Windows 10 yn Gymraeg ar gael nawr!

Mae Windows 10 wedi ei lansio ac mae ar gael yn Gymraeg o’r cychwyn.

Rhyngwyneb W10

Sut mae cael gafael ar Windows 10?

Os ydych ar Windows 7 ac 8.1 ac wedi diweddaru’n gyson bydd ar gael i chi am ddim drwy gydol y flwyddyn nesaf. Os ydych ar ryw fersiwn cynt o Windows neu heb fod yn diweddaru 7 ac 8, mae ar gael gan Microsoft am £100. Os ydych yn y categori cyntaf, mi ddylech fod wedi cael rhagrybudd gan Microsoft ei fod ar gael o Orffennaf 29 ymlaen.

Ond lle mae e?

Mae Microsoft yn bwriadu anfon a gosod Windows i’w ddefnyddwyr dros amser, felly os nad yw wedi cyrraedd eto ac rydych wedi cofrestru ar ei gyfer, mae ar ei ffordd. Amynedd. :-/

Os nad oes amynedd ar gael, mae modd ei lwytho i lawr i gof bach (neu DVD) a’i osod o hwnnw. Dyna nes i ac mae’n gweithio’n dda. Cofiwch wneud copïau wrth gefn o’ch data amhrisiadwy a chopïau o yrwyr  eich peiriant, rhag ofn. Mae’r broses yn cymryd rhwng 2 a 7 awr yn dibynnu ar safon eich cyfrifiadur.

Lle mae’r Gymraeg?

O fy mhrofiad i, mae’r Gymraeg yn ymddangos yn syth ar gyfrifiaduron Windows 8.1 lle roeddwn wedi gosod y Gymraeg fel iaith y rhyngwyneb. Roedd rhaid gosod y pecyn iaith ar gyfer cyfrifiaduron Windows 7 er eu bod nhw eisoes â’r rhyngwyneb Cymraeg arnynt. Efallai y cewch chi brofiad gwahanol. Felly, sut mae gosod y rhyngwyneb Cymraeg, os nad yw’n ymddangos?

Clicio ar y botwm Start > Settings >Time and Language yna Area and Language. Ar y dudalen honno bydd yn dweud Languages ac Add Language. Cliciwch ar Add Language a bydd ffenestr â rhyw 100 o ieithoedd yn ymddangos. Mae Welsh ar ddiwedd y rhestr, cliciwch arno ac aros. Bydd y pecyn iaith yn llwytho i lawr. Gwnewch yn siŵr mai’r pecyn iaith arddangos sy’n cael ei osod. Ar ôl ei osod ailgychwynnwch Windows a bydd y rhyngwyneb Cymraeg ar gael.

Diolch i Microsoft am gefnogi’r Gymraeg mor hael, mae yna nifer o raglenni eraill, er enghraifft, OneDrive, yn ogystal ag Office ar gael yn Gymraeg.

Diolch i’r cyfieithwyr am wneud gwaith caboledig o’r cyfieithiad.

Eisiau gwybod rhagor?

The Register

Neowin

Supersite for Windows

Thurrott

Cefndir y llun uchod