Firefox iOS yn Gymraeg

Firefox-iOSm

Os ydych yn ddefnyddiwr iPhone, iPad, iPod touch byddwch yn falch o ddeall fod Firefox iOS nawr ar gael o App Store Apple.

Mae Firefox iOS yn caniatáu i chi gymryd eich hoff borwr gyda chi lle bynnag fyddwch yn mynd. Mae’n cynnwys nodweddion poblogaidd – chwilio clyfar a hyblyg, rheoli tabiau yn hawdd, cydweddu gyda’ch Cyfrif Firefox a Phori Preifat.

Mae modd defnyddio Cyfrif Firefox i gydweddu eich hanes pori, tabiau a chyfrineiriau a rhannu eich nodau tudalen, gyda’r dyfeisiau eraill i Firefox iOS.

*Awgrymiadau chwilio – darogan beth rydych yn chwilio amdano yn eich hoff beiriant chwilio.
*Tabiau Gweledol – caniatáu i chi reoli tabiau lluosog ar yr un sgrin.
*Pori Preifat –  cynnig y gallu i bori’r We heb gadw eich hanes na rannu eich cwcis cyfredol gyda’r wefan rydych yn ymweld â hi.

Er mwyn gallu defnyddio Firefox iOS yn hawdd ar eich dyfais iOS gallwch ei ychwanegu i’r doc ar waelod eich sgrin cartref.

———————————————————————————————-

Er mwyn defnyddio Firefox iOS yn Gymraeg mae angen paratoi ychydig ar eich iPhone, iPad neu iPad touch. Mae angen ei fod yn rhedeg iOS 8.2 neu well. Edrychwch yn Settings>General>About>Version. Os oes modd i chi ddiweddaru, gwnewch hynny.

Ewch i Settings>General>Language & Regions. O dan Preferred Language Order cliciwch ar Add Language… a gosod Cymraeg ar frig y rhestr. Bydd apiau a gwefannau yn defnyddio’r iaith gyntaf ar y rhestr.

Mae gan Mozilla ragor o wybodaeth am eu cynnyrch a sut i bori yn ddiogel ar y we.

1 sylw

  1. Duwcs! Synnu nad oedd Firefox ar gael yn Gymraeg i ddefnyddwyr Apple cyn rŵan. Da iawn.

    Mae’r enw Firefox iOS yn drysu braidd wrth ystyried bod Firefox OS yn system gweithredu.

    Oes rheswm am beidio cyfeirio ato fel “Firefox ar gyfer iOS” tybed, gan ddilyn arferiad ieithoedd eraill, megis Firefox for iOS, Firefox pour iOS, Firefox fur iOS, Firefox per a l’iOS, Firefox за iOS, Firefox iOS용, iOS 版 Firefox, ayyb?

Mae'r sylwadau wedi cau.