Mozilla – Deall yn well am y We

Deallynwell

Mae Mozilla wedi cychwyn cyhoeddi cyfres cymorth i ddiogelu defnyddwyr  ar y we o dan y teitl Deall yn Well, gan gychwyn gyda Tracio.

Mae’r cynnwys yn amlygu beth yw tracio a sut mae cwmnïau ar y we, gan gynnwys trydydd partïon, yn gwneud defnydd o’r data rydym yn ei adael ar ein hôl. Mae’n cynnig gwybodaeth am dracio a syniadau ar sut i leihau peryglon tracio. Mae’n werth ei ddarllen a’i rannu gyda theulu a ffrindiau.

Bydd y gyfres Deall yn Well yn cychwyn fel cyfres o 3 o gynghorion gan arweinwyr polisi a rhaglennwyr Mozilla. Bydd y gyfres cychwynnol yn cynnwys Tracio, Diogelwch ar y we a  Llywodraeth yn gwylio, sy’n amserol iawn.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio cyhoeddwyd gan Mozilla ddoe ac sydd i’w gael ar y porwr Firefox ar Windows, Apple a Linux, yn ogystal â Firefox Android. Bydd Firefox iOS, sydd  i gyrraedd tua diwedd y mis, hefyd y ei gynnwys.