Firefox 42, yn cynnwys Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio

Mae Firefox 42, newydd ei ryddhau ac yn cynnwys nodwedd newydd o’r enw Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio.

Diogelwch

Hyd yma nid yw pori preifat wedi cadw defnyddwyr rhag cael eu tracio. Does gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y we ddim syniad fod trydydd partion yn casglu, cadw a gwerthu gwybodaeth amdanyn nhw. Mae Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio’n rhoi rheolaeth yn ôl i ddefnyddwyr dros y data mae nhw’n ei rannu drwy atal tracwyr rhag eu tracio.

Cyflwyniad ar Bori Preifat

Mae Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio hefyd yn cael ei gynnwys yn y fersiwn diweddaraf o Firefox Android.

Hefyd:

  • Bydd rhagor o wybodaeth ar gael, yn fuan ac yn Gymraeg, ar dracio a sut mae’n effeithio arnoch chi a beth mae modd ei wneud i’w wrthweithio.
  • Bydd Firefox iOS yn cael ei ryddhau yn hwyrach ym mis Tachwedd.
  • Bydd hi’n ben-blwydd hapus i Firefox yn 11 oed ar Dachwedd y 9fed.