Windows 10 – Cyfle i ehangu’r adnoddau Cymraeg?

Windows 10

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r Microsoft Windows 10 Pro Technical Preview newydd ei ryddhau ddoe, fel un o gyfres cyn rhyddhau’r Windows 10 terfynol yn yr haf – rhywbryd rhwng diwedd Mehefin a  diwedd Medi eleni. Mae Microsoft yn awyddus i bawb ddefnyddio Windows, felly bydd ar gael am ddim i unigolion sy’n rhedeg Windows 7 ac 8 yn ystod y 12 mis cyntaf ond bydd rhaid i selogion XP a Vista dalu. Bydd sefydliadau/cwmnïau’n cael dalu eu ffi arferol.

O’r datganiadau yn ystod y dyddiau diwethaf mae’n debyg y bydd yn cynnwys y rhyngwyneb Cymraeg ymysg y 110 o ieithoedd mae Microsoft yn eu cynnwys. Mae’r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban ar eu rhestr hefyd ond nid y Llydaweg, y Gernyweg na’r Fanaweg.

Ar hyn o bryd yn y Pro Technical Preview, y rhyngwyneb Saesneg sydd ar gael ond mae modd agor rhywfaint o’r Gymraeg yn y Ffenestr Cychwyn drwy ddewis y Gymraeg yn y Gosodiadau Iaith. Ydy, mae’r haul yn gwenu yng Nghaernarfon…

Y mannau tebygol na fydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys ar hyn o bryd yw o fewn Cortana, y cynorthwyydd personol, sy’n dibynnu ar leferydd, y nodwedd llawysgrifen, lle bydd angen ychwanegu geiriadur ac wrth gwrs y ffôn a dyfeisiau symudol fydd yn rhedeg fersiwn o Windows 10.

Mae nawr i weld yn amser da i gysylltu â Microsoft Customer Services:

• i’w llongyfarch ar y cyfieithiad Cymraeg a denu eu sylw at welliannau/newidiadau angenrheidiol i gyfieithiad Windows 8.1

• i’w hannog i ddarparu’r elfennau uchod yn Gymraeg. Mae’r Uned Technoleg Iaith, e.e. yn darparu technoleg lleferydd ar drwydded agored drwy’r Porth Technolegau Iaith. Mae’r Uned hefyd yn darparu geiriaduron.

• eu hannog i fentro i geisio ennill cynulleidfa newydd gyda’r ffôn/dyfeisiau symudol yn y Gymru Gymraeg.

A fo’n ddigywilydd, fo’n ddigolled  😉

1 sylw

  1. Diolch yn fawr am y ddolen i gysylltu â Microsoft. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at rhywun yn uned technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru i ofyn iddyn nhw ymdrechu i sicrhau bod y rhyngwyneb Cymraeg yn Windows 10 mor gyflawn a phosib. Mae’n ymddangos bod peth o’r Gymraeg ar goll mewn mannau eithaf amlwg yn rhyngwyneb 8.1 – pethau â oedd yn Gymraeg yn Windows 7. Af ati i gysylltu â Microsoft rŵan.

Mae'r sylwadau wedi cau.