pawb yn gwybod bod ‘na lyfrau Cymraeg (gan Y Lolfa yn unig) ar gael ar y Kindle, nawr, yn y DU a’r UK (a’r Almaen, falle)? Mae ‘na rywbeth fel 15 o lyfr ar hyn o bryd. I rai sy’n tu fas o Gymru, dyma fendith!

    • Stephen Mason 6:08 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Fel athro uwchradd mae’r peth sy’n becso fi llawer am y gorymdaith at e-lyfrau yw’r diffyg sylw ar yr elfen glywedol i’r peth. Problem mwya dyslecsia yw diffyg clywed yr iaith lafar. Gyda’r Gymraeg mae’r broblem hon yn broblem waeth byth. Mae’n rhaid i blant glywed yr iaith os maen nhw’n datblygu sgiliau darllen digon da i ddarllen unrhywbeth o werth fel oedolyn yn y Gymraeg. Felly, yr APP mwya gwerthfawr yw’r un sy’n darparu llais i ddarlenn e-lyfr i ddysgwyr ac i blant mewn ardaloedd Seisnig.

    • Robin Williams 9:33 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Yn syml 1pad2 ! Dyma ddewis cyntaf unrhyw ddisgybl ysgol.
      Mae Apple newydd gyhoeddi i tunes U ar gyfer Addysg.
      Mae’r gwerthiant wedi bod yn syfrdanol dros y misoedd diwethaf !

      ibooks author fydd y ffordd ymlaen i ddisgyblion ysgol App gwych steil !

    • Iestyn 12:06 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      O ran fyng ngwaith mi fydd rhaid i mi brynu Kindle, Sony, Kobo ayb ar ran trio’r llyfrau arnynt. O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone, fedrai’m disgwyl tan fydd dyfeisiadau eraill yn dechrau cefnogi ePub 3.

    • Gwion23 12:58 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Ond beth am yr anghenion addysg sy’n cael eu codi gan Stephen?

      Pa mor rhwydd yw cyfuno eLyfr a ‘chlywlyfr’, fel bod modd clywed llais, a darllen y text yr un pryd falle?

    • Gareth Jones 7:35 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Fel mae Robin yn ddweud, iPad ydi’r dewis gan ddisgyblion, ac mae iBooks Author yn ei gwneud hi’n rhwydd iawn i greu eLyfrau ar ei gyfer.

      Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bosib creu eLyfrau drwy iBooks ar yr iPad ac iPhone.

      Mae modd creu eLyfr sy’n darllen yn weddol rhwydd. Engraifft dda yw’r llyfr Yellow Submarine sydd ar gael am ddim drwy’r iBookstore.

    • iestyn 1:32 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      “O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone”
      Sori Gareth, dyliwn i di bod yn gliriach ac esbonio fod ddim gwell darllenydd na iBooks o ran cefnogaeth ePub 3, sydd yn fy ngalluogi fel crewr eLyfrau i greu rhywbeth fwy unigryw.

  • Carl Morris 2:13 PM ar 24 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , Wedi 7   

    Wedi 7 a @llef yn trafod technoleg, y we Gymraeg a Hacio’r Iaith ar #s4c 

    http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454513805 (dolen yn dod i ben mewn 6 diwrnod)

    Mae’r sgwrs yn dechrau 08:00.

    Sgwrs da iawn, mwy plis!

    Oes lle am raglen reolaidd ar y teledu i drafod defnydd o dechnoleg mewn cymdeithas ac yng Nghymru, y heriau, y problemau, y cyfleoedd (yn hytrach na jyst gadjets newydd)?

     
    • Rhodri ap Dyfrig 12:15 AM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Wn i ddim am deledu, dwi’n ffeindio Y Lle Feiral yn anhygoel o ddall i unrhyw gyd-destun Cymraeg i dechnoleg. Neu ydw i jest di gweld y rhaglenni rong?

      Fasa’n amêsing cael rhaglen fel The Stream ar Al Jazeera, lle mae technoleg yn rhan o wead y rhaglen (ffeindio storis, curadu storis, cyfweld pobol heb orfod anfon camera allan ayyb), ac lle mae’r rhaglen yn trafod drafod defnyddiau cymdeithasol a gwleidyddol pobol o’r dechnoleg ledled y byd.

      Bydda rhaglen sydd yn mynd allan yn fyw arlein yn wythnosol ar amser penodol, gyda’r holl beth ar gael ar bob cyfrwng dosbarthu fel podlediad arol hynny yn wych.

      A Sioned fel anchor :)

    • Carl Morris 1:08 PM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Ie o’n i’n meddwl am Y Lle Feiral. Lot o botensial ond brochure-wedd ar hyn o bryd.

