Tyfu cynulleidfa cylchgronau Cymraeg trwy ar-lein – @Dyfrig yn dechrau trafodaeth

Diolch i Golwg360 am ysbrydoli ansawdd y llun hwn.

Mae Dyfrig Jones yn codi lot o bwyntiau difyr a phrofoclyd am gylchgronau Cymraeg ar-lein ar Cymru Fyw:

[…] mae byd newyddiaduraeth yn wahanol, yn enwedig newyddiaduraeth ar-lein. Dwi’n darllen ystod o gyhoeddiadau ar y we, ac yn gwneud hynny heb dalu’r un geiniog. Chwithig, felly, ydi ymweld â gwefan Barn a gweld erthyglau’n cael eu torri yn eu hanner, neu ddarllen pwt ar wefan Golwg, gyda nodyn ar waelod y dudalen yn fy nghyfeirio at rifyn yr wythnos honno. […]

Mae tipyn o sgwrs wedi bod ar Twitter heno.

Byddai hi’n wych tasai cyhoeddwyr yn gallu ffeindio ffyrdd cynaliadwy o dyfu cynulleidfaoedd o ddarllenwyr am ddim.

Mae wir eisiau datblygu’r maes yn Gymraeg tra bod gwledydd ac ieithoedd eraill wedi cael blynyddoedd o brofi ac arloesi.

Dydy BBC Cymru Fyw ddim yn cynnig sylwadau ond mae croeso i bobl adael sylwadau isod. 🙂