Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad

Pwy a ŵyr bod ‘na gwefan o’r enw The Tab sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr gan gynnwys rhai gwrth-Gymraeg?

Dyma’r stori yn Golwg360 yr wythnos diwethaf

Mae digon o rantio am ffolineb rhai o gyfrannwyr The Tab Cardiff ar Twitter. Nid dyna yw’r math o beth rydym yn wneud ar Hacio’r Iaith. Does dim angen trafod cynnwys y stori yn fanwl yma.

Yn hytrach, hoffwn i drafod y model mae’r Tab yn defnyddio. Dw i’n credu bod ‘na syniad neu gyfle yma i ni yn y Gymraeg. Efallai taw dyna’r peth mwyaf diddorol a defnyddiol i ni am y stori yma os ‘dŷn ni’n gallu anwybyddu cynnwys y stori am funud.

Mae The Tab yn groesryw o wefan Brydain gyfan a gwefan hyper-leol ar yr un pryd.

Dyma enghraifft o stori gyffredinol i Brydain gyfan, beth sy’n digwydd i’ch ffioedd £9000 y flwyddyn am brifysgol. Ac wrth gwrs mae straeon am brifysgolion penodol.

Dyma sut maen nhw yn disgrifio eu hunain:

The Tab is a platform for the most talented young journalists to report and write, professionally and independently.

We are a new kind of news network – a bottom-up organization that favours originality over rehashed content, reporting over lists, and realises that newspapers and TV networks suck so much at reporting on young people that young people now deserve to do it themselves.

Our coverage is run by young editors locally and backed up by our newsrooms in London and New York.

Founded at Cambridge University in 2009 by three students, we now have teams at more than 80 universities in America and the UK, as well as staff writers covering life in London. Tab reporters have broken national stories and write for some of the most engaged audiences in journalism.

Mae’r system yn eithaf syml: mae tudalen hafan sy’n dangos straeon Prydeinig, Mae modd dewis categori fel Nottingham, Caerdydd, Aberystwyth, ayyb. (mae dim ond dwy brifysgol yng Nghymru ar The Tab hyd yn hyn). Dyna fe – fel o’n i’n dweud, syml iawn. Maen nhw yn dosbarthu dolenni i straeon ar gyfrifon Twitter a Facebook, fesul lle.

Mae’r math yma o fodel yn edrych fel rhywbeth sy’n bosib yn y Gymraeg.

Hynny yw, o ran newyddion i fyfyrwyr mae ‘na straeon sydd o ddiddordeb i fyfyrwyr mewn lle penodol (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Llambed ac ati) ac mae ‘na straeon sydd o ddiddordeb i fyfyrwyr yn gyffredinnol.

Nid fi yw’r person i ddechrau prosiect o’r fath ond dylai rhywun wneud e!

Mae’r model yn addas i unrhyw wefan newyddion, nid myfyrwyr yn unig.

Pe taswn i’n creu’r wefan byddwn i’n rhoi’r straeon cyffredinol yn y ffrwd leol – ar hyn o bryd mae angen ymweld â’r dau le ar wahan – Prydain a Chaerdydd yn fy achos i – ond mater bach ydy hynny.

Hefyd pe tasai mwy o leisiau Cymraeg ar y we efallai fyddan ni ddim yn poeni gymaint am y rhagfarn, dw i ddim yn gwybod. (Dw i’n cydnabod bod ‘na problemau eraill i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd eisiau gweld a chlywed y Gymraeg.)

Oedd y stori yn siom i mi oherwydd nid yn unig y safbwyntiau rhagfarnllyd sy’n cael eu mynegi ond y teimlad o ddiffyg rheolaeth dros y cyfryngau a’r diffyg lleisiau yn Gymraeg ar y we.

Yn enwedig mae prinder o ‘nodweddion’ i’w darllen, y math o erthygl rydym yn gweld ar The Atlantic, Vice, BBC, Guardian ac yn y blaen.

Rydym yn y byw yn yr ‘oes ddigidol’ pan mae modd dechrau mentrau newyddion cenedlaethol a rhyngwladol yn rhatach nag erioed o’r blaen.