    • Menna Machreth 3:51 PM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Rhodri, syniad da am y rhaglen, beth am greu rhaglen enghreifftiol a’i drio allan ar Sianel 62? Bydd Sianel 62 yn sianel ar y we ac yn gwahodd cyfraniadau rhaglenni wrth unrhyw aelodau o Gymdeithas yr Iaith rhwng Chwefror a Gorffennaf. Beth am ofyn pwy sydd â diddordeb dydd Sadwrn?

    • Rhodri ap Dyfrig 10:53 PM ar 26 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Pe bai ond yr amser gen i Menna…

  • Carl Morris 11:38 AM ar 19 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , gwartheg,   

    Cofnod Cymraeg – y ffordd ddiog? Gofyn am esboniad 

    Mae cofnod Cymraeg o drafodaethau llawn y Cynulliad wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ers Gorffennaf 2010. [...]

    http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/63138-cyhoeddi-cofnod-cymraeg-cyntaf-y-cynulliad-ers-2010

    (Ond methu gweld e ar y wefan ar hyn o bryd. http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-chamber-fourth-assembly-rop.htm )

    [...] Ond ym mis Tachwedd y llynedd fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’r gwaith o gyfieithu’r Cofnod yn ail-ddechrau o fis Ionawr eleni.

    Bydd y cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate o hyn ymlaen, gyda chyfieithwyr proffesiynol yn adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi. [...]

    Sut mae Google Translate yn gweithio? Wel, mae’r peiriant ystadegol yn cael ei bwydo gyda fersiynau o ddogfennau mewn ieithoedd gwahanol. Un o’r ffynhonnellau oedd/yw’r Cofnod, mae’n debyg. Dw i wedi mynegu pryder fan hyn o’r blaen a dw i dal yn poeni am fwydo’r gwasanaeth gyda’i allbwn ei hun.

    Cofia pan oedd gwartheg yn sâl yn eu meddyliau achos roedd ffermwyr drwg yn bwydo nhw gyda’u rhieni? Fydd y dull Google Translate yma yn achosi rhyw fath o Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg ieithyddol?

    Ydyn nhw wir yn defnyddio Google Translate. Allai rhywun esbonio sut mae’r cynllun yma yn syniad da?

     
    • Ifan Morgan Jones 11:54 AM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      O be ydw i’n ei ddeall mae’r Seasneg yn cael ei fwydo i mewn i GT ac yna mae cyfieithwyr proffesiynol yn ei olygu. Fe allai fod yn beth da i GT mewn ffordd gan smwddio lot o’r gwallau iaith sydd ynddo. Ond o ystyried safon cyfieithiadau’r meddalwedd ar hyn o bryd dwn i ddim faint o amser y bydd yn ei arbed i’r defnyddwyr. Efallai y byddai ryw dechnoleg cof cyfieithu proffesiynol yn gwneud jobyn gwell?

    • Ifan Morgan Jones 11:56 AM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Mae rywfaint o’r Cofnod wedi ei gyfieithu i’w weld fan hyn: http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-chamber-fourth-assembly-rop.htm?act=dis&id=229391&ds=1/2012

      Safon y Gymraeg i weld yn OK.

    • Rhodri 12:57 PM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Carl: Alli di esbonio chydig mwy am y broblem o fwydo’i hun ar ei hun a sut bydd hyn yn llygru algorithmau Google Translate? Ges ti ymateb gan y Cynulliad i dy ebost atyn nhw, gyda manylion y dull? Os naddo, pam?

    • Dewi 2:32 PM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      O’r adeg cyhoeddodd bod Google yn cau eu Translate API, roedd yr erthygl yma :

      http://www.fastcoexist.com/1678153/language-isnt-a-firehose-james-joyce-and-the-future-of-computerized-translation-bloomsday-ed

      yn esbonio’r rhagor am beryglon o ‘Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg’ ieithyddol.

    • Rhys Wynne 2:50 PM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Ond os yw’r cyfieithiad o’r cofnod wedi cael ei wirio a’i olygu gan gyfieithwyr dynol cyn ei gyhoeddi ar y we, yna siawns mai gwella ansawdd GoogleTranslate fydd hyn, nid ei waethygu? Dim ond petai’r Cynulliad wedi bod digon dwl i gyhoeddi cyfieithiad gwallus (gan Google Translate ei hunan) bydda yna beryg o ‘Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg’ ieithyddol, nage ddim?

    • Ifan Morgan Jones 3:11 PM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      “Ond os yw’r cyfieithiad o’r cofnod wedi cael ei wirio a’i olygu gan gyfieithwyr dynol cyn ei gyhoeddi ar y we, yna siawns mai gwella ansawdd GoogleTranslate fydd hyn, nid ei waethygu?”

      Dyna sut ydw i’n deall pethau hefyd. Mae i gyd yn dibynnu ar lwyth gwaith y cyfieithwyr – ydyn nhw’n mynd i wirio’n camgymeriadau mawr yn unig a gadael rhai o man-wallau Google Translate neu ydyn nhw’n mynd i wirio popeth. Mae’r talp o’r cyfnod roeais i ddolen iddo uchod yn awgrymu fod y cyfieithiad yn eithaf caboledig.

