App Pacca Alpaca – App Ieithoedd Rhyngwladol yn ychwanegu’r Gymraeg

Mae’r cynhyrchwyr apiau rhyngwladol o gefndir Arabeg, Anamil tech wedi ychwanegu’r Gymraeg i’w app dysgu ieithoedd sylfaenol, a hynny heb ariannu cyhoeddus, ond fel menter fasnachol. Mae cefndir app Pacca Alpaca yn hynod ddiddorol – cwmni o’r dwyrain canol sydd wedi creu app cefnogi mamiaith yn gyntaf, wnaeth esblygu’n app geirfa syml i rieni gyflwyno ieithoedd newydd i’w plant. Daeth y cyswllt Cymreig wrth weithio gyda cynhyrchwyr cynnwys plant bach oedd â phrofiad gweithio yng Nghymru.

Am unwaith ar Haciaith, dyma luniau fflyfflyd porffor a phinc i chi, joiwch y saib o memes ac ystadegau – mae’r geirfa syml yn hawdd iawn i’w ddilyn, a mae’r Alpaca mor hoffus mae’n anodd peidio ymgolli yn hwyl y gemau:

Mae’r casgliad o ieithoedd o fewn yr app yn darllen fel trip rownd y byd delfrydol – Ffrangeg; Almaeneg; Arabeg; Sbaeneg; Mandarin a Saesneg (mae’n app dysgu iaith dramor wedi’r cyfan!).

Mae’n costio £2.99 o’ch siop apiau, ac yn berffaith os y’ch chi am achub y blaen a dysgu Mandarin i Rhisiart a Glenys bach yn ogystal ac atgyfnerthu eu Cymraeg.