Thunderbird yn Gymraeg

Mae Thunderbird yn raglen amlbwrpas, cyfoethog sy’n delio gydag e-bost, negeseuon sgwrsio, gan gynnwys Twitter a Facebook, calendr a thasgau. Mae popeth yma ar gyfer prysurdeb bywyd!

A wnaethoch chi erioed golli e-byst o gyfrif ar-lein erioed, wel mae Thunderbird yn cynnig modd i’w cadw’n ddiogel os fydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrif neu ddarparwr eich cyfrif.

TB Blwch Derbyn

Mae gwybodaeth bellach i’w gael ar dudalen gwe Mozilla Thunderbird Cymraeg.

Mae Thunderbird ar gael ar gyfer Windows Apple a Linux.