    • Huw 3:52 PM ar 19 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Dwi’n gweld hyn fel ffordd peryglus, sydd wedi cael ei nodi fel Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg uchod.

      Byswn i’n cymharu’r peth i be maent yn ei wneud gyda Masnachu Amlder Uchel. Yn Llundain ac Efrog Newydd etc. gyda Dow Jones a’r FTSE, maent yn defnyddio uwch-gyfrifiaduron i fasnachu fel mae unigolion ar y llawr yn ei wneud, gan redeg modelau oddi ar algorithmau (patrymluniau / rheolau pendant). Fel pob model gwyddonol, mae’r model yn ffitio ar y cyfan ond nid yn berffaith, sy’n golygu bod angen cyflwyno rhywbeth sy’n atgyweirio hyn fel ei fod yn dilyn bywyd go iawn.

      Problem sy’n digwydd yn aml gyda’r uwch-gyfrifiaduron enfawr a drud ma yw cwympoedd, sydd fel arfer yn cael eu cadw’n ddistaw. Mae algorithm yn edrych am amodau penodol cyn ymateb. Pe bai achos o ryw amod yn digwydd dro ar ôl tro sy’n golygu bod y model am werthu cyfranddaliadau drosodd a throsodd, mae’n arwain at gwymp bach. Nid yw pobl yn disgwyl hyn, ond mae’n digwydd. Mae’n ryw fath o gyseiniant.

      Gall yr union un peth ddigwydd gyda Google Translate. Mae Google yn defnyddio patrymlun neu set o reolau. Mae’n edrych am un peth cyn ymateb gyda’i awgrymiad. Pe bai ryw gamgymeriad bach yn cael ei fethu yn y prawf-ddarllen, mae’n cael ei dderbyn a’i fwydo’n ôl i system Google. Y tro nesaf, bydd y cymagymeriad yn gallu bod yn fwy.

      O’m mhrofiad personol, petawn i’n ysgrifennu rhywbeth yn gyflym gyda’r bwriad o fynd yn ôl a’i ail ysgrifennu/strythuro mae’n anodd iawn. Mae’r testun gwreiddiol yn fy rhoi mewn trap o ryw fath, gan ei wneud hi’n anodd dychmygu sut i’w ysgrifennu’n wahanol. Sut ydym yn gwybod na fydd cyfeitihiwyr yn cael yr un broblem?

      Pwynt arall: mae’n WARTH. Dibynnu am wasanaeth am ddim sydd wedi ei sefydlu gan ychydig o playboys yng Nghaliffornia i greu dogfennau cyfrieithiol Cymraeg?!

      Be ma i’r Gynulliad (dene be dio os maent yn gneud penderfyniadau felly – siambr cyngor tref) gweithredu trwy’r Gymraeg, a wedyn defnyddio Google Translate i’w gyfeitihu i’r Saesneg?

  • Carl Morris 2:00 AM ar 15 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , rhagenwau   

    Ieithyddiaeth: bywyd cyfrinach rhagenwau 

    Mae James W. Pennebaker, seicolegydd ac arbenigwr iaith, yn dadansoddi ebostau, areithiau, traethodau…

    http://www.brainpickings.org/index.php/2011/09/01/the-secret-life-of-pronouns/

    [...] One of the most interesting results was part of a study my students and I conducted dealing with status in email correspondence. Basically, we discovered that in any interaction, the person with the higher status uses I-words less (yes, less) than people who are low in status. [...]

    Tybed os oes rhywbeth tebyg yn digwydd yn.yr.i.G

     
    • Stephen Mason 6:13 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Dydw ddim yn credu bod hi.

  • Carl Morris 8:39 PM ar 14 January 2012 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , , ,   

    Newydd diweddaru gwefan Hacio’r Iaith 

    Tudalennau

    Dw i newydd diweddaru’r tudalennau isod. Mae croeso i ti ei wella (os oes gyda ti cyfrif).

    http://haciaith.com/beth-yw-hacior-iaith/

    http://haciaith.com/what-is-hacior-iaith-english/

    Gyda llaw mae unrhyw un sy’n dod i’r digwyddiad yn Aberystwyth mis yma yn gallu cael cyfrif i flogio ayyb.

    Thema

    Mae’r wefan yn defnyddio thema plentyn ar thema P2. Am ryw reswm wnaethon ni colli’r ffeil .mo gyda’r cyfieithiad Cymraeg yn ystod y broses diweddaru sbel yn ôl. Dw i wedi gosod y ffeil eto. Os wyt ti’n gweld unrhyw termau Saesneg yn y thema gadawa sylw. Dylai popeth bod yn Gymraeg!

